Friday, 14 May 2010
'Holding the Man'
Y Cymro – 14/05/10
Pan ddarllenai fod y dramodydd wedi marw cyn gweld y cynhyrchiad cyntaf o'r ddrama, fedrai'm peidio â theimlo ing o dristwch sy'n aros gydol y sioe, fel cysgod dros y cyfan. O'r gweithiau diweddar, mae'n debyg mai'r ddrama gerdd 'Rent' yw un o'r enghreifftiau gorau gan y bu Jonathan Larson farw noswyl yr agoriad swyddogol. 'Holding the Man' yw'r ail, y profais yr wythnos hon.
Yn seiliedig ar y gyfrol o'r un enw, sydd wedi gwerthu miloedd o gopïau ar draws y byd, mae'r stori yn adrodd hanes Tim Conigrave (Guy Edmonds) a John Caleo (Matt Zeremes), dau gyfaill o ddyddiau ysgol, sy'n syrthio mewn cariad, ac yn treulio gweddill eu hoes (byr) efo'i gilydd. Dilynwn eu hanes o'r ysgol uwchradd yn y saithdegau, drwy'r amrywiol gynyrchiadau theatr y bu'r actor Tim yn rhan ohonynt i ryddid rhywiol a bywyd lliwgar yr 80au. I ddyn hoyw, roedd yr wythdegau yn gyffrous, yn gymysg o gyffuriau, cerddoriaeth, gwyliau a nifer diderfyn o anturiaethau rhywiol. Yn gysgod dros y cyfan oedd y cancr anesboniadwy, a ddaeth i’w adnabod fel y clefyd AIDS. Ym 1985, cafodd y ddau brofion am y firws HIV, ac yn drasig o drist, eu profi’n bositif.
Stori gariad angerddol sy yn yr ail ran, wrth i iechyd y ddau wanhau, ac wrth i’r ddau ŵr ifanc geisio parhau i fyw eu bywydau mor llawn â phosib, yng ngwyneb y gelyn cudd oedd yn lladd oddi mewn. Er mai Tim oedd yr un mwyaf gwyllt o’r ddau, John a fu farw gyntaf ym 1992 yn 32 oed. Wedi ei nyrsio hyd ddydd ei angau, a delio gydag anfodlonrwydd y tad i dderbyn salwch na rhywioldeb ei fab, mae Tim yn bwrw ati (yn ei waeledd) i gyfansoddi stori a drama am ‘The First Boy I Loved’ a ddaeth maes o law i’w alw’n ‘Holding the Man’ sef term sy’n perthyn i reolau peldroed Awstralia, sy’n cael ei gydnabod fel trosedd.
Bu farw Tim ym 1994, yn 35 mlwydd oed, flwyddyn yn unig cyn cyhoeddi ‘Holding the Man’ am y tro cyntaf. Yn 2006, yn sgil poblogrwydd eithriadol y gyfrol ar draws y byd, aeth Tommy Murphy at i addasu’r gwaith yn ddrama lwyfan, er mwyn cadw stori a neges y ddau yn fyw.
Does na’m dwywaith fod stori ddirdynnol o drist y ddau yn cydio’n ddwfn yn yr emosiynau. Brofais i erioed gynulleidfa lawn y Trafalgar Studios mor llonydd o dawel, wrth i’r dagrau ddisgyn tua diwedd y sioe. Clod yn wir i’r cyfarwyddwr David Berthold ac i’r addasydd Tommy Murphy am ddelio mor gelfydd â’r deunydd sensitif.
Mae gan bob cyfarwyddwr neu gynllunydd ei arddull unigryw, a hawdd iawn oedd gweld stamp Brian Thomson, cynllunydd y sioe liwgar ‘Priscilla Queen of the Desert’ ar y sioe yma hefyd. Roedd yma feddwl gofalus i’r set a’r goleuo, a’r cyfan wedi’i briodi’n berffaith gyda’r digwydd. Yn wledd i’r llygaid, wrth i fylbiau unigol y drychau colur, oleuo’n gynnil i gyd fynd â naws yr olygfa. Felly hefyd y llawr oedd yn newid ei liw drwy hud y dawnsio disgo, hyd at goch y peryg wrth i’r firws gydio.
Mae yma’n sicr gynhyrchiad y byddai’n ei gofio am amser hir. Nid yn unig am y deunydd a’r set, ond am berfformiadau cry’r cwmni cyfan, sy’n cynnwys Jane Turner o’r gyfres ‘Kath & Kim’, Simon Burke, Oliver Farnworth ac Anna Skellern. Roedd y pum munud o gymeradwyaeth lawn ar y diwedd, yn dyst i lwyddiant y sioe, a chof da'r ddau dan sylw.
Mae ‘Holding the Man’ i’w weld yn y Trafalgar Studios tan y 3ydd o Orffennaf.
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment