Friday, 14 November 2008
'Othello'
Y Cymro 14/11/08
O dderbyn fy addysg yn Nyffryn Conwy, prin iawn oedd y cyfle i astudio gwaith yr arch-ddramodydd, Shakespeare. A minnau bellach ar lannau’r Tafwys, dwi’n dod i weld pwysigrwydd y gŵr hynod hwn yn ddyddiol, ac yn cenfigennu weithiau at ddawn eraill i raffu dyfyniadau o’i waith ac i wybod dyfnder ei straeon amrywiol.
Os daw’r cyfle i weld un o weithiau’r Meistr, fyddai’n ceisio’n ngore i fynd, petai ond i ddysgu mwy amdano, ac i ymgynefino gyda’i destun barddonol hudolus.
Does ‘na’m amheuaeth bod gwaith y bardd yn anodd ei ddeall erbyn hyn, a’r dasg o eistedd drwy ddrama hirfaith, gymhleth a’i iaith estron yn ddigon i ddychryn rhai o’r theatr am byth! Dyna pam y bu imi ddewis mynd i weld cynhyrchiad cwmni Frantic Assembly o ‘Othello’ yn Theatr y Lyric, Hammersmith.
Yr hyn â’m swynodd am y cynhyrchiad oedd yr ogwydd gyfoes, ffres, deinamig a dramatig a roddwyd i’r hen destun. Trawblanwyd y stori o’r Fenis a Chiprys gwreiddiol i dafarn ar stad o dai yn Swydd Efrog. Roedd y cymeriadau i gyd yn ‘chavs’ neu’n ‘hoodies’ (a defnyddio’r disgrifiadau cyfoes cyfredol!) a’r digwydd yn cylchdroi o gwmpas y bwrdd pŵl.
Drwy’r cyflwyniad cerddorol llawn drama a dawns, cawsom ein cyflwyno i’r ‘Iago’ twyllodrus (Charles Aitken), a’r ‘Othello’ croen tywyll (Jimmy Akingbola) wrth iddo gyflwyno’r hances yn rhodd i’w ddarpar gariad, ‘Desdemona’ (Claire-Louise Cordwell). Yr hances hwn sy’n achosi’r gwrthdaro yn hwyrach yn y ddrama, wrth i ‘Iago’ honni fod ‘Desdemona’ yn anffyddlon i’w chymar, ac sy’n arwain at y drasiedi.
Mae’r cwmni’n cyfaddef bod nhw wedi gorfod newid y stori yma ac acw, er mwyn ychwanegu at y tensiwn, ac mae’r cyfan yn llifo fel pennod o ddrama gyfres neu opera sebon, wrth i’r cymeriadau herio’i gilydd o gwmpas y bwrdd pŵl. Er yr elfen gyfoes, roedd y dialog fwy neu lai, o’r testun gwreiddiol, gydag ambell i reg neu ebychiad er mwyn daearu’r cyfan, ac o bosib i ennyn chwerthiniad o enau’r gynulleidfa.
Ond un o’r pethau â’m plesiodd fwyaf am y cynhyrchiad oedd set Laura Hopkins, oedd ar yr olwg gyntaf, yn dafarn gyffredin gyda’i garped budur, ei beiriant gamblo ‘fruit machine’, ei fwrdd pŵl a’i gorneli o gadeiriau lledr. Ond wrth i’r stori ehangu a chyflymu, agor hefyd wnaeth y set, a buan iawn y sylweddolais fod y waliau’n rhychiog, ac yn medru troi’n gylch neu agor yn gyfan gwbl yn ôl galw’r olygfa. Golyga hyn fod y set mor ystwyth â’r actorion neu’r dawnswyr, ac i gyfeiliant trac sain bwrpasol a thrawiadol gan y grŵp Hybrid, roedd coreograffu Scott Graham a Steven Hoggett yn gofiadwy iawn.
Er bod y cynhyrchiad yn awr a hanner can munud o hyd heb egwyl, cefais fy nhynnu i mewn yn llwyr i’r stori drasig a llawn drama, a dwi’n siŵr y byddai’r Meistr ei hun wrth ei fodd o weld cynifer o’r gynulleidfa wedi’i swyno gan yr hyn a gyflwynwyd ar y llwyfan.
Difyr oedd dysgu bod Scott a Steven, ynghyd â’r grŵp Hybrid, yn gyn-fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe! Gwych iawn. Tybed a fyddent yn barod i roi gwedd newydd ar rhai o’r Clasuron Cymreig...?
Mwy o fanylion am ‘Othello’ drwy ymweld â www.franticassembly.co.uk
Paul Griffiths
Mae'n swnio bod dy brofiad di o'r cynhyrchiad hwn yn debyg i brofiad cynulleidfaoedd cyfnod Shakespere -dramau sebon yr oes. Y stori, yr emosiwn, y tyndra - dyna ydi hanfod Shakespeare, ac mae gormod o lawer o bobl yn ei ddyrchafu yn rhywbeth elitaidd academaidd.
ReplyDeletePaid rhoi bai ar leoliad dy addysg am dy ddiffyg dealltwriaeth - rwyt ti'n un ymysg miliynau sydd wedi cael yr un diffyg - nid y lleoliad sydd ar fai ond y feddylfryd sy'n ofni Shakie ac sy'n methu sylweddoli ei fod yn siarad efo ni, nid aton ni.
Wedi dweud hynny, wrth gwrs mae modd ei werthfawrogi ar gymaint o lefelau - mae'r gyfeiriadaeth, yr iaith, y farddoniaeth yn mesmereiddio, ond ar hyd yr oesoedd mae hynny wedi dallu llawer o bobl i'r ffaith ei fod hefyd yn gnawdol, yn reddfol ac yn mynd yn syth at hanfod bywyd.
Ac mae'r frawddeg ddwetha na dwi newyd sgwennu'n swnio'n blydi siwdaidd, felly sdim rhyfedd bod pobl ddim isio gwrando! eironi ta be!
CB