Friday, 24 May 2013

'Merrily We Roll Along'





Y Cymro 24/05/13

Fe ŵyr dilynwyr selog y golofn hon am fy hoffter o waith y dewin cerddorol Stephen Sondheim. Yn Theatr Harold Pinter, ar ochor ddeheuol Leicester Square, mae'r cynhyrchiad 'delfrydol' o'i ddrama gerdd drafferthus 'Merrily We Roll Along'. Yn wahanol i hanes creu a llwyfannu'r gwreiddiol, mae taith cynhyrchiad cyntaf yr actores Maria Friedman fel cyfarwyddwr wedi bod yn llon a llwyddiannus tu hwnt, o dan adain o adolygiadau pum seren. Wedi mudo o'r ffwrnais felys y Menier Chocolate Factory, sydd wedi esgor ar gynyrchiadau llwyddiannus o waith Sondheim fel 'Sunday in the Park with George' a enillodd Wobr Olivier i Daniel Evans, 'A Little Night Music' a 'Road Show', dyma bluen haeddiannol arall yn eu het hyderus.

Jenna Russell, (a fu'n cyd actio â Daniel yn y sioe uchod) yw 'Mary Flynn', seren sur a thew gan fywyd a diod, y stori ben ei waered hon, am gariad coll a pherygl chwant llwyddiant. O gartref chwaethus y cyfansoddwr Frank Shepard (Mark Umbers ) yn Bel Air, California ym 1976, gwibiwn am yn ôl at ddyddiau cynnar ei goleg yn Efrog Newydd ym 1957, er mwyn bod yn dystion distaw i'r gwenwyn sydd wedi chwalu ei berthynas â Mary, a'i gyfaill barddonol 'Charley' (Damian Humbley).

Yn seiliedig ar ddrama George S Kaufman a Moss Hart, ac wedi'i chreu ar gyfer cwmni yn eu harddegau, mae'n amlwg iawn fod angen cwmni hŷn fel hwn i gyfleu poen a brynti'r blynyddoedd brau. Mae gwylio actor hŷn yn ail brofi ieuenctid coll yn llawer haws na'r ifanc dall yn ffugio ffawd eu henaint.

Cyfoeth yr actio a'r cyfarwyddo, yn ogystal â chanu cadarn a thaclus, sy'n byw bob nodyn o gelf gerddorol Sondheim, sy'n cydio a'n cyfareddu. ‘Do everything Maria tells you', oedd cyngor Sondheim i'r cast ar gychwyn y cyfnod ymarfer flwyddyn ddiwethaf, '… and I’ll come over in November to correct it. Steve.’. Prin fod angen mwy o gadarnhad na hynny!

Mae 'Merrily We Roll Along' yn prysur werthu ar hyn o bryd yn Theatr Harold Pinter. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.merrilywestend.com neu eu dilyn @merrilywestend



No comments:

Post a Comment