Friday, 31 October 2008

'Oedipus'



Y Cymro : 31/10/08

Un o brif gynhyrchiadau’r Theatr Genedlaethol ar hyn o bryd yw’r Clasur Groegaidd o waith Sophocles, ‘Oedipus’. ‘Oedipus Rex’ neu ‘Oedipus Frenin’ a bod yn fanwl gywir, gan mai dim ond y rhan gyntaf o hanes y gŵr trasig yma a gawn o fewn yr awr-a-hanner o gynhyrchiad yn Theatr yr Olivier. Trueni na fyddai’r cwmni wedi cyfuno ail hanner o hanes y cyn-frenin, wrth iddo gael ei arwain yn ddall gan ei ferch ‘Antigone’ drwy ddrysau’r ddinas am ‘Colonus’ a chychwyn drama arall o eiddo Sophocles, ‘Oedipus yn Colonus’.

Does na’m dwywaith mai’r actor Ralph Fiennes sy’n gwerthu, ac yntau wedi’i ddewis i bortreadu’r brenin fisoedd yn ôl. Yr un modd yn union â Theatr y Donmar sydd wedi sicrhau presenoldeb enwau mawr fel Judy Dench, Derek Jacobi a Kenneth Branagh. Gwers yn wir i’n Theatr Genedlaethol ninnau yng Nghymru, sydd dal heb fethu dennu ein hactorion nodedig fel Rhys Ifans, Daniel Evans, Ioan Gruffydd, Matthew Rhys na Siân Phillips i droedio’r un llwyfan.

Fel y nyddiau’r Groegiaid, dwi wrth fy modd yn gwylio’r dramâu Clasurol, gan ein bod ni bellach mor gyfarwydd â hynt a helynt y cewri mytholegol chwedlonol yma, a’u hymgais i osgoi eu tynged sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd dros y canrifoedd. Mae’r cyfan fatha jig-sô enfawr, a phob drama yn ddarn hanfodol yn yr hanes. Yn ‘Oedipus Frenin’, mae’r brenin yn canfod y gwirioedd erchyll ei fod wedi lladd ei dad, ‘Laius’ a’i fod wedi priodi ei fam, ‘Jocasta’ (Clare Higgins) ac wedi cenhedlu dwy ferch – ‘Antigone’ ac ‘Ismene’, a’r ddau fab ‘Eteocles ‘ a ‘Polynices ‘. Dyma barhau’r dynged am genhedlaeth arall, a stori enwog ‘Antigone’ yn mynnu claddu corff ei brawd yn destun ar ddrama arall o waith Sophocles.

Ond yn ôl at y cynhyrchiad yma ar lannau’r Tafwys, sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel gan y beirniaid. Rhaid bod yn onest, a chyfaddef imi fethu â chytuno ar y ganmoliaeth aruchel am yr hanner awr gyntaf o’r cynhyrchiad, gan fod y cyfan mor llonydd, araf a di-liw. Roedd presenoldeb Fiennes ar y llwyfan o’r cychwyn cyntaf yn gofiadwy, ac eto ddim mor wyrthiol wych ag a nodwyd yn yr adolygiadau. Dim ond gyda’r gwirionedd a’r sylweddoliad ei fod o’n wir wedi lladd ei dad a phriodi ei fam, sef yr union bethau gafodd eu proffwydo gan y proffwyd dall ‘Teiresias’ (Alan Howard) y cododd Fiennes i’r safon gaboledig, ac roedd ei hanner awr olaf waedlyd a di-lygaid yn gofiadwy iawn.

Unwaith eto, yn y Theatr Genedlaethol, ‘roedd y Set a’r goleuo mor llwyddiannus â’r actio, a’r cyfan wedi’u cyfarwyddo'r un mor fedrus. Gosodwyd y ddau ddrws i balas brenhinol Thebes ar lwyfan tro, wedi’i baentio’n lliwiau copr rhydlyd, oedd yn fy atgoffa o hen gloc haul cynnar. I’r de-orllewin o’r drysau, roedd bwrdd a dwy fainc wedi’u llorio’n llonydd ar y llwyfan tro, eto’n gamarweiniol o gelfydd, drwy alluogi’r drysau i droi mor araf a disylw, ond ddim y bwrdd. Clyfar iawn. Wrth i’r drysau gyrraedd lleoliad gwahanol ar gyfer pob golygfa briodol, symudodd y cyfan yn ei flaen, fel eu bônt yn ôl i’r man cychwynnol erbyn y diwedd.

Cynhyrchiad cofiadwy Clasurol a chaboledig arall o stabl Genedlaethol Lloegr.

Mae ‘Oedipus’ yn Theatr Olivier tan Ionawr 2009.

Friday, 24 October 2008

'Brief Encounter'





Y Cymro – 24/10/08

‘Punchdrunk’, ‘Shared Experience’, ‘Complicite’... mae gan bob cwmni ei arddull unigryw, a phob cynhyrchiad yn denu cynulleidfaoedd mawr. Felly hefyd gyda chwmni ‘Kneehigh’ sydd wedi trawsnewid sinema Cineworld ar yr Haymarket, er mwyn llwyfannu’r clasur o ffilm, ‘Brief Encounter’ o waith Noël Coward.

Troeon trwstan bywyd carwriaethol tri chwpl, yn y caffi enwog ar blatfform yr orsaf drenau ble mae ‘Alec’ (Tristan Sturrock) a ‘Laura’ (Naomi Frederick) yn cwrdd am y tro cyntaf, yw lleoliad y ddrama-gerdd hon. Fel yn y ffilm a ryddhawyd yn 1946, tynged y ddau ‘gariad’ sy’n cynnal y cyfan.

Tarddodd y ffilm o ddrama o’r enw ‘Still Life’ - drama am berthynas tu allan i’r briodas. Nid perthynas ffiaidd, ond perthynas angerddol o gariadus rhwng dau berson priod a chaeth. Perthynas poenus, amhosib ac annerbyniol. Yng ngeiriau Emma Rice sy’n cyfarwyddo, a hefyd wedi addasu’r sgript, ‘Dychmygwch fod yn hoyw yn y 1930au, ac fe rydd hynny’r allwedd i ddeall beth yw gwraidd yr hyn sy’n digwydd yn ‘Brief Encounter’’. Wedi’i blethu’n hynod o gelfydd trwy’r stori mae caneuon Noël Coward, sy’n sôn am fethu ildio i gariad neu am arafu’r angerdd.

Trwy gyflwyno’r ddwy stori garu arall rhwng y ‘Beryl’ ifanc (Dorothy Atkinson) sy’n gweini yn y caffi a’i chyfaill ‘Stanley’ (Stuart McLoughlin), ac yna’r cariadon hŷn, ‘Myrtle’ (Tamzin Griffin) sy’n gyfrifol am y caffi a’i ‘rock cakes’ a’r Orsaf Feistr ‘Albert’ (Andy Williams), mae cyfle yma i arsylwi ar natur y gwahanol berthnasau. Yr hyn sy’n gneud y cynhyrchiad yma’n unigryw, yw’r modd mae’r cwmni yn defnyddio delweddau o’r ffilm (wedi’u hail-greu) a’u taflunio ar lenni ar y llwyfan. Trwy blethu’r ddelwedd a’r digwydd ar y llwyfan, mae’r cyfan yn creu cyfanwaith cofiadwy a real iawn.

Cofiadwy hefyd yw Set Neil Murray a Goleuo Malcolm Rippeth. Mae’r ffaith i’r ddau fedru trawsnewid y sinema fodern i fod yn theatr, heb sôn am fod yn gaffi ar blatfform yn gamp ynddo’i hun. Y cyffyrddiadau bychain yn y cynhyrchiad fydd yn aros fel y tegan o drên wedi’i oleuo yn cael ei dynnu gan yr Orsaf Feistr ar hyd y llwyfan, ac ‘Alec’ yn ei ddilyn fel petai am ei golli, neu’r ddau byped fel plant ‘Laura’ yn cadw reiat yn yr oruwch ystafell. Dyma gryfder cwmni Kneehigh sy’n hoff iawn o ddefnyddio pypedau a theganau, fel y gwelais yn eu cynhyrchiad o ‘Rapunzel’ yn y Southbank Centre y Nadolig diwethaf.

Ond mae’r clod hefyd yn mynd i’r Cast sy’n dyblu fel cerddorion, ac yn creu cyfeiliant swynol iawn i gyd-fynd efo’r caneuon a naws yr olygfa. Cefais i’n swyno’n llwyr gan y ddau brif gymeriad, a lwyddodd i gyfleu’r berthynas amhosib yn berffaith, a’r dagrau yn llygaid y ddau yn adrodd cyfrolau. Felly hefyd ym mherfformiadau gweddill y cast oedd yn ychwanegu’r elfen adloniannol i’r cyfan, fel y sbeis yng nghacennau’r caffi, i adael blas da a mwy ar y sioe.

Mae ‘Brief Encounter’ i’w weld ar hyn bryd ar yr Haymarket, ond brysiwch da chi, bydd y cyfan ar ben ymhen ychydig o wythnosau. Mwy o wybodaeth ar www.seebriefencounter.com

Friday, 17 October 2008

'Memory'




Y Cymro – 17/10/08

Yn ddaearyddol, mae cyrraedd rhannau o Lundain mor gymhleth â Chymru! Mae de’r afon Tafwys yn gymharol rwydd - Clapham, Wimbledon neu Croydon, ond mae teithio tua’r Gogledd yn dipyn mwy o drafferth!

I’r Pleasance yn Islington fu’n rhaid mynd i groesawu Clwyd Theatr Cymru ar eu hymweliad cyntaf â Llundain gyda’r ddrama ‘Memory’ o waith y Cymro o Landrindod, Jonathan Lichtenstein. Er fy mod i wedi gweld y cynhyrchiad gwreiddiol nôl yn 2006, cyn i’r cwmni fynd ar daith i Efrog Newydd, roeddwn i’n awyddus iawn i weld effaith dwy flynedd o ddatblygu ar y ddrama.

Adrodd hanes cwmni o actorion sy’n cwrdd mewn ystafell ymarfer, wrth baratoi ar gyfer eu cynhyrchiad diweddaraf yw sail y gwaith. Mae’r ddrama o fewn y ddrama yn cychwyn mewn fflat yn Nwyrain Berlin ym 1990, ble mae ‘Eva’ (Vivien Parry) yn cwrdd am y tro cyntaf â’i ŵyr ‘Peter’ (Oliver Ryan) sy’n esgor ar yr atgofion trist a dirdynnol am ei hieuenctid yn ystod yr Ail-Ryfel Byd. O Berlin i’r Bethlehem presennol, ac at hanes yr Iddew ‘Bashar’ (Ifan Huw Dafydd) sy’n derbyn ymweliad gan swyddog Palesteinaidd ‘Isaac’ (Guy Lewis) i’w hysbysu fod y ffin arfaethedig am gael ei godi ar safle ei gartref presennol. Drwy wibio yn ôl ac ymlaen rhwng y ddwy stori, a’r ddau gyfnod, dyma berl o ddrama sy’n gorfodi’r gynulleidfa i feddwl am y presennol a’r gorffennol, drwy gyfres o olygfeydd trawiadol a dirdynnol.

Roeddwn i hefyd yn falch iawn o weld gynnau mawr y colofnau adolygu yn Llundain yn bresennol gan gynnwys yr arch-adolygydd Michael Billington o’r Guardian a Nicholas De Jong o’r Evening Standard. Tipyn o glod i Clwyd Theatr Cymru am fedru eu denu, heb sôn am eu hudo i barthau Gogleddol y ddinas! Braf oedd darllen bod y ddau, mewn ffyrdd gwahanol, wedi’u plesio gyda’r cynhyrchiad.

Cael fy mhlesio wnes innau hefyd, er bod y cast wedi newid ers y cynhyrchiad gwreiddiol. Roeddwn i’n falch o weld bod Vivien Parry wedi aros fel y prif gymeriad, ac roedd ei pherfformiad, unwaith eto, yn gofiadwy iawn. Felly hefyd gyda gweddill y cast, dan gyfarwyddyd medrus Terry Hands a’i dîm profiadol.

Yr hyn sy’n hyfryd am y ddrama ydi’r modd mae’r gwyliwr yn cael ei dynnu i mewn i’r stori, a’r awydd i wybod beth fydd tranc y cymeriadau wrth ail-fyw’r atgofion poenus. Mae datblygiad y ddrama hefyd yn gelfydd iawn, a’r modd mae’r cyfan yn llifo o’r cylch ymarfer i’r ddrama go iawn yn rhwydd a didrafferth. Drwy ddefnydd effeithiol o oleuo, set a gwisgoedd, cyflwynwyd y tri chyfnod yn gynnil, ond effeithiol i greu cyfanwaith cofiadwy.

Da oedd gweld bod Clwyd Theatr Cymru wedi comisiynu drama arall gan yr awdur, a dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar am ei gweld. Da hefyd oedd croesawu cwmni o Gymru i’r ddinas, a braf gweld bod y gallu ganddynt i ennyn clod y Wasg genedlaethol.

Mwy o wybodaeth am y Cwmni ar eu gwefan www.clwyd-theatr-cymru.co.uk

Friday, 10 October 2008

'Blodeuwedd'


Y Cymro 10/10/08

Yn dilyn fy ymweliad â Chaerfyrddin, fel y soniais yr wythnos diwethaf, es i yn fy mlaen i Aberystwyth, gan ymweld â Chanolfan y Morlan ar gyfer cynhyrchiad Cwmni Cydweithredol Troed-y-Rhiw ar y cyd gydag Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth o ‘Blodeuwedd’ gan Saunders Lewis.

Dyma gynhyrchiad y clywais sôn amdano yn gynharach yn y flwyddyn dan y teitl bachog ‘Blodeuwedd ganol Seilej’. ‘Gwaith-ar-Bryfiant’ oedd y prosiect bryd hynny sydd bellach wedi cael ei addasu yn gynhyrchiad mwy gorffenedig. Roger Owen fu’n gyfrifol am gyfarwyddo’r cwmni gydag Euros Lewis yn Cynhyrchu ac yn cyflwyno’r stori ar gychwyn y noson. Roeddwn i braidd yn anghyfforddus efo’r angen i ‘gyflwyno’ un o’n dramâu mwyaf adnabyddus, heb sôn am y chwedl nodedig hon, ond buan iawn y sylweddolais fod y ‘cyflwyniad’ mewn gwirionedd yn rhan o’r digwydd dramatig, gyda’r actorion yn eu tro yn dod i’w lle. Roedd y gynulleidfa wedi’i gosod mewn dwy res hir i lawr ganol y ganolfan, ar gynllun ‘traverse’ a’r actio yn digwydd rhwng y ddwy res, ac yn llythrennol wrth draed y gynulleidfa.

O’i hymddangosiad cyntaf fel ‘Blodeuwedd’ roedd hi’n amlwg fod y ddawnswraig Anna ap Robert wedi dewis i gyflwyno elfen gref o goreograffi yn ei phortread o’r ‘Blodeuwedd’ wyllt, ac roedd yr elfennau cynnil o ran symudiadau i gyfleu’r ochor wyllt, anifeilaidd yn effeithiol iawn. Yn wir, roedd yr elfen gorfforol yn bwysig iawn yn y cynhyrchiad drwyddi-draw, gyda’r actorion yn taflu’i hunain o amgylch y gofod, yn rowlio neu’n neidio, fel bo’r gofyn. Un o wendidau’r perfformiad, ac yn wir y cynhyrchiad, oedd imi fethu clywed na deall yr hyn oedd yn cael ei ddweud.
Falle fod yn rhaid i’r Ganolfan gymryd rhyw gymaint o’r bai am hynny, ac eto, weithiau roedd yr arddull yn amlygu’i hun yn gryfach na’r testun, ac roedd hynny’n amharu ar y cynhyrchiad yn hytrach na’i gyfoethogi.

Rhaid imi enwi Rhodri ap Hywel a fu’n portreadu ‘Llew Llaw Gyffes’ a ‘Penteulu Penllyn’, gyda’r newid rhwng y ddau gymeriad yn gweithio’n dda, a Hedd ap Hywel fel y ‘Gronw Pebr’ penfelyn. Dyma ddau actor ifanc sydd â dyfodol disglair iawn ar lwyfan. Roedd cymeriadu’r ddau yn gofiadwy iawn, y llefaru’n glir a chyson, a’u presenoldeb ar lwyfan yn hudolus. Dau bortread cystal os nad gwell na’r hyn a welais gan ein Theatr Genedlaethol ar y noson flaenorol.

Gweddill y cwmni oedd Jaci Evans fel ‘Gwydion’, Meleri Williams fel ‘Rhagnell’ a Leigh Davies a Guto Gwilym fel y Milwyr.

Heb os nag oni bai, fe greodd y cwmni awyrgylch arbennig iawn yn y Ganolfan ar noson y perfformiad, yn enwedig yn yr ail-ran pan gafwyd amrywiaeth yn y goleuo. Roedd y diweddglo yn cyfiawnhau’r elfen gref o ddawns a’r ‘ymchwil corfforol’ o waith Margaret Ames, ac roedd ymadawiad ‘Blodeuwedd’ yn hynod o theatrig a chofiadwy. Mae’r gallu gan y cwmni yma, sy’n gyfuniad o ‘arweinwyr cymdogaethol ac enthiwsiastwyr y ddrama yn nhair sir y gorllewin’, i gyrraedd eu nod sef i ‘borthi meddwl a dychymyg cymdogaethau Cymraeg’. Roedd y wedd gyfoes gorfforol yn chwa o awyr iach ar hen chwedl, ond da chi, gwyliwch rhag colli’ch testun ynghanol y symud.

Beth fydd nesa tybed? ‘Problemau Prifysgol’ yn yr Hen Goleg ta ‘Siwan’ (by the sea)!?...

Yn anffodus, daeth taith y cwmni i ben. Mwy o wybodaeth ar www.theatrtroedyrhiw.com

Friday, 3 October 2008

'Iesu'



Y Cymro 03/10/08

Dwi’n falch o fedru cyhoeddi mod i o’r diwedd wedi gweld yr ‘Iesu’! Yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin digwyddodd y wyrth, a minnau wedi’n ngwasgu i mewn i’m sedd gul, anghyffyrddus! Ond, dwi’n hapus i gyhoeddi, fod y profiad yn werth yr anghyfleus dod a’r daith. Yn wahanol i batrwm diweddar ein Theatr Genedlaethol, doedd na ddim ymweliad â Llundain y tro hwn. A bod yn onest, doeddwn i ddim yn rhy hoff o’r theatr na’r gofod, a dwi’m yn siŵr os oedd y cynhyrchiad yn addas i faint y llwyfan yno.

Wedi’r heip a’r cyflwyniadau cyn y daith, roeddwn i’n wirioneddol edrych ymlaen am ei gweld. Difyr oedd gweld Aled Jones Williams yn cyfeirio yn y rhaglen at nifer o ddramâu eraill yn dilyn yr un themâu gan gynnwys ‘The Last Days of Judas Iscariot’ a fu yn yr Almeida yn ddiweddar. Soniais innau am y ddrama ‘Corpus Christi’ a welais yn yr Ŵyl yng Nghaeredin flwyddyn yn ôl, gyda’r ‘Iesu’ y tro hwnnw yn ddyn hoyw, a ‘Jiwdas’ yn gariad iddo, fel bod y brad felly’n fwy, ac yn treiddio o gariad yn hytrach na chasineb.

Y ffaith mai merch yw’r ‘Iesu’ yng nghynhyrchiad Cefin Roberts yw’r elfen fwyaf ‘dadleuol’, a heb os, roedd perfformiad gwefreiddiol Fflur Medi Owen yn gofiadwy iawn. Yn sicr, dyma godi’r trothwy ar safon perfformio yng Nghymru’r dyddiau yma, a chlod hefyd i Dafydd Dafis fel ‘Peilat’, Llion Williams fel ‘Caiaffas’ a’r newydd-ddyfodiad i lwyfan Cymraeg, Gareth ap Watkins fel ‘Jiwdas’. Clod hefyd i Cefin am gyfarwyddo’r cyfan yn llwyddiannus ar y cyfan, ac ambell i olygfa fel y daith i Jeriwsalem ar gefn y ceffyl pren, yr adlais celfydd iawn o Fae Guantanamo yn y treisio a’r ddau-fyd yn y diweddglo yn gweithio’n dda.

Un o’r ychydig wendidau imi’n bersonol oedd Set Guto Humphreys oedd braidd yn ddiddychymyg a llonydd. Siawns nad oedd modd cyfuno’r ddwy ran - yr anialwch a’r ariannol yn fwy celfydd, ac osgoi’r arfer felltith o ddisgwyl i actorion gludo’r dodrefn yn ôl a mlaen i’r llwyfan. Un o gryfderau Aled Jones Williams imi yw ei weledigaeth a’i synnwyr theatrig, sy’n amlwg yn cael ei anwybyddu dro ar ôl tro yng Nghymru. Dwi’n cofio gweld ‘Pêl Goch’ o’i waith ar lwyfan Theatr Gwynedd sawl blwyddyn yn ôl, a’r gofyn yn y sgript am i bethau penodol fel ‘wellingtons’ a ‘phêl goch’ i ddisgyn o’r awyr, fel bod y cymeriadau yn dod ar eu traws a’u trafod. Theatrig iawn. Ond dod o hyd i’r pethau ymysg y Set oedd cyfarwyddyd y cynllunydd a’r cyfarwyddwr, a chollwyd rhan bwysig o neges y ddrama yn hynny o beth. Unwaith eto, o ddarllen sgript Aled, yn yr olygfa gyntaf o ‘Iesu’, ar ôl y prolog, yr hyn a fwriadwyd oedd…’dau ddyn yn gwthio hen gar, yna’n gadael. Mae cist y car yn agor a Iesu’n rowlio allan…’ delwedd hyfryd a thrawiadol iawn. Bechod inni ei golli.

Fentrai awgrymu fod y Theatr Genedlaethol wedi dod i’w oed efo’r cynhyrchiad yma? Gobeithio’n wir. Prawf pellach o’r angen am ddewis y cast a’r criw yn llawer mwy gofalus. Diolch am ‘oleuo Ace McCarron sy’n dysteb i’w lwyddiannau y tu hwnt i Gymru. Ymlaen yn awr efo’r weledigaeth ffres, gyfoes, mentrus ac arbrofol os gwelwch yn dda. Dwi’n edrych ymlaen yn barod am y tymor newydd… a’r aelodau newydd i’r Bwrdd…?!

Bydd yr ‘Iesu’ yng Nghlwyd Theatr Cymru rhwng yr 2il a’r 4ydd ac yn gorffen ei thaith yn Aberystwyth ar y 10fed a’r 11eg o Hydref. Ewch i’w gweld!