Friday, 27 December 2013

Arolwg o 2013 a'r Cymro olaf!

Y Cymro 27/12/13

Wedi gwylio bron i 80 o gynyrchiadau, fe ddaeth blwyddyn arall i ben, ac am flwyddyn amrywiol y bu. Cyfle'r wythnos hon i fwrw golwg yn ôl dros lwyfannau Cymru a thu hwnt yn 2013, gan edrych ymlaen yn eiddgar am flwyddyn newydd, lawn mor anturus.

                                           

Fe gychwynnai gyda’r Theatr Genedlaethol, sydd wedi cael blwyddyn brysur, a lled llwyddiannus, o ystyried yr amrywiaeth o gynyrchiadau fu ar gael. Er imi fethu eu cynhyrchiad cyntaf sef ‘Y Bont’ yn Aberystwyth fis Mawrth, doedd yr addasiad i deledu ddim yn apelio, yn anffodus, gyda phrinder dialog a sgript gyhyrog, yn boenus o amlwg. Llawer mwy llwyddiannus a chofiadwy oedd fy nhaith i 'Tir Sir Gâr', a diolch i gyfarwyddo medrus Lee Haven Jones, a chast o actorion profiadol, sgript farddonol ac emosiynol Roger Williams, a phortreadau amrwd Siôn Ifan, Rhian Morgan a Gwydion Rhys. Man gwan y cynhyrchiad oedd tueddiad cyd-grëwr y cynhyrchiad, Marc Rees, i fod yn or-amlwg â’i ipad a’i gyflwyniad, gan dynnu oddi ar naturioldeb yr actio byw. 


I Domen y Mur, ger Trawsfynydd wedyn ddechrau’r Haf, (a bil o £200 am logi car!) er mwyn bod yn dyst i ‘ddigwyddiad theatrig’ Arwel Gruffydd, sef i lwyfannu drama farddonol Saunders Lewis, 'Blodeuwedd', yn ei chynefin naturiol. Er y bu cryn feirniadu ar allu rhai o brif gymeriadau’r ddrama i ynganu barddoniaeth Saunders, roedd swyn cyfareddol y lleoliad yn ddigon i faddau llawer o feia, a phortreadau Iddon Alaw a Martin Thomas, yn aros yn y cof, hyd heddiw. Aros hefyd mae’r cywaith cymunedol o dan arweiniad Bethan Marlow sef 'Blodyn', yn ardaloedd y Blaenau a Dyffryn Nantlle.

                                           

Methais weld eu benthyciad o’r gwaith celf  ‘Rhwydo’, sef y babell symudol a’i deipiaduron, a bod yn gwbl onest, doedd y sioe na’r syniad, yn apelio dim ataf. Ond ro’n i’n falch iawn o gael bod yn y Sherman i ddal portread lectrig Owen Arwyn, o’r meddwyn a’r methiant ‘Handi Al’, yn nrama ddirdynnol Aled Jones Williams, sef 'Pridd'. Cyfarwyddo a chynllunio hynod o fedrus a chynnil yn ogystal, a diolch i Owen am berswadio Aled, i’w gyfansoddi.


Llwyddiant hefyd oedd yr unig gynhyrchiad imi’i weld gan Frân Wen eleni, sef ‘Dim Diolch’, a gododd flas cynhyrfus am eu gwaith, gydol y flwyddyn, oherwydd newydd-deb y llwyfannu, goleuo a chynllunio. Mi fydd portread dagreuol Carwyn Jones, a’i gyd-actorion Martin Thomas a Ceri Elen, eto’n aros yn y cof. Clod hefyd i dîm marchnata’r cwmni sydd wedi ein hudo ag ymgyrchoedd cwbl unigryw ar lwyfannau fel Twitter a Facebook, yn enwedig felly gyda’r sioe ‘Gwyn’ a ‘Dim Diolch’, yn ogystal. Falle dyle’r cwmni roi gwersi i’n Theatr Genedlaethol, ynglŷn â sut i godi proffil a diddordeb, cyn ac yn ystod y sioe!


Bara Caws wedyn, o dan arweiniad artistig Betsan Llwyd, ac er mai dim ond medru dal ‘Cyfaill’ a ‘Te yn y Grug’ wnes i’r flwyddyn hon, mi gefais flas o’u rifíw ‘Hwyliau’n Codi’ a’u hail-lwyfaniad o ‘Llanast’, ddiwedd y flwyddyn, diolch i’r ffrwd o drydar cyson, a fideos ar eu gwefan.  Er nad oedd sgript a hualau  llenyddol ‘Cyfaill’ yn apelio ataf, cefais flas mawr o ‘Te yn y Grug’ Kate Roberts, diolch i addasiad penigamp Manon Wyn Williams, oedd yn dawnsio mor heini â Manon Wilkinson a Fflur Medi Owen, ar lwyfan rwystredig y cynhyrchiad. Roeddwn i’n croesawu rhyddid a symlrwydd set ‘Llanast’ yn fawr iawn, gyda’r gobaith y gwelwn ni lawer mwy o ddefnydd tebyg, yn y flwyddyn newydd.


