Friday, 27 January 2012

'Master Class'







Y Cymro – 27/01/11

Ac i Theatr y Vaudeville ar y Strand yr es i nos Lun i weld ail hanner y bartneriaeth ‘Lacey’ sef Tyne Daly yn portreadu’r difa cerddorol, ‘Maria Callas’ yn y ddrama wych ‘Master Class’. ‘Lacey’, i wylwyr y gyfres oedd y bwtan mamol a thywyll, oedd yn fwy triw i’w theulu na’r trais ar strydoedd Efrog Newydd. Hi oedd fy hoff un, wastad yn solat ac yn fwy call na’r flondan wyllt.

Wrth wylio Tyne Daly ar y llwyfan, cefais i iâs wirioneddol i lawr fy nghefn, fy mod i’n gwylio un o’r perfformiadau hynod hynny, y bydd pobol yn sôn amdani, am flynyddoedd i ddod. Roeddwn i’n gegrwth wrth weld ‘Callas’ yn dod yn fyw o flaen fy llygaid, wrth addysgu , siomi a syfrdanu cantorion ifanc unigol, wrth ddod am wers ganu gan y Feistres flin a phrofiadol.

Wedi’u lwyfannu yn syml - efallai yn or-syml ar adegau, gyda dim ond piano, stôl a bwrdd yn gwmni iddynt ar y llwyfan, mae’r sylw yn gyfan gwbl ar y gerddoriaeth a’r genadwri gan y gantores ynglŷn â sut i gyrraedd y llwyfan, pwysigrwydd cefndir y gân a’r meddwl wrth ganu, y darluniau yn y pen, yr emosiwn y tu ôl i’r geiriau a’i gallu hudolus i serenu, wrth gyfleu’r cyfan yn ei pherfformiadau cofiadwy.

Fel pob difa gwerth ei nodau, mae hi’n wrth ei bodd yn cyfarch y gynulleidfa, wrth rannu ei hanes trasig mewn mannau am ei bywyd carwriaethol a’r siom a’r gwrthwynebiad dan-din a’i hwynebodd gan ‘gyfeillion’ a ‘chyd-weithwyr’ fel ei gilydd. Cawn ein tywys o lwyfan y Met i La Scala, a blasu ambell i berfformiad mwyaf cofiadwy'r eicon cerddorol hynod.

Byr yw’r ymweliad â Llundain, felly os yn gantor, mynnwch eich tocynnau heddiw, gan fod y ddrama nid yn unig yn adloniannol, ond yn addysgiadol iawn hefyd!

Mae ‘Master Class’ yw weld yn y Vaudeville – mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.masterclasstheplay.com 

'Round Heeled Woman'






Y Cymro – 27/01/11

Go brin y gwyddwn i, wrth wylio’r gyfres ‘Cagney and Lacey’ pan oeddwn i'n blentyn yn Nolwyddelan, y byddwn i gwta ugain mlynedd yn ddiweddarach, yn gweld y ddwy ar lwyfan yn Llundain! Y ddwy, yn naturiol wedi twchu a gwynnu fel minna, ond yn parhau i feddiannu’r hud a’r prydferthwch a’m swynodd pan oeddwn i'n blentyn.

‘Cagney’ i gychwyn, gafodd ei phortreadu gan Sharon Gless, y flondan dal, tenau a thrwsgl, oedd wastad mewn rhyw drybini neu’i gilydd. Theatr yr Aldwych oedd ei chartref dros dro, cyn y Nadolig, yn y ‘ddrama’ ‘Round Heeled Woman’. Drama meddwn i, mewn dyfynodau, am mai mwy o gyflwyniad a gafwyd, wrth adrodd gwir hanes ‘Jane Juska’ (Sharon Gless), cyn athrawes Saesneg wedi ymddeol o California, a roddodd hysbyseb yn y ‘New York Review of Books’ yn gofyn am gyfathrach rywiol, cyn ei phen-blwydd yn 67!.

“Before I turn 67 - next March - I would like to have a lot of sex with a man I like. If you want to talk first, Trollope works for me.” Ac fe gafodd hi ymateb eithriadol, gan bob oed, lliw a llun. Aeth hi ati i gwrdd â phob un, a hanes yr anturiaethau hyn yw sail y cyflwyniad yma, gyda chymorth gan lond llaw o actorion gwrywaidd, i bortreadu’r dynion amrywiol. Y chwarae ar eiriau gyda’r ‘Trollope’ a gododd yr hysbyseb i dir uwch na’r bryntni arferol, gan gyfeirio at yr awdur llenyddol toreithiog Anthony Trollope o’r Oes Fictoria. Trwy gyfuno rhai o’i gymeriadau llenyddol mwyaf enwog, yn dyheu am gael eu caru, fel y ‘Juska’ bresennol, llwyddodd Jane Prowse, awdur yr addasiad i ddarlunio cymhariaeth ddiddorol rhwng y ddwy ddynes a’r ddau gyfnod.

Oedd, roedd yma wendidau, a set drama deledu ddiflas a di-bwrpas Ian Fisher oedd y gwannaf, a barodd i’r cynhyrchiad fod braidd yn ddiflas. Heb os, perfformiad gonest a chryf Sharon Gless a’m daliodd fwyaf, gan godi hiraeth am fy ieuenctid ffôl!

Yn anffodus, mae’r ‘Round Heeled Woman’ wedi ffoi bellach!.

Friday, 20 January 2012

'Lovesong'









Y Cymro – 20/1/11

Ma’ ‘na wledd yn eich aros, a phriodas o emosiwn ac egni pan ymwela Frantic Assembly â Sherman Cymru fis Chwefror. ‘Lovesong’ yw enw’r cynhyrchiad, a neb llai na Siân Phillips yw un o’r pedwar actor sy’n rhan o’r delyneg brydferth hon.

Ieuenctid, henaint, cariad a’r cof yw’r themâu sy’n cael eu harchwilio, wrth inni ddilyn hanes un cwpl ifanc, ‘William’ (Edward Bennett) a ‘Margaret’ (Leanne Row) o’u hugeiniau afieithus hyd gaethiwed a chreulondeb eu saithdegau hwyr, ‘Billy’ (Sam Cox) a ‘Maggie (Siân Phillips). O fewn munudau cynta’r ddrama, cawn wybod bod ‘Maggie’ yn sâl, ac mai byr iawn yw’r llwybr bellach. Drwy gyfres o ôl-fflachiadau cywrain a chynnil, cawn hanes eu bywyd tymhestlog gyda’i gilydd; oes o gyd-fyw yn ddedwydd, gydag ambell i dro annisgwyl yn eu llwybrau, ond y cyfan yn cael ei gywiro yn enw gwir gariad.

Os nad ydych yn gyfarwydd â gwaith Frantic Assembly, cewch eich swyno gan ddewiniaeth cyfarwyddo a choreograffi celfydd Scott Graham a Steven Hoggett. Ai ddim ati i sôn am bob manylyn, rhag imi ddifetha gwir naws y cynhyrchiad. Ond mae yma feddwl gofalus, a phriodas o symudiadau swynol a phwrpasol, dros ddawns y degawdau. Mae yma angerdd, emosiwn a geiriau fydd yn cyffwrdd â’ch enaid, gan yr awdur ifanc Abi Morgan.

Seiliwyd y ddrama ar gerdd enwog T S Elliot ‘The Love Song of J. Alfred Prufrock’ ac fe lwydda’r cynhyrchiad i ddal gwir neges y gerdd i’r dim. Hiraeth y cof ar ddiwedd y daith yw thema sy’n eich anwesu ar ddiwedd y ddrama, wrth i’r dagrau lifo oherwydd prydferthwch yr hyn a grëir o fewn y 90 munud gogoneddus hwn.

Does 'na’m dwywaith bod perfformiad a symudiad y pedwar actor cynnil yn rhan enfawr o lwyddiant y cynhyrchiad. Yr ieuenctid ffôl, llawn egni a serch ym mherfformiadau trydanol Edward Bennett a Leanne Row, yna’r styfnigrwydd caeth a’r salwch creulon sy’n poenydio unigrwydd Siân Phillips a Sam Cox. Dau sydd wedi byw ar ben eu hunain ers blynyddoedd, mewn tŷ mawr gwag, yn ddi-blant a chadwyn o gyfeillion arwynebol i gadw cwmni iddynt.

Un olygfa fydd yn aros yn y cof dros y cyfan yw creulondeb cyfaddefiad y ‘Billy’ hŷn ei fod yn barod ar gyfer ei daith unig, wedi ymadawiad ‘Maggie’. Hithau wedi morol fod popeth yn ei le ar ei gyfer, o fwyd yn y rhewgell i duniau yn y cwpwrdd, sut a phryd i fwydo’r gath hyd at gyfarwyddiadau i beiriannau’r tŷ ar gyfres o ‘post it’ notes wedi’u glynu o gwmpas y gegin.

‘Lovesong is elusive. It is a feeling, an instinct; a response to something that happened’ meddai’r tîm cyfarwyddo, ‘ The intention was to create something fragile and beautiful about love, memory and loss’ ac y mae’r ddau air, ‘For Dad’ ar glawr y ddrama / rhaglen gyhoeddedig, yn dweud y cyfan.

Ychwanegwch at y sgript gref, a’r perfformiadau pwerus rym a gweledigaeth y gerddoriaeth bwrpasol, y taflunio teimladwy a set syml ond trawiadol y cynllunydd Merle Hensel, ac fe gewch chi gyfanwaith o glasur am gariad fydd yn canu yn y cof ymhell wedi gadael y theatr.

Roedd gweld staff blaen y tŷ yn y Lyric Hammersmith nos Lun yn rhannu hancesi i aelodau ifanc y gynulleidfa, yn adrodd cyfrolau. Mynnwch eich hancesi cyn camu i’r Sherman. Byddwch wir eu hangen.

Cychwyn caboledig i’r flwyddyn newydd, a chynhyrchiad nas anghofiaf am gryn amser.

Bydd ‘Lovesong’ yn Sherman Cymru rhwng y 15fed a’r 18fed o Chwefror.

Friday, 13 January 2012

Edrych 'mlaen...





Y Cymro – 13/01/12

Ar gychwyn y flwyddyn newydd, braf iawn yw gweld cynifer o Gymry sy’n harddu llwyfannau Llundain a thu hwnt.

Y bythol brydferth a hudolus Siân Phillips i gychwyn, sydd ar daith ar hyn o bryd gyda chynhyrchiad Frantic Assembly o ‘Lovesong’, sef drama gafodd ei ysbrydoli gan farddoniaeth T.S Elliot, ac sy’n trin a thrafod cariad a’r cof. Byddai’n ymweld â’r ddrama yn y Lyric Hammersmith yr wythnos nesaf, ac yna bydd y cynhyrchiad yn symud i Glasgow cyn dychwelyd i Gymru, Sherman Cymru rhwng y 14eg a’r 18fed o Chwefror.

Steffan Rhodri yw’r ail actor sy’n treulio cyfnod arall ar lwyfannau Llundain, a hynny wedi cyfnod llwyddiannus iawn yn y Bush Theatre, yn y ddrama ‘The Kitchen Sink’ a welais dro yn ôl. Comedi o waith Alan Ayckbourne yw ‘Absent Friends’ fydd i’w weld yn Theatr Harold Pinter, yr hen Comedy Theatre, ar ochor ddeheuol Leicester Square. Yn ymuno â Steffan ar y llwyfan fydd enwau mawr megis Reece Shearsmith a Kara Tointon. Mae’r cynhyrchiad yn agor ar y 27ain o Ionawr ac ar werth tan y 14eg o Ebrill.

Owain Arthur yw’r nesa, sydd eisoes wedi bod yn cysgodi neb llai na James Corden yng nghynhyrchiad hynod o lwyddiannus y National Theatre o’r ffars ‘One Man Two Guvnors’. Fe welais y cynhyrchiad ar lwyfan y Lyttelton yn y National flwyddyn yn ôl, a bellach mae hi i’w gweld yn yr Adelphi ar y Strand, ond yn symud i Theatr Frenhinol yr Haymarket, i wneud lle i ‘Sweeney Todd’ fydd yn gwaedu ei ffordd i’r Strand, llai na milltir o’i gartref ysbrydoledig yn Fleet Street.

Mae’n ddrama llawn hwyl a ffars o gam-adnabod a phigo ar aelodau o’r gynulleidfa. Gogoniant Corden yw ei allu fel comedïwr i ychwanegu ac ymateb i’r hyn sy’n digwydd, yn ôl y gofyn. Pan welais i’r cynhyrchiad, ychwanegwyd o leiaf deng munud i’r ddrama wreiddiol, wed ii aelod o’r gynulleidfa daflu brechdan hummus ar y llwyfan!!

Wrth i Cordon fynd am Broadway y Gwanwyn hwn, bydd Owain yn camu i’r llwyfan yn Llundain i bortreadu'r slebog hoffus a ffwndrus ‘Francis Henshall’, yn y ffars sy’n seiliedig ar un o gomedïau cynnar y Commedia dell'arte. Nid dyma’r tro cyntaf i Owain gyd-weithio, neu hyd yn oed lenwi sgidiau cyffyrddus Corden, gan fod y ddau wedi rhannu’r cymeriad ‘Timms’ yng nghynhyrchiad y National o ‘The History Boys’ rai blynyddoedd yn ôl. Bydd y cynhyrchiad, gyda chast newydd, yn agor yn yr Haymarket ar yr 2il o Fawrth am chwe mis.

Parhau i bortreadu un o fyfyrwyr y Chwyldro yn Ffrainc wna Dylan Williams yn y sioe Les Miserables ar Shaftsbury Avenue. Bellach ar ei drydedd flwyddyn yn y sioe, mae Dylan yn dal i serennu’n nos weithiol ar lwyfan Theatr y Queens. Bydd cryn gynnwrf yn hwyrach yn y flwyddyn, wrth i’r sioe gael ei throi yn ffilm, fel y gwnaethpwyd gydag ‘Evita’ a ‘Phantom of the Opera’. Cofiwch hefyd bod addasiad ffilm o’r ddrama ‘War Horse’ yn cael eu rhyddhau'r wythnos hon. Ewch i’w weld, mae’n brofiad emosiynol iawn.

A chloi gyda thymor newydd Daniel Evans yn Sheffield fydd yn cynnwys cyfres o ddramâu gan Michael Frayn, ail lwyfannu drama fawr Congreve, ‘The Way of the World’ a chynhyrchiad o un o ddramau Harold Pinter ‘Betrayal’ gyda John Simm yn y brif ran.

Bydd ‘The Way of the World’ yn agor ar yr 2il o Chwefror, gyda thymor Frayn yn cychwyn ym mis Mawrth gyda ‘Copenhagen’, ‘Benefactors’ a ‘Democracy’ yn y tair prif ofod, gyda darlleniadau o’i weithiau eraill gan gynnwys ‘The Sneeze’, ‘Here’ a ‘Wild Honey’.