Friday, 22 June 2007
'Branwen' a 'Sweeney Todd'
Y Cymro - 22/6/07
Yr hen a’r newydd sy’n cael fy sylw'r wythnos hon gan gychwyn efo perfformiad olaf un Llwyfan Gogledd Cymru, a hynny yng Nghanolfan Cymry Llundain. Pan welis i’r fersiwn wreiddiol o’r ddrama ‘Branwen’ gan Ifor ap Glyn a Darach Ó Scolaí yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli nôl ym mis Rhagfyr dwetha, mi gesh i wefr arbennig iawn.
Stori gyfoes sydd yn y ddrama am ddau gyfaill o ddyddiau coleg yn Aberystwyth; Mari (Ffion Dafis) sy’n gweithio fel awdures yng Nghymru a Seán (Lochlann Ó Mearáin) sy’n awdur yn Iwerddon. Mae’r ddau yn cael eu tynnu ynghyd unwaith eto gan y cynhyrchydd teledu Eifion Bowen (Dafydd Dafis) i gyd-weithio ar fersiwn animeiddiedig o chwedl Branwen. Wrth ddod wyneb yn wyneb, hawdd yw cynnau tân ar hen aelwyd, a daw sawl cyfrinach i’r amlwg, fydd yn effeithio perthynas Seán a’i wraig (Bridin Nic Dhonncha) am byth.
Er bod y sgript wedi’i ‘olygu’n helaeth ar gyfer yr ail-daith, yr egwyl wedi’i ddileu a Lochlann Ó Mearáin wedi camu i esgidiau’r actor Stephen Darcy, roedd y cynhyrchiad yn dal i fod yr un mor effeithiol. Er bod yn well gen i anwyldeb portread Stephen o’r cymeriad ‘Seán’ yn hytrach na’r Lochlann ymosodol, fe lwyddodd i ymuno’n llwyddianus iawn efo’r ensemble cry’ yma o actorion. Fel ym mis Rhagfyr, mi gesh i wefr o wylio Ffion Dafis ar lwyfan unwaith eto. Mae ganddi gymaint o bresenoldeb sy’n hoelio’n sylw ac yn byw bob eiliad o angst y cymeriad o flaen ein llygaid. Byddai gwylio Ffion yn portreadu ‘Esther’, ‘Siwan’ neu ‘Blodeuwedd’ yn wledd sicr, ac yn docyn euraidd i unrhyw gynulleidfa.
Tristwch y noson yn Llundain oedd y ffaith mai dyma’r tro olaf i’r cwmni berfformio, a hynny am bod Llwyfan Gogledd Cymru yn dod i ben prin bedair blynedd ers ei sefydlu. Gwarth yn wir. Yn ystod y pedair blynedd, mae Ian Rowlands wedi creu theatr arbennig iawn gan feithrin awduron newydd a dangos inni weledigaeth theatrig unigryw. Do, bu ambell i gam-gwag yn ystod y cyfnod - fel sydd i’w ddisgwyl gan bob cwmni, ond efo ‘Ta-ra Teresa’ , ‘Frongoch’, ‘Deinameit’ a rwan ‘Branwen’, fe grëwyd rhywbeth arbennig iawn ac mae’n warthus nad oes mwy o arian yn cael ei roi i’r cwmni. Sawl awdur newydd mae’r Theatr Genedlaethol wedi’i feithrin yn y bedair blynedd ers eu bodolaeth hwythau? Os na chaiff Ian Rowlands barhau i gyfarwyddo ac ysgrifennu, mae’n golled enbyd i’r theatr yng Nghymru.
Dwi am aros yn Llundain er mwyn sôn am gynhyrchiad arall unigryw sydd newydd gael ei gyhoeddi wythnos yma. Am chwe pherfformiad yn unig, rhwng y 5ed a’r 7fed o ‘Orffennaf, bydd Bryn Terfel a Daniel Evans yn perfformio ‘Sweeney Todd - The Demon Barber of Fleet Street’ o waith Stephen Sondheim yn y Royal Festival Hall. Yn ymuno â’r ddau Gymro bydd Maria Friedman fel ‘Mrs Lovett’, Adrian Thompson fel ‘Pirelli’, Steve Elias fel ‘The Beadle’, Philip Quast fel ‘Judge Turpin’ ynghyd â Chorws Cantorion Maida Vale, Corws Ysgol Berfformio Guildford a Cherddorfa’r London Philharmonic . David Freeman sy’n cyfarwyddo a dyma’r tro cyntaf i Bryn bortreadu’r dihiryn yma ym Mhrydain. Mae’r tocynnau eisioes ar werth ac yn prysur fynd, felly mynnwch nhw mor fuan â phosib am noson fythgofiadwy a chanadwy!
Ac os yda chi’n digwydd bod yn Llundain wythnos yma, ceisiwch alw draw i’r Barbican er mwyn gweld y sioe ‘Floating’ - cyd-gynhyrchiad rhwng cwmni Hoipolloi a chynyrchiadau Hugh Hughes. Dyma gynhyrchiad dwi di sôn amdano sawl gwaith ers imi ei weld gyntaf yn yr Alban y llynedd. Hanes Sir Fôn yn cael ei ddatgysylltu oddi wrth y tir mawr, ac ymdrech ei thrigolion i’w hachub!. Cyflwynir y sioe gan Hugh Hughes (Shôn Dale-Jones) a’i gydymaith Sioned Rowlands (Jill Norman) .
Yr wythnos nesaf, byddai’n sôn am un o’r dramâu cerdd ddryta' erioed i’w lwyfannu yn Llundain sef ‘Lord of the Rings’ sy’n agor yn swyddogol yr wythnos yma.
Friday, 15 June 2007
Eisteddfod yr Urdd 2007
Y Cymro - 15/6/07
Wedi wythnos o gystadlu - ac o dderbyn y wobr gyntaf neu gael cam, mae Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2007 bellach ar ben. Mae’r stondinwyr fel y cystadleuwyr wedi hir fynd adref, a’r pebyll yn prysur gael eu dymchwel, a’u pacio ar gyfer Sir Conwy 2008. Wedi wythnos hynod o lwyddianus o ran yr Urdd, beth sy’n aros yn y cof o ran byd y ddrama?
Wel, fe gawsom fonolog a dramodydd newydd yn sgil Manon Wyn Williams o Rosmeirch, Ynys Môn. Llongyfarchiadau mawr iddi hi ar ei llwyddiant, gan edrych ymlaen yn fawr at gael darllen ei gwaith. Braf hefyd oedd gweld dramodydd arall - a gipiodd y Wobr hon y llynedd, Ceri Elen Morris yn ennill Y Fedal Lenyddiaeth ar y pnawn Llun, a hynny am y tro olaf yn hanes y Fedal. Da iawn iddi hi, gan erfyn arni i barhau i gyfansoddi ar gyfer y llwyfan, yn ogystal â chyfoethogi ein llên.
A dyna’r llu fu’n cystadlu ar y cystadlaethau llwyfan ar nos Sadwrn - yn cynnwys y bythol-boblogaidd Unawd allan o Sioe Gerdd a Gwobr Goffa Llew. Am y tro cyntaf eleni, fe rannwyd yr Unawd o Sioe Gerdd yn ddwy gystadleuaeth, a hynny oherwydd oedran a’i phoblogrwydd. Meinir Wyn o Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon gipiodd y Wobr Gyntaf yn yr oedran fenga, a hynny efo’i datganiad hynod o emosiynol o’r gân ‘Dy Garu Di o Bell’ o’r ddrama gerdd ‘Er Mwyn Yfory’. Dyma gân sy’n cael ei chanu hyd syrffed y dyddiau yma yn y gystadleuaeth hon, a mawr erfyniaf ar gystadleuwyr y dyfodol i ddewis caneuon eraill sy’n cynnig mwy o sialens iddynt. Mae digonedd o ganeuon addas at bob llais yn cael eu cyfansoddi bob blwyddyn, ac mae’r broses o geisio caniatad i ddefnyddio cyfieithiad Cymraeg ohonynt yn hawdd iawn. Felly, does dim esgus. Dwi wedi gofyn i’r Urdd ystyried cyhoeddi cyfrol ohonynt, fydd o gymorth mawr i’r cystadleuwyr a’r hyfforddwyr. Plîs gwnewch, fel bod PAWB yn cael yr un cyfle i ddewis caneuon sy’n fwy o sialens. Yn ail ar y gystadleuaeth yma, oedd Siôn Ifan o Ysgol Bro Myrddin a ganodd ddatganiad arbennig iawn o gyfieithiad Tudur Dylan Jones o ‘Cadair Wag wrth Fyrddau Gweigion’ o’r Sioe Gerdd ‘Les Miserables’. Siôn hefyd oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y fonolog ar yr un noson, efo perfformiad cofiadwy iawn o gyfieithiad Rhiannon Rees o waith Ian Rowlands - ‘Marriage of Convenience’. Roeddwn i mor falch o weld Siôn yn derbyn Ysgoloriaeth yr Eisteddfod a Gwobr Talent BBC Radio Cymru ar y nos Sadwrn. Da iawn yn wir.
Ac at y rhai hŷn, a Glesni Fflur o Lanuwchllyn yn cipio’r Wobr gyntaf efo’i datganiad o’r gân ‘Dagrau’r Glaw’ o’r sioe gerdd ‘Plas Du’. Yn bersonol, roeddwn i’n anghytuno efo Deiniol Wyn Rees y beirniad, ac yn teimlo bod Anni Llŷn o’r aelwyd newydd-anedig Y Waun Ddyfal, Caerdydd a’i chyfieithiad o’r gân ‘Ti yw Fy Myd’ o’r sioe gerdd ‘The Scarlet Pimpernel’ wedi cael cam mawr. Felly hefyd efo Eirlys Myfanwy Davies o Lanelli, oedd eto’n canu ‘Dy Garu Di o Bell’.
Cwbl haeddiannol wedyn oedd dyfarnu Gwobr Goffa Llew i wyneb cyfarwydd, sef Manon Wyn Williams oedd yn ychwanegu at ei llwyddiant yn gynharach yn yr wythnos. Rhaid cyfaddef fy mod i’n bryderus iawn o weld bod Manon wedi dewis i bortreadu’r hen wraig ym monolog Llinos Snelson - ‘Miss Jôs y Post’, ond o’i hymddangosiad cyntaf ar y llwyfan hyd y diwedd, cefais fy argyhoeddi’n llwyr gan ei pherfformiad penigamp. Felly hefyd wrthi iddi berfformio’r darn gwrthgyferbyniol o ddrama Manon Steffan Ross - ‘Mae Sera’n Wag’ , a’r dagrau yn cronni yn ei llygaid cyn yngan yr un gair.
Perfformiadau hynod o gry’ a chofiadwy, a gobeithio yn wir fod sawl cwmni theatr yn gwylio talent amlwg i’r dyfodol. Pobol fel Manon ddylai bod ar ein llwyfannau - pobol sydd â’r gallu i bortreadu cymeriadau o bob oed a phrofiad. Un gair o gyngor wrth ddarpar gystadleuwyr, fel y mynegais wrth Manon dro yn ôl yn Theatr Gwynedd, dewiswch ddarnau sy’n golygu rhywbeth ichi. Darnau sy’n eich galluogi i uniaethu â’r cymeriad a’r hyn sydd ganddo neu ganddi i’w ddweud. Anghofiwch ‘Esther’, ‘Blodeuwedd’ a ‘Siwan’, darllenwch yn eang, mynychwch y theatr, darllenwch ddramâu newydd a dewiswch rywbeth sy’n wirioneddol yn eich cyffwrdd. Dyna’r ffordd i geisio’r wobr gyntaf, ac nid i gael cam...!