Friday, 24 October 2008
'Brief Encounter'
Y Cymro – 24/10/08
‘Punchdrunk’, ‘Shared Experience’, ‘Complicite’... mae gan bob cwmni ei arddull unigryw, a phob cynhyrchiad yn denu cynulleidfaoedd mawr. Felly hefyd gyda chwmni ‘Kneehigh’ sydd wedi trawsnewid sinema Cineworld ar yr Haymarket, er mwyn llwyfannu’r clasur o ffilm, ‘Brief Encounter’ o waith Noël Coward.
Troeon trwstan bywyd carwriaethol tri chwpl, yn y caffi enwog ar blatfform yr orsaf drenau ble mae ‘Alec’ (Tristan Sturrock) a ‘Laura’ (Naomi Frederick) yn cwrdd am y tro cyntaf, yw lleoliad y ddrama-gerdd hon. Fel yn y ffilm a ryddhawyd yn 1946, tynged y ddau ‘gariad’ sy’n cynnal y cyfan.
Tarddodd y ffilm o ddrama o’r enw ‘Still Life’ - drama am berthynas tu allan i’r briodas. Nid perthynas ffiaidd, ond perthynas angerddol o gariadus rhwng dau berson priod a chaeth. Perthynas poenus, amhosib ac annerbyniol. Yng ngeiriau Emma Rice sy’n cyfarwyddo, a hefyd wedi addasu’r sgript, ‘Dychmygwch fod yn hoyw yn y 1930au, ac fe rydd hynny’r allwedd i ddeall beth yw gwraidd yr hyn sy’n digwydd yn ‘Brief Encounter’’. Wedi’i blethu’n hynod o gelfydd trwy’r stori mae caneuon Noël Coward, sy’n sôn am fethu ildio i gariad neu am arafu’r angerdd.
Trwy gyflwyno’r ddwy stori garu arall rhwng y ‘Beryl’ ifanc (Dorothy Atkinson) sy’n gweini yn y caffi a’i chyfaill ‘Stanley’ (Stuart McLoughlin), ac yna’r cariadon hŷn, ‘Myrtle’ (Tamzin Griffin) sy’n gyfrifol am y caffi a’i ‘rock cakes’ a’r Orsaf Feistr ‘Albert’ (Andy Williams), mae cyfle yma i arsylwi ar natur y gwahanol berthnasau. Yr hyn sy’n gneud y cynhyrchiad yma’n unigryw, yw’r modd mae’r cwmni yn defnyddio delweddau o’r ffilm (wedi’u hail-greu) a’u taflunio ar lenni ar y llwyfan. Trwy blethu’r ddelwedd a’r digwydd ar y llwyfan, mae’r cyfan yn creu cyfanwaith cofiadwy a real iawn.
Cofiadwy hefyd yw Set Neil Murray a Goleuo Malcolm Rippeth. Mae’r ffaith i’r ddau fedru trawsnewid y sinema fodern i fod yn theatr, heb sôn am fod yn gaffi ar blatfform yn gamp ynddo’i hun. Y cyffyrddiadau bychain yn y cynhyrchiad fydd yn aros fel y tegan o drên wedi’i oleuo yn cael ei dynnu gan yr Orsaf Feistr ar hyd y llwyfan, ac ‘Alec’ yn ei ddilyn fel petai am ei golli, neu’r ddau byped fel plant ‘Laura’ yn cadw reiat yn yr oruwch ystafell. Dyma gryfder cwmni Kneehigh sy’n hoff iawn o ddefnyddio pypedau a theganau, fel y gwelais yn eu cynhyrchiad o ‘Rapunzel’ yn y Southbank Centre y Nadolig diwethaf.
Ond mae’r clod hefyd yn mynd i’r Cast sy’n dyblu fel cerddorion, ac yn creu cyfeiliant swynol iawn i gyd-fynd efo’r caneuon a naws yr olygfa. Cefais i’n swyno’n llwyr gan y ddau brif gymeriad, a lwyddodd i gyfleu’r berthynas amhosib yn berffaith, a’r dagrau yn llygaid y ddau yn adrodd cyfrolau. Felly hefyd ym mherfformiadau gweddill y cast oedd yn ychwanegu’r elfen adloniannol i’r cyfan, fel y sbeis yng nghacennau’r caffi, i adael blas da a mwy ar y sioe.
Mae ‘Brief Encounter’ i’w weld ar hyn bryd ar yr Haymarket, ond brysiwch da chi, bydd y cyfan ar ben ymhen ychydig o wythnosau. Mwy o wybodaeth ar www.seebriefencounter.com
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment