Friday, 14 July 2006

'Dead Funny' a 'Lle bu'r blacowt'

Y Cymro - 14/7/06

A ninnau ar drothwy gwyliau’r Haf, braf gweld bod digon o gynyrchiadau i’w gweld ar lwyfannau Cymru. Theatr Bara Caws wedi cychwyn ar eu taith efo’r sioe glybiau ‘Jac yn y Bocs’ fydd yn ymweld â Bethesda, Y Bala a Chaernarfon yr wythnos hon. Ar y gorwel hefyd mae’r Eisteddfod Genedlaethol, a chyfle i fwynhau cyflwyniadau gan ein Theatr Genedlaethol o waith Samuel Beckett, i ddathlu canmlwyddiant ei eni eleni. Bydd pob sesiwn yn cynnwys perfformiadau o'r dramâu byrion iawn 'Dod a Mynd' a 'Sŵn Traed', wedi eu cyfieithu'n arbennig gan yr Athro Gwyn Thomas, a’r cast fydd Carwyn Jones, Valmai Jones, Lisabeth Miles, Jonathan Nefydd a Christine Pritchard dan gyfarwyddyd Cefin Roberts a Judith Roberts. Cofiwch hefyd am Sgript Cymru yn cyflwyno dwy ddrama ‘Mae Sera’n Wag’ gan Manon Steffan Ross a drama fer gan Mari Siôn o’r enw ‘Car Dy Gymydog’ a Chwmni Rhosys Cochion yn cyflwyno ‘Holl Liwie`r Enfys’ gan Catrin Edwards a Sharon Morgan.

Ond dwi am fynd â chi i Borthmadog ac i Sir Benfro yr wythnos hon, gyda dau gwmni a dwy ddrama dra wahanol! Cwmni Theatr y Torch o Sir Benfro yn ymweld â Bangor efo’u cynhyrchiad diweddara - ‘Dead Funny’ o waith Terry Johnson.

Roedd yna dipyn o heip wedi bod yn y wasg leol am y cynhyrchiad yma, gyda sawl rhybudd am ‘iaith gref’ a ‘noethni’. Mentro â meddwl agored felly, i weld pam y fath stŵr!

Fe gychwynnodd y cyfan yn eitha’ fflat, wrth inni gael ein cyflwyno i Eleanor (Rebecca Wingate) a Richard (Richard Nichols) - gŵr a gwraig oedd yn amlwg â phroblemau mawr yn eu priodas. Er bod yma rai llinellau doniol yma ac acw, digon digyffro a llonydd oedd eu cyflwyniad. Yn fuan ynghanol yr Act gynta’, dyma ddod i ddallt am y rhybudd, wrth i’r gŵr orfod diosg ei ddillad yn gyfan gwbl a’r wraig i geisio ‘ail-ddeffro’ eu bywyd rhywiol! Gydag ymddangosiad y cwpl arall sef Nick (Liam Tobin) a Lisa (Lynn Seymour) a’u cymydog hoyw Brian (Ken Oxtoby), yn ogystal â’r newyddion trist am farwolaeth sydyn y diddanwr Benny Hill, daw hi’n amlwg bod y cymeriadau i gyd (heblaw’r wraig) yn ffans mawr o fyd comedi. Wrth alaru a hel atgofion am Benny Hill, daw hi’n amlwg hefyd pam nad oes gan y gŵr ddiddordeb yn ei wraig!

Er cystal oedd set chwaethus Sean Crowley, a pherfformiadau Richard Nichols a Ken Oxtoby, digon siomedig a llonydd oedd y ffars. Os am fynd i weld y sioe (am resymau celfyddydol wrth gwrs!) mae’r cwmni yn ymweld ag Aberhonddu, Caerdydd ac Aberdaugleddau tan Orffennaf 29ain.

Ymlaen wedyn i Borthmadog i ddal y sioe gymunedol Pasiant Port gyda dros 170 o blant ac oedolion yn mynd â ni nôl i gyfnod yr Ail-Ryfel Byd i gyflwyno ‘Lle Bu’r Blacowt’.

Fel un sydd wedi cyfarwyddo sawl drama gerdd debyg yn ardal Pwllheli, mi wn yn iawn am y gwaith caled o gael pawb ynghyd, a llwyfannu cynhyrchiad o’r maint yma. Er cystal oedd cyflwyniadau Ysgolion Eifionydd, Eifion Wyn, Y Gorlan a Borth y Gest, ro’n i yn teimlo fod yna sawl cyfle wedi’i golli i greu mwy o ddrama a chomedi efo’r cast, yn enwedig gyda chriw’r ‘Hôm-Gârd’ a’r gwragedd efo’u llyfrau Rasions.

Serch hynny, cafwyd noson gofiadwy o ganu ac roedd mwynhad y cast yn cynnal y sioe.

Trist iawn oedd clywed am farwolaeth sydyn yr organyddes Mair Jones Robinson, oriau yn unig wedi’r perfformiad. Cydymdeimlaf yn llwyr â chwi oll.

No comments:

Post a Comment