Friday, 18 June 2010

'Who ate all the pies?'


Y Cymro – 18/06/10

Mae’n gyfnod cynhyrfus yma yn Llundain, ar drothwy’r Ŵyl yng Nghaeredin, ac ar drothwy’r Haf i bawb, wrth i nifer o gynyrchiadau bach a mawr, fritho theatrau’r ddinas. Heb anghofio’r pêl-droed bondigrybwyll, a Chwpan y Byd sy’n cael ei wthio i’n wynebau o bob cwr, gan gynnwys y theatr!

‘Who ate all the pies?’ yw’r ymgais ddiweddara i ddelio gyda byd y bêl, wedi’i gyfansoddi gan Jimmy Jewell a Nick Stimson - cyfansoddwyr y ddrama gerdd ‘NHS - the musical’ rai blynyddoedd yn ôl. Er mai bychan yw theatr y Tristan Bates, ynghanol prysurdeb Covent Garden, fel lwyddodd cynhyrchiad llawn lliw, llawenydd a hiwmor y cyfarwyddwr dawnus Johnny Brant i lenwi pob cornel, ac fe gafodd y ffans llawer mwy ffyddlon na fi, fôr o fwynhad. Er cystal oedd y cynhyrchiad fel cyfanwaith, a chryfder y set, y gerddoriaeth a’r goleuo, roedd ambell ogwydd o’r stori yn ddiarth ac felly’n ddiflas imi. Buaswn i wedi hoffi gweld llawer mwy o ddyfnder yn stori’r ferch (Yildiz Hussein) yn dod i delerau gyda marwolaeth ei thad, y ‘ffanatic ffwtbol’ (Paul Pritchard), yr elfen bersonol, deuluol, sy’n gyfarwydd i bawb, ac nid dim ond y ffans.

Mae’r sioe i’w weld yn y Tristan Bates tan 25ain o Fehefin. Mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.tristanbatestheatre.co.uk

'iN/Vocation'


Y Cymro - 18/06/10

‘iN/Vocation’ yw’r ail sioe a welais yn y Tristan Bates, wedi’i gynhyrchu gan yr un cwmni â’r uchod, ond a apeliodd llawer mwy ataf. Monolog sydd yma gan y gyn-actores Peta Lily, yn olrhain hanes ei bywyd a’i gyrfa. Edrych ymlaen, wrth edrych yn ôl sydd yma yn y bôn, wrth iddi hel atgofion yn ei hystafell wisgo am y dyddiau a fu, o’r Shakespeare i’r Ibsen, o’i theithiau i’r India a’i haddoliad o Yoga a duwiau Hindwiaeth. O’r ‘showbusiness’ i fyd busnes, mae ei thaith nid yn unig yn ddiddorol, ond yn addysgol, a hawdd ydi gallu cydymdeimlo gyda hi gydol y daith. Dwi di pregethu sawl tro bod llwyfannu monolog yn fwy anodd na drama fawr dair act, gan fod yn rhaid talu sylw i’r pethau lleiaf. Camp Di Sherlock gyda’r cynhyrchiad yma oedd anwesu’r geiriau’n ofalus â cherddoriaeth gymysg, goleuo cynnil, propiau pwrpasol a llyfnder llwyfan sy’n llifo at ei lwyddiant.

Mae’r ddwy sioe i’w weld yn y Tristan Bates tan 25ain o Fehefin. Mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.tristanbatestheatre.co.uk

'Fantasticks'


Y Cymro - 18/06/10

O’r llwyddiannus, at y llai llwyddiannus, a’r ddrama gerdd hir ddisgwyliedig, a’r hir dreuliedig ar Broadway, ond fydd yn cau yn Llundain, cwta wythnos wedi’r adolygiad yma ymddangos yn Y Cymro! Sôn ydw’i am y ‘Fantasticks’ sydd wedi ymgartrefu dros dro yn Theatr y Duchess. Dyma ddrama gerdd sydd wedi achosi cryn boen meddwl imi; allai’m dweud mod i wedi ei fwynhau, ac eto tydwi ddim yn ei gasáu chwaith. Drama gerdd hynod o syml, slic, sentimental a bwriadol blentynnaidd yn y bôn, am ddau gariad ifanc, y Romeo (Luke Brady) a’r Juliet (Lorna Want) sy’n byw drws nesa i’w gilydd, gyda’u tadau gwrthgyferbyniol, sy’n cyd-fyw ac yn cyd-gynllunio dyfodol priodasol eu plant. Er ceisio gwahardd y ddau rhag gweld ei gilydd ar y cychwyn, drwy godi wal enfawr yn yr ardd, buan fe dry’r cynllwyn yn llawer mwy sinistr gan drefnu herwgipio’r ddau, er mwyn cryfhau eu serch a’u cariad. Ac yn wir, fe lwydda’r cynllun hyd ddiwedd y rhan gyntaf, ond wedi’r egwyl, mae’r hapusrwydd yn cilio, ac fe dry’r holl lawenydd a’r cariad yn gasineb a phoen, yn artaith ac anobaith.

Wyddwn i fawr ddim am y ddrama gerdd cyn cyrraedd y theatr, dim ond ei bod hi’r ddrama gerdd hira’ i gael ei pherfformio ar Broadway - ers y chwedegau yn ddi-dor. Beth felly sydd mor arbennig amdani? Heb os, roedd y symlrwydd yn apelio, gyda’r actorion i gyd yn rhannu’r driongl o lwyfan y set, a’r elfen bantomeimaidd bron yn cadw’r cyfan yn fyw. Roedd y stori garu yn gweithio, a’r gerddoriaeth o dan arweiniad y gân hudolus ‘Try to Remember’ yn cynnal. Roedd doniolwch y ddau ‘actor’ profiadol, (Edward Petherbridge a Paul Hunter) sy’n fwriadol dros-ben-llestri o ddramatig yn ddiddorol a doniol. Ac eto, doedd y cyfanwaith ddim yn ddigon i’m diddori gant y cant, ac yn sicr ddim yn ddigon i’m denu yn ôl i weld y gwaith dro ar ôl tro.

Blas o’i gyfnod dwi’n credu yw’r brif fantais, sydd o bosib yn perthyn i’w gartref llawer llai ar Broadway, yn hytrach nag ehangder theatr mwy. Fel gyda’r ddrama ‘Enron’, roedd yn llwyddiant ysgubol yma, ac eto’n fethiant trychinebus ar Broadway. Rhyfedd o fyd. Well i minnau lynu at fyd y theatr, a chadw draw o’r meysydd pêl-droed!

Friday, 11 June 2010

Plant y Fflam, Dau.Un.Un.Dim ac Yn y Trên






Y Cymro 11/06/10

Do, bum innau yn Eisteddfod yr Urdd, fel y miloedd eraill drwy Gymru’r wythnos diwethaf, a braf iawn oedd cael cyfarch hen ffrindiau yn llygad yr haul. Fy mhennaf orchwyl oedd beirniadu’r Fedal Ddrama, ar y cyd â’r annwyl Mari Rhian Owen, o gwmni Arad Goch. Calonogol iawn oedd derbyn 12 sgript yn y gystadleuaeth, a’r weledigaeth drwyddi draw yn dda iawn. Y man gwan oedd y diffyg cynllun, neu’r arfau cywir i barhau â’r weledigaeth, ac i greu cyfanwaith twt. Llongyfarchiadau mawr i Manon Wyn Williams o Sir Fôn am ennill y gystadleuaeth am yr ail dro. Gobeithio’n wir y bydd hi’n cystadlu’r flwyddyn nesaf, fel ei bod hi’n cael ymuno â Luned Emyr a mi yng nghlwb unigryw’r 3 Medal! Fel ddudodd Ifor ap Glyn wrtha’i rhywdro, “…i mi, mae hyn yn sili, gan mai dim ond UN gwddw sgen ti!”

Wrth sôn am y Fedal, rhaid imi hefyd longyfarch fy nghyd-Dwittwyr @gutodafydd am ddod yn ail, ac i @CynanLlwyd am gystadlu, ynghyd â’r darlledwr Glyn Wise! Gyda mentora gofalus a chefnogaeth greadigol, rwy’n ffyddiog iawn y daw llwyddiant pellach iddynt oll.

Tra yn yr Eisteddfod, bum yn ddigon ffodus i fedru gweld y sioe ieuenctid, ‘Plant y Fflam’ oedd yn chwa o awyr iach yn Theatr Felinfach. Dyma gast o thua cant o bobol ifanc ddawnus Ceredigion a’r Cylch, o dan gyfarwyddyd medrus Jeremy Turner. Yng ngwir draddodiad y theatr gerddorol, yr hyn a wnaeth Mari, a thîm Arad Goch oedd cyfuno caneuon y grŵp Edward H Dafis, a chreu stori ddiddorol fel cragen o’u cwmpas. Digon tebyg i’r hyn a welir yn ‘Mamma Mia!’, ‘We Will Rock You’ a ‘Jersey Boys’. Braf yw medru cyhoeddi fy mod i fymryn yn rhy ifanc i gofio Edward H yn ei fri, ac felly doedd rhai o’r caneuon ddim mor gyfarwydd imi, ac o bosib gweddill aelodau o’r gynulleidfa.

Cefais flas arbennig ar ambell i olygfa fel ‘Merch y Gwlith’ a ‘Chastell y Blaidd’ a gwirioneddol fwynhau diweddglo gyda’r bythganiadwy ‘Tir Glas’ a ‘Dewch at eich gilydd’. Roedd perfformiadau’r ensemble cyfan i’w ganmol yn fawr, a mawr obeithiaf y bydd sawl un yn parhau â’u gyrfa ar lwyfan. Da iawn yn wir.

Cyn gyrru’n ôl am adref, penderfynu galw yng Ngholeg Llanbed er mwyn gweld cynhyrchiad diweddara’r Theatr Genedlaethol. Dwy ddrama fer, ‘na lwyfannwyd o’r blaen’ oedd yr arlwy, a gwaddol amlwg Cefin Roberts cyn ymadael. Roeddwn i’n synnu o weld bod y Bwrdd wedi penderfynu parhau i lwyfannu gweddill rhaglen Cefin, gan wahodd cyfarwyddwyr gwadd i ymgymryd â’r gwaith. Betsan Llwyd oedd yn gyfrifol am y ddwy ddrama, ac a bod yn deg arni, gorchwyl anodd iawn oedd hynny.

Dwi’n siŵr y byddai’r cwta ugain ohonom oedd yn bresennol ar y nos Iau yn cytuno mai siom oedd y ddrama gyntaf o waith Manon Wyn o Gaernarfon. ‘Dau. Un. Un. Dim’ oedd ei theitl, wedi’i osod yn yr un flwyddyn , ac yn adrodd hanes y dihiryn ‘Bran’ (Rhodri Meilir) ac ‘Awen’ (Lowri Gwynne). ‘Er mwyn i’n hil barhau, rhaid glanhau’ oedd prif neges y ddrama, gyda llawer o’r digwydd, wedi digwydd, yn y ffilm ar gychwyn y ddrama. Gwendid y cyfan oedd bod y ddau gymeriad, y pur a’r amhur, wedi’u caethiwo oddi mewn i ystafell dywyll, wrth ddadlau dros eu gorffennol a’r dyfodol. Doedd yna ddim yn digwydd, a’r ffraeo parhaus a’r trafod themâu dyrys yn ddiflas ac undonog.

Cafwyd llawer mwy o lwyddiant gyda’r ddrama fer, fer (20 munud o hyd) ‘Yn y Trên’ gan Saunders Lewis; ‘drama’ na chafodd ei lwyfannu o’r blaen, a hynny am reswm amlwg iawn! Roedd y ddeialog rhwng y ‘Teithiwr’ (Rhodri Meilir) a’r ‘Gard’ (Lowri Gwynne) yn cynnal llawer gwell na’r ddrama gyntaf, ac eto, roedd y cyfan yn llawer rhy fyr i gael unrhyw werth o gwbl.

Does yna ddim pwrpas mynd i drin a thrafod y ddwy ddrama’n ‘mhellach; fyddai’r calla’ ar y ddaear yn cydnabod mai camgymeriad oedd mynd â’r ddwy ar daith. Iawn, ar gyfer Stiwdio’r Coleg, Theatr y Maes neu’r Ysgol, ond nid fel arlwy’r Theatr Genedlaethol, mae gennai ofn.

Tim Baker fydd yn cyfarwyddo eu cynhyrchiad nesaf, sef cyfieithiad Sharon Morgan o ‘House of America’ gan Ed Thomas ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. ‘Gwlad yr Addewid’ yw’r teitl, a gobeithio’n wir y bydd yr addewid a ddaw yn ei sgil, yn werth aros amdano!