Friday, 25 August 2006

Gwyl Caeredin 2006


Y CYMRO - 25/8/06

Er mwyn gweld pob un sioe yn yr Ŵyl Ymylol yng Nghaeredin, byddai’n rhaid caniatáu 5 mlynedd, 11 mis ac 16 o ddiwrnodau! Gredwch chi fod yna 28,014 perfformiad o 1,867 sioe mewn 261 o leoliadau?! Dros yr wythnosau nesaf, mi gewch chi flas o’r 25 sioe y bues i’n eu gweld dros y 6 diwrnod diwethaf.

Braf iawn oedd cwrdd ag wynebau cyfarwydd o Gymru ar fy mhnawn cyntaf yn y ddinas, a hynny wrth imi wylio’r sioe ‘Gwledd o Gân a Cherddoriaeth Glasurol’ yn Eglwys Greyfriars Kirk. Trefnwyd y cyngerdd yma gan asiantaeth Cantabile o Fae Colwyn, ac yn eu mysg yr amryddawn Annette Bryn Parri, y tenor Huw Llywelyn, y Soprano Mari Wyn Williams, ynghyd â Dylan Cernyw ar y delyn. Os fuo na erioed sioe i ddangos y dalent cerddorol sy’ ma yng Nghymru, dyma hi. Cynulleidfa deilwng a gwerthfawrogol i bob perfformiad. Fyddai mam yn arfer dweud, bob tro y clywai Annette yn perfformio - boed yn cyfeilio neu fel unawdydd, bod y gallu ganddi i wneud i’r offeryn ‘ganu’ mewn modd na all sawl un arall. Roedd clywed llais y piano yn canu’r trefniant o alawon gwerin o Gymru yn wefreiddiol. Mae’n amser inni werthfawrogi talent Annette fel perfformiwr, ac nid yn unig fel cyfeilydd. Gwych iawn. Mae’r un peth yn wir am Dylan a’i delyn. Safon uchel iawn a braint oedd cael bod ymysg y dyrfa niferus oedd yno.

Wyddoch chi fod hi’n costio ymhell dros £1000 i ddod â sioe i’r Ŵyl yng Nghaeredin - arian mawr i unrhyw gerddor neu actor, heb sôn am gostau teithio ac aros. O siarad efo’r criw cerddorol wedyn, synnais o glywed bod Cyngor y Celfyddydau a chwmni recordiau o Gymru wedi gwrthod rhoi nawdd iddynt. Diolch byth am haelioni cwmni Salvi o Ffrainc, a Phianos Cymro o Port. Cywilydd ar y gweddill. Yr un oedd y gŵyn gan ddau actor ifanc o Gymru - Dafydd James ac Eirlys Bellin wrth iddynt ymdrechu i godi’r arian gan eu teuluoedd a’u cyfeillion er mwyn llwyfannu’r sioe gerdd ‘Slap’ mewn cwt yn y Pleasance. Cyn fyfyrwyr o’r Coleg yng Nghaeredin oedd y cwmni, gyda Maria Hodson yn ymuno â nhw i greu’r sioe. Hanes yn ymdebygu i stori Sinderela a gafwyd am dri pherson colur yn paratoi i ffilmio fideo pop. Maria ac Eirlys oedd yn gyfrifol am y geiriau, a Dafydd am y gerddoriaeth. Roedd eu hegni a’u brwdfrydedd yn chwa o awyr iach, a llwyddodd y tri i greu sioe liwgar, gyffrous a chofiadwy. Uchafbwynt y sioe i mi oedd clywed y cymeriad Sinderelaidd ‘Betty’ (Maria Hodson) yn canu’r gân ‘Betty in the eye of the beholder’ - crafog a gwych iawn!

Mae’n gywilydd nad oes cronfa ariannol arbennig ar gael i actorion a cherddorion ifanc i gael creu a chyfansoddi sioeau ar gyfer y llwyfan rhyngwladol hwn. Dylai bod cyfle iddynt dreulio cyfnod yn gweithio a chreu’r sioeau ac wythnos o berfformiadau yng Nghymru er mwyn cael arbrofi cyn perffeithio’r sioe i agor yng Nghaeredin. Dwi’n galw am i Gyngor y Celfyddydau, y Theatr Genedlaethol, yr Eisteddfod a Chymdeithas Ddrama Cymru i ddwys ystyried hyn at 2007 a thu hwnt. Dyma le mae meithrin ac ail-danio’r ddrama yng Nghymru, nid yn nyfnderoedd syrffedes Beckett, neu mewn gwobrau hurt o hael cystadlaethau di-gystadleuwyr cyfansoddi dramâu! Yr hwn sydd ganddo glustiau, gwrandawed a gweithreder!

Yr wythnos nesa, cynhyrchiad ffantastig Theatr Genedlaethol yr Alban o’r ddrama ‘Realism’ - cwmni sydd ddim ond ychydig fisoedd oed, ac eto’n medru creu dylanwad yn syth; y Cymro a Shakespeare, a dathlu Dionysus efo cyrff noeth yng Ngroeg!

No comments:

Post a Comment