Friday, 22 March 2013

'People'





Y Cymro – 22/03/13

I’r rhai ohonoch a fu’n ddigon ffodus, (neu anffodus o bosib!), i ddal drama ddiweddara Alan Bennett ‘People’ a gafodd ei ddarlledu’n fyw o’r Theatr Genedlaethol i sinemâu amrywiol drwy Gymru a thu hwnt yr wythnos hon, tybed beth oedd eich ymateb?   

Fel un sy’n ffan mawr o waith y Bnr Bennett (gan iddo wrthod ei Syr!) siomedig oedd y gomedi hon am dair chwaer yn byw mewn plasty moethus sydd wedi dirywio’n arw, gan gwffio ymdrech yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’w brynu a’i addasu.   

Er iddi gychwyn yn rhagorol, gyda pherfformiadau tanbaid gan Diana (Frances de la Tour), Iris (Linda Bassett) a June (Selina Cadell) fe drodd y comedi wan yn ffars dros ben llestri gyda chyrhaeddiad y cwmni ffilm bornograffig a’r llanast a’u dilynodd. Fe gyfaddefodd y cyfarwyddwr Nicholas Hytner ei fod wedi ceisio annog y Bnr Bennett i sgwennu drama newydd ar eu cyfer yn gynt na’r pedair blynedd o saib arferol. Fe gymerodd dair i gyfansoddi hon. Gair i gall efallai...
 
Mae ‘People’ bellach wedi mudo o lannau’r Tafwys, ond i'w weld mewn amrywiol sinemau drwy Gymru.

'Grimm Tales'






Y Cymro – 22/03/13

Tra bod tîm Cymru'n rhoi cweir iawn i dîm Lloegr ar y cae rygbi bnawn Sadwrn, roedd cwmni drama o Gymru yn swyno cynulleidfa o amrywiol oed yn theatr fechan y Polka yn Wimbledon.  Sôn ydw’i am Theatr Iolo a'u cynhyrchiad hudolus o syml o’r straeon tylwyth teg Almaeneg, a’u tro erchyll,  y Grimm Tales.

Braf oedd clywed bod y cwmni wedi ennill y wobr am y cynhyrchiad gorau i blant, yng ngwobraunewydd beirniaid y theatr yng Nghymru, y llynedd. Wedi taith lwyddiannus o gwmpas Cymru, gyda nifer o’r canolfannau wedi gwerthu pob tocyn, roedd hi’n braf iawn cael ymuno â’r cwmni, ar ymweliad â Llundain.

Tair stori a gafwyd, o’r trysor o gasgliad o straeon i blant gan y ddau frawd Jacob a Wilhelm Grimm, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1812.  Y straeon i gyd yn adnabyddus i genedlaethau o blant ac oedolion bellach, diolch i fyrdd o addasiadau amrywiol o raglenni plant i bantomeimiau’r Nadolig. Addasiadau sydd, gan amlaf, yn medru mwrdro neu ddofi natur fregus neu greulon y straeon gwreiddiol, yn ôl eu cynulleidfa, neu’r Oes a’u rhannant.

Hanes y brawd a’r chwaer Hansel (Wiebke Acton) a Gretel (Ceri Elen) gafodd ei chyflwyno’n gyntaf, a hynny’n hynod o annwyl a thyner, gan gofio bod môr o wynebau eiddgar, o 6 i 11 oed yn ysu am gael eu diddanu, wrth lyncu llanast llawn siwgr, ar bnawn Sadwrn gwlyb!. Gyda Elliot Quinn yn portreadu’r tad a Cassandra Jane Bond yn cyflwyno’r fam, trwy addasiad barddonol, di-lol Carol Ann Duffy a Tim Supple, a dawn yr actorion medrus i ganu offerynnau yn ogystal ag ambell i gân, fe lwyddodd y cynhyrchiad i hudo a thawelu pob cnonyn cwynfanllyd am yr awr ac ugain munud pleserus hwn.

Stori Aschenputtel (Cassandra Jane Bond) a ddilynodd, sy’n fwy adnabyddus i ni fel Sinderela, diolch i dylwyth Disney a’u tebyg sydd wedi troi’r chwedl brydferth hon, yn antur dros-ben-llestri. Oes, mae yma elfennau go erchyll, sy’n cael eu cyflwyno yma mewn modd doniol a chreadigol iawn, ond yr hyn â’m swynodd i’n bennaf oedd symlrwydd creulon y stori wreiddiol, sy’n rhoi fwy o gig a gwaed ar y cartŵn o gymeriadau arferol.

Eira Wen  (Ceri Elen) – (wedi lliwio’i gwallt yn dywyll dros gyfnod yr egwyl sy’n gamp ynddo’i hun!) sy’n agor yr ail-ran, ac yn cloi’r sioe. Yma eto, fel gyda gweddill y sioe, mae’r hyn sydd i’w weld a’i glywed ar y llwyfan yn syml ond hynod o drawiadol, diolch i gyfarwyddo  Kevin Lewis , cynllunio Erini Gregoriades, cerddoriaeth Lucy Rivers  a goleuo Jane Lalljee. Ychwanegwch at hynny eich dychymyg byw ac ymlaciwch yn swyn y gynulleidfa ifanc ac fe gewch chi brofiad theatrig hynod o gofiadwy, i bob oed.

