Friday, 19 June 2015

'The Harvest'

Cymro 19 Mehefin

Fues i’n edrych ar y llun ar boster  y ddrama ‘Harvest’ yn Soho Theatre am beth amser. ‘Ew, ma hwnna’n debyg i Dyfan Dwyfor’, meddwn i (yn fy llais monolog mewnol Radio Cymru dwysaf!). O weld mai cyfieithiad o ddrama gan y dramodydd Pavel Pryazhko o Felarws oedd y cynhyrchiad, a bod (yn yr ystyr orau posib) rhyw arlliw o ddwyrain Ewrop (ffodus iawn) yng ngwedd drwsiadus Mr Dwyfor, fe anwybyddais y cynhyrchiad tan yr wythnos hon.  Dwi di gweld Dyfan (sy’n hanu o Griccieth) mewn sawl cynhyrchiad yma yn Llundain yn ddiweddar o’r ‘Titus’ gwaedlyd yn y Globe i’r bwtler yn ‘Fortune’s Fool’ yn yr Old Vic.  Roedd o hefyd yn un o’r meibion gwrthryfelgar yn y ffilm wych ‘Pride’ – sydd, gyda llaw, am gael ei droi yn ddrama gerdd a’i lwyfannu yn yr Old Vic, cyn bo hir. Ond yn ôl at y cynhaeaf…


Pleser o’r mwyaf oedd derbyn cadarnhad ar daflen y cyd-gynhyrchiad yma rhwng Theatr Frenhinol Caerfaddon a Soho Theatre mai Dyfan yn wir, oedd yn portreadu ‘Valleri‘ un o’r pedwar cyfaill oedd wedi dod ynghyd i hel y cynhaeaf o afalau yn y berllan. Pleser hefyd oedd dysgu mai Cymro glân gloyw oedd ei gyd-actor, a’i gyfaill ‘Egor’ yn y sioe, Dafydd Llŷr Thomas.


Telyneg o ddrama a chynhyrchiad sydd yma gydag ystyron ac is-themâu mor niferus â’r afalau gwyrdd sy’n hedfan fry uwchben y pedwar actor. O’r eiliadau cyntaf o’r gerddoriaeth chwareus, a’r gofal a ddangoswyd wrth ostwng y golau ar y gynulleidfa (eiliadau hollbwysig ar gychwyn unrhyw gynhyrchiad) roedd profiad a dawn y cyfarwyddwr a chyn-bennaeth yr RSC Michael Boyd yn amlwg iawn. Roedd set drwsiadus a chlyfar Madeleine Girling (oedd wedi’i mentora gan gynllunydd y môr o babi coch yn Nhŵr Llundain, Tom Piper) yn wledd i’r llygaid, a dawns y ddau lanc a’r ddwy ferch wrth ddringo a gostwng y pedair ystôl wen, yn arwydd o’r tensiwn cariadus oedd i ddod, ymhell cyn i air o’r sgript gael eu hyngan. Gwych iawn. Gwych hefyd oedd y defnydd o’r gerddoriaeth yn dychwelyd dro ar ôl tro, er mwyn cwblhau’r cyfanwaith celfydd.


Mae’n amlwg fod gan Pryazhko lais unigryw a neges bwysig i’w rannu am sefyllfa ei famwlad, a’r llanast sydd yno er rhaid blynyddoedd. Roedd cynildeb yr eironi am orfod cael gwared â’r afalau drwg (neu’r rhai oedd wedi’i chleisio) rhag difetha’r gist bren gyfan yn adlais sicr o waith Pinter a Beckett. Ac yntau’n aelod o Theatr Rydd Belarws, sy’n nodedig iawn am eu angerdd tuag at waith Pinter, a sydd, yn fy marn i, yn un o’r cwmnïau theatrig mwyaf creadigol a welais erioed, does dim amheuaeth o le ddysgodd y dramodydd ei grefft.  Er i’r llanast fynd dros-ben-afal a llestri’n llwyr erbyn y diwedd (oedd yn gwbl fwriadol) efallai fod yr amwyster wedi’i drechu, a’r amlwg wedi boddi pob cynildeb.


Mwynheais y cyd-chwarae comig rhwng Dyfan a Dafydd, a’u cyd-actorion Lyndsey Campbell a Beth Park. Roedd hi’n amlwg fod oriau o waith wedi’i dreulio ar y berthynas rhwng y pedwar, ac roedd y gwrthdaro a’r rhamant, y cystadlu a’r cecru yn amlwg o’r cychwyn cyntaf.  Braf gweld pedwar actor mor hamddenol gartrefol ar lwyfan, ac yn defnyddio (a dinistrio) pob modfedd o’r berllan dawel a thaclus, erbyn y diwedd.

Cynhyrchiad fyddai’n ei gofio am beth amser am ei daclusrwydd a’i ddealltwriaeth o’r cyfrwng theatrig. Yn anffodus, mae’r cynhyrchiad bellach wedi dod i ben. Ond mae blas ohoni yma :

  

No comments:

Post a Comment