Friday, 28 November 2008
'Imagine This'
Y Cymro 28/11/08
Mae’n gynhyrfus iawn yn Llundain ar hyn o bryd gyda sawl cynhyrchiad newydd o ddramâu cerdd yn agor dros yr wythnosau nesaf. O’r hen ffefrynnau fel ‘Oliver’ yn Theatr y Drury Lane ac ‘A Little Night Music’ gyda Maureen Lipman yn y Mernier Chocolate Factory, i’r newydd ddyfodiad ‘Imagine This’ yn theatr y New London.
Roedd hi’n anodd dychmygu sut fath o sioe oedd hon am fod, wrth imi ymuno â gweddill yr adolygwyr yn noson y Wasg yr wythnos diwethaf. Roeddwn i braidd yn bryderus am sawl rheswm. Y cyntaf, a’r un mwyaf, oedd y ffaith bod y ddrama gerdd wedi’i gosod yng nghyfnod yr Holocaust. Mae 'na ffrae eisoes yn corddi ymysg y theatr-garwyr am yr ormodiaeth o gynyrchiadau a ffilmiau sydd wedi’i lleoli yn y cyfnod tywyll yma, a’r cynulleidfaoedd yn dechrau laru ar yr un hen straeon am ddioddefaint yr Iddewon wrth iddynt geisio ffoi rhag trais yr Almaenwyr. Gormod o bwdin efallai...? Yr ail beth â’m poenodd oedd y ffaith bod y cyfansoddwyr a’r criw cynhyrchu yn eitha dibrofiad, a bod y noddwyr (yr Iddewon o America) wedi buddsoddi miloedd ar filoedd o bunnau yn y gwaith.
Mae’r ‘stori’ wedi’i leoli mewn hen orsaf drenau oddi fewn i’r Warsaw Ghetto dros fisoedd y Gaeaf 1942. Roedd set chwaethus Eugene Lee yn cyfleu hynny i’r dim, a’i lwyfan tro wedi’i amgylchynu gan y muriau llwm a’r ffenestri budur, toredig. Fe gychwynnir yr antur drwy ddathlu ‘dydd ola’r haf’ ar gân o’r un enw wrth i’r cwmni ail fyw moethusrwydd, hwyl a chyfoeth Warsaw rhwng 1939 a 1942, cyn cael eu casglu ynghyd i’r Ghetto gan yr Almaenwyr. Ynghanol y miri, cawn ein cyflwyno i’r prif gymeriad, y patriarch ‘Daniel Warshowsky’ (Peter Polycarpou) a’i deulu, sy’n penderfynu parhau i ddiddanu eu cyd Iddewon drwy gyflwyno dramâu oddi mewn i’r Ghetto.
O fewn 20 munud o gychwyn y sioe, ryda ni ynghanol y ddrama a gyflwynir gan y cwmni o Iddewon, a dyma sy’n cynnal bron i 70% o’r cynhyrchiad. Does 'na’m dwywaith fod y ddrama o fewn y ddrama yn hynod o berthnasol wrth adrodd hanes trasiedi ‘Masada’ a ddigwyddodd yn 70 OC pan ddewisodd grŵp bychan o eithafwyr Iddewig i gyflawni hunanladdiad yn Masada yn hytrach na wynebu’r Rhufeiniaid.
Wedi 60 munud o’r sioe, roeddwn i wedi laru’n llwyr, ac wedi colli pob owns o ddiddordeb yn y stori a’r cymeriadau. Y prif reswm am hynny, heb os, oedd y ffaith nad oeddwn i wedi cael amser i ddod i adnabod yr actorion - y cymeriadau yn y Ghetto, cyn cael ein sodro oddi mewn i stori arall. Doedd na ddim gwahaniaeth o ran y gerddoriaeth, y goleuo na’r llwyfannu i wrthgyferbynnu stori ‘Masada’ oddi wrth y brif stori, ac roedd y safon Broadwêaidd i’r sioe yn y Ghetto, eto’n anghredadwy o dan yr amodau llwm a geisiwyd ei gyfleu ar y cychwyn.
Wedi cyrraedd yr egwyl, roeddwn i’n falch ein bod ni yn ôl ym 1942, wrth i’r Almaenwyr gyhoeddi bydd y trenau yn cyrraedd drannoeth i gludo’r Iddewon i Wersyll Treblinka, gan eu hudo i ddal y trên drwy gynnig torth o fara a jam, a’r addewid am fywyd gwell. Ond trwy weledigaeth aelod o’r Fyddin Gudd, ‘Max’ (Sevan Stephan) mae’n perswadio’r teulu fod yn rhai rhybuddio gweddill yr Iddewon i beidio derbyn y cynnig, ac i beidio dal y tren. O’r diwedd, meddyliais, dyma chydig o ddrama a thensiwn, wrth ddychmygu’r gwrthryfel enwog a ddigwyddodd yn y Ghetto. Ond, siom arall oedd yr ail-ran, wrth inni gael ein sodro yn ôl yn ‘Masada’ hyd syrffed.
Er bod yr Ail Ran yn gryfach ac yn fwy emosiynol na’r gyntaf, dal i wingo wnes i mewn ambell i gân fel ‘The Last Laugh’ ble mae’r tad yn camu allan o’r olygfa emosiynol sydd wedi’i rewi o’i gwmpas, i ganu cân ddoniol, cwbl amhriodol. O diar. Allwn i’m dychmygu dim byd gwaeth...
Os am fentro i weld y sioe, ewch yn fuan. Allai chwaith ddim dychmygu, y gwelith y sioe ŵyl y Purim ddechrau’r flwyddyn...
Mwy o fanylion ar www.imaginethisthemusical.com
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment