Friday, 30 June 2006

'Avenue Q'






Y Cymro - 30/6/06

Wedi tair blynedd lwyddiannus ar Broadway, mae’r ddrama gerdd ddadleuol ‘Avenue Q’ bellach wedi cyrraedd Llundain. Cyfuniad o’r sioeau teledu ‘The Muppets’ a ‘Sesame Street’ ydi’r ffordd gorau i ddisgrifio’r sioe, ond bod haen go drwchus o hiwmor tywyll a ffraethineb yn frith drwyddi.

Cyfansoddwyd y sioe gan Jeff Marx a Robert Lopez - dau oedd wedi gwirioni ar arddull y ddrama gerdd, ac yn awchu am gael cyd-weithio. Roedde nhw am greu drama gerdd fyddai’n apelio at bobol eu hoedran nhw (yn eu tridegau!) gan ddefnyddio themâu cyfoes a dadleuol. Bu’r ddau yn cyd-weithio’n wreiddiol â chrewyr y Muppets, ond doedd cwmni Jim Henson ddim yn awyddus i ddatblygu’r sioe ymhellach. Wedi brwydr hir i godi’r arian, ac wedi pedair blynedd o waith, fe gyrhaeddodd y sioe lwyfan Broadway ym mis Mawrth 2003.

Hanes trigolion sy’n byw ar ‘Avenue Q’ yn Efrog Newydd ydi’r stori - bob un yn wahanol i’w gilydd - rhai yn ‘fwystfilod’ ac eraill yn fodau dynol, yn cyd-fyw yn hapus. Trwy ddefnyddio arddull addysgiadol ‘Sesame Street’, a sawl ffilm fer wedi’i hanimeiddio, cawn ein cyflwyno i nifer o ganeuon doniol ar themâu fel hiliaeth a chariad, bod yn hoyw a thyfu. Meddyliwch am y caneuon yma : ‘Everyone’s A Little Bit Racist’, ‘The Internet Is For Porn’, ‘ I Wish I Could Go Back To College’ a’r anfarwol ‘What Do You Do with a B.A. in English?’!

Allai ddweud â llaw ar fy nghalon mod i heb chwerthin gymaint ers tro! Roedd yna gyffyrddiadau doniol iawn ymhob cân ac mewn sawl darn o ddialog drwy’r cyfan, a nifer o wirioneddau am fywyd yn cael ei ddatgelu! Mae’n amlwg bod Marx a Lopez hefyd yn hen gyfarwydd ag arddull y ddrama gerdd gan fod y gerddoriaeth yn ganiadwy a thros-ben-llestri a’r llwyfannu yn theatrig iawn.

Drwy gast bychan o saith actor, fe’n cyflwynwyd i gymeriadau cofiadwy fel ‘Kate Monster’, ‘Lucy the Slut’, ‘Christmas Eve’ a ‘Princeton’. Pob un a’i broblem, a’r broblem honno yn cael ei rannu efo’u cymdogion ar y stryd, a thrwy hynny yn cael ei ddatrys. Braf hefyd oedd gweld yr actor o Gaerdydd Siôn Lloyd yn portreadu un o’r criw ‘dynol’ sef Brian oedd yn byw efo’i ddyweddi ‘Christmas Eve’ (Ann Harada) oedd hefyd yn y fersiwn wreiddiol o’r sioe ar Broadway. A chyswllt Cymreig annisgwyl oedd gweld bod y set chwaethus wedi’i hadeiladu a’i phaentio gan gwmni o Gaerdydd!

Fydd y sioe ddim yn plesio pawb, ond mae’n werth ei weld - gan fynd â meddwl agored, a’i mwynhau fel comedi a sylwebaeth ffraeth ar sefyllfa gymdeithasol yr unfed ganrif ar hugain! Yng ngeiriau’r cyfansoddwyr : ‘Ryda ni gyd yn wynebu’r un math o frwydrau ac ansicrwydd mewn bywyd, a’n bwriad ni ar ddiwedd y sioe ydi rhoi ‘hyg’ i’n cynulleidfa gan eu sicrhau y bydd popeth yn iawn!’ Pa well reswm felly i fynd i dreulio orig yn crwydro i lawr ‘Avenue Q’, a mwynhau penwythnos yn Llundain ‘run pryd! Os am flas o’r sioe, ymwelwch â www.avenueqthemusical.co.uk

A ninnau ar fin gweld fersiynau newydd o’r sioeau ‘Evita’ a ‘The Sound of Music’ cyn diwedd y flwyddyn, yr wythnos nesa byddai’n bwrw golwg ar fersiwn newydd Bill Kenwright o ddrama gerdd Andrew Lloyd Webber - ‘Whistle Down the Wind’.

Friday, 23 June 2006

'Sunday in the Park with George'






Y Cymro - 23/6/06

Dwi newydd ddychwelyd o Lundain ac wedi ceisio gweld cymaint o sioeau â phosib mewn amser byr! Mi gewch chi wybod mwy am rain dros yr wythnosa nesa. Braf iawn hefyd oedd gweld cymaint o Gymry yn hawlio’i lle ar lwyfannau’r West End. Wyddoch chi fod 'na o leiaf deunaw drama gerdd newydd ar fin ymddangos yn Llundain rhwng rŵan a diwedd y flwyddyn, a damwain a hap llwyr oedd imi ymweld â’r ddinas ynghanol bwrlwm West End Live. Dyma benwythnos blynyddol lle mae’r sioeau cerdd yn rhoi blas am ddim i’r cyhoedd o gynnwys y sioe, ynghanol Leicester Square. O sioeau sydd eisioes wedi hen gartrefu yno fel ‘The Producers’, ‘Lion King’ a ‘Mamma Mia’ i’r sioeau newydd sydd ar fin agor fel ‘Wicked’ (hanes y ‘wicked witch of the West’) a ‘Spamalot’ (sioe yn seiliedig ar ffilmiau Monty Python).

Ond ‘Sunday in the Park with George’ aeth a’m sylw cyntaf, a chael fy nghyfareddu gan berfformiad graenus Daniel Evans fel yr arlunydd Georges Seurat.

Bu farw Seurat yn 31oed, ac mae’i yrfa fer yn cael ei gynrychioli gan dri phrif ddarlun. Cefndir creu dau o’r tri darlun yma yw’r ddrama gerdd hon o waith Stephen Sondheim. Mae ‘Ymdrochwyr yn Asnières’ a ‘Prynhawn Sul ar Ynys La Grande Jatte’ yn wrthgyferbyniol - un yn dangos criw o fechgyn dosbarth gweithiol yn ymlacio ger yr afon Seine ym Mharis, tra bod y llall yn darlunio’r crach yn gwylio’r bechgyn yn ddirmygus ar ochor arall yr afon. Mae’r gwrthgyferbynnu yma i’w weld hefyd yn nwy Act y ddrama - y gyntaf yn ein tywys i 1886, a’n cyflwyno i’r ‘cymeriadau’ sydd yn y darluniau, tra bod yr ail yn bwrw golwg gyfoes ar waith ac arddull yr artist drwy lygaid ei ddisgynyddion. Yr hyn sy’n plethu’r cyfan yw’r berthynas rhwng y ddau brif gymeriad sef Daniel ac eilun addoliad yr artist sef ‘Dot’ - Jenna Russell.

O’r eiliadau cyntaf, mae’r ddau yn hoelio sylw’r gynulleidfa, a’u tynged sy’n bwrw’r stori ymlaen tuag at y diweddglo emosiynol ar sawl lefel. Mae’r ffaith bod y ddau hefyd yn canu cerddoriaeth gymhleth ond cyfoethog Sondheim yn dipyn o her, yn enwedig wrth i’r cyfansoddwr efelychu arddull peintio’r artist trwy ei gerddoriaeth.

Mae’r set a’r modd mae’r lluniau yn cael eu taflunio arno yn wefreiddiol, ac yn werth pris y tocyn ynddo’i hun. Dyma wledd i’r llygad a’r glust, a diwedd yr act gyntaf a diwedd y sioe yn funudau bythgofiadwy.

Tydi’r sioe ddim wedi plesio pawb - yn wir, roedd y ddwy Americanes o boptu mi yn y theatr heb fwynhau, tra bod rhai tu cefn imi ar eu pumed ymweliad! Os di’n well gennych gerddoriaeth ganadwy Lloyd Webber, yna falle fydd arddull Sondheim ddim yn eich denu; ond os oes diddordeb gennych mewn celf a cherddoriaeth, ac am wledd gofiadwy ynghanol Llundain gan Gymro Cymraeg, yna mynnwch eich tocyn heddiw!

Mae’r sioe i’w gweld yn Theatr Wyndham ynghanol y West End tan ddechrau mis Medi.

Yr wythnos nesa, gewch chi flas o sioe arall sy’n agor yn swyddogol dros y dyddiau nesa - y dadleuol a’r doniol ‘Avenue Q’…

Friday, 16 June 2006

Edrych mlaen...


Y Cymro - 16/6/07

Dros yr wythnosa nesa, dwi am fwrw golwg ar rai o’r dramâu a’r dramâu cerdd newydd sy’n dod i Lundain. Ond cyn cychwyn ar fy nhaith, beth sydd ar y gweill yma’n Nghymru…?

Braf clywed bod Meic Povey yn gweithio ar ddrama newydd o’r enw ‘Hen Bobl Mewn Ceir’ fydd yn agor yn Theatr y Sherman, Caerdydd ym mis Tachwedd 2006 ac yn teithio Cymru o’r 8fed o Dachwedd tan yr 2il o Ragfyr.

Cynhyrchiad i Sgript Cymru fydd y ddrama, a dyma flâs o’r cynnwys : ‘Mae Roy yn nyrs 59 mlwydd oed sy’n gweithio mewn hosbis. Mae’n byw gyda mam fusgrell sy’n alcoholig. Mae hefyd yn gwadu ei rywioldeb. Mae Ceri, nyrs gynorthwyol 39 mlwydd oed wedi ei chaethiwo mewn priodas ddi-ryw. Pan maent yn cyfarfod mae fflam perthynas bosibl yn cael ei chynnau, ond a yw’n bosib ei gynnal , neu a yw’r ddau wedi eu niweidio’n ormodol yn emosiynol i wneud iddo weithio? Gyda phathos a hiwmor tywyll, ‘rydym yn dilyn ymdrech deg Roy a Ceri i droi’r cloc yn ôl, ac i ail-afael yn swyn eu hieuenctid coll. Ac wedi’r cyfan, onid yw llaw gysurlon cyfeillgarwch fil gwaith gwell na rhyw fodio trwsgl yn y tywyllwch?’

Bydd Sgript Cymru hefyd yn brysur yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cyflwyno dwy ddrama (mewn cydweithrediad â ‘Living Pictures’) - ‘Mae Sera’n Wag’ gan Manon Steffan Ross (y buddugol yng nghystadleuaeth y ddrama fer a’r Fedal Ddrama'r llynedd) a drama fer gan Mari Siôn o’r enw ‘Car Dy Gymydog’. Bydd y dramâu’n cael eu cyflwyno fel rhan o raglen Dwy Yn Un yn Theatr y Maes, ddydd Iau, 10fed o Awst a dydd Sadwrn, 12fed o Awst. Bydd y cwmni hefyd yn cynnal gweithdy ar ysgrifennu ar gyfer y llwyfan yn Theatr y Maes ddydd Mawrth, 8fed o Awst.

Ac mae Sioe Glybiau Theatr Bara caws hefyd yn ymweld â’r Eisteddfod yn Abertawe efo’i sioe glybiau ‘Jac yn y Bocs’ gan Dyfan Roberts, Tony Llewelyn a Bryn Fôn. Y diwydiant teledu sydd o dan y chwyddwydr tro ma, a chawn hanes Jac Jones o’i ddiwrnod cyntaf fel rhedwr mewn stiwdio nes iddo gael ei wneud yn Brif Weithredwr y Sianel. Lisa Jên, Llyr Evans, Maldwyn John, Eilir Jones a Catrin Mara fydd yn adrodd yr hanes o dan gyfarwyddyd Tony Llewelyn ac i gerddoriaeth Emyr Rhys. Os da chi methu disgwyl tan fis Awst, bydd y cwmni yn cychwyn ar eu taith ar y 5ed o ‘Orffennaf yng Ngwesty’r Marine, Cricieth, cyn ymweld â Chemaes, Llangefni, Bethesda, Bala, Caernarfon, Abergele, Porthmadog, Blaenau Ffestiniog a Llanberis cyn cyrraedd Abertawe ym mis Awst.

Yn y Steddfod hefyd bydd Cwmni Rhosys Cochion yn cyflwyno eu sioe ‘Holl Liwie`r Enfys’ gan Catrin Edwards a Sharon Morgan. Mae`r sioe un fenyw yma`n archwilio byd hudolus merch ifanc sy’n tyfu’n fenyw yn Ne Orllewin Cymru yn ystod newidiadau pellgyrhaeddol 50au a 60au`r ganrif ddiwethaf, wrth iddi ddyheu am drawsnewidiad a chwilio am lwybrau i ryddid. Wedi’r ŵyl, bydd y cwmni ar daith yn yr Hydref

Ac wedi llwyddiant y ddrama ‘Frongoch’, da clywed fod Ifor ap Glyn eto’n brysur yn cyfansoddi drama newydd i Lwyfan Gogledd Cymru yn seiliedig ar hanes Branwen. Bydd y ddrama yn agor yn Nulyn ym mis Hydref, cyn teithio Cymru. Digon i edrych ymlaen ato felly…

Friday, 9 June 2006

Eisteddfod yr Urdd 2006


Y Cymro - 9/6/06

Wrth inni ffarwelio ag Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, mae’n braf gallu dweud bod yr arlwy theatrig gawsom ni yn ystod yr wythnos wedi bod yn galonogol iawn. O’r sioeau cerdd fin nos, i’r holl gystadlaethau gydol yr wythnos. Mae sêr llwyfan y dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn.

A minnau eisioes wedi sôn am gyngerdd Caryl a’r sioe Uwchradd ‘Plas Du’ yr wythnos diwethaf, cefais y cyfle'r wythnos hon i weld y sioe oedran Cynradd sef ‘Glyndŵr’ o waith y tîm teuluol Angharad ac Ynyr Llwyd a’u mam Leah Owen.

Olrhain hanes ein harwr cenedlaethol Owain Glyndŵr wnaeth y sioe, yn darlunio ei fywyd o fod yn blentyn ifanc yng Nglyndyfrdwy hyd at y foment hanesyddol o agor y Senedd ym Machynlleth. Gwelwyd hyn oll drwy lygaid tri phlentyn, wrth iddyn nhw fentro i chwilio am y proffwyd Crach Ffinant, er mwyn derbyn cyngor ac arweiniad. Angharad Llwyd oedd hefyd yn gyfrifol am gyfarwyddo’r sioe gyda chast o dros 230 o blant. Tipyn o gast a thipyn o gamp, ac allai mond llongyfarch Angharad a Leah, am ddysgu’r plant i ganu a symud mor raenus, gan greu sioe liwgar, ddramatig a chofiadwy iawn. Roedd y sgript yn llawn hiwmor a’r caneuon yn ganadwy - does ryfedd bod cân ola’r sioe hefyd wedi’i gosod fel y darn prawf i’r corau blwyddyn 6 ac iau ar y pnawn Mawrth.

Llongyfarchiadau hefyd i Ceri Elen o Hen Golwyn am gipio’r Fedal Ddrama eleni. Tim Baker a Manon Eames oedd yn beirniadu’r gystadleuaeth i greu drama un-act a gymer rhwng 40 a 60 munud i’w pherfformio. Rhaid cyfaddef bod y feirniadaeth yn gyffredinol yn eitha’ negyddol, ac mae hyn yn peri gofid i mi, gan fod angen hybu a meithrin ein dramodwyr ifanc gan ganmol eu rhinweddau yn hytrach na’r beiau. Wedi’r cwbl, mae chwaeth pob beirniad yn wahanol iawn.

Dwi hefyd yn falch bod Radio Cymru am ddarlledu’r tair drama a ddaeth i’r brig, gan ddilyn y patrwm sydd wedi bodoli ers pedair blynedd bellach. Clod i’r cynhyrchydd Aled Jones yn y BBC ym Mangor felly, ond cywilydd mawr ar ein cwmnïau dramâu fel Sgript Cymru sy’n fod i feithrin dramodwyr!! Onid ar lwyfan y dylai’r dramâu yma fod er mwyn inni eu gweld, ac nid dim ond eu clywed…?

Ac o sôn am glywed, dwi mor falch imi weld y wledd o gystadlu ar noson ola’r Eisteddfod gyda’r aelwydydd a’r unigolion yn rhoi naws theatrig iawn i’r nos Sadwrn. O berfformiad caboledig a chadarn Aelwyd Chwilog o’r gân ‘America’ o ‘West Side Story’, i Rhidian Marc a ddaeth yn ail am ganu unawd allan o sioe gerdd. Criw Aelwyd Berfformio Dyffryn Tywi wedyn a’u dehongliad o’r ddrama gerdd ‘Jac Tŷ Isa’, ac Ysgol Gyfun Plasmawr ddaeth i’r brig yn yr un gystadleuaeth. Lliw a rhialtwch Aelwyd Chwilog ar y chwarter awr o adloniant, ac Elin Phillips yn cipio Gwobr Goffa Llew am y cyflwyniad theatrig. Wythnos o hanner o gystadlu brwd yn llygad yr haul Sir Ddinbych, ac wythnos llawn gobaith i ddyfodol llwyfannau Cymru.

Friday, 2 June 2006

'Plas Du' a 'Caryl yn dod Adre'


Y Cymro - 2/6/06

 phawb ‘ar ruthr am Ruthun’ yr wythnos hon, priodol iawn yw bwrw golwg ar weithgareddau Prifwyl yr Urdd gan gychwyn gyda’r ddwy sioe oedd i’w gweld ar gychwyn yr wythnos. ‘Plas Du’ sef sioe oedran Uwchradd a’r Cyngerdd Agoriadol Nos Sul diwethaf i groesawu’r amryddawn Caryl Parry Jones ‘adref’.

Comisiynwyd y sioe ‘Plas Du’ yn wreiddiol ar gyfer BBC Radio Cymru nôl yn 2002, ond fe ychwanegodd y cyfansoddwyr Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn sawl cân newydd ar gyfer yr Ŵyl hon. Fel mae’r teitl yn awgrymu, roedd y stori wedi’i osod mewn hen blasty oedd yn eiddo i Mistar Cadwalir (Steffan Parry) a’r llu ysbrydion oedd yn cadw cwmni iddo yn y tywyllwch.

Cawsom ein cyflwyno i Carys Puw (Awel Vaughan Evans) oedd yn ohebydd i’r rhaglen radio ‘Llais y Bobol’ ac yn chwilio am stori. Gydag ymddangosiad Cassandra (Non Haf Davies) oedd yn awyddus i brynu’r Plas a’i droi mewn i Westy, dyma gychwyn y gwrthdaro, a’r berthynas rhwng Mistar Cadwalir a Carys. Roedd set ysblennydd Jane Roberts (a enillodd wobr BAFTA am gynllunio’r ffilm ‘Hedd Wyn’) yn hynod o effeithiol a thrawiadol. Oherwydd ei maint, roedd yna dueddiad weithiau i guddio rhai o’r plant oedd yn canu ar ben y grisiau, yn ogystal â bod yn rhwystr i gael amrywiad ar y symud. Er yr anawsterau, roedd safon y lleisiau yn uchel iawn, a byddwn i’n annog y criw i fynd ati i recordio’r sioe i’w gwerthu a’i chadw. Cafwyd perfformiadau cofiadwy iawn gan Non Haf Davies wrth ganu ei chân ‘Cassandra’ a’r un modd gyda Garmon Rhys efo’i gân ‘Henri “ten per cent”’. Clod mawr hefyd i Steffan Parry oedd yn cynnal llawer o’r stori fel perchennog y plas, ac i Steffan Hughes sydd wedi cael wythnos brysur iawn rhwng y cystadlu a’r perfformio! Dyma gychwyn cadarn i’r Ŵyl, a phrawf pendant o dalent lleisiol Sir Ddinbych.

Ac o sôn am dalent, does ond rhaid deud un gair - ‘Caryl’. Prawf o lwyddiant unrhyw gyfansoddwr yw’r ffaith bod yr ‘…alaw pan ddistawo, yn mynnu canu’n y co’’ - a dyma a gafwyd yn y Pafiliwn Nos Sul.

Drwy gyfuno caneuon, cymeriadau, sgetsus, dawns, drama a barddoniaeth, fe greodd Cliff Jones ac Eirlys Britton gampwaith theatrig oedd yn llifo’n rhwydd o gyfnod plentyndod Caryl, drwy’r blynyddoedd ysgol a’r arddegau at ganol-oed parchus Glenys a Rhisiart.

Allwn i’m llai na rhyfeddu at y cyfoeth cerddorol a diwylliannol sydd wedi cael ei gynhyrchu yn y ffactri unigryw yma o’r Ffynnon Groyw! O’r ‘dyn nath ddwyn y dolig’ i Delyth a Bethan, o’r Talwrn i ‘Ibiza Ibiza’, o ‘Gaer Arianrhod’ i’r ‘Ail Feiolin’ - dyma glasur ar ôl clasur mewn sioe raenus, broffesiynol a chwbl deilwng o’i thalent. Roedd dehongliad Rhys Meirion o’r gân ‘Mor Dawel’ mor deimladwy, ac Elin Wyn Lewis wedyn yn canu ‘Mil o Gelwydde’ yn wefreiddiol.

Cefais iâs oer o glywed llais unigryw Dafydd Dafis yn mynd â ni i ‘Gaer Arianrhod’ a ‘Phan Ddaw Yfory’ gyda Llinos Thomas, a direidi dawnus Deiniol Wyn Rees fel ‘Wil Fy Nghefnder Drwg’.

Gwenu wedyn o weld Eden yn ôl lle maen nhw fod - ar lwyfan, yn mwynhau bob eiliad o’r dathlu, tra bod y diweddglo oedd yn gwahodd Caryl i ddod ‘Adre’ yn foment emosiynol y cofiaf amdani am amser hir. Roedd gweld y gynulleidfa ar eu traed ar y diwedd yn siarad cyfrolau. Os am ail-fyw’r cyfan, bydd y sioe yn cael ei ail-ddarlledu yn ei chyfanrwydd ar S4C ar nos Sadwrn ola’r Ŵyl.