Friday, 26 September 2008

'We Will Rock You'





Y Cymro – 26/09/08

Wyddwn i fawr am y sioe ‘We Will Rock You’ heblaw’r ffaith fod y cyfan yn seiliedig ar ganeuon y grŵp Queen. Wedi bod yn dyheu am weld y sioe ers tro, a hynny’n bennaf am fod Cymro Cymraeg o Lanrwst yn rhan o’r Cast, llwyddais i ganfod sedd yn theatr y Dominion, Nos Sadwrn.

Aeth sawl blwyddyn heibio ers y tro diwethaf imi fod yn y Dominion, a hynny’n un o’r adegau cynharaf imi deithio i Lundain i weld drama gerdd fy hun. ‘Beauty and the Beast’ oedd y sioe bryd hynny, a mawredd y gofod theatrig yma’n siwtio’r stori Disneyaidd dylwyth teg i’r dim.

Rhyw brofiad chwithig oedd bod ynghanol y gynulleidfa ‘Nos Sadwrn’ yma, gan fod fy holl ymweliadau â’r theatr y dyddiau yma yn tueddu i fod ganol yr wythnos. Y peth cyntaf am trawodd oedd yr amrywiaeth helaeth - yn bartïon o ferched, cyplau meddw (yn amlwg am wneud noson ohoni), teuluoedd, criwiau o ieuenctid wedi gwisgo fel y cymeriadau, y parchus a’r amharchus (a’u siampen a’u ffons symudol swnllyd) Wn i ddim os mai’r sioe arbennig yma oedd yn gyfrifol am hynny, ta’r ffaith mai Nos Sadwrn oedd hi. Liciwn i feddwl mai’r rheswm cyntaf sy’n wir, ac os felly, does na’m dwywaith fod cysylltu sioe lwyfan gyda cherddoriaeth boblogaidd yn gweithio, ac yn denu cynulleidfa wahanol i’r dilyniant Lloyd Webberaidd!. Dyna ichi ‘Mama Mia’, ‘Dirty Dancing’, ‘Jersey Boys’ a’r byr-hoedliog, ‘Desperately Seeking Susan’ yn brawf pellach o hynny.

Wrth i nifer o ddyfyniadau yn cyfeirio at gerrig milltir cerddoriaeth roc a phop gael eu taflunio ar y llen ar gychwyn y sioe, buan iawn y sylweddolais i fod ‘We Will Rock You’ wedi’i osod yn y dyfodol. Y dyfodol tywyll hwnnw, yn ôl Ben Elton, awdur y sioe, lle bydd rhyddid i wrando, i ganu, neu hyd yn oed gyfansoddi caneuon wedi cael ei wahardd, a phawb yn cael eu gorfodi i ddilyn arweiniad y corff llywodraethol. Ond mae un cymeriad, sef ‘Galileo’ (Ricardo Afonso) yn gwrthod dilyn y drefn, a buan iawn mae o, a’i gydymaith ‘Scaramouche’ (Sabrina Aloueche) yn torri’n rhydd, ac yn ceisio newid y byd. Yn rheoli’r byd afreal yma mae’r ‘Killer Queen’ (Mazz Murray) a ‘Khashoggi’ (Alex Bourne) sy’n treulio rhan fwyaf o’u hamser yn cael eu codi a’u gostwng a’u troi ar lwyfan symudol ar flaen y prif lwyfan!

Mae gweddill o drigolion y byd llwm yma’n disgwyl cyrhaeddiad ‘yr Un’ fydd yn newid eu byd, a’u harwain at eu hanthem goll - y ‘Bohemian Rhapsody’. Ynghanol y criw, mae ‘Arweinydd y Gwrthryfelwyr’ (Craig Ryder) - y Cymro o Ddyffryn Conwy sydd wedi bod yn rhan o ensemble'r Cwmni ers rhai blynyddoedd. Roeddwn i mor falch o fod wedi cael y cyfle i weld Craig yn y rhan, gan mai dyma’r noson olaf iddo berfformio efo’r Cwmni. Mae o wedi’i ddewis i fod yn rhan o gast y sioe fawr nesaf i agor yn y West End y flwyddyn nesaf sef ‘Priscilla Queen of the Dessert’ gyda neb llai na Jason Donovan yn y brif ran. Dyma ichi ŵr ifanc sydd wedi gweithio’n galed iawn i hawlio’i le yn y West End, a hynny o’i ddyddiau cynnar yng nghynyrchiadau Ysgol Dyffryn Conwy i Goleg LIPA yn Lerpwl. Roedd ei berfformiad a’i allu lleisiol yn gofiadwy iawn, a phob lwc iddo yn y dyfodol. Clod hefyd i Garry Lake, Cymro di-Gymraeg o Dde Cymru, sydd wedi bod yn aelod cyson o gynhyrchiadau Clwyd Theatr Cymru.

Hiwmor yr awdur a’r cyfarwyddwr Ben Elton, set drawiadol Mark Fisher a delweddau fideo Mark Fisher a Willie Williams, ynghyd â cherddoriaeth fythganiadwy Queen sy’n cyfiawnhau pris y tocyn imi. Heb os, mae ymweliad â’r sioe yn noson allan go iawn, ac a’m hatgoffodd o fod mewn cyngerdd roc ar adegau. Yr unig feirniadaeth imi’n bersonol, a dyma’r hyn a deimlais gyda ‘Mama Mia’ yn ogystal, oedd imi fedru clywed y caneuon yn agosáu linellau ymlaen llaw, wrth i’r ddialog ein harwain (yn glefyd ar y cyfan) at y ‘clasur’ nesaf. I ffans Queen a Freddie Mercury, roedd hynny’n werth bod ceiniog.

Mae ‘We Will Rock You’ i’w weld yn Theatr y Dominion, Llundain. Mwy o wybodaeth ar www.dominiontheatrelondon.org.uk

Friday, 19 September 2008

'365'




Y Cymro – 19/09/08

Theatr Genedlaethol Yr Alban sy’n cael y sylw'r wythnos hon, a’u cynhyrchiad diweddara y soniais amdano rai wythnosau yn ôl sef ‘365’ wedi’i gyfansoddi gan David Harrower ac wedi’i gyfarwyddo gan gyfarwyddwr artistig y cwmni, Vicky Featherstone.

Plant a phobol ifanc mewn gofal yw testun y gwaith, sy’n asesu’r gofal a’r gefnogaeth sydd ar gael i’r bobol ifanc wrth iddynt wynebu’r byd wedi camu allan o’r gofal swyddogol. Mae’r cynhyrchiad yn dyfynnu’n helaeth o’r deunydd llenyddol sydd wedi’i greu gan y Cyrff sy’n gyfrifol am asesu’r cynlluniau gan rannu cyngor ar amrywiol dasgau o ferwi dŵr i newid plwg. Cyngor sy’n ymddangos yn synnwyr cyffredin ar adegau ac eto’n sarhad ar ddealltwriaeth y bobol ifanc.

14 o bobol ifanc sydd hefyd yn y Cast, a’r rhes hir ohonynt yn cael eu cyflwyno’n gelfydd ac yn drawiadol iawn ar gychwyn y cynhyrchiad, yn sefyll o flaen nifer o lampau llachar. Daw bob un yn ei dro i rannu eu hanes, trwy nifer o sgyrsiau gyda’r gweithwyr cymdeithasol ac aelodau o’u teuluoedd. Cawn ein tywys i’w cartrefi newydd, wedi’u cynllunio’n ofalus gan Georgina McGuinness fel bod pob cartref yn wahanol, ac eto’n debyg. Drwy ddefnydd theatrig o ddrysau amrywiol, fe greiir cyfleodd am sgyrsiau sy’n awgrymu’r rhesymeg pam eu bônt mewn gofal i gychwyn.

Trawiadol hefyd oedd y defnydd o ddesgiau yn yr ystafell gyfweld. Wrth i’r sgwrs ddyfnhau, cludwyd desg ar ôl desg i’r llwyfan, i bellhau’r gweithiwr cymdeithasol oddi wrth yr unigolyn, gan greu hyd y llwyfan o bellter erbyn diwedd y sgwrs. Roedd hyn yn dweud cyfrolau. Plethwyd i mewn i’r olygfa ddawns oedd yn defnyddio’r desgiau fel llwyfan, ac yn ychwanegu lefel pellach i’r cyfan. Dyma arddull gyson yng ngwaith y cwmni yn ddiweddar, sef i gyfuno elfennau o ddawns rhwng y ddrama eiriol, sy’n ehangu ar y neges a’r ddelwedd dan sylw. Digwyddodd hynny llwyddiannus yng nghynhyrchiad olaf y cwmni sef ‘Blackwatch’ ac eto’n llwyddiannus yma.

Does na’m dwywaith fod y cyfanwaith wedi elwa o dreulio amser yn gweithio ac yn trafod y syniad yn yr ystafell ymarfer, a chyd weithio llwyddiannus rhwng yr awdur, y gyfarwyddwraig a’r coreograffydd Steven Hoggett. Roedd y ffresni a’r elfen arbrofol yng nghynllun set a gwisgoedd Georgina McGuinness hefyd yn hyfryd ei weld, yn enwedig wrth i’r adeilad ar y diwedd, oedd yn cyfleu’r cartref, godi ar un ochor, gan orfodi’r actorion i gamu’n neu syrthio’n ôl. Eto’n adrodd llawer mwy na’r geiriau.

Ond diwedd y ddrama sy’n rhoi’r glec fwyaf, a honno’n glec emosiynol a dirdynnol wrth i ddrws y ‘cartref’ gael ei agor yn gyson, a fflyd o bobol ifanc o bob lliw a llun gamu i mewn. Erbyn diwedd y ddrama, roedd y llwyfan yn orlawn o bobl ifanc, oedd yn taro’r neges i’r dim. Cwbl, cwbl effeithiol, a chlo teilwng i gynhyrchiad cofiadwy arall gan yr Albanwyr.

Mae ‘365’ i’w weld yn Theatr y Lyric yn Hammersmith, Llundain tan Medi 29ain. Mwy o fanylion ar www.nationaltheatrescotland.com

Friday, 12 September 2008

'Waves'





Y Cymro 12/09/08

Allwch chi fyth â beirniadu’r Theatr Genedlaethol yma yn Llundain o beidio â bod yn ddadleuol nac amrywiol. O’r clasurol i’r arbrofol, mae 'na wastad rywbeth at ddant pawb i’w gael ar lannau’r Tafwys. Ac o sôn am ddŵr, priodol iawn yw cyfeirio at un o’u cynyrchiadau ‘theatrig’ diweddaraf sef addasiad y gyfarwyddwraig arbrofol Katie Mitchell o nofel gymhleth Virginia Woolf - ‘Waves’.

Fe sylwch fy mod i wedi bod yn ofalus yn fy newis o eiriau wrth ddisgrifio’r cynhyrchiad yma, oherwydd beth yn union sy’n cael ei lwyfannu yw un o’r pethau mwyaf dadleuol am y gwaith. Ar y wyneb, drama radio sydd yma, neu yn hytrach ffilm, gyda thrac sain gyflawn gyfoethog. Ac eto, gan fod y cyfan yn cael ei greu ar y llwyfan o’ch blaen, ai cynhyrchiad theatrig sydd yma mewn gwirionedd?

Wrth gamu i mewn i theatr y Cottesloe, un o theatrau lleia’r Theatr Genedlaethol, yr hyn welwch chi o’ch blaen ydi stiwdio drama radio. Mae yma silffoedd o boptu’r llwyfan yn llawn o geriach i greu synau, o sgidiau, i ddefnydd, o arfau i offerynnau. Ar y llawr, mae bocsys amrywiol o dywod, o wair, o gerrig ac o faw. Mae yma ddrysau, a byrddau a chadeiriau a meicroffonau a lampau rif y gwlith, ac yn goron i’r cyfan sgrin enfawr sy’n hoelio’r sylw, ac yn atgoffa rhywun o fod mewn sinema.

Buan iawn y cawn ein cyflwyno i’r saith cymeriad sy’n ganolbwynt i’r stori sef Bernard, Susan, Rhoda, Neville, Jinny, Louis a Percival. Cael ein cyflwyno drwy’r lleisiau yn unig wnawn ni i gychwyn, wrth i’r actorion ddawnsio o gwmpas y meicroffonau gan daflu ambell i linell yma ac acw. Yn raddol, ychwanegir sbectol, neu lawes o grys, neu het, sydd eto’n adeiladu’r cymeriad a’r stori wrth fynd yn ei flaen. Yna daw’r camerâu fidio i’r llwyfan, ac fe greiir cameos bychain sy’n cael eu taflunio ar y sgrin enfawr i gyd fynd â’r geiriau, wrth i’r stori ruthro ymlaen o 1893 hyd 1933.

Diben y cyfan yw cyfleu hanes y chwe phrif gymeriad, gyda Percival y seithfed yn gorgyffwrdd stori pawb. O gyfnod yr ysgol i’r coleg i fywyd cyhoeddus, dilynwn eu hynt a’u helynt wrth iddynt gwrdd am bryd o fwyd neu yn y parc, gan weld pa mor gymhleth â thywyll yw bywyd bob un wrth fynd yn hŷn. A deud y gwir, allwch chi’m peidio â theimlo’n ddigalon wrth wylio’r cyfan, yn enwedig tua’r diwedd.

Er bod yr wyth actor yn gneud eu gwaith yn wyrthiol, nid yn unig yn traethu talpiau helaeth o’r nofel, ond hefyd yn creu’r synau, yn gweithio’r camerâu ac yn creu’r darluniau drwy ddefnyddio drychau, ffenestri, dail, dŵr a’r lampau, mae’r cwestiwn sylfaenol yn aros. Beth sy’ ma mewn gwirionedd? Ydi’r holl greu delweddau a thrac sain yn gynhyrchiad llwyfan? Ydi gwylio actorion yn darllen eu llinellau i feicroffon, neu’n efelychu synnau amrywiol yn werth £30 o docyn? Yn bersonol, dwi ddim mor siŵr.

Efallai y dylai’r gyfarwyddwraig newid ei chyfrwng. Yn sicr mae ganddi’r llygad i greu’r llun, y glust i glywed y gair, ond bosib bod hualau’r llwyfan bellach yn faen tramgwydd iddi!

Mae’r cynhyrchiad ar daith ar hyn o bryd gan ymweld â Leeds, Salford, Caerfaddon, Dulyn, Luxemburg ac Efrog Newydd. Mwy o fanylion am www.nationaltheatre.org.uk

Friday, 5 September 2008

'A Swell Party' ac Haf 2008



Y Cymro – 5/9/08

Wrth i’r ysgolion baratoi i agor eu drysau am dymor newydd, allai’m peidio rhyfeddu at ba mor sydyn y gwibiodd yr wythnos diwethaf heibio, gan gipio’r tywydd braf yn ei sgil. Wedi seibiant o’r adolygu am rai wythnosau, mae’n braf bod yn ôl i fwrw golwg dros gynnyrch yr Haf.

Yn anffodus, oherwydd prysurdeb y gwaith yn Llundain a thu hwnt, methais ymweld â’r Eisteddfod na’r Ŵyl yng Nghaeredin eleni. Clywais ganmoliaeth am gynhyrchiad diweddar ein Theatr Genedlaethol, sef gwaith Aled Jones Williams, ‘Iesu’, sy’n galonogol iawn, a gobeithio y medrai weld y cynhyrchiad sydd ar daith o wythnos nesaf ymlaen gan gychwyn yn Theatr Gwynedd, Bangor ar nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, 11-13 Medi, 2008, cyn mynd ymlaen i Theatr Mwldan, Aberteifi, Theatr Lyric, Caerfyrddin, Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth

Clywais ganmoliaeth hefyd i gynhyrchiad y cwmni newydd anedig ‘Torri Gair’ efo’u cynhyrchiad o gyfieithiad y diweddar annwyl Wil Sam o ddrama’r Gwyddel, Connor McPherson ‘Yr Argae’. Does 'na ddim sôn am daith ar hyn o bryd, felly, croesi bysedd y bydd!

O’r Eisteddfod i’r Ŵyl yng Nghaeredin, a llwyddiant y Cymry unwaith yn rhagor. Wedi bod yn deud y drefn dros y ddwy flynedd ddiwethaf am ddiffyg presenoldeb y Cymry yn Yr Alban, wele Gwmni Sherman Cymru yn hawlio’u lle ac yn cipio’r gwobrau.

Llongyfarchiadau mawr i Rhian Blythe, merch yr actores Iola Gregory gyda llaw, am gipio gwobr papur newydd The Stage i actores orau’r Ŵyl Ymylol eleni. Canmoliaeth uchel hefyd i Rhian Morgan am gael ei henwebu am yr un Wobr. Derbyniodd cynhyrchiad Sherman Cymru o ‘Deep Cut’ gryn sylw, ac mae’n olrhain hanes trasig Cheryl James o Langollen, un o’r pedwar milwr ifanc a fu farw yn dilyn cael eu saethu yng ngwersyll Deepcut rhwng 1995 a 2002. Bydd y ddrama i’w weld yng Nghlwyd Theatr Cymru rhwng y 9fed a’r 13eg o Fedi, ac yna yng Nghaerdydd rhwng yr 16eg a’r 27ain o Fedi.

Cymro arall a fethodd â bod yn yr Eisteddfod eleni, a hynny am ei fod ar lwyfan Neuadd Cadogan yn Llundain, oedd yr amryddawn Daniel Evans. Falle i chi gofio fi’n sôn am y cyngerdd i ddathlu bywyd a gwaith y cyfansoddwr Cole Porter sef ‘A Swell Party’ gafodd ei lwyfannu ddechrau mis Awst. Ymunodd enwau cyfarwydd eraill o’r West End yn y parti fel Maria Friedman, Mary Carewe, Graham Bickley a Simon Green, dan gyfarwyddyd David Firman a Jason Carr. O’r eiliad cyntaf imi gamu i mewn i’r Neuadd, roedd y parti yn ei anterth, a’r Band yn prysur ddiddanu’r gwesteion yn y neuadd ymgynnull. Eistedd wedyn yn fy sedd o fewn y Neuadd ogoneddus hon, a chael fy swyno wrth i David Firman a Jason Carr ddechrau cyfeilio ar y ddau biano, gan wahodd alawon cofiadwy Porter i’r parti fesul un. Heb os nag oni bai, sêr y noson imi, a gweddill y gynulleidfa oedd Daniel a Maria, y ddau wedi cyd-weithio gyda llaw ar gynhyrchiad Bryn Terfel o ‘Sweeney Todd’ flwyddyn yn ôl yn y Festival Hall. Godrodd Daniel bob owns o emosiwn allan o bob nodyn, ac roedd ei ddisgyblaeth gerddorol, ei ddealltwriaeth o neges pob cân a’i bresenoldeb hudolus ar lwyfan yn fythgofiadwy. Prawf pendant fod y gŵr ifanc yma nid yn unig yn actor penigamp, ond yn gantor o’r safon uchaf hefyd.

Clod i’r Cymry o bob cwr o’r wlad felly, er gwaetha’r tywydd, yr haf hwn.