Friday, 28 August 2009
'Phedre'
28/08/09
Does na'm owns o amheuaeth gen i mai'r Groegiaid oedd y Meistri am greu dramau. Ymhob drama mae'r gwirioneddau am fywyd a'r negeseuon oesol sy'n dal eu tir hyd heddiw. Peryglon unbeniaeth, ffawd, cariad a chasineb a'r cyfan yn cael ei lunio a'i reoli dan law y duwiau. Does ryfedd felly bod cynifer o ddramodwyr eraill wedi benthyg eu chwedlau a'u cymeriadau trasig, gan roi gwedd newydd ar eu hen hanes.
Niferus hefyd yw'r cannoedd o gynhychiadau sy'n cyrraedd llwyfannau Llundain yn flynyddol, a chanran ohonynt ar y llwyfan cenedlaethol.
'Phedre' o waith Jean Racine, wedi'i ddiweddaru gan Ted Hughes yw'r cynhyrchiad diweddara i swyno (neu syrffedu?) cynulleidfaoedd y Lyttelton. Y foniddiges Helen Mirren sy'n portreadu'r frenhines wallgo sydd wedi syrthio mewn cariad gyda'i llysmab, 'Hippolytus' (Dominic Cooper). Er gwaethaf rhybuddion a chyngor annoeth ei nyrs, 'Oenone' (Margaret Tyzack) dewis i ddatgan y gwirionedd am ei theimladau wna 'Phedre', wedi derbyn y newyddion am farwolaeth y brenin, 'Theseus' (Stanley Townsend) sef ei gwr a thad ei 'chariad'. Yn wahanol i'r driniaeth arferol o'r chwedl, yn yr addasiad yma, mae 'Hippolytus' hefyd dros ei ben a'i glustiau mewn cariad gyda 'Aricia' (Ruth Negga), gorwyres 'Erechteus', cyn frenin Athen. Dyma haen ychwanegol i orffwylledd y frenhines a'i mab, wrth i serch a chariad beri i'r naill ddinistrio'i gilydd. Gyda'r newyddion fod y brenin yn fyw, a dychweliad 'Thesus' i'r llys brenhinol, aiff pethau o ddrwg i waeth, wrth i'r gwirionedd gael ei wyrdroi, sy'n arwain y cyfan at y drasiedi deuluol hon.
Heb os, Helen Mirren sy'n dennu, ac yn wir wedi sicrhau gwerthiant y tocynnau ers misoedd. Roedd ei pherfformiad yn drydannol o effeithiol, o'i cham cyntaf ar y llwyfan o lys tywodlyd, hyd ei marwolaeth edifarhaus trwy wenwyn. Anodd credu gallu unrhyw actor i fynd a chynulleidfa ar y daith drasiediol ddramatig hon yn nosweithiol. Felly hefyd gyda'i morwyn, neu'i nyrs 'Oenone', wrth i Margaret Tyzack a Mirren orfod cynnal talpiau helaeth o'r ddrama, wrth egluro cefndir epig y stori, ac atgoffa'r gynulleidfa o hanes Groeg, a ffawd y duwiau ar bob cymeriad.
Cryf hefyd oedd y bonheddwyr brenhinol, gyda Dominic Cooper yn cyfleu'r tywysog bonheddig i'r dim, yn cael ei rwygo rhwng cariad ei llysfam a'i wir gariad, 'Aricia'. Roedd ei bresenoldeb yn llygad yr haul ar gychwyn y ddrama yn effeithiol, a'r chwys yn diferu ar ei freichiau yn arwydd o'r gwres a'r dagrau sydd i ddod. Pan gamodd y bonwr Stanley Townsend i'r llwyfan fel y brenin, yn dychwelyd wedi bod ar goll am chwe mis, roedd ei osgo, maint ei gorff, a'i wedd barfol a boliog yn taro deuddeg. Bron na allwn i gydymdeimlo a'r frenhines wrth geisio porfa brasach i'w diddanu! Dyma un o gewri Groeg, yn ail i 'Hercules', ac roedd portread Townsend yn dderbyniol iawn, wrth erfyn am i'r duwiau ei gynorthwyo.
Gosodwch y cyfan oddi mewn i set greigiog, tywodlyd o furiau moel Bob Crowley a goleuo heulog Paule Constable, ac mae cynhyrchiad Nicholas Hytner yn taro deuddeg. Falle bod dwyawr o ddialog barddonol Ted Hughes a llwyfan moel, di ddigwydd Hytner yn. syrffedus i lawer, ond yn swynol imi.
Yn anffodus, bydd y cynhyrchiad wedi dod i ben yn Llundain erbyn ichi ddarllen hwn, ond i'w weld yn Washington DC, UDA ddiwedd mis Medi!
Friday, 14 August 2009
Haf 2009
14/08/09
Wedi fy absenoldeb yr wythnos diwethaf, orig yr wythnos hon i egluro pam, ac i fodloni’r chwilfrydig ynglŷn â fy ngwaith o ddydd i ddydd yn Llundain! Falle bod rhaid ohonoch yn dychmygu fy mod yn treulio fy nyddiau yn hamddena ar lannau’r Tafwys, cyn suddo i sedd gyfforddus mewn theatr wahanol bob nos! Adegau prin iawn yw’r rheiny erbyn hyn! Dros gyfnod yr haf, mae’r ymweliadau theatr swyddogol yn prinhau, gan fod y “gwaith” yn llenwi pob dydd a nos!
Ers blwyddyn a hanner bellach, dwi’n arwain y tîm cenedlaethol brwdfrydig sy’n cael ei adnabod fel ‘Youth Music Theatre UK’. Dros gyfnod yr haf, mae gennym 17 drama gerdd yn cael ei berfformio ar draws gwlad o fewn 6 wythnos! O’r Ŵyl Ieuenctid Rhyngwladol yn Aberdeen i bellafion gorllewinol Plymouth; o’r Ŵyl ymylol yng Nghaeredin i ehangder llwyfan Stranmillis yn Belfast. Pobol ifanc rhwng 11 ac 21 oed yw’r diddanwyr, a chwmnïau wedi’u dethol o 1,400 o bobl ifanc a ddaeth i wrandawiadau drwy gydol Ionawr a Chwefror eleni. Cyfarwyddwyr, Coreograffwyr a Chynllunwyr blaengar y West End a thu hwnt sy’n hyfforddi, a thechnegwyr medrus y maes yn rhoi graen ar y cyfan.
Mae’r cwmni eisoes wedi perfformio addasiad cyfoes o ‘Peter Pan’ yn yr Alban, yn ogystal â champwaith comig cerddorol Gerry Flanagan o gwmni nodedig ‘Shifting Sands’ sef ‘Fool’s Gold’ yn Plymouth. Gwaith y dramodydd dawnus Marie Jones, sef ‘The Chosen Room’ aeth â hi yn Belfast, tra bod cyfarwyddwr cerdd ‘Riverdance’ a Van Morrison, Mark Dougherty yng ngofal y gerddoriaeth.
Y penwythnos yma, y Gogledd sy’n mynd â hi gyda chynhyrchiad o ‘The Watchers’ yn Bradford a chyfansoddiad unigryw’r cerddor talentog Conor Mitchell sef ‘Eight’ yn ardal y Llynnoedd. Bydd yr Haf yn dod i ben yng nghyffiniau Llundain gyda dwy sioe fwya’r cwmni. Addasiad Howard Goodall a Nick Stimson o waith Shakespeare, ‘A Winter’s Tale’ yn Guildford, a’r cywaith cerddorol o gerddoriaeth James Bourne o’r grŵp ‘Busted’, ‘Loserville - The Musical’, o dan arweiniad cyfarwyddwr cerdd ‘Mamma Mia!’, Martin Lowe.
Yn ogystal â’r uchod, mae’r cwmni hefyd yn darparu 9 cwrs wythnos, sef y ‘Stiwdio’ sy’n dod â chriw at ei gilydd i greu drama gerdd o fewn 5 diwrnod, cyn ei berfformio ar y chweched dydd. Bob un yn unigryw, ac yn trafod pynciau amrywiol o ysbrydion i Aberfan.
Ers blwyddyn bellach, dwi wedi bod yn ceisio hybu’r cwmni yng Nghymru, a braf yw medru gweld ffrwyth y llafur ym mhresenoldeb Steffan Harri Jones o Drefaldwyn fel un o brif gymeriadau ‘A Winter’s Tale’. Yn ymuno â Steffan fel rhan o’r gerddorfa mae Bethan Machado o Gaerdydd, sy’n rhoi dau reswm imi fedru ymddiddan â hwy yn y Gymraeg! Braf hefyd yw medru arddangos y faner Gymraeg a grëwyd ar gyfer y cwmni, er mwyn medru denu rhagor o Gymry i wrandawiadau 2010!
Dwi di pregethu fwy nag unwaith yn y golofn hon dros y blynyddoedd am bwysigrwydd cysylltiadau a’r cyfleoedd i weithio gyda phobol o du hwnt i Gymru. Drwy gyfarfod a dysgu arddulliau gwahanol o lefaru neu symud neu ganu, mae’n agor meddylfryd gwahanol am berfformio, ac mae hynny i’w weld yn amlwg yn y waddol sy’n dilyn. Allwn i ddim bod yn fwy balch na medru clywed canmoliaeth Howard Goodall, a holl dîm cynhyrchu ‘A Winter’s Tale’ wrth glywed llais melfedaidd, profiadol Steffan Harri. Prawf yn wir fod gan y Cymry dalent, a da chi, dowch inni ddangos hynny i’r byd.