Friday, 26 August 2011
Caeredin 2011 & The Dark Philosophers
Y Cymro – 26/8/11
Ynghanol hurtni’r Haf, cyfle chwim i wibio am Gaeredin er mwyn treulio deuddydd yn yr Ŵyl Ymylol flynyddol, ar ei 65ain ymweliad â’r ddinas unigryw yma. Eleni, mae’r Ŵyl yn fwy nag erioed, gyda 41,689 perfformiad o 2,542 sioe mewn 258 o leoliadau gwahanol. I unrhyw un sydd wedi ymweld â’r Ŵyl yn y gorffennol, fe wyddoch yn iawn am y modd mae’r ddinas yn deffro bob mis Awst i fwrlwm y Celfyddydau amrywiol, ac mae’n wefr bob amser bod yn eu plith.
Un o’r pennaf resymau am fy nhaith eleni, oedd i brofi’r cynnyrch Cymraeg, a dwy sioe yn benodol - y ddau gwmni Cenedlaethol gyda Theatr Genedlaethol yn ail-lwyfannu a theithio cynhyrchiad caboledig Sherman Cymru o ‘Llwyth’ a National Theatre Wales yn ail-lwyfannu gwaith Gwyn Thomas, ‘The Dark Philosophers’
Un o’r pethau sydd wastad wedi fy niddori a fy nghynddeiriogi am yr Ŵyl yw’r adolygiadau amrywiol sy’n britho pob gwefan, cyhoeddiad a phamffled yn ystod y tair wythnos. Drwy’r adolygiadau hanfodol yma, mae’r cwmnïau yn ceisio’n ddyfal i ddenu cynulleidfa, er mwyn ceisio ad-dalu rhywfaint o’r ddyled, sy’n rhan annatod o lwyfannu sioe mewn gŵyl o’i math.
Un o’r sioeau hynny, sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel ac un o Wobrau’r Ŵyl oedd ‘2401 Objects’ cyd-gynhyrchiad rhwng cwmniau Analogue/Oldenburgisches Staatstheater/New Wolsey Theatre/Escalator East To Edinburgh yn y Pleasance. Cyflwyniad aml-gyfrwng oedd y nod, yn adrodd hanes Henry Molaison ym 1953, sy’n cynnig ei hun fel ysglyfaeth i ymchwil ymenyddol, a fu’n destun trafod i gynulleidfa o dros 400,000 o bobol ar yr Wê yn 2009, pan gafodd ei ymennydd ei dafellu’n ddarnau manwl, a’u cadw ar ddalen lân o bapur, fel tudalennau o hunangofiant y cof.
Er gwaetha’r taflunio technolegol a’r goleuo gofalus, roedd y cyfan yn un llanast o luniau, yn drwsgl o ddiflas, ac yn syrffedes o siom. Wedi gweld cwmnïau fel Complicite a’r Theatr Genedlaethol yn gneud gwaith tebyg yn llawer gwell, roedd hi’n drist iawn i weld y fath arian wedi’i wario ar stori wan a chynhyrchiad trwsgl.
Sioe arall gafodd gryn dipyn o wobrau oedd ‘Fresher the Musical’, drama gerdd am ddyddiau cyntaf criw o fyfyrwyr mewn coleg. Er mai fi oedd un o’r rhai hynaf yn y babell brynhawn Llun, roedd y stori eto’n ddiflas, y gerddoriaeth yn boddi’n swnllyd mewn alawon anghofiadwy a pherfformiadau’r cwmni yn anghyffyrddus o hunangyfiawn a gorhyderus. Prawf efallai fod mymryn o lwyddiant yn gallu rhwygo calon a naws y syniad lleiaf, llwyddiannus.
Diolch byth am gadernid, slicrwydd a chomedi tywyll straeon Gwyn Thomas yng nghyd-gynhyrchiad National Theatre Wales a Told by and Idiot o ‘The Dark Philosophers’ yn y Traverse. Dyma gynhyrchiad sydd eto wedi denu sylw’r Wasg Genedlaethol, ac wedi sicrhau cynulleidfa safonol ac adolygiadau ffafriol iawn i waith o Gymru. Drwy gyfuno hiwmor tywyll a straeon trasig cymeriadau’r Cymoedd, mae Thomas (Glyn Pritchard) yn ein tywys ar daith Dan-y-Wenalltaidd drwy strydoedd y Rhondda yn 30au’r ganrif ddiwethaf. Mae’r stori’n plethu elfennau o theatr gorfforol a cherddorol wrth i’r cwmni caboledig ein goglais yn gerddorol mewn trefniant hyfryd o Ar Hyd y Nos.
Un o uchafbwyntiau’r cynhyrchiad ydi set odidog Angela Davies o gypyrddau a drysau amrywiol sy’n cynrychioli’r tai a’r ystafelloedd cartrefol, ac sydd wedi’u gosod yn un mynydd o bentref, blith draphlith ar y llwyfan llawn.
Llwyddiant ysgubol unwaith yn rhagor i NTW am gwnaeth yn Gymro balch iawn, ynghanol y gynulleidfa Ryngwladol, a gafodd gryn fwynhad fel minnau.
'Llwyth' (Caeredin 2011)
Y Cymro – 26/8/11
Ac yna at gynhyrchiad roddodd gryn fwynhad imi'r ddau dro cyntaf imi ei weld yng Nghymru a Llundain sef ‘Llwyth’ o waith y dewin geiriol Dafydd James. Wedi’i gyfarwyddo gan Arwel Gruffydd, dyma gynhyrchiad sydd bellach wedi canfod cartref newydd o dan adain y Theatr Genedlaethol, a phwrs dyfnach o arian. Roeddwn i wrth fy modd o weld y THG yn mentro â chynhyrchiad Cymraeg i Gaeredin, ac maen nhw i’w canmol am hynny yn fwy na dim. Roedd gweld y posteri trawiadol ymhlith y miloedd o sioeau eraill yn galondid mawr, ac mae’r cynhyrchiad wedi derbyn adolygiadau ffafriol iawn gan y Wasg leol a Chenedlaethol fel ei gilydd.
Loes calon imi’n bersonol, oedd y ffaith bod y cynhyrchiad presennol wedi arafu gryn dipyn ers y gwreiddiol, a chollwyd llawer o’r emosiwn amrwd, a brofais mor rhagorol y tro cyntaf. Tybed oedd y chwistrell o’r arian Cenedlaethol wedi dofi a dallu symlrwydd a dyfnder deunydd dwys Dafydd?
Mae yma hefyd newid yn y castio gyda’r llanc ifanc ‘Gavin’ bellach yn nwylo llai profiadol Joshua Price. Er cystal oedd ei berfformiad, roedd yr arafu a’r ‘radio mics’ yn peri i ddidwylledd yr emosiwn gael ei golli. Roedd y dagrau, a’r daith emosiynol yn absennol, ac mae’r deunydd yn haeddu hynny, yn fwy na dim. Plîs, peidiwch â gadael i hyder llwyddiant a hiwmor i ladd symlrwydd a dyfnder y deunydd.
I rai na welodd, nac a glywodd dialog cyfoethog Dafydd o’r blaen, a’i gybolfa o gyfeiriadau llenyddol a rhywiol, bydd rhan o’r wefr yn aros. Trueni na chawsoch wir flas o allu’r cwmni trydanol hwn.
Bydd ‘Llwyth’ ar daith trwy Gymru yn yr Hydref.
Friday, 19 August 2011
'Un Fach Flewog'
Y Cymro – 19/8/11
Gwibdaith brys fu hi draw i Wrecsam i brofi arlwy denau Dramâu’r Eisteddfod. Dwy ‘brif’ ddrama yn unig, sy’n siom ynddo’i hun, a gwacter absenoldeb prif gynhyrchiad y Theatr Genedlaethol yn boenus o amlwg.
‘Un Fach Flewog’ o waith Eilir Jones, sef sioe glybiau Theatr Bara Caws oedd y cyntaf imi ei weld, ar eu noson agoriadol yng Nghlwb RAFA, ar gyrion y dref. Cyrraedd y Clwb yn brydlon am 7.30 gan wybod, yng ngwir draddodiad y sioeau clybiau, na fyddai dim i’w weld ar y llwyfan tan wedi wyth, er mwyn i’r gynulleidfa wlychu’u pig ac i’r cwrw anwesu eu synnwyr comedi.
Siop anifeiliaid anwes ydi’r lleoliad eleni, sy’n rhyddhau pob math o jôcs anweddus am bethau byw a blewog, gan gynnwys y parot ‘Gwynfryn’ yn y gornel a’r ‘Pwsi Jonsi’ a ddiflannodd yn sydyn rai misoedd yn ôl, a does neb wedi’i weld ers hynny! Un o’r cymeriadau mwyaf diddorol yw’r arch-lygoden ‘Hosanna Ben Landin’ sy’n barod i arwain gwrthryfel er mwyn sicrhau rhyddid iddo ef a’i gyd-anifeiliaid.
Ymysg y meidrol sy’n cadw’r siop a’r ymwelwyr sy’n mynychu y mae ‘Neville’ (Maldwyn John) sy’n cynnal rhan helaeth o’r ddrama, yn ei rôl fel ceidwad y siop, ynghyd a’i wddw sdiff a’i gyd-weinyddes fronnog a rhywiol, ‘Kiley’ (Catrin Mara). Y llipryn (Iwan Charles) sy’n dioddef o’r clefyd Tourettes ac sy’n esgus cyfleus dros fedru cynnwys pob gair o reg yn yr iaith Gymraeg o fewn y pymtheg munud cyntaf! Swyddog cas a di-Gymraeg yr RSPCA (Gwenno Elis Hodgkins) sy’n llithro’n ddamweiniol (ta bwriadol?) drwy holl acenion Prydeinig y Deyrnas Unedig, wrth geisio cadw trefn ar y siop a’i berchennog. ‘Huwsi’ (Bryn Fôn) y slebog seimllyd sy’n llwyddo i doddi calon ‘Kiley’ a’i lais radio melfedaidd.
Mae gen i linyn mesur pwrpasol iawn ar gyfer sioeau clybiau Bara Caws bellach sy’n ymestyn o fod yn grafog a chlyfar ar un llaw, a bod yn smyt ac anweddus ar y llaw arall. Dros y blynyddoedd, rhaid dweud fod y cwmni wedi llwyddo i godi uwchlaw’r anweddus, a chreu deunydd wirioneddol glyfar a chrafog, ac er bod eiliadau prin o hynny yma eleni, rhwng y gyfeiriadaeth at Radio Cymru, Glanaethwy, Porthpenwaig a stori grafog ‘Hosanna Ben Landin’ , yn anffodus mae’r orddibyniaeth ar y rhegi, yr anweddus a’r damweiniau bwriadol yn peri i’r gynulleidfa golli diddordeb, sy’n siomedig.
Mi lwyddodd y sioe i ddiddanu cynulleidfa feddw’r Ŵyl; fe lwyddodd i ddychryn a chodi gwrychyn ambell un, na welodd sioe o’i math o’r blaen. Ond i lawer sy’n hen gyfarwydd â’u gwaith, fel y criw o genod Pen Llŷn a hogia Felinheli, a fu yno'r un noson â mi, roedd elfen o siom yn amlwg. Mae’r syniad craidd o waith Eilir Jones yn cynnig ac yn crefu am lawer mwy o ddychan a dyfnder, ac erfyniaf ar y cwmni i ail-edrych am y sgript cyn mentro ar daith.
'Salsa!'
Y Cymro – 19/8/11
‘Salsa!’ sef cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr na-Nog a Theatr Mwldan oedd yr ail gynhyrchiad imi’i weld yn ystod yr wythnos. Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl a bod yn onest, gan wybod y byddai rhyw gymaint o’r elfen ddawns yn rhan o’r sioe. Wrth adael y Stiwt yn y Rhos, doeddwn i fawr callach, petawn i’n onest. Roedd y deunydd yn rhy denau i fod yn ‘ddrama’, ac felly rhaid ei ddisgrifio fel ‘cyflwyniad’ neu ‘sioe’. Gwendid y cyfan imi’n bersonol oedd y diffyg deunydd. Yr hyn a gafwyd oedd cyfres o olygfeydd o ddialog diniwed gan gymeriadau ystrydebol, gyda thocyn helaeth o ddawnsio ‘ballroom’ amatur rhwng pob golygfa. Doedd y dawnsio ddim yn ddigon rhywiol a thrawiadol i fod yn effeithiol, a doedd y dialog a’r stori ddim yn ddigon dwfn a dirdynnol i’m swyno.
Hanes pedwar cymeriad sy’n cwrdd a’i gilydd mewn dosbarthiadau Salsa yw canolbwynt y cyfan; pedwar cymeriad sdoc sydd i gyd yn dioddef o unigrwydd neu iselder, ac sy’n crefu am rywbeth i lenwi a gloywi eu bywydau llwm. Er cystal oedd perfformiadau Phyl Harries, Betsan Llwyd, Llinos Daniel a Carwyn Glyn, a choreograffi a dawnsio Laura Clements, doedd hyd yn oed y Tapas a’r gwahoddiad i ddawnsio ar y diwedd, ddim yn ddigon i godi fy nghalon drom.
Does gen i ddim amheuaeth fod y noson yn adloniant pur i rai, a fwynhaodd y profiad o wylio’r dawnsio a’r safonau cynhyrchu uchel iawn, sy’n gyfeiliant i’r sioe. Ond yn absenoldeb arlwy safonol o Ddramâu yn yr Ŵyl eleni, roedd hon, (ynghyd a Bara Caws) yn boenus o embaras, mewn cyfnod o wir angen am arweiniad a gweledigaeth theatrig.
Mr Gruffydd, mae eich angen yn fawr...!
Bydd y ddwy ddrama yn teithio yn yr Hydref.