Total Pageviews

Tuesday 19 August 2014

ED FRINGE 2014 : Llais/Voice : VENUE 53 ★★★★★




If theatre is a journey, then you must join Elgan Rhys on his extremely personal and physically emotional battle through his young life.  The irony of ‘Llais/Voice’ is the lack of a spoken language, only to be engulfed in an emotional turmoil of ‘who am I?’ against a barrage of bullying and masculine stereotyping.  Stripped bare of his mortal existence, he allows us into his webcam of troubled thoughts, streamed and replayed before us, raw and real, laden with resonating meaning. Sweat and tears stream as easily as the beauty of his bravery, closing with his thoughts and silent words, powerfully paraded on placards. A truly moving and memorable show, brilliantly and beautifully brought to life. Thank you. Diolch.


Taith gorfforol ac emosiynnol, a hynod o bersonol Elgan, wrth gyfleu yn ddi-lais ond yn ddirdynnol o weledol, ei boen o gael ei fwlio, a’i frwydr mewnol i adnabod a charu ei hun. Wedi cwta eiliadau o gychwyn y sioe, mae’n plymio i ddyfnderoedd ei angst, ac yn diosg ei ddillad (a’i bresenoldeb bydol), i grombil amrwd ei emosiynnau. Mae’n gwahodd y byd, drwy lygaid y cyfrifiadur a’i sgrin enfawr, i fod yn dystion distaw i fanylion bychan ei boen. Drwy ddagrau a chwys, mae’n llwyddo i gyfleu’r cyfan, sy’n cael ei grisialu’n gelfydd o eiriol, drwy gyfres o sleidiau anisgwyl, ar ddiwedd y sioe.  Mewn tri chwarter awr dramatig, fe dreiddiodd i fêr ei ofnau a’i atgofion, gan lusgo’r gwaddol yn weledol, sef un o arfau pwysicaf pob actor. Llongyfarchiadau enfawr iddo, a’i dri gydweithiwr am lwyddo i fynd â ni ar daith theatrig cofiadwy tu hwnt. Gobeithio’n wir y bydd ei ddawn a’i stori yn cael ei rannu a’i ddatblygu’n helaeth ar lwyfannau Cymru, a thu hwnt.

No comments: