Friday, 4 July 2008
'Blackwatch' / 'Lord of the Rings'
Y Cymro 4/7/08
Dau gynhyrchiad yr wythnos hon sy’n brawf pendant bod synnwyr theatrig yn fyw ac yn iach. Dwy sioe yr hoffwn i i bawb eu gweld er mwyn profi grym theatr ar ei orau; y grym hwnnw a’m denodd i flynyddoedd yn ôl i garu’r theatr, ac sy’n parhau i’m swyno, o bryd i’w gilydd, y dyddiau hyn.
Ail ymweld, ddechrau’r wythnos, â’r ‘digwyddiad theatrig’ - y ddrama gerdd ‘Lord of the Rings’ yn Theatr Frenhinol Drury Lane. Mynd yno’n bwrpasol i ail-fyw'r holl elfennau theatrig, cyn i’r sioe gau ar ‘Orffennaf 19eg, wedi 492 o berfformiadau i dros 700,000 o gynulleidfa. A do, mi ges i’n swyno unwaith eto gyda mawredd y cynhyrchiad deuddeg miliwn o bunnau yma. Llwyddwyd i greu byd hudolus ar y llwyfan yn cyfleu i’r dim y tair nofel o waith J R R Tolkein o’r goedwig symudol siaradus, i’r dyfroedd a’r nofio, y teithio a’r brwydo a’r hedfan a’r plymio. Roedd hi’n fraint cael bod yno eto i weld ac i gofio beth sy’n bosib ei greu ar lwyfan trwy ddychymyg, dawn a thalent pur. Mae sôn y bydd y cynhyrchiad yn ail-agor yn Yr Almaen y flwyddyn nesaf.
Yn wahanol iawn i gynnyrch ein cwmni Cenedlaethol ni yma’n Nghymru, dwi wedi cael gwefr o weld bob cynhyrchiad hyd yma o waith Theatr Genedlaethol yr Alban, sydd bellach yn ail flwyddyn eu bodolaeth. Wedi misoedd lawer, ac wedi eu hymweliad cyntaf â Chymru yn Theatr Brycheiniog ym mis Mai, cefais y cyfle i weld ‘Blackwatch’ sef hanes byddin unigryw'r Alban gafodd eu hanfon i Irac yn 2004.
Clod unwaith eto i Gyfarwyddwr Artistig y Cwmni, Vicky Featherstone am ei gweledigaeth a’r cynllunio sy’n digwydd flynyddoedd cyn y cynhyrchiad. Yn 2004, fe ofynnodd hi i awdur y ddrama, Gregory Burke i ddilyn hanes catrawd y ‘Blackwatch’ oedd ar fin cael eu huno â gweddill y Fyddin yn yr Alban. Mae’r cwmni yn gwahodd tua deg awdur y flwyddyn i gadw llygad ar brosiectau tebyg, gyda’r gobaith y try’r digwyddiad neu gynllun yn gynhyrchiad ar ddiwedd y cyfnod. Cynhyrchiad sy’n berthnasol i’r Wlad, ac sy’n mynegi rhywbeth am gyflwr y Wlad a’i hanes.
O’r gwaith yma, fe greodd Greg, ynghyd â’r cyfarwyddwr medrus John Tiffany y cynhyrchiad hwn drwy gyfres hir o weithdai gyda’r actorion, a chyfarfodydd gydag aelodau o’r Fyddin, coreograffwyr cydnabyddedig, cerddorion a chyn-filwyr. Canlyniad y cyfan ydi cyflwyniad slic, emosiynol a byw iawn o brofiadau’r milwyr ynghanol Anialwch Irac. Trawsnewidiwyd llwyfan y Barbican yn Llundain i fod yn ofod tebyg i leoliad y Tatŵ Milwrol blynyddol yng Nghaeredin, gyda’r gynulleidfa bob ochor i’r llwyfan ar gynllun traverse, a’r gofod berfformio fel syrcas yn y canol.
Amgylchynwyd hynny gan bedwar tŵr scaffold â sgriniau teledu i gyfeiliant cerddoriaeth wladgarol a goleuo pwrpasol. Mentrodd y 10 actor yn eu tro i’r gofod, i ddweud eu hanes, drwy gyfres o olygfeydd o’r dafarn yn Fife ar bnawn Sul, ble mae’r cyn-filwyr yn siarad gydag awdur y ddrama i faes y Gad yn Irac.
Mawredd y cynhyrchiad oedd cyfarwyddo John Tiffany a choreograffu Steven Hoggett oedd yn galluogi’r actorion i lithro’n rhwydd iawn o un olygfa i’r llall, drwy symudiadau oedd yn ymylu ar fod yn ddawns. Ymddangosodd dau filwr o fol bwrdd pŵl, gan rwygo’r ffelt coch yn ddau a sleifio allan ohono yn eu lifrai milwrol. Eiliadau o theatr fydd yn aros gyda mi am amser hir.
O’r actio ensemble tynn ac emosiynol oedd yn byw pob eiliad o artaith feddyliol a balchder y Gatrawd unigryw yma, roedd hi’n anodd credu ar brydiau mai actorion ac nid milwyr go iawn oedd yma. Yn ôl awdur y ddrama, roedd Uwch Sarsiant oedd yn gyfrifol am hyfforddi’r actorion mor falch o’u gwaith, fe fynnodd bod y Cast yn gorymdeithio yn y stryd, er mwyn i bawb eu gweld. Doedd na ddim byd ffals, ffug nac amatur am y cynhyrchiad, a balchder Cwmni Cenedlaethol Yr Alban yn amlwg i barchu’r ddrama, eu hanes a’u traddodiad.
Mae cefndir y cynhyrchiad yma yn fy atgoffa o ddyddiau cynnar Theatr Bara Caws yng Nghymru, pan oedd yr un balchder, angerdd a’r dyhead i greu theatr ‘go iawn’ oedd yn deud rhywbeth wrthym ac amdanom yn fyw ac yn iach, a hynny gyda bron ddim cyllideb. Beth sydd wedi digwydd i’r angerdd hwnnw bellach? Ble mae’r actorion ifanc y dyddiau yma sy’n caru’r theatr ac eisiau creu?
Dwi’n wir yn gobeithio bod y cwmni wedi cael cynulleidfa deilwng ym Mhowys ym mis Mai, ac i’r rhai sydd eto heb weld y cynhyrchiad, mae ‘Blackwatch’ yn y Barbican tan Gorffennaf 26ain, ac yna yn Efrog Newydd ym mis Hydref a Thachwedd. Mwy o fanylion, lluniau a chlipiau fidio ar www.nationaltheatrescotland.com
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment