Friday, 24 August 2007
Gwyl Caeredin 2007 : 'A Feast of Song & Light Classical Music'
Y Cymro - 24/8/07
Roeddwn i mor falch mod i wedi dal trên saith y bore o Lundain er mwyn cyrraedd Caeredin cyn cinio, er mwyn imi fedru dal perfformiad olaf o’r cyngerdd ‘A feast of Song & Light Classical Music’ yn Eglwys Greyfriars Kirk. Eleni, fel y llynedd, yno’n arddangos gwir dalentau cerddorol Cymru roedd Annette Bryn Parri a Dylan Cernyw, y Soprano Ros Evans, y tenor Adriano Granziani a’r bâs / bariton Rob Williams. Yn anffodus i mi, ‘roedd Dylan wedi gorfod dychwelyd i Gymru erbyn diwedd yr wythnos, ac felly ni chefais y cyfle i’w glywed ef ac Annette yn perfformio fel rhan o’r ddeuawd ‘Piantel’ - y ddeuawd a swynodd y gynulleidfa yng Nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ac a ddarlledwyd ar S4C. Gredwch chi fyth fod y ddau wedi gwerthu bron i 500 o CD’s yn ystod wythnos y Steddfod. Tipyn o gamp a thipyn i golled i Gwmni Sain a wrthododd gytundeb recordio iddynt!
Ac am wledd a gafwyd; o fawredd Carmen i Fugeilio’r Gwenith Gwyn, o Dr Zhivago i’n hwiangerddi, fe blesiodd bob nodyn o’r cyngerdd pawb oedd yno, gydag Annette yn creu sain cerddorfa gyfan o galon y piano. Uchafbwyntiau’r pnawn oedd cyfoeth a chryfder llais Adriano, tawelwch a llyfnder hwiangerddi Ros Evans a gallu anhygoel Annette i gyfeilio ac fel unawdydd. Roedd y cyfan yn ddigon i dynnu deigryn i lygad unrhyw Gymro oddi-cartref, a minnau yn eu plith. Arbennig iawn.
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment