Friday, 15 January 2010

'Legally Blonde'






15/01/10
Dwi’n amau’n fawr mai fi oedd un o’r ychydig rai oedd HEB weld y ffilm o’r un enw â’r sioe ddiweddara i agor yn Theatr y Savoy, yma yn Llundain!. A bod yn onest, dwi’n eitha’ balch o hynny, gan na fues i ‘rioed yn ffan o’r ffilmiau Americanaidd, benywaidd, plastig tebyg i ‘Legally Blonde’ sy’n ceisio profi bod merch pryd golau yn llawer mwy clyfar na’r cartŵn arferol o’r bimbo sodla uchel a sgertiau pinc!

Pinc yn wir sydd ymhobman, nid yn unig yn y theatr, ond hefyd ar wregys, tei, clustdlysau, sgidiau, hancesi, sanau, a synnwn i ddim, dillad isaf criw blaen y tŷ! Pinc yw’r nod, a phinc sy’n cael ei daflu atom ymhob gogwydd o’r sioe liwgar hon. O’r gwisgoedd i’r setiau, y goleuo a’r gerddoriaeth, mae 'na deimlad hapus ymhobman, ac o anghofio’r meddwl beirniadol am awr neu ddwy, mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod i wedi mwynhau’r arlwy yn fawr!

Mae’r stori wedi’i selio ar y lodes ifanc ‘Elle Woods’ (Sheridan Smith) sydd dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad gyda ‘Warner’ (Duncan James ). Yn anffodus iddi hi, sy’n byw'r bywyd delfrydol i unrhyw ferch ifanc, sy’n boddi mewn dillad ffasiynol, bechgyn del, cylchgronau llachar a hyd yn oed ci bychan delia erioed, mae ‘Warner’ wedi’i dderbyn i ddilyn Gradd yn y Gyfraith yn Harvard, ac felly’n gorfod ffarwelio â’r benfelen benysgafn, a throi ei fryd at ferched mwy safonol y Coleg. Dyma yw’r trobwynt angenrheidiol sy’n gosod yr her i ‘Elle’ i ddilyn ôl ei droed, a chyn diwedd yr Act Gyntaf, mae hithau hefyd yn llwyddo i gyrraedd Harvard, ac i wrthbrofi’r holl ragdybiaeth.

Perfformiadau bywiog a chyhyrog y ddau brif actor sy’n cynnal y sioe, ac mae’r ddau i’w canmol yn fawr am hynny. Mi wn fy mod i’n hynod o ffodus o fedru gweld y sioeau newydd yma ar eu gorau, gyda’r Cast gwreiddiol, ac mae hynny yn holl bwysig i lwyddiant unrhyw sioe. Mae’n bryder mawr gen i os gall unrhyw actorion eraill, llwyr, ymgorffori holl rinweddau’r cymeriadau yma, ond dyna’r sialens siŵr o fod. Cafwyd chwip o gymeriadu cryf hefyd gan Alex Gaumond fel ‘Emmett’, y llipryn peniog sy’n ennill ei chalon ar ddiwedd y sioe, a’i chyfaill cegog sy’n trin ei gwallt, ‘Paulette’ (Jill Halfpenny) a’r ‘dihiryn cas’ (sy’n rhoi’r tensiwn yn y stori) y darlithydd ‘Professor Callahan’ (Peter Davidson).

I ddilynwyr selog y ffilm, mae’n debyg mai siom fydd rhan gyntaf y sioe, gan nad ydi’r ddrama gerdd yn dilyn patrwm y ffilm mor fanwl ag yr hoffai’r ffans, serch hynny, fe weithiodd y stori’n iawn fel ag yr oedd, i leygwr fel fi!

Ewch, a mwynhewch, a dwi’n sicr y byddwch chi’n gwenu drwyddi draw!

Mwy drwy ymweld â www.legallyblondethemusical.co.uk

Saturday, 2 January 2010

'Cat on a hot tin roof'



02/01/10

‘Cat on a hot tin roof’ - teitl drama sydd wedi fy hudo ers blynyddoedd, ond byth wedi cael y cyfle i weld cynhyrchiad ohoni. Gyda’r fath heip yma yn Llundain am gynhyrchiad ‘heriol’ a ‘gwahanol’ y cast cwbl groenddu o’r ddrama, doedd na ddim dewis ond mynd draw i’r Novello i’w gweld hi.

Mae gwaith Tennessee Williams yn nodedig am fod yn heriol, wrth archwilio gwendidau’r teulu a’r cyfrinachau cudd sy’n ddigon i’w chwalu - fel sy’n digwydd i’r teulu Pollitt ar eu Stad deuluol yn Mississippi. Dyma’r ddrama dair act draddodiadol, ac yn y traddodiad gorau posib, mae yma osod a phlannu’r stori yn yr act gyntaf wrth i’r gath dinboeth ‘Maggie’ (Sanaa Lathan) chwydu ei hareithiau geiriol wrth ei gŵr ‘Brick’ (Adrian Lester). Bôn y cyfan yw awydd ac angen ‘Maggie’ i gael perthynas rywiol gyda’i gŵr sy’n gyn-beldroediwr, ond yn methu cyflawni ei hanghenion corfforol. Ar achlysur pen-blwydd y penteulu, yr enwog ‘Big Daddy’, mae pawb yn prysur baratoi at y parti. Boddi ei hun mewn diod yw’r unig beth y mae ‘Brick’ am ei ddathlu, a gyda’r brawd arall yn prysur geisio etifeddu’r stad, mae gwreiddiau’r chwalu yn amlwg. I ganol y berw y daw un o’r enwau mawr sy’n denu sylw i’r cwmni sef Phylicia Rashad, sy’n fwy cyfarwydd fel y fam o’r gyfres enwog ‘The Cosby Show’. ‘Big Mama’ yw’r teyrn arall, sy’n adlais o’r ‘Maggie’ f’engach, gyda’r ddwy wedi sodro eu hunain wrth galon y teulu, fel y gath yn nheitl y ddrama, er gwaetha gwres y dadlau.

Gwan o ran perfformiadau oedd yr ail act, wrth i’r dadau ddechrau edwino, a’r esboniad dros fethiant y gŵr i orwedd gyda’i wraig, a’r eglurhad dros y diota a’n angen am ddianc yn ddwfn i’w fedd-dod. James Earl Jones, seren arall y cwmni, yw’r penteulu ‘Big Daddy’, a sgwrs di-flewyn ar dafod rhwng y tad a’r mab sy’n rhoi inni’r cefndir am berthynas ‘annealladwy’ ‘Brick’ gyda’i gyfaill ‘Skipper’. Perthynas a barrodd i ‘Skipper’ gyflawni hunanladdiad, a’r awgrym gwrywgydiol i wrthod caniatâd i’r ddrama wreiddiol gael ei pherfformio yn Llundain, yn y Pumdegau.

Diolch byth am hydref y drydedd act, wrth i’r cyfan ddod i ben, a’r gwirionedd am ganser y tad beri i bethau syrthio i’w lle. Yma y gwelais fawredd y cynhyrchiad, yn yr olygfeydd sensitif rhwng y tad a’r fam, a’r wraig a’i gŵr. I’r rhai sy’n fwy cyfarwydd â’r fersiwn ffilm gydag Elizabeth Taylor, rhaid imi fod yn onest â chyfaddef fod diwedd gwreiddiol y ddrama yn llawer gwell.

Er gwaetha’r set chwaethus, a goleuo gwan David Holmes, yr enwau mawr o Broadway a’r don o eiriau da sydd wedi’i datgan am y cynhyrchiad, siomedig oedd y cyfan imi. Allwn i weld mawredd y ddrama, ond yn anffodus, doedd anallu'r Bnr Earl Jones i lefaru’n glir, a chyfarwyddo syrffedus Debbie Allen ddim yn ddigon i gadw’m sylw, a’m llygaid yn agored.

Yn wahanol i’r gath, doedd gwres y to tin ddim yn ddigon i’n nghadw i’n fy sedd, na’r awydd i aros yno, waeth pa mor anodd oedd y drasiedi o’m blaen.

Mwy wrth ymweld â www.catwestend.com