Dim ond un cynhyrchiad weles i gan Arad Goch yn ogystal, ac am sioe a pherfformiadau cwbl gofiadwy ac egniol a gafwyd yn ‘Ble Mae’r Dail yn Hedfan’ gan Ffion Wyn Bowen a Gethin Evans, sydd newydd ddychwelyd o daith yn Nhunisia. Gwych iawn. Diolch i Arad Goch am eu gwaith diflino, a chwbl ddiddiolch yn aml iawn, yn ardal Ceredigion, a gydag Ieuenctid Cymru.


Ymateb cymysg iawn a fu ar fy ymweliadau â’r Sherman yng Nghaerdydd. Hwylustod taith y Megabus o Lundain, oedd un o’r prif atyniadau yno, ond siomedig oedd safon y gwaith gan y cwmni preswyl. Mae’n amlwg fod cryn fywyd a brwdfrydedd ifanc tu ôl i lenni newydd yr adeilad sgleiniog, fu’n dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed eleni, ond digon blêr a bregus oedd yr hyn a gyflwynwyd ar y llwyfan.  Siom imi oedd ‘Say it with Flowers’ gyda Ruth Madoc fel y gantores Dorothy Squires, a siom oedd ‘It’s a Family Affair’ a’m hatgoffodd o bantomeim dros-ben-llestri, yn sgil y cynllun set a gwisgoedd amatur ac amrwd. Cefais flas ar sgriptiau newydd Cymraeg ‘Drwy’r Ddinas Hon’, hyd yn oed os oedd gwendidau yn y cyfarwyddo. 


Siom hefyd oedd methu dal ambell i gynhyrchiad arall, a aeth â’m bryd eleni fel Genod y Calendr gan Theatr Fach Llangefni, ‘Whinging Women’ gan gwmni bywiog iawn o Ddyffryn Conwy,  Cerdyn Post o Wlad y Rwla gan Arad Goch a drama wreiddiol cwmni 3D, oedd yn dathlu eu pen-blwydd yn 10 oed eleni. 

Dim ond un cynhyrchiad lwyddais ei weld gan National Theatre Wales, a hynny ym mhellafion Ynys Môn, wrth i Hugh Hughes fwrw ei atgofion unigryw, a hynod o greadigol, o gwmpas Llangefni, a’r ynys gyfan. Er nad oedd y sioe yn y Theatr Fach gystal â’r hyn a welais ganddo yn y gorffennol, roedd y gwaith a’r dychymyg a blannwyd yn y siop a’r daith gerdded, yn werth y daith.  Unwaith eto, diffyg diddordeb, arian, ac amynedd a barodd imi fethu llawer o sioeau’r De ganddynt fel ‘Praxis Makes Perfect’ neu ‘Tonypandymonium’. Dim ond gobeithio bod arweinydd artistig y cwmni, John McGrath yn ceisio plesio pawb, ac nid dim ond y llafnau ifanc!

Cefais fy synnu gan frwdfrydedd y pwerdai theatrig cynhyrfus yn y Chapter a’r Sherman yng Nghaerdydd, ac er yn croesawu’r holl weithgaredd dramatig, a’r llu o gynhyrchiadau o bob maint, hwnt ac yma, gobeithio’n wir fod y criwiau ifanc yn dal i wylio a gwrando a dysgu gan arweinwyr llawer mwy profiadol, y tu hwnt i Gymru. Fy ofn pennaf ydi bod cnewyllyn afiach o agos yn tyfu ymysg theatrau’r ddinas, a all, o beidio bod yn ofalus a phwyllog, wneud llawer mwy o niwed i ddyfodol y ddrama, nac o werth. 


A beth am du hwnt i Gymru? Wel, blwyddyn lawn a difyr iawn er yr holl newidiadau, a fu hi mewn rhannau arall o’r wlad. Llongyfarchiadau enfawr i Daniel Evans sydd wedi dod a chanmoliaeth uchel iawn i gynyrchiadau Sheffield dros y blynyddoedd diwethaf, ac wedi denu llawer o Gymry hefyd, i rannu’r llwyddiant. Siân Phillips yn gadarn fregus fel y nain, yn y ddrama gerdd ‘This is My Family’ a Tom Rhys Harries yn drydanol o fywiog yn eu haddasiad o ddrama Alan Bennett, ‘The History Boys’.  Llyfnder a manylder cyfarwyddo Daniel sydd yn aros yn y cof o weld ei gynhyrchiad llwyfan o’r ffilm enwog ‘The Full Monty’ yn Leeds, ac sydd ar ei ffordd i’r West End yn y flwyddyn newydd, wedi ail-daith fer o gwmpas y wlad. Ac i gloi eu blwyddyn arobryn, mwy o ganmoliaeth i’w sioe Nadolig enfawr ‘Oliver’ sydd newydd agor yn y Crucible bythefnos yn ôl, ac sydd i’w weld tan ddiwedd mis Ionawr. Llongyfarchiadau i Daniel hefyd am gael ei ddewis ymysg y tri olaf ar gyfer arweinydd artistig Theatr Genedlaethol Lloegr, yn gynharach eleni, cyn i Rufus Norris ennill ei le, fel olynydd Nick Hytner fydd yn ymddeol yn 2015.


Ac o sôn am y National Theatre, digon siomedig oedd eu dewis a’r cynhyrchiadau a welais yno eleni. Rwyf eto’i weld ‘The Light Princess’, sef  eu sioe Nadolig lliwgar, ond digon amheus yr oeddwn o gysyniad eu cynhyrchiad o ‘Othello’ ac  ‘Emil and the Detectives’, a fu’n ddiweddar.  Roedd ‘This House’ a leolwyd yn y Tŷ Cyffredin o waith James Graham yn plesio’n fawr, felly hefyd ‘The Curious Incident of the Dog in the Night time’ a welais yn Theatr Apollo fis Mai, pan oedd ei nenfwd a’i grandrwydd dal yn gyfa, cyn y gyflafan yr wythnos hon. 

Roeddwn i’n llawn balchder o weld actorion ifanc o Gymru yn hawlio’u lle ar lwyfannau Llundain eleni; Tom Rhys Harries o Gaerdydd ymysg yr enwau mawr yn y ddrama ‘Mojo’ a Steffan Harri o Drefaldwyn yn 'Spamalot.

Parhau i’m swyno gwnaeth yr RSC a Theatr Genedlaethol yr Alban gyda’r cynhyrchiad cofiadwy o ddilyniant i’r ddrama Macbeth, ‘Dunsiane’ ym Mryste, a’r 'Richard II' hudolus yr RSC a welais yn y Barbican yn Llundain, yr wythnos hon, gyda’r cyn Dr Who, David Tennant, a’i wallt hir euraidd, yn rhoi bywyd a thro annisgwyl yng nghymeriad y brenin uwchfrydol yma. 


Y dramâu cerdd wedyn, a ddaeth yn eu niferoedd newydd o’r ‘The Commitments’ Gwyddelig i’r ‘From Here to Eternity’ filwrolBoddi mewn melyster wnaeth ‘Charlie and the Chocolate Factory’  a’m dallu gan yr holl sêr canmoliaethus a wnaeth ‘Merrily We Roll Along’ gan y Mernier. Apelio hefyd wnaeth tymhorau  newydd o ddramâu Vicky Featherston yn y Royal Court a Josie Rourke yn y Donmar, gyda ‘Narrative’ Anthony Nielson yn y Court, a ‘The Night Alive’ o waith McPherson yn y Donmar, ymysg yr uchafbwyntiau. 


Tymor Michael Grandage yn Theatr Noël Coward a roddodd y mwynhad mwyaf imi; o’r ‘Privates on Parade’ byrlymus ddechrau’r flwyddyn, hyd urddas y Fonesig Judi Dench a Ben Whishaw yn ‘Peter and Alice’ a phresenoldeb llwyfan a phortread bythgofiadwy Daniel Radcliffe o’r anwylyn o glaf yn ‘The Cripple of Inishmaan’.

A dyna ni, blwyddyn lawn arall ar bapur, ac yn saff ar dudalennau’r cof. Blwyddyn anodd imi, am sawl rheswm, ac o’r herwydd, fy mlwyddyn a’n ngholofn olaf ar gyfer Y Cymro. Diolch i chi gyd am eich sylwadau a’ch cwmni ers 2006. Mi fu hi’n bleser eich tywys yn wythnosol ar draws lwyfannau’n gwlad, ond digon ydi digon, a rhaid bellach yw rhoi fy marn yn y to, ac estyn am yr ysbryd creadigol, er mwyn creu i’r llwyfan, yn hytrach na thraethu amdano.  Cyn cau pen y mwdwl, mi geisiai roi fy marn a blas ichi o’r hyn sydd i ddod, yn y Flwyddyn Newydd. Gyda phob dymuniad da am flwyddyn lewyrchus a llwyddiannus. 
Diolch ichi. Amen!

No comments:

Post a Comment