Friday, 26 June 2009

'Madam Butterfly'





Y Cymro – 26/06/09

Dau gynhyrchiad a dwy ganolfan wahanol, ac unigryw’r wythnos hon. Dau gynhyrchiad hefyd sydd ddim ond i’w weld am gyfnod byr iawn ,felly heidiwch yno da chi.

Yr opera sy’n mynd â hi gyntaf, wrth imi ymweld â’r Coliseum ar St Martin’s Lane i weld teyrnged i’r diweddar gyfarwyddwr Anthony Minghella, gydag ail-lwyfannu’r ENO o’i gynhyrchiad cofiadwy o ‘Madam Butterfly’ gan Puccini.

Carolyn Choa sy’n gyfrifol am y cyfarwyddo, a’r ffaith ei bod hi wedi gweithio ar y cynhyrchiad gwreiddiol gyda Minghella, yn sicr wedi bod o fudd. Dychwelyd hefyd mae Judith Howarth yn y brif ran, fel y ferch ifanc sy’n syrthio mewn cariad gyda’r Americanwr, cyn torri’i chalon o ganfod fod ganddo wraig.

Gweledigaeth ffilmig Mighella sy’n cynnal y cynhyrchiad, a hawdd gweld pam fod y cyfarwyddwr ffilm nodedig wedi troi ei law at gynfas gwag y theatr. Cefais fy swyno dro ar ôl tro gan y delweddau trawiadol ar y llwyfan - roedd gwylio’r rhes o’r geisha lliwgar yn cerdded dros y gorwel yn hynod o gofiadwy, felly hefyd y diwedd trasig wrth i sidan y kimono coch gael ei dasgu ar draws y llwyfan, fel afon o waed.

Roedd set drawiadol Michael Levine a goleuo Peter Mumford yn amlwg wedi’i hymchwilio a’u dylanwadu’n drwm gan y traddodiad theatr Siapaneaidd. Hoffais yn fawr yr awgrymu cynnil, yn enwedig yn y goedwig wrth i res o betalau ar linyn, ddiferu o’r awyr, gan barhau i ddisgyn trwy’r olygfa fel cafod o law.

Mae’n amlwg fod holl gyfarwyddwyr a chynllunwyr y West End wedi gwirioni gyda’r syniad o gael pypedau yn rhan o’r sioe, fel sydd i’w weld yn ‘War Horse’ a ‘Brief Encounter’ ar hyn o bryd. Mae cyfraniad cwmni Blind Summit yn ychwanegu ongl wahanol ar y cynhyrchiad. Ynghanol yr Ail Act, cawn ein swyno gyda chyrhaeddiad y plentyn, sef pyped hynod o effeithiol yn cael ei weithio gan Martin Barron, Stuart Angell a Eugenijus Sergejevas, Roedd ymateb a symudiadau’r pyped yn y drydedd act yn ddigon i godi deigryn, wrth ymateb i’r drasiedi sy’n digwydd o’i flaen.

Drwy gyfuno’r Gerddorfa o dan arweiniad medrus Edward Gardner, ynghyd â cherddoriaeth swynol a dramatig Puccini, a’r wledd o liwiau a lleisiau ar y llwyfan, dyma gynhyrchiad sy’n aros yn y cof am amser hir.

Mae ‘Madam Butterfly’ i’w weld yn y Colisium ar y dyddiau canlynol : 1af, 8fed, 10fed o ‘Orffennaf. Mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.eno.org

'King and I'




Y Cymro – 26/06/09

Ac i’r Royal Albert Hall y bu’n rhaid mynd am yr ail-gynhyrchied, nid yn unig i glywed cerddoriaeth swynol Rodgers & Hammerstein's, ond i weld y trawsnewid sydd wedi digwydd yno, er mwyn llwyfannu ‘The King and I’.

Allwch chi’m peidio syrthio mewn cariad gyda’r ganolfan hynod hon, sy’n fawreddog, yn foethus a chysurus. Y tro dwetha y bum i yma oedd flynyddoedd yn ôl, yng nghwmni’r amryddawn Annette Bryn Parri a’i theulu, ynghyd a Rosalind a Myrddin, ar gyfer cyngerdd Bryn Terfel a Jose Carreras. Atgofion melys iawn am yr ymweliad diwethaf, a chystal atgofion y tro hwn, wrth i Maria Friedman bortreadu’r foneddiges o Brydain, Mrs Anna Leonowens yn wych. Cyrraedd Siam er mwyn gwasanaethu Brenin y wlad (Daniel Dae Kim) wna’r athrawes, a buan iawn fe ddaw hi’n rhan annatod o’r teulu enfawr o blant a gwragedd.

Does na’n dwywaith mai cerddoriaeth gofiadwy Rodgers & Hammerstein's sy’n cynnal y gwaith, a hynny o dan gyfarwyddyd Gareth Valentine a Cherddorfa Gyngerdd y Royal Philharmonic. Mae gallu lleisiol a llwyfannu Friedman yn sicrhau bod y clasuron megis ‘Hello Young Lovers’ neu ‘Getting to Know You’ yn aros yn y cof yr holl ffordd adref!

Er bod yr Ail Act yn dioddef yn sgil prinder stori, a’r perfformiad unigryw ac anhygoel, ond braidd yn rhy hir o ‘Uncle Tom’s Cabin, mae’r naws, yr emosiwn a’r ddrama sy’n cael ei greu o’r cychwyn yn sicr o gynnal eich diddordeb.

Yn anffodus, bydd ‘The King and I’ yn dod i ben y Sul yma, yr 28ain o Fehefin. Mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.royalalberthall.com

Friday, 12 June 2009

'Sister Act'





Y Cymro - 12/06/09

‘Lleian byd, gora’n byd’ - dyna’r si yn y West End dyddia yma! Nid cyfeirio at faint y cynhyrchidau’n unig yw’r bwriad, na chwaith cyn lleied o adnoddau a dillad sy’n ar waith mewn sioeau fel ‘Naked Men Singing’, ond yn hytrach yr ystyr grefyddol. Lleianod yng ngwir ystyr y gair sy’n mynd â hi dyddiau yma, ac wedi ymadawiad y cwfaint cerddorol yn ‘The Sound of Music’, bellach mae’r Palladium yn llawn o wisgoedd du a gwyn, ar gyfer addasiad o ffilm enwog Whoppi Goldberg, ‘Sister Act’.

Peidiwch â digalonni, nid addasiad synthetig arall o ffilm lwyddiannus sydd yma, fel sydd i’w gael yn ‘Dirty Dancing’. Os fuo na ffilm yn barod i’w droi’n ddrama gerdd erioed, yna’r ‘gomedi gerddorol ddiwinyddol’ hon yw hi. I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd â’r stori, mae’n syniad syml, ond effeithiol. ‘Deloris Van Cartier’ (Patina Miller) yw’r gantores ifanc drwsiadus, sy’n treulio’r nosweithiau yn canu mewn clybiau nos, gan gymysgu gyda dihirod o bob lliw a llun. Wedi bod yn dyst i lofruddiaeth, a’i chymar ‘Shank’ (Chris Jarman), yr arch-ddihiryn yn gyfrifol am danio’r dryll, mae’n rhaid iddi ffoi. O droi at yr heddlu, mae’n ail-gyfarfod cyfaill o ddyddiau’r ysgol, ‘Eddie’ (Ako Mitchell) sy’n penderfynu mai’r lloches gorau, o dan yr amgylchiadau, yw cwfaint yr ‘Holy Order of the Little Sisters of Our Mother of Perpetual Faith’. Sheila Hancock yw’r ‘Mother Superior’ sy’n gofalu am y chwiorydd, dan arolygaeth ‘Monsignor Howard’ (Ian Lavender).

Does 'na’m dwywaith na set anhygoel Klara Zieglerova yw un o’r elfennau mwyaf llwyddiannus yn y cynhyrchiad yma, gan fod gwylio’r cyfan yn dod at ei gilydd, cystal â choreograffi’r cast. Rhyfeddais at ba mor rhwydd ac effeithiol y cawsom ein tywys o’r clybiau nos a strydoedd tywyll peryglus Philadelphia, Pennsylvania y saithdegau i dawelwch diwinyddol ac ysbrydol yr eglwys a’r cwfaint. Fe symudodd pob rhan o’r set gan droi o’r chwith i’r dde, i fyny ac i lawr a’r cyfan yn creu awyrgylch newydd ar gyfer pob golygfa wahanol.

Felly hefyd gyda gwisgoedd yr arch-gynllunydd setiau Lex Brotherston, sydd i’w ganmol am fedru godro cymaint o gynlluniau, lliwiau a themâu gwahanol i wisgoedd y lleianod, wrth i’r arian a’u gallu cerddorol gynyddu, gan roi inni’r show-stopper anhygoel tua diwedd y sioe,

Un o’r anawsterau mawr o droi’r stori hon yn ddrama gerdd yw’r brif stori. O gyrraedd y Cwfaint, mae ‘Deloris’ sy’n cuddio tu ôl i’r enw ‘Sister Mary Clarence’ yn dychryn o glywed pa mor wael yw canu’r côr. Ei gallu cerddorol yw ei hunig achubiaeth, ac mae’n mynd ati i weddnewid y côr, a chreu sain anhygoel, sy’n cyrraedd clustiau’r Pab erbyn diwedd y sioe! Roeddwn i’n bryderus o weld sut fyddai’r tîm cynhyrchu yn mynd at i greu sain y côr gwreiddiol, o gofio bod angen digon o gorws swynol i gynnal unrhyw ddrama gerdd.

Oherwydd yr elfen storïol yma, rhaid cyfaddef bod o leia’ ugain munud cynta’r sioe braidd yn araf, a digynnwrf, wrth ddibynnu ar unigolion i ganu yn hytrach na’r agorawdau cerddorol mawreddog nodweddiadol sy’n rhoi blas y sioe o’r nodyn cyntaf. A bod yn onest, doedd y côr gwreiddiol yn y cwfaint ddim yn swnio’n rhy ddrwg (fel y gobeithiais!) a’r unig wendid amlwg oedd eu diffyg hyder. Wedi dweud hynny, roedd y gwrthgyferbyniad erbyn diwedd yr Act gyntaf a thrwy weddill yr ail act yn ddigon i chwythu pob diferyn o lwch dramatig o do’r Palladium!

O ran perfformiadau, roeddwn i’n hapus gyda’r newydd-ddyfodiad i’r West End, Patina Miller yn y brif ran, er bod yna dueddiad weithiau i efelychu Whoopi yn y gwreiddiol. Llwyddodd Sheila Hancock i roi ei stamp ei hun ar y ‘Fam’, ac er bod ganddi ambell i linell gwan yma ac acw, roedd ei hurddas, ei phrofiad a’i gallu yn amlwg. Seren arall y sioe heb os yw’r hen wraig ‘Sister Mary Lazarus’ (Julia Sutton) sy’n serennu ynghanol y cast ifanc, ac yn brawf sicr o’r gri bresennol am yr angen i greu rhannau swmpus i actorion benywaidd hŷn!

Mae’n sioe sy’n haeddu cael ei gweld. Allai’m dweud bod alawon Alan Menken mor gofiadwy â’i waddol arferol, na stori Cheri a Bill Steinkellner yn llawn tensiwn a hiwmor, ond mae yma ddigon o liw, llawenydd a lleianod i gadw unrhyw lwyfan yn llawn am flynyddoedd i ddod.

Mwy am y sioe drwy ymweld â www.sisteractthemusical.com

http://www.youtube.com/watch?v=tTnPt2QuGQ4

Friday, 5 June 2009

'A Doll's House'



Y Cymro – 5/6/09

Mae clec y drws ar ddiwedd y ddrama ‘Tŷ Dol’ gan Ibsen yn un o’r digwyddiadau mwyaf dramatig ym myd y theatr. Heb os, fe newidiodd feddwl cynulleidfaoedd y cyfnod, gan agor y drws ar feddylfryd newydd yn yr Oes Fictoria. Roedd agwedd a phenderfyniad prif gymeriad y ddrama, y fam a’r wraig ‘Nora’, i adael ei gŵr a’i theulu yn dipyn o glec, a honno’n glec sydd i’w deimlo hyd heddiw.

Addasiad Zinnie Harris o glasur Ibsen yw cynhyrchiad diweddara'r Donmar Warehouse, a chynhyrchiad roeddwn i’n ffodus iawn o fedru cael tocyn i’w weld. Mae’r ddrama wreiddiol wedi’i dreisio yn ôl rhai beirniaid, gan fod yr addasydd wedi ail leoli’r ddrama yn Llundain ym 1909 yn hytrach na Norwy 1879. Aeth ‘Nora Helmer’ yn ‘Nora Vaughan’ (Gillian Anderson) a’i gŵr ‘Torvald’ yn ‘Thomas’ (Toby Stephens). Cael ei thrin fel dol mae’r ‘Nora’ blentynnaidd gan ei gŵr busnes hunanol, a phan ddaw cysgodion a chyfrinachau ddoe yn ôl i ysgwyd y teulu, mae’r ‘llygoden fach’ yn troi’n deigr ffyrnig, gan frathu’i gŵr a newid eu byd.

Llwyddiant yr addasiad yw lleoli’r cyfan ynghanol gwleidyddion Llundain, a sawl llinell am onestrwydd yn denu môr o chwerthin yn yr hinsawdd bresennol. Llithrodd y llinellau slic o enau’r actorion mor rhwydd â’r arian i goffrau’r gwleidyddion. Roedd ambell i air fel ‘sod’ a ‘testicles’ yn anghyffyrddus o anaddas yn y cyfnod dan sylw, ond fe weithiodd yr addasiad yn fy marn i.

Gillian Anderson fel ‘Nora’ yw prif atyniad y cynhyrchiad, a’r cynulleidfaoedd yn heidio yno i weld seren y gyfres ‘X Files’ yn dod ag urddas a phortread hynod o gofiadwy o’r cymeriad unigryw yma. Roedd hi’n fraint ei gwylio, yn enwedig wrth i’w chymeriad newid o’r naïf i’r nerthol, o’r hudol i’r ymosodol, a’r cyfan er mwyn ei gŵr, sy’n hunanol ddall i’r cyfan. Felly hefyd gyda pherfformiad Toby Stephens fel y gŵr sy’n cyd weithio’n berffaith gyda’r foneddiges Anderson. I ychwanegu at y cast cryf mae’r cyn ‘Dr Who’ Christopher Eccleston fel y cyn wleidydd ‘Neil Kelman’ sy’n portreadu’r cyfreithiwr drwgdybus ‘Krogastad’ yn y gwreiddiol. Twyll a blacmel er mwyn ceisio adennill ei enw da yw prif fwriad ‘Kelman’, ac mae’r ffaith bod ‘Nora’ wedi benthyg arian ganddo er mwyn helpu’i gŵr yn fêl ar ei fysedd. Doedd portread Eccleston ddim yn taro deuddeg cystal â’r ddau arall, er iddo wella yn y drydedd act wrth i ddiwedd taclus nodweddiadol Ibsen ddod â’r cyfan ynghyd.

Hoffais yn fawr set drawiadol Anthony Ward drwy leoli’r digwydd yn y llyfrgell Fictorianaidd hanner gwag, gyda’r bocus o lyfrau blith draphlith a’r goeden Nadolig moel yn drawiadol iawn. Roedd defnyddio mynedfa’r theatr fel prif ddrysau’r ystafell yn effeithiol iawn, yn enwedig felly gyda chymorth goleuo Hugh Vanstone a’i gysgodion yn ddigon i yrru ias oer i lawr fy nghefn.

Symlrwydd cynhyrchiad Kfir Yefet oedd yn apelio ac addasiad modern Zinne Harris yn ychwanegu at rwyddineb y gwrieddiol. Mae ‘A Doll’s House’ i’w weld yn y Donmar tan y 18fed o ‘Orffennaf. Mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.donmarwarehouse.com