Friday, 1 May 2009
Theatr Genedlaethol Cymru
Y Cymro – 01/05/09
Mae’n amlwg fod yna ddipyn o gynnwrf yn ein haros wrth wylio John McGrath yn adeiladu cwmni cryf o gyd-weithwyr, wrth baratoi i lawnsio Theatr Genedlaethol Cymru drwy gyfrwng y Saesneg. O’r sïon glywais i eisoes, mae’r cynlluniau sydd ar y gweill am y cynhyrchiad cyntaf yn swnio’n hynod o addawol, fydd yn gosod naws a chynsail Cenedlaethol o’r cychwyn cyntaf.
Catherine Paskell a Mathilde López yw’r ddwy ddiweddara i’w penodi fel ‘Cysylltiadau Creadigol’ i’r cwmni, a’r ddwy yn amlwg wedi elwa o weithio mewn amrywiol theatrau o gwmpas y wlad. Cyfarwyddwraig theatr o Gaerdydd yw Catherine, tra bydd Mathilde yn dod â naws rhyngwladol i’r cwmni, fel cyfarwyddwraig a chynllunydd.
Fel cwmni Cenedlaethol yr Alban, ni fydd gan yr NTW gartref sefydlog mewn adeilad crand - theatr heb ffiniau, yng ngwir ystyr y gair, rydd rhyddid i gomisiynu a chynhyrchu gwaith newydd a chynhyrfus ymhob rhan o Gymru.
Bydd y ddwy yn ymuno â Lucy Davies, o’r Donmar Warehouse, gafodd ei phenodi dro yn ôl fel Cynhyrchydd y cwmni, i gynorthwyo’r Arweinydd Artistig wrth baratoi i gael y cwch i’r dŵr.
Rai wythnosau yn ôl, derbyniais raglen swyddogol Theatr Genedlaethol yr Alban drwy’r post - rhaglen liwgar yn cyhoeddi holl weithgaredd y cwmni Cenedlaethol ymhob rhan o’r wlad. Rhaglen theatr lawn o Thurso yn y Gogledd i Dumfries yn y De, heb sôn am ddod â’u gwaith i lawr i Lundain, Leicester, Salford a Truro! Roedd y cyfan yn llawn gobaith, angerdd a gweledigaeth ryfeddol Vicky Featherstone, sy’n falch o fedru cyhoeddi bod y cwmni Cenedlaethol ‘yn gartrefol yn neuaddau pentrefi gwledig yr Alban yn ogystal ag ar lwyfannau’r West End yn Llundain’.
A dyma droi unwaith yn rhagor at Theatr Genedlaethol Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg. Allai’m cuddio’r ffaith bod fy nghalon yn wirioneddol suddo o weld rhaglen bitw a diddychymyg y cwmni. Fyddai’n gwbl onest efo chi a datgan imi ddewis peidio mynd i weld cynhyrchiad diweddara’r cwmni sef y lobsgóws gafodd ei enwi’n ‘Bobi a Sami - a dynion eraill’. Dim amarch i Wil Sam na Beckett, ond dwi eisoes wedi gweld y ddrama honno sawl gwaith hyd syrffed o lwyfannau gwyliau dramâu i sgrin S4C. Dyma’r ddrama sy’n cael ei hatgyfodi i nodi pob achlysur yng ngyrfa’r diweddar Wil Sam, fel y cawsom gan Theatr Bara Caws ar gychwyn y nawdegau. Dyma’r cynhyrchiad gafodd ei recordio ar gyfer S4C gan Ffilmiau’r Nant yr un flwyddyn.
Ynghanol taith y cwmni Cenedlaethol, dyma Theatr Bara Caws yn cyhoeddi eu taith nesaf, sef ‘drama olaf Wil Sam’. Drama ddideitl, a gafodd ei galw’n ‘Halibalŵ’ gan weinyddydd y cwmni, Linda Brown, yn sgil yr holl halibalŵ o’i llwyfannu. Wel, meddyliais, dyma ichi sgŵp, yng ngwir ystyr y gair. Drama newydd / olaf y dramodydd toreithiog o Lanystumdwy. Yr hyn dwi’m yn dalld ydi pam nad hon oedd y ddrama i’r Theatr Genedlaethol ei pherfformio? Ble mae’r holl ‘gydweithio’ rhwng y cwmnïau yma?
Bu Linda Brown yn aelod o Fwrdd y Theatr Genedlaethol o’r cychwyn cyntaf, a siawns na ellid fod wedi cyfrannu’r ddrama i’r Theatr Genedlaethol, a gwahodd y ddau awdur preswyl profiadol - Aled a Povey, i roi eu stamp arni? Byddai hynny wedi bod yn llawer cryfach o gynhyrchiad i’w marchnata ac i’w ychwanegu i repertoire'r cwmni. Gallai’r cwmni fod wedi medru arddel dwy ddrama newydd sbon yn 2009, yn hytrach na gwasgu monolog ar y cychwyn i gyfiawnhau’r sgwennu ‘newydd’ sydd (yn ôl yr hyn sy’n cael ei awgrymu) yn digwydd.
Fi fyddai’r olaf un i ddymuno gweld ein cwmni Cenedlaethol Cymraeg yn boddi mewn methiant oherwydd anallu’r Bwrdd a’r Arweinydd i dorri tir newydd, a rhoi inni arlwy gynhyrfus, theatrig a chofiadwy. Mae’r ffaith bod y ddwy raglen deledu ffeithiol ‘Taro Naw’ a’r ‘Byd a’r Bedwar’ wedi cysylltu â mi dros y ddwy flynedd diwethaf, yn arwydd pendant fod yna gryn anhapusrwydd ynghylch y cwmni Cenedlaethol erbyn hyn. Y siom fwyaf ydi’r ffaith bod actorion ac awduron yng Nghymru yn anfodlon o ofnus i ddatgan hynny’n gyhoeddus. Sobor o beth yn yr unfed ganrif ar hugain! Gwarth hefyd ar Olygyddion y ddwy gyfres, neu benaethiaid y BBC ac S4C, am wrthod caniatâd i gynhyrchu’r rhaglenni, fyddai rhoi darlun onest, amrwd a diduedd am sefyllfa’r cwmni ar ôl chwe mlynedd, a faint sydd wedi’i gyflawni mewn gwirionedd. Mae cwestiynau mawr sydd angen eu hateb am holl gyfrifoldebau celfyddydol yr Arweinydd Artistig, tu hwnt i’w swydd gyflogedig, lawn amser, gyhoeddus.
Dowch inni sicrhau na fydd y cwmni Cymraeg ymhell ar ôl y cwmni Cenedlaethol di-gymraeg, a bydd y ddau gwmni ym medru sefyll ben ac ysgwydd ochor wrth ochor, er mwyn dangos i’r byd fod y traddodiad theatrig Cymreig yn parhau, ac yn cryfhau.
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment