Friday, 30 May 2008

'Hedfan' a 'Noson Ola'r Prom'

Y Cymro – 30/05/08

‘Haf a ddaeth i draeth y dre’...’, ac er gwaetha’r tywydd, does 'na’m dwywaith fod bwrlwm Eisteddfod yr Urdd wedi swyno trigolion Sir Conwy a thu hwnt.

Fel un o’r Sir, mi wn yn iawn am y cyfoeth o dalent lleisiol a’r doniau perfformio sydd wedi’i fagu yn yr ardal, a hynny’n bennaf drwy’r eisteddfodau lleol a’r Gwyliau Dramâu blynyddol. Roeddwn i mor falch o glywed am ddyfodiad yr ysgol ddrama ‘Cipio’r Cyfle’, wedi’i leoli yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, ac sydd bellach yn ail flwyddyn ei fodolaeth. Dyma’r union beth sydd ei angen ymhob Sir yng Nghymru, gyda chefnogaeth ariannol gref iddynt, rhag inni eu colli, fel y digwyddodd i brosiect ‘Anterliwt’ yn Sir Ddinbych. Mae angen eu hybu, felly hefyd gyda’r cwmnïau dramâu cymunedol, sy’n cynhyrchu deunydd o safon uchel - llawer uwch, weithiau, na’r hyn a welais gan ein Theatr Genedlaethol hyd yma!

Yn anffodus i mi, ac i Fyd y Ddrama yng Nghymru ar hyn o bryd, mae’n amlwg nad oes gan y cwmni hwnnw bellach affliw o ddim diddordeb mewn hybu’r cynlluniau lleol yma (ar wahân i gyn-aelodau o ysgol ddrama ddigon tebyg yn ochrau Bangor!) nac ychwaith mewn hyfforddi a sicrhau parhad y to ifanc sy’n ysu am gael gweithio ym maes theatr. Dwi wedi fy synnu'r wythnos hon, gyda’r nifer uchel o Gymry ifanc sy’n ymddiddori ym myd y theatr a cherddoriaeth, sy’n ysu am ‘adael Cymru, a mynd i weithio yn Llundain. Mae hynny’n bennaf oherwydd diffyg gwaith yng Nghymru, ond hefyd y diffyg gweledigaeth a’r diffyg doniau creadigol i’w cadw yma, er mwyn ail-danio eu brwdfrydedd yn y theatr.

A brwdfrydedd, cyfoeth lleisiol ac egni hudolus criw ifanc yr ardal â’m swynodd innau nos Sul diwethaf wrth wylio sioe Ieuenctid yr Eisteddfod, ‘Hedfan’. Cyfieithiad o’r nofel (a’r addasiad i ddrama gerdd) ‘Feather Boy’ gan Peter Tabern a Nicky Singer, Don Black a Debbie Wiseman oedd y sioe, gafodd ei lwyfannu ar lwyfan enfawr a swnllyd, y Pafiliwn. Fel un sydd wedi cyfansoddi sawl drama gerdd yn y gorffennol, mi wn yn iawn pa mor anodd ydi canfod deunydd addas ar gyfer yr oedran yma, ac i greu cymeriadau a stori sy’n galluogi’r criw ifanc i actio’n naturiol, heb bersonoli pobol hŷn.

Hanes ‘Robat Nobel’, (Tomos Wyn Williams) bachgen tawel sy’n cael ei fwlio yn yr ysgol gan gymeriadau tebyg i ‘Niker’ (Rhys Owain Ruggiero) ac sy’n datblygu perthynas gyfeillgar gyda gwraig oedrannus ‘Edith Sorrell’ (Alys Owen Davies) yw hanfod y stori ddwys yma. Wrth i salwch ‘Edith’ waethygu, cryfhau wna perthynas y ddau, wrth i ‘Robat’ ddod i ddysgu mwy am gefndir a breuddwydion yr hen wraig, a thrwy hynny i ganfod ei hyder ei hun.

Gyda’r fath ddeunydd sensitif, a’r golygfeydd emosiynol a grëwyd gan Lowri Hughes, y cyfieithydd a’r cyfarwyddwr, nid Pafiliwn yr Eisteddfod oedd y man cywir i’w llwyfannu. Roedd angen gofod llawer llai a tawelach er mwyn gwneud teilyngdod â’r gwaith. Yn bersonol, a heb amharchu dawn Alys fel actores, hoffwn i fod wedi gweld actores brofiadol, o’r oedran cywir, yn portreadu’r hen wraig, er mwyn ychwanegu at y dwyser, a’r gwrthgyferbyniad rhwng y cenedlaethau. Ond roedd gallu lleisiol ac actio’r prif gymeriadau, ynghyd â dawn amhrisiadwy’r cyfarwyddwr cerdd, Annette Bryn Parri, yn ddigon i gynnal y sioe, ac i’w throi yn llwyddiant.

A llwyddiant hefyd oedd y sioe agoriadol, ‘Noson Ola’r Prom’ o waith y brenin comedi Mei Jones, a’r frenhines gerddorol Caryl Parry Jones. Dyma sioe liwgar, llawn egni, wedi’i goreograffi’n gelfydd gan Gary Lloyd, ei gynllunio gan Martin Morley a’i gyfarwyddo’n gerddorol gan Christian Phillips. Yma eto, un o lwyddiannau’r sioe imi, oedd cynnwys actorion hŷn fel Gwyn Vaughan Jones ac Eilir Jones oedd yn codi’r sioe i lefel uwch, a’u dawn i ddiddori cynulleidfa, a’u profiad helaeth ar lwyfan yn amlwg. Hiwmor a chlyfrwch geiriol Mei Jones, wedi’i amseru’n berffaith i danio’r ergydion doniol o enau Eilir Jones oedd gogoniant y gwaith, ynghyd â gallu’r criw i greu holl naws, hwyl a helynt y chwedegau.

Dim ond gobeithio’n wir y daw’r ‘haf i draeth y dre’’ erbyn diwedd yr wythnos lyb hon!

Wednesday, 28 May 2008

Defod y Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2008



Prynhawn da a chroeso i Ddefod Y Fedal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Conwy 2008.

Mae’n braf bod yn ôl ar lwyfan yr Urdd, a hynny mewn defod sy’n agos iawn at fy nghalon i. Wedi ennill y Fedal tair gwaith, ac wedi beirniadu’r gystadleuaeth ar ei hymweliad diwethaf â Bro Conwy wyth mlynedd yn ôl, anrhydedd oedd derbyn y gwahoddiad i fod yn Feistr y Ddefod eleni.

Wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd, hawdd iawn ydi gweld llwyddiant y gystadleuaeth. Ers cyflwyno’r Fedal am y tro cynta yn Llanelli ym 1975, dim ond dwywaith yn unig gafodd y Fedal ei hatal. Mae hynny ynddo’i hun yn galonogol iawn. Tristwch y sefyllfa ydi’r ffaith na chafodd y mwyafrif o’r dramodwyr eu meithrin i barhau i gyfansoddi ar gyfer y llwyfan. Cychwyn y daith ydi ennill Medal - mae’n rhaid annog, hyfforddi a mentora’r enillwyr i barhau i arbrofi ar lwyfan. Cael ein hudo i borfeydd brasach byd y sgrin fach ydi hanes cyn-enillwyr y Fedal, a minnau i’w canlyn. Mae’n ofynnol arnom erbyn hyn i sicrhau'r un abwyd ariannol a chreadigol i gyfoethogi ein theatr yn ogystal. Pam na ellid sefydlu cynlluniau hyfforddi blynyddol, dan adain dramodwyr a chyfarwyddwr profiadol, a drwy nawdd Urdd Gobaith Cymru a’n Theatr Genedlaethol? Byddai hyn yn gyfle gwych i ddarpar ddramodwyr i ddysgu’u crefft, i dderbyn sylwadau ar eu gwaith, ac i gynnal eu hunain am flwyddyn wrth hyfforddi. Ar ddiwedd y cyfnod, bydde llyfrgell o ddramâu newydd yn flynyddol i’w llwyfannu a lleisiau ifanc yn mynegi’u barn.

Ond yn ôl at yr ŵyl arbenning hon, yn y gobaith y bydd yna deilyngdod prynhawn ma, ac y cawn ninnau ddathlu a mwynhau llais newydd ar y llwyfan.

Friday, 23 May 2008

Siwan











Y Cymro – 23/5/08

‘Siwan’ – Theatr Sherman, Caerdydd **

‘Mae’r sioe ar ben, a bu’n siom’. Geiriau’r forwyn ‘Alys’ (Lisa Jên Brown), wedi gwylio crogi Gwilym Brewys, yng nghynhyrchiad diweddara ein Theatr Genedlaethol o ddrama ‘fawr’ Saunders Lewis – ‘Siwan’. Dyna’n hollol fy nheimlad innau hefyd, wedi gwylio a gwrando’n astud ar y ddrama dair Act farddonol, hanesyddol a chwbl hudolus hon – yn cael ei rhaffu at ei gilydd yn un cyfanwaith .

Fydd y giwed o gefnogwyr Cefin Roberts yn barod i’m llarpio’n syth gan ddatgan ‘neith yr hogyn na yn Y Cymro fyth licio dim byd wnaiff y Theatr Genedlaethol!’ gan droi bob beirniadaeth yn ddadl bersonol. Ond, bobol bach, mae’n amser i ddoethion byd y ddrama’n Nghymru i ddatgan yn gyhoeddus eu barn. Ydi’r cynhyrchiad yma’n wir yn deilwng o ddrama ‘fawr’ Saunders Lewis? Ai dyma’r gorau allwn ni ddisgwyl gan ein Theatr Genedlaethol a’i filiwn o bunnau y flwyddyn?

Heb os nag onibai, fe gefais fy ‘swyno’n’ wir gan bortread Ffion Dafis o’r ‘Siwan’ urddasol a’i heiliad o wallgofrwydd wrth ganlyn serch; felly’n wir gyda Rhys ap Hywel, a’i bortread cynnil a chynnes o ‘Gwilym Brewys’ wrth doddi calon Siwan, a’i themptio i fradychu’i gŵr, y brenin. Ond methiant eto oedd perfformiad Dyfan Roberts fel ‘Llywelyn Fawr’ a Lisa Jên Brown fel ‘Alys’ – ‘perfformiad’ sylwch, ac nid ‘portread’. Dyma fawredd y ddrama imi - gallu Saunders Lewis i bersonoli’r cymeriadau hanesyddol yma mewn cig a gwaed; drwy roi iddynt bryderon, barn, teimladau ac angerdd, mae’n galluogi ni i rannu’r ac ail-fyw’r eiliad pan ganfu Llywelyn Fawr anffyddlondeb ei wraig, a’r effaith gafodd hynny ar hanes Cymru.

Ond, credais yn wir, fod Dyfan a Lisa Jên, wedi methu mynd o dan groen y cymeriadau, i’r un graddau a wnaeth Ffion a Rhys. Roedd ymddangosiad ‘Llywelyn’ yn yr Act Gyntaf yn chwerthinllyd o wan, ac yn amlwg yn stryglo’n eiriol i greu gwylltineb a siom. Felly hefyd gydag ‘Alys’ wrth weld crogi Gwilym Brewys, oedd yn amlwg yn edrych allan drwy ‘bae window’r’ carchar wrth ddisgrifio’r crogi fel petai hi ar lwyfan Eisteddod yr Urdd yn cystadlu! Roedd yr ystum eisteddfodol o or-lefaru yn or-amlwg, a chollwyd holl gynildeb y munudau enwocaf yma yn hanes y theatr yng Nghymru.

Chefais i ddim fy argyhoeddi o gwbl yn y drydedd Act, ac allwn i’m credu na gweld y dirywiad na hyd yn oed y newid yng nghymeriad ‘Siwan’ wedi blwyddyn o garchar. Fe welais fflachiadau o ddawn Ffion fel yr actores brofiadol ac hyderus yr ydym wedi’i weld dros y blynyddoedd diwethaf, ac iddi hi mae’r diolch am imi roi yr ail-seren i’r cynhyrchiad! Ond eto yma, siomedig oedd ‘Llywelyn’ a’r angen am actor mwy cadarn yn amlwg iawn. (Wnai ddim sôn o gwbl am y ddau gynorthwy-ydd llwyfan prenaidd oedd â rhanau penodol yn y ddrama! – o diar…)

Ond nid ar y cast mae’r bai i gyd. Dwi wedi canmol gwaith cyfarwyddo Judith Roberts o bryd i’w gilydd, ac yn sicr mae ei gweledigaeth o setiau syml, symudiadau meimllyd llawn steil, a’i dawnsfeydd o gario dodrefn o olygfa i olygfa wedi bod yn chwa o awyr iach ar lwyfannau Cymru. Ond, wedi gweld ‘Y Pair’ rai misoedd yn ôl, a ‘Chariad Mr Bustl’ cyn hynny, dyma ni yr un fformiwla eto oedd yn ddiflas, stêl ac undonog y tro hwn. Unwaith eto, doeddwn i ddim yn hoffi’r set o waith Colin Falconer, ac ar brydiau, roeddwn i’n teimlo fel fy mod i’n gwylio cynhyrchiad coleg mewn neuadd ddawns! Doedd y drych enfawr ar gefn y llwyfan a’i deils llwyd clinigol yn ychwanegu dim, at y cynhyrchiad, ac ddim yn cyfiawnhau’r marchnata o ‘gynhyrchiad cyfoes’ yn fy marn i. Does na’m dwywaith fod cerddoriaeth Jay Gleave yn ‘gyfoes’, ond fe ddifethwyd y cyfan ar y diwedd efo’r corws fawreddog o gerddoriaeth glasurol. Yr unig ganmoliaeth i’r ochor dechnegol oedd goleuo cynnil, cofiadwy a chwbl effeithiol Ceri James oedd yn wir yn cynesu ac oeri’r awyrgylch yn ôl y galw.

Gall neb wadu gogoniant geiriau Saunders, fel wnaeth Yr Athro Gwyn Thomas yn y rhifyn gyfredol o ‘Golwg’ ac fel ‘Cysgod y Cryman’ gynt, y deunydd sy’n ddramatig ac nid y cynhyrchiad. Does dim angen athrylith i ddewis na llwyfannu Clasuron Prin y Llwyfan Cymraeg. Gweledigaeth sydd angen, fel y cawsom yn ‘Esther’ gynt. Daw hynny gyda chyfarwyddwyr newydd profiadol a mentrus. Annwyl Fwrdd y Theatr, gweithredwch da chi…

Mae ‘Siwan’ ar daith ar hyn o bryd ac yn ymweld â Riverside Studios, Llundain, Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, Canolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe, Theatr y Lyric, Caerfyrddin a Theatr Mwldan, Aberteifi dros yr wythnosau nesaf.

Friday, 16 May 2008

Edrych ymlaen...

Y Cymro – 16/5/08

Wrth inni nesáu yn ddyddiol at Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy, cyfle i fwrw golwg ymlaen at holl gynnyrch dramatig yr ŵyl, yn ogystal â rhai o’r cynyrchiadau eraill sydd i’w weld ar daith o hyn o bryd.

Y ddrama gerdd fydd yn agor wythnos yr ŵyl, yn y Pafiliwn ym Mae Penrhyn fydd ‘Noson Ola’r Prom’. Cynhyrchiad lliwgar a llawen hwyl wedi’i osod yn y Chwedegau, ac wedi’i gyfansoddi ar y cyd gan Caryl Parry Jones a Mei Jones, sydd hefyd yn cyfarwyddo. ‘Mae hi am fod yn rolar-costar o reid!’ yn ôl y criw, a dwi’n siŵr y bydd hi! Ymysg y Cast mae... Bydd y sioe i’w weld ar Nos Sadwrn cynta’r Eisteddfod, sef Mai 25ain.

Ymlaen wedyn at y nos Sul, Mai 26ain, ac at y sioe ‘Hedfan’ gan blant lleol yr ardal, o dan gyfarwyddyd Lowri Hughes, Annette Bryn Parri a Cai Thomas. Dyma gyfieithiad o’r sioe Saesneg ‘Feather Boy’ gyda bron i 100 o ieuenctid y sir yn perfformio’r sioe ar lwyfan yr Eisteddfod.

Ac ar y Nos Fawrth a Nos Fercher, Mai 28ain a’r 29ain, cyfle i’r plant Cynradd efo’u sioe ‘Swyn Stori’ wedi’i gyfarwyddo gan Arwel Roberts ar y cyd gydag athrawon cynradd lleol. Y tro yma bydd 200 o blant yn troedio’r llwyfan gan fynd â ni i ganol llwyth o gymeriadau llenyddol lliwgar o Rala Rwdins i .

Os oes blas ymweld â’r theatr cyn hynny, wel mae 'na ddigonedd o ddewis ar hyn o bryd - sy’n beth braf iawn, er gwaetha’r tywydd braf dyddie yma.

Ac at gynhyrchiad y bydda i’n mynd i’w weld yr wythnos nesaf, sef cynhyrchiad diweddaraf ein Theatr Genedlaethol o glasur Saunders Lewis, ‘Siwan’. ‘Cynhyrchiad newydd o ddrama swynol am gariad, chwant a maddeuant wedi ei leoli yn llys canol oesol Llywelyn Fawr’ yn ôl y cwmni, gyda Rhys ap Hywel, Lisa Jên Brown, Ffion Dafis a Dyfan Roberts yn chwysu’u ffordd drwy’r ddrama radio hon. Os da chi awydd ei gweld hi cyn hynny, bydd y cwmni yn ymweld â Theatr Sherman, Caerdydd ar Fai 20fed i’r 23ain, cyn mynd ymlaen i’r Riverside Studios yn Llundain, Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, Canolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe, Theatr y Lyric, Caerfyrddin a Theatr Mwldan, Aberteifi. Mwy o wybodaeth ar www.theatr.com

Cwmni arall sydd ar daith ar hyn o bryd, a chwmni dwi wedi methu eu dal bob tro, ydi Rhosys Cochion, yn teithio’i sioe newydd ‘Trafaelu ar y Trên Glas’ gyda Sharon Morgan. ‘Portread o gyfnod tymhestlog canol oed pan fydd rhaid i fenyw wynebu herio’i chorff a’i henaid wrth geisio ymrafael â dirgelion bywyd a marwolaeth’ ydi disgrifiad y cwmni o’r sioe, ac mi wn y bu cryn ganmoliaeth i gynyrchiadau diweddar y cwmni, sy’n ‘perthyn’ o ran thema i’r sioe hon. Bydd y sioe yn ymweld â Neuadd Dwyfor, Pwllheli ar Fai 21ain, Theatr Gwynedd, Bangor ar Fai 22ain, Clwyd Theatr Cymru ar Fai 23ain ac Ysgol Llanfihangel-ar-arth ar Fehefin 14eg.

Friday, 9 May 2008

Bryn Gobaith


Y Cymro – 09/05/08

Wel, mae’n rhaid imi gychwyn fy llith yr wythnos hon yn ymateb i’r bonheddwr ‘D.H.Jones’ o’r ‘Bontnewydd, Caernarfon’ am ei lythyr sarhaus yn Y Cymro yr wythnos diwethaf, o dan y penawd ‘Gormod o Lundain’. Llythyr barodd i’m calon suddo, a bod yn onest, a llythyr – i’r rhai na brynodd y rhifyn ddiweddara, yn gofyn y cwestiwn ‘pam fod Y Cymro yn caniatau i Paul Griffiths adolygu dramau Llundain sydd a dim byd yn berthnasol i Gymru?’ Cwestiwn ddigon teg ar yr olwg gynta, a chwestiwn i’w ateb gan f’annwyl Olygydd efallai, ac nid y fi! Ond, fe aeth y bnr Jones ymlaen i gyhoeddi’n dalog bod y ‘nifer o Gymry cyffredin sydd eisiau gwybodaeth am Theatr Soho yn brin iawn’ a bod fy ngholofn yn ‘wastraff arian a gofod yn y papur’. Dyna chi neis ynde! Braf gweld bod bobol Bontnewydd yn meddu’r ddawn brin i siarad ar ran trwch o boblogaeth ‘gyffredin’ Cymru! Yna celpan arall, o bin gwenwynig y bnr Jones, yn awgrymu y dylwn i ‘gyfranu at bapurau Lloegr megis ‘The Stage’ ac ati’ petawn i’n dymuno ‘arddangos ei wybodaeth o’r sin Seisnig’, os nad ydi hyn ‘yn rhy bell o’i gyrhaeddiadau’.

Rheidrwydd, dwi’n credu, ydi ymateb i’r fath ensyniadau cas. Yn gyntaf, hoffwn wahodd rhagor o ddarllenwyr ‘cyffredin’ Y Cymro i ymateb i’r llythyr hwn, i weld os mai gwir yw honiad y Bnr Jones am weddill o’i gyd-Gymry ‘cyffredin’. Yn fy mhrofiad i, chefais i ddim ond canmoliaeth gan bawb y cwrddais â nhw am eu haddysgu am yr hyn sy’n digwydd ar lwyfannau Llundain dros y ddwy flynedd diwethaf. Mi wn bod sawl un wedi bod draw yn Llundain – ie, Mr Jones, ac yn Theatr Soho hefyd, yn gweld dramâu wedi i mi sôn amdanynt, ac wedi mwynhau. Mae’r ffaith bod sawl actor ac awdur ifanc wedi diolch imi am adolygu dramâu beiddgar a gwahanol, sydd wedi agor eu llygaid i bosibiliadau’r theatr, hefyd yn amhrisiadwy. Felly gyda fy nghyfaill Bethan Gwanas, a fynychodd y Theatr Genedlaethol gyda mi, tra ar ymweliad diweddar yn Llundain, ac a gafodd ei synnu gan y modd y llwyfanwyd y ddrama, ac a roddodd wedd newydd iddi hithau ynglŷn â phosibiliadau eang y llwyfan.

A do, Mr Jones... mi dderbyniais ddigon o wahoddiadau gan amrywiol gylchgronnau yn gofyn am adolygiadau, ond mi wrthodais, gan fy mod i’n credu’n gryf bod angen addysgu’r gynulleidfa Gymraeg – gyffredin neu ysgolhaig, am yr hyn sy’n digwydd tu fas i Gymru. Onid trwy ddarllen gwaith llenorion o Loegr a thu hwnt y dysgodd lawer o Gymry eu crefft i gyfansoddi, yn yr un modd ag y dysgodd ein hartistiaid am arddull beintio’r Meistri gweledol. Beth am ein cantorion byd enwog? Onid mewn colegau yn Lloegr a thu hwnt y bu iddynt hwythau ddysgu eu crefft? Os bu angen erioed i addysgu ein hactorion llwyfan, ein dramodwyr a’n cyfarwyddwyr, credwch chi fi, rwan ydi’r amser.

Ac i gadw’r Bonwr Jones a’i gyd-Gymry ‘gyffredin’ yn hapus, mi es i draw i Neuadd Llanofer, yng Nghaerdydd i weld cynhyrchiad Cwmni Glass Shot o’r ddrama ‘Bryn Gobaith’ . Cwmni a sefydlwyd gan yr awdur-gyfarwyddwr Gruffudd Jones a’r actor ifanc Rhys Miles Thomas. Cwmni y mae’n rhaid imi’u canmol am fynd ati yn annibynnol i gynhyrchu dramâu ar liwt eu hunain, a i ennill nawdd gan Gyngor y Celfyddydau, Noson Allan ac Age Concern.

Drama am unigrwydd henaint o waith Gruffydd Jones ydi ‘Bryn Gobaith’, gyda Dora Jones yn portreadu gwahanol gyfnodau ym mywyd y prif gymeriad sef ‘Megan’ neu ‘Anti Megan’ i’r ail gymeriad yn y ddrama, ‘Dafydd’ (Dafydd Dafis). O’r cychwyn cyntaf, fe lwyddodd Dora yn ei phortread cynnil o’r ‘Anti Megan’ oedrannus, ond braidd yn rhy gynnil ac undonnog oedd y cyfan am awr a hanner o ddrama llawn atgofion o Gommin Greenham i’r Cartref Preswyl. Doedd y sgript ddim yn helpu yn hynny o beth, ac roed dgwir angen trydydd cymeriad yn y ddrama. Yr un amlwg i’w gynnwys fyddai ei mab, ‘Geraint’ oedd yn ffrwyth llawer o’r gwrthdaro rhwng ei gefnder ‘Dafydd’, fel y clywsom yn yr e-byst, y llythyrau a’r galwadau ffôn y bu Dafydd Dafis yn eu rhaffu drosodd a throsodd. Roedd gennai biti drosto erbyn y diwedd, ac yn dyheu am roi iddo actor arall er mwyn medru cyfathrebu â rhywun ar y llwyfan.

Roedd y set, a’i bum fflat golau, yn gymysg o fframiau gwag yn adlewyrchu gwacter a phellter teuluol Megan a’r awgrym (cynnil eto) o ffens Comin Greenham yn effeithiol, felly hefyd gyda goleuo Iestyn Griffiths. Priodol iawn hefyd oedd y gerddoriaeth achlysurol oedd yn cynhesu’r geiriau – ond yn y geiriau roedd y broblem. Yn wahanol i ddrama Povey, ‘Fel Anifal’, a ‘Defi’ a ‘Mair’ yn dyheu am ddianc o gysgod y Foel, y bu’r ddau yn gymaint ran ohono gydol eu hoes, welais i ddim yr un dyfnder yng nghymeriad Megan, a’i hawydd i aros ym ‘Mryn Gobaith’.

Clod a gobaith yn wir i’r cwmni am fentro, a chyda llai o daith a mwy o gymeriadau, dwi’n siwr y byddai’r ddrama wedi gweithio yn well. Bydd ‘Bryn Gobaith’ i’w weld yn Neuadd Soar, Merthyr Tudful heno a Neuadd Gymunedol Castell Newydd Emlyn nos yfory.


Friday, 2 May 2008

'Gone with the Wind'




Y Cymro – 02/05/08

‘Gone with the Wind’, New London Theatre, ****

Wedi’r hir ddisgwyl, a’r hir drafod am bob elfen o’r ddrama-gerdd uchelgeisiol hon, chwythwyd ar agor drysau’r theatr y New London, ar gyfer cynhyrchiad Trevor Nunn o nofel epig Margaret Mitchell, ‘Gone with the Wind’.

Wrth ddarllen rhai o’r adolygiadau cynnar gan y Wasg yma yn Llundain, mae’n syndod bod y sioe heb gael ei chludo ymaith gan y gwynt, yn sgil yr holl sylwadau negyddol. Rhy hir, rhy eiriol, rhy undonog... Do, mae’r ddrama-gerdd-garwyr wedi llarpio arni’n llwyr, a hynny yn annheg iawn yn fy marn i.

Mae’r stori enwog hon wedi’i osod yn Nhaleithiau Deheuol yr Amerig yn ystod y Rhyfel Cartref, a’r hyn a’i dilynodd. ‘Scarlett O’Hara’ (Jill Paice) ydi’r llances o brif gymeriad, a dilyn ei hanes hi wnawn ni gydol y stori. Ei phrofiadau hi o fyw drwy’r cyfnod efo’i chyfeillion, ei theulu, ei chariadon, a’i gelynion, cyn ac wedi’r Rhyfel.

Cychwynnir yr hanes yn ‘Tara’, planhigfa teulu’r ‘O’Hara’ yn Georgia, gyda’r ‘Scarlett’ chwareus yn fflyrtio gyda’r bechgyn lleol, tra bod ei gwir gariad, ‘Ashley Wilkes’ (Edward Baker-Duly) ar fin priodi ei gyfnither, ‘Melanie Hamilton’ (Madeleine Worrall). Er gwaetha cyngor ei thad, ‘Gerald O’ Hara’ (Julian Forsyth) i gadw draw oddi wrtho, ac i ganfod cariad gwell, mae’r ‘Scarlett’ hunanol yn benderfynol o geisio gwneud y bonheddwr ‘Wilkes’ yn eiddigeddus. Er gwaethaf ei hymdrechion, does dim troi ar ‘Ashley’, a buan iawn y daw ‘Scarlett’ wyneb yn wyneb â’r ail-brif gymeriad yn y nofel, y torrwr calonnau golygus a chyfoethog, ‘Rhett Butler’ (Darius Danesh). Ond, mae ‘Scarlett’ yn bodloni ar briodi gŵr lleol arall, sef brawd ‘Melanie’ - ‘Charles Hamilton’ (David Roberts), a buan iawn y mae priodas ddwbl yn yr ardal.

Yr hyn darodd fi’n syth am y cynhyrchiad oedd y modd y mae’r cyfan yn llamu drwy’r tudalennau mewn llinellau. O fewn eiliadau i gwrdd, roedd ‘Scarlett’ wedi priodi, ei gŵr wedi marw, a hithau wedi geni plentyn mewn munudau!. Neidiwyd o olygfa i olygfa mor sydyn, nes cyrraedd pwynt dramatig arall, oedd yn gofyn am gân. Yna, pennill a chytgan, cyn llamu ymlaen unwaith eto, drwy’r nofel drwchus hon.

Wedi’r golled, mae ei mam, ‘Ellen’ (Susannah Fellows) yn ei hanfon i Atlanta, i dreulio amser efo’i modryb. Buan iawn mae ‘Scarlett’ yn ôl i’w hen ffyrdd, ac yn parhau i fod yn eiddigeddus o briodas ei chwaer yng nghyfraith a’i gwir gariad ‘Ashley’. Ond, unwaith eto, daw wyneb yn wyneb efo ‘Rhett Butler’, ac er gwaethaf ei chyfnod o alaru, mae’n dewis i ddawnsio gydag ef, sy’n tanio pob math o ensyniadau am ei chymeriad. Gyda’r Rhyfel Cartref bellach yn ei anterth, mae ‘Scarlett’ yn aros yn Atlanta, a pharhau mae’r stori garu gymhleth rhyngddi hi, ‘Wilkes’, ‘Rhett’ a’i chwaer yng nghyfraith, ‘Melanie’.

A dyma ddod at un o’r rhannau mwyaf dramatig yn y nofel, sef yr olygfa epig o losgi Atlanta - golygfa y bu cryn drafod sut ar y ddaear oedd posib cyfleu hynny ar lwyfan. Do, roedd y cyfan yn ddramatig, ac fe lwyddodd yr olygfa i’m hargyhoeddi’n llwyr o’r dinistr a fu. Ond, yn symlrwydd yr olygfa y gwelais i fawredd y cynhyrchiad, sef yr anwyldeb eiddil a’r elfen hamddenol gartrefol sydd mor hyfryd amdano. O symlrwydd cynnil set John Napier, sy’n hynod o drawiadol ac eto’n effeithiol i gerddoriaeth trawiadol, emynyddol Margaret Martin.

Fe’m hatgoffwyd dro ar ôl tro o waith Tim Baker yng Nghlwyd Theatr Cymru, wrth fynd i’r afael â’r nofelau mawr fel y drioled o waith Alexander Cordell neu’r ‘Grapes of Wrath’ diweddar. Yr ensemble cry, wedi’i chyfarwyddo’n dynn, yn godro’r emosiwn o bob golygfa, ar lwyfan eitha moel. Dyna ydi mawredd theatr - gweledigaeth glir y cyfarwyddwr sy’n gwybod sut i gyfleu’r stori heb angen am setiau drudfawr.

Un o’r ychydig wendidau oedd y ‘gerddorfa’ oedd wedi’u stwffio i ddau gwpwrdd o bobtu’r llwyfan. A bod yn onest, dwi’n amau faint o gerddorion, neu’n hytrach, faint o offerynnau oedd yno, gan fod y sain yn debycach i’r hyn a greeir gan allweddell. Bu cryn drafod ynglŷn â defnyddio alawon o’r ffilm adnabyddus a wnaeth y nofel yn fyd-enwog, ond dewis peidio wnaeth Trevor Nunn. Tueddu i gytuno gyda hyn wnes i, er pa mor dila oedd y themau byr oedd yn cloi rhai o’r golygfeydd mwyaf angerddol.

O berfformiad caboledig, cadarn a chofiadwy yr ‘eilun pop’ gwreiddiol Darius i’r llinellau anfarwol ‘I don’t give a damn’ a ‘Tomorrow is another day’, fe erys atgofion melys iawn am y cynhyrchiad cynnes ond cynnil yma, heb unrhyw wynt teg ar ei ôl!

Mae ‘Gone with the Wind’ i’w weld yn Theatr y New London ar hyn o bryd. Mwy o fanylion ar www.gwtwthemusical.com