Friday, 24 April 2009
'Madame de Sade'
Y Cymro – 24/4/09
Peth anghyffredin iawn dyddiau yma yw’r ddrama glasurol, dair act, sy’n adrodd ei stori’n daclus drwy’r cyflwyniad, y datblygiad ac yna’r canlyniad. Dyna’r model llwyddiannus i unrhyw ddrama, felly hefyd i unrhyw stori dda, mewn gwirionedd. A dyna wnaeth y dramodydd o Siapan, Yukio Mishima ym 1965, efo’i ddrama hanesyddol am anturiaethau'r dihiryn Frengig, y ‘Marquis de Sade’, yn ei ddrama am ei wraig y ‘Madame de Sade’.
Dwi dal methu dallt pam y dewisodd Michael Grandage, Cyfarwyddwr Artistig y Donmar, i lwyfannu’r ddrama hon eleni, fel rhan o dymor y Donmar yn Theatr y Wyndhams, ger Leicester Square. Llwyddodd Grandage hefyd i berswadio fy eilun dramatig, Judy Dench i bortreadu’r fam fonheddig, ‘Madame de Montreuil’.
Drama i chwe chymeriad benywaidd sydd â chysylltiad â’r ‘Marquis’ lliwgar yw ‘Madame de Sade’. Yn yr Act gyntaf, mae’r ‘Comtesse de Saint-Fond’ (Frances Barber), drwy ei sgwrs gyda’r eiddil ‘Baronesse de Simiane’ (Deborah Findlay) yn egluro cefndir y ddrama, drwy ddisgrifio’n fanwl iawn am anturiaethau’r ‘Marquis’ a’r sïon am y modd y mae’n cam-drin ei wraig, a’r llu o buteiniaid sy’n cael ei sylw. Perchennog y plasty moethus, ‘Madame de Montreuil’ (Judy Dench) yw’r cymeriad nesaf i ehangu’r stori, drwy ddatgan inni’r gynulleidfa mai hi yw mam ‘Renée’ (Rosamund Pike), neu’r enwog ‘Madame de Sade’, sef gwraig ddioddefus y ‘Marquis’. Ynghanol y dadlau, ac yng ngwir draddodiad y dramâu clasurol, daw’r forwyn ‘Charlotte’ (Jenny Galloway) i’r parlwr prysur, gyda’r newyddion fod ‘Renée’ wedi dychwelyd adref. Wedi ymddiddan rhwng y fam a’r ferch, daw’r ail ferch ‘Anne’ (Fiona Button) adref yn ogystal, a buan iawn fe ddysga’r gynulleidfa bod y ‘Marquis’ yn cysgu gyda’r ddwy ferch!
Cyn mynd ymhellach, mae’n rhaid imi nodi yma, wedi hanner awr o gyflwyniad, dwi’n amau fod yna fwy o gysgu yn hytrach na dysgu ymhlith y gynulleidfa drwchus. Er gwaetha’r adeiladwaith clasurol, y cast penigamp, a phresenoldeb fy eilun theatrig, dyma un o’r cynyrchiadau mwyaf syrffedeus imi’i weld ar lwyfan erioed! Suddodd y stori yn y môr eiriol, ac roedd yr ymsonau hirfaith, wedi’u hanwesu gydag effeithiau sain bwrpasol, yn artaith areithyddol yng ngwres y gwanwyn.
Yn anffodus, gwaethygu wnaeth y ddrama drwy gydol yr Ail a’r Drydedd Act, bob un gyda llaw, yn hanner awr o hyd, a’r cyfan yn cael ei gyflwyno heb egwyl. Clod i Grandage am hynny, neu mentrai ddweud y byddai rhan helaeth o’r gynulleidfa wedi dianc i dafarnau Leicester Square, yn hytrach na dod i glywed am dranc y cymeriadau!
Parhau i hwylio’r cwch sigledig wnaeth y Cast cryf, a Judy Dench a Rosamund Pike fel dwy gapten profiadol wrth y llyw. Teithiodd y stori dros ddeunaw mlynedd, wrth arwain y cyfan tuag at y Chwyldro Ffrengig, gan orffen y Drydedd Act flwyddyn wedi’r cyfan, ym 1790. Gyda’r fam oedrannus bellach wedi gwynnu, ac yn cynnal ei chorff a’i henw da gyda’i ffon, yn anffodus, doeddwn i’n malio’r un botwm corn am dranc y teulu, ac yn hanner dyheu na fyddai’r cyfan wedi cwrdd â ‘Madame Guillotine’!
Wedi clywed cymaint o sôn am y cymeriad lliwgar, roeddwn i’n awchu am ei weld, er mwyn torri ar undonedd y cymeriadau benywaidd yn dadlau drosto! Ac er iddo gyrraedd y drws ar ddiwedd y ddrama, i hebrwng ei wraig adref, mae’r newid angenrheidiol yn y cymeriadau (sy’n nodwedd arall o’r ddrama glasurol) yn peri iddo orfod gadael hebddi, wrth i’r llen ddisgyn yn araf i nodi diwedd eu perthynas a’r ddrama.
Heb os, presenoldeb Judy Dench sydd wedi sicrhau gwerthiant tocynnau’r ddrama, ac mae papurau Llundain wedi nodi’n llawn mai dyma un o gynyrchiadau gwaethaf i’r Fonesig Dench fod ynddo erioed. Oes, mae yma ddyfnder, a gwirioneddau am fywyd.
Oes, mae yma gymeriadau benywaidd hanesyddol cryf, a chast cyn gryfed i’w portreadu. Ond, yn ôl at fy mhwynt cychwynnol, pam dewis y ddrama hon, sy’n amlwg mor syrffedus?
Rhybudd efallai i’n Theatr Genedlaethol a’u cynhyrchiad nesaf am hanes yr hil fenywaidd yn nheulu a chartref Bernanda Alba! Er gwaetha’r farddoniaeth a’r setiau moethus, yr enwau mawr a’r trimmings theatrig, os nad yw’r stori’n swyno, fydd hi’n ‘au revoir’ ar amynedd a diddordeb y gynulleidfa.
Mae’r ‘Madame de Sade’ yn Theatr y Wyndhams tan ddiwedd mis Mai.
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment