Friday, 2 June 2006
'Plas Du' a 'Caryl yn dod Adre'
Y Cymro - 2/6/06
 phawb ‘ar ruthr am Ruthun’ yr wythnos hon, priodol iawn yw bwrw golwg ar weithgareddau Prifwyl yr Urdd gan gychwyn gyda’r ddwy sioe oedd i’w gweld ar gychwyn yr wythnos. ‘Plas Du’ sef sioe oedran Uwchradd a’r Cyngerdd Agoriadol Nos Sul diwethaf i groesawu’r amryddawn Caryl Parry Jones ‘adref’.
Comisiynwyd y sioe ‘Plas Du’ yn wreiddiol ar gyfer BBC Radio Cymru nôl yn 2002, ond fe ychwanegodd y cyfansoddwyr Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn sawl cân newydd ar gyfer yr Ŵyl hon. Fel mae’r teitl yn awgrymu, roedd y stori wedi’i osod mewn hen blasty oedd yn eiddo i Mistar Cadwalir (Steffan Parry) a’r llu ysbrydion oedd yn cadw cwmni iddo yn y tywyllwch.
Cawsom ein cyflwyno i Carys Puw (Awel Vaughan Evans) oedd yn ohebydd i’r rhaglen radio ‘Llais y Bobol’ ac yn chwilio am stori. Gydag ymddangosiad Cassandra (Non Haf Davies) oedd yn awyddus i brynu’r Plas a’i droi mewn i Westy, dyma gychwyn y gwrthdaro, a’r berthynas rhwng Mistar Cadwalir a Carys. Roedd set ysblennydd Jane Roberts (a enillodd wobr BAFTA am gynllunio’r ffilm ‘Hedd Wyn’) yn hynod o effeithiol a thrawiadol. Oherwydd ei maint, roedd yna dueddiad weithiau i guddio rhai o’r plant oedd yn canu ar ben y grisiau, yn ogystal â bod yn rhwystr i gael amrywiad ar y symud. Er yr anawsterau, roedd safon y lleisiau yn uchel iawn, a byddwn i’n annog y criw i fynd ati i recordio’r sioe i’w gwerthu a’i chadw. Cafwyd perfformiadau cofiadwy iawn gan Non Haf Davies wrth ganu ei chân ‘Cassandra’ a’r un modd gyda Garmon Rhys efo’i gân ‘Henri “ten per cent”’. Clod mawr hefyd i Steffan Parry oedd yn cynnal llawer o’r stori fel perchennog y plas, ac i Steffan Hughes sydd wedi cael wythnos brysur iawn rhwng y cystadlu a’r perfformio! Dyma gychwyn cadarn i’r Ŵyl, a phrawf pendant o dalent lleisiol Sir Ddinbych.
Ac o sôn am dalent, does ond rhaid deud un gair - ‘Caryl’. Prawf o lwyddiant unrhyw gyfansoddwr yw’r ffaith bod yr ‘…alaw pan ddistawo, yn mynnu canu’n y co’’ - a dyma a gafwyd yn y Pafiliwn Nos Sul.
Drwy gyfuno caneuon, cymeriadau, sgetsus, dawns, drama a barddoniaeth, fe greodd Cliff Jones ac Eirlys Britton gampwaith theatrig oedd yn llifo’n rhwydd o gyfnod plentyndod Caryl, drwy’r blynyddoedd ysgol a’r arddegau at ganol-oed parchus Glenys a Rhisiart.
Allwn i’m llai na rhyfeddu at y cyfoeth cerddorol a diwylliannol sydd wedi cael ei gynhyrchu yn y ffactri unigryw yma o’r Ffynnon Groyw! O’r ‘dyn nath ddwyn y dolig’ i Delyth a Bethan, o’r Talwrn i ‘Ibiza Ibiza’, o ‘Gaer Arianrhod’ i’r ‘Ail Feiolin’ - dyma glasur ar ôl clasur mewn sioe raenus, broffesiynol a chwbl deilwng o’i thalent. Roedd dehongliad Rhys Meirion o’r gân ‘Mor Dawel’ mor deimladwy, ac Elin Wyn Lewis wedyn yn canu ‘Mil o Gelwydde’ yn wefreiddiol.
Cefais iâs oer o glywed llais unigryw Dafydd Dafis yn mynd â ni i ‘Gaer Arianrhod’ a ‘Phan Ddaw Yfory’ gyda Llinos Thomas, a direidi dawnus Deiniol Wyn Rees fel ‘Wil Fy Nghefnder Drwg’.
Gwenu wedyn o weld Eden yn ôl lle maen nhw fod - ar lwyfan, yn mwynhau bob eiliad o’r dathlu, tra bod y diweddglo oedd yn gwahodd Caryl i ddod ‘Adre’ yn foment emosiynol y cofiaf amdani am amser hir. Roedd gweld y gynulleidfa ar eu traed ar y diwedd yn siarad cyfrolau. Os am ail-fyw’r cyfan, bydd y sioe yn cael ei ail-ddarlledu yn ei chyfanrwydd ar S4C ar nos Sadwrn ola’r Ŵyl.
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment