Friday, 18 August 2006

Edrych mlaen...



Y CYMRO - 18/8/06

‘Wedi elwch, tawelwch fu’… Wrth inni ffarwelio â’r llwch yn Felindre,
dwi’n pacio’n nghês ac yn teithio i fyny am Gaeredin i ymweld â’r Ŵyl Fawr arall sy’n digwydd yno ym mis Awst. Cyn mynd, blas sydyn o’r hyn allwn ni edrych ymlaen ato dros y misoedd nesaf.

Da oedd clywed wythnos yma bod Rhys Ifans am ddychwelyd i’r West End i ymuno â chwmni’r Donmar Warehouse ar gyfer eu tymor newydd. Bydd Rhys yn ymuno â Kim Cattrall, Penelope Wilton ac Ian McDiarmid i berfformio gwaith gan David Mamet, Patrick Marber a David Eldridge.

I’r rhai ohonoch sydd heb gael y cyfle i weld Daniel Evans yn y sioe wych ‘Sunday in the Park with George’ gan Sondheim, dyma’ch cyfle olaf, gan fod y sioe yn gorffen ar yr 2il o Fedi. Mae’r sioe yn Theatr Wyndham, Llundain. Cofiwch fod sawl sioe newydd ar fin agor yn y West End gan gynnwys yr hir ddisgwyliedig ‘Wicked’ sydd eisioes wedi ennill 15 gwobr nodedig tra ar Broadway gan gynnwys Grammy a 3 Gwobr Tony. Bydd y sioe yn agor yn swyddogol ar y 27ain o Fedi yn Theatr yr Apollo Victoria. Cofiwch hefyd am ‘The Sound of Music’ sy’n agor yn y Palladium ar 3ydd o Dachwedd. Os ewch chi heibio Theatr y Palace, mi welwch chi droed mawr tu allan! Bydd sioe Monty Python ‘Spamalot’ yn agor yno ar y 30ain o Fedi.

Yng Nghymru, bydd Cwmni’r Frân Wen yn teithio efo addasiad John Ogwen o nofel y diweddar Eirug Wyn - ‘Bitsh!’ - nofel a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002. Dyma ‘ddrama afaelgar sy’n cyfuno hiwmor ffraeth gyda thristwch sefyllfa drasig Abi’ yn ôl y cwmni. Mae’n adrodd hanes Abi wrth iddo ail-wynebu ei orffennol pan yn hogyn ifanc chwilfrydig yn y chwedegau, i gyfeiliant synau Elvis, Manfred Mann a’r Rolling Stones. Bydd y cwmni yn agor yn Neuadd Dwyfor Pwllheli ar y 10fed o Hydref ac mae’r cast yn cynnwys Carwyn Jones, Rhian Blythe, Catrin Fychan, Jonathan Nefydd, Maldwyn John, Eilir Jones a Mari Wyn. O sôn am y Steddfod a’r chwedegau, bydd Sharon Morgan hefyd yn mynd â’r ddrama ‘Holl Liwie’r Enfys’ ar daith yn yr Hydref. Bydd y cwmni yn ymweld â Chanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar y 13eg o Fedi, cyn teithio i’r Wyddgrug, Pontyberem, Harlech, Bangor a Chrymych.

‘Diweddgan’ gan Samuel Beckett fydd cynhyrchiad nesa’r Theatr Genedlaethol, gydag Owen Arwyn, Arwel Gruffydd, Lisabeth Miles a Trefor Selway o dan gyfarwyddyd Judith Roberts. Bydd y cwmni yn agor yn Theatr Gwynedd, Bangor ar y 5ed o Hydref.

Braf gweld bod gan Clwyd Theatr Cymru hefyd sawl cynhyrchiad yn cael ei baratoi yn yr Wyddgrug. Bydd y cwmni yn cyflwyno ‘The Grapes of Wrath’ gan John Steinbeck sy’n agor ar y 14eg o Fedi, ‘An Inspector Calls’ gan J.B. Priestley sy’n agor ar yr 21ain o Fedi, ‘An Ideal Husband’ gan Oscar Wilde sy’n agor ar y 19eg o Hydref a ‘Memory’ gan Jonathan Lichtenstein sy’n agor ar yr 2il o Dachwedd. ‘Beauty and the Beast’ fydd eu pantomeim Roc a Rôl eleni dros gyfnod y Nadolig.

Digon i edrych ymlaen ato felly!

No comments:

Post a Comment