Friday, 11 July 2008

'Jersey Boys'



Y Cymro 11/07/08

‘Oh What a Night’ oedd y gân agoriadol (a hynny yn Ffrangeg o dan ei theitl newydd ‘Ces Soirées-La’), ac am noson yn wir, wrth imi suddo’n gyfforddus i’m sedd yn Theatr y Tywysog Edward ynghanol strydoedd prysur Soho, ar gyfer y ddrama gerdd ‘Jersey Boys’. Suddo yn wir, oherwydd i nodau cynta’ Bas y band blymio i ddyfnderoedd fy esgyrn!

A dyna a gafwyd – gwledd o ganu’r caneuon poblogaidd, a hynny wrth adrodd hanes Frankie Valli a’r grŵp ‘The Four Seasons’. Dilyn hynt a helynt y cyfarfod, y creu, y cyfansoddi, y cecru, y cyngherddau ac yna’r chwalu, a’r cyfan mor slic a llawn hiwmor ag unrhyw gyfres deledu Americanaidd. Mae hynny’n glod i’r tîm fu’n creu’r gwaith sef Marshall Brickman a Rick Elice fu’n gyfrifol am y gyfrol, ac yna Bob Crewe a Bob Gaudio (sef un o aelodau gwreiddiol y grŵp) yng ngofal y geiriau a’r gerddoriaeth.

Fe gyflwynir yr hanes drwy’r cymeriad ‘Tommy DeVito’ (Glenn Carter) y dyn drwg os liciwch chi, a’r un fu’n bennaf gyfrifol, oherwydd ei flerwch gyda’r arian, am chwalu’r grŵp; ei gyfaill – a’i gyd-droseddwr ydi ‘Nick Massi’ (Philip Bulcock) sy’n cael ei sgubo ymlaen efo’r cyfan, yn mwynhau bob eiliad, nes i wirioneddau diwedd y daith ei ddeffro, a newid ei feddwl. Y darganfyddiad mawr wedyn yn llais unigryw ‘Frankie Valli’ (Ryan Molloy) sy’n newid hanes y grŵp, ac yn sicrhau eu llwyddiant, a’r cyfansoddwr a’i ddawn gerddorol i gyflwyno Clasur ar ôl Clasur - ‘Bob Gaudio’ (Stephen Ashfield)

Does 'na’m dwywaith mai mynd yno i glywed y caneuon poblogaidd wnaeth y rhan fwyaf o’r gynulleidfa, a’u pennau a’u traed yn dawnsio wrth glywed y ffefrynnau fel ‘Big Girls Don’t Cry’, ‘Walk Like a Man’, ‘Oh What a Night’, ‘My Eyes Adored You’, ‘Can’t Take My Eyes Off You’ a ‘Bye Bye Baby’ - i enwi ond rhai. All neb wadu nad Clasuron yn wir ydi’r cyfan, ac fe gefais i fy synnu, rhaid bod yn onest, ar y cyfoeth o alawon adnabyddus a ddaeth o ddoniau cerddorol y grŵp. Ond fel yn hanes y goreuon, law yn llaw â’r llwyddiant, mae yma hefyd drasiedi, priodasau’n chwalu, gamblo, mercheta, diota, ymladd, carchar a marwolaeth. Y cyfan yn ychwanegu’r sbeis angenrheidiol mewn sioe o’i math, ac yn dwyn emosiynau’r gynulleidfa, yn enwedig felly yn yr Ail Act, am denodd i’w stori’n llwyr.

Roedd y llwyfannu eto’n slic, yn syml ac yn daclus, gyda’r golygfeydd yn cael eu creu yn sydyn, ac yn ddi-stŵr o hynny o fewn ffrâm o haearn oedd yn cyfleu pont neu goridor i’r dim, a’i risiau ar yr ochor yn rhoi amrywiol lefelau i’r perfformiad. Defnyddiwyd sgriniau fideo hefyd oedd eto’n llwyddiannus, ac yn dal naws y cyfnod efo’r cartwnau lliwgar ac yna’r archif du a gwyn o wynebau’r gynulleidfa oedd wedi mopio efo’r grŵp.

Mewn dwy awr a hanner, aetho ni o’r pumdegau hyd at y flwyddyn 2000, ac roedd clywed beth oedd hynt a helynt bob aelod erbyn hyn yn ddiweddglo effeithiol ac emosiynol iawn.

Gyda chymaint o sioeau cerdd yn y West End ar hyn o bryd, does ryfedd fod papurau Llundain wedi cyhoeddi'r wythnos hon, fod y cyfan wedi ennill dros £13 miliwn y llynedd, gan dorri pob record. Mae’n anodd i’r cynhyrchwyr i ddewis sioeau fydd yn denu cynulleidfa wahanol bob tro, ac fel ‘The Buddy Holly Story’ neu ‘We Will Rock You’, ffans y ‘Four Seasons’ fydd yn heidio i weld y sioe hon.
Braf hefyd oedd gweld enwau Cymraeg yn y gerddorfa, gan gynnwys Huw Geraint Griffith o Gricieth sy’n cyfeilio o bryd i’w gilydd ar yr allweddellau.

Mwy am y sioe ar www.jerseyboyslondon.com

No comments:

Post a Comment