Mae Theatr Iolo yn parhau i fod yn Wimbledon tan y 23ain o Fawrth. Rhuthrwch yno da chi!

 

Friday, 8 March 2013

'A Chorus Line'








Y Cymro - 08/03/13

Yr ail gynhyrchiad imi’i weld oedd y ddrama gerdd ‘A Chorus Line’ sy’n llenwi’r llwyfan yn y Palladium gyda chwmni o hyd at hanner cant o actorion. Dyma gynhyrchiad syml, ond swynol tu hwnt, o’r ddrama gerdd a’r ffilm o’r 1970au. Mae’r cynhyrchiad yn driw iawn i’w gwreiddiol, o ran y set, gwisgoedd a’r coreograffi, ac mae’r cryfder i gyd yn aros ym mherfformiadau trydanol y llinell gorws wrth i bob un ymgeisio a breuddwydio am gael bod yn rhan o’r dewis terfynol.

Mae yma ganeuon cofiadwy iawn, sy’n taro deuddeg dro ar ôl tro, diolch i leisiau hyderus a phresenoldeb llwyfan llawn yr actorion. Rhaid imi sôn am ddehongliad sensitif a chofiadwy’r cymeriad ‘Diana’ (Victoria Hamilton-Barritt ) o’r gân anfarwol ‘What I did for love’, monolog personol a gonest ‘Paul’ (Gary Wood) sy’n gorfod camu i flaen y Palladium enfawr, ac sy’n cynnal a dal pob llygad y gynulleidfa niferus, a’r diweddglo llawn gemau a glitter ‘One’ sy’n llythrennol yn ‘singular sensation’, i ddyfynnu’r gân.

Peidiwch â disgwyl setiau cyfoethog a gwisgoedd llachar. Does dim yma. Mae’r digwydd i gyd ar lwyfan moel a thywyll y theatr, gan adael i dalent y llinell gorws eich dallu. 

Mwy am y sioe drwy ymweld â www.choruslinelondon.com neu @achoruslineldn os am drydar. 



'Privates of Parade'





Y Cymro 08/03/13

Aeth blwyddyn lawn heibio ers imi osod pin a barn ar bapur, ac er iddi fod yn flwyddyn anodd o ran iechyd, mae'n braf iawn bod nôl. Mae cymaint wedi digwydd, ac ar fin digwydd ar lwyfannau Cymru a Llundain 'ma. Fyddai'n ceisio ngore i'ch rhag hysbysu gora medrai dros y misoedd nesaf. Fy ymweliad cyntaf â'r Theatr eleni oedd i ddal drama gyntaf yn nhymor newydd cwmni Michael Grandage yma yn Llundain, cyn iddi gau.

Y ‘ddrama gydag ambell gân’ 'Privates on Parade' yn Theatr Noël Coward, a chwmni cadarn o ddynion o bob oed, ac un ferch ddewr, yn mynd â ni yn ôl i gyfnod y rhyfel yn Malaya, wrth ddilyn criw o ddiddanwyr milwrol. Rhyw gyfuniad o ‘It Ain't Half Hot Mum’ a ‘La Cage Aux Folles’ a gafwyd yn ystod y ddwy awr a hanner gyfoethog o gomedi hon.

Rhaid enwi Simon Russell Beale, 'seren' y cynhyrchiad a lwyddodd i oleuo'r adfeilion o set foel, oedd yn gartref i'r diddanwyr diflino. Portreadu’r croes-wisgwr ‘Captain Terri Dennis’ oedd ei dasg, ac fe wnaeth hynny mor lliwgar â’i wisgoedd! A braf oedd gweld y Cymro, Mark Lewis Jones yn portreadu'r Cymro ‘Sergeant Major Reg Drummond’ a Davina Perera yn portreadu’r ferch o India a hanner Gymraes, ‘Sylvia Morgan’.

Er bod y milwyr wedi mudo bellach, bydd y Fonesig Judi Dench a'r llanc ifanc Ben Whishaw yn llenwi'r gofod gyda drama newydd gan John Logan, ‘Peter and Alice’ o Fawrth 9fed tan Fehefin 1af. Wedi hynny, bydd Daniel Radcliffe (y Bnr Harry Potter!) yn arwain y cwmni yn nrama Martin McDonagh, ‘The Cripple of Inishmaan’ o Fehefin 8fed tan ddiwedd Awst, a Sheridan Smith a David Walliams yn dod a Breuddwyd Noswyl Ifan, Shakespeare i’r llwyfan o Fedi’r 7fed tan Dachwedd 16eg. Jude Law sy’n cloi’r tymor, gyda mwy o Shakespeare, drwy bortreadu’r Brenin Harri’r Pumed o ddiwedd Tachwedd tan Chwefror 15fed 2014.

Mae’n werth nodi fod y cwmni hefyd yn cynnig dros 100,000 o docynnau am £10, felly cyntaf i’r felin! Mwy amdanynt drwy ymweld â www.MichaelGrandageCompany.com neu eu dilyn drwy drydar @MichaelGrandage