Friday, 3 April 2009

'Priscilla Queen of the Desert'







Y Cymro – 3/4/09

Dynion mewn ffrogiau yw’r ffasiwn ddiweddara i daro’r West End!. Michael Ball yn y sioe 'Hairspray’, Graham Norton yn ‘Le Cage Aux Folles’ a rŵan Jason Donovan yn y sioe ddiweddara i agor yma, ‘Priscilla Queen of the Desert’ yn Theatr y Palace. Ond nid Jason yw’r unig un sy’n cael y fraint o wisgo’r ffrogiau a rhai o’r gwisgoedd mwyaf lliwgar imi’u gweld erioed, oherwydd ymysg y cast mae dau Gymro - Oliver Thornton sy’n hanu o'r Fenni a’r Cymro o Lanrwst, Craig Ryder.

Mae’r sioe liwgar, dros ben llestri hon, yn seiliedig ar y ffilm enwog o Awstralia, o’r un enw, a ryddhawyd ym 1994. Adrodd hanes tri gŵr hoyw yw nod y ffilm, wrth i un ohonynt benderfynu croesi’r paith o Sydney i Alice Springs er mwyn cyfarfod ei fab, ac ail-gyfarfod ei wraig. Jason Donovan yw ‘Tick’ neu ‘Mitzi’ (pan yn ferch) sydd gorfod delio efo’r angst o gyfarfod ei fab, ‘Benjamin’ a’i wraig ‘Marion’ (Amy Field). Mae’n perswadio ei ddau gyfaill y transsexual oedrannus ‘Bernadette’ (Tony Sheldon) a’r ‘Adam’ golygus, neu ‘Felicia’ gegog (Oliver Thornton) i ymuno ag o ar y bws pinc a enwir yn ‘Priscilla’.

Er y cecru a’r cwyno, y cwffio a’r cega, trwy gydol y daith, mae’r tri - neu’r tair - yn dod i ddysgu llawer mwy am ei gilydd, ac am gariad. Er yr holl ysgafnder, yr hiwmor, yr hwyl a’r miliynau o blu a sequins, mae yma ymdriniaeth onest o’r angen am gariad ac unigrwydd.

Wrth ymweld â sawl pentref gwahanol ar y daith, mae’r tri yn cyfarfod â llu o gymeriadau gwahanol gan gynnwys ‘Bob’ (Clive Carter) a’i wraig unigryw ‘Cynthia’ (Kanako Nakano) sydd â’r gallu rhyfedda i wneud triciau gyda pheli ping-pong! (ddwedai ddim rhagor, ond mae’n sgil arbenigol iawn!!) Er doniolwch y cymeriadau, mae yma dristwch, sy’n diweddu mewn hapusrwydd.

Unwaith eto, gyda’r sioe newydd hon, mae ymdrech i greu cyfanwaith lliwgar bythgofiadwy, ac yn sicr, mae’n llwyddo. Mae’r clod am hynny yn mynd i gynllun set Brian Thomson a gwisgoedd Tim Chappel a Lizzy Gardiner. Yr hyn sy’n ganolog a hanfodol i’r stori yw’r bws, ac mae’n werth ei weld. Unwaith eto, mae gogoniant y theatr i’w weld yn amlwg, wrth i’r gynulleidfa synnu o weld y bws, llawn ei faint, yn troi, agor a newid ei liw o flaen ein llygaid. Felly hefyd gyda’r amrywiaeth o setiau sy’n disgyn i’w lle o flaen ac uwchben y bws, wrth gyfleu’r daith neu’r atgofion sy’n cael eu crybwyll.

Does na’m dwywaith fod y sioe wedi’i hanelu at y gynulleidfa hoyw, gan fod y theatr ar gyrion stryd unigryw'r Old Compton. Dwi’n sicr hefyd bydd y sioe yn denu’r gynulleidfa fenywaidd hŷn, er mwyn dotio at y gwisgoedd a’r gerddoriaeth adnabyddus. Adloniant yw’r nod, ac mae’n bechod nad yw’r sioe yn delio’n fwy amrwd gyda’r thema o’r tad cyfunrywiol, yn ceisio dod i delerau gyda’i fab, a’i wraig. Yn hynny o beth, ynghanol y lliw a’r cymeriadau cartŵn, roedd portread sensitif, tawel a real Jason Donovan i’w ganmol yn fawr. Roedd ei ddatganiad emosiynol o’r gân ‘I say a little prayer for you’, o fewn y cyd-destun newydd, yn gofiadwy iawn. Felly hefyd gyda Tony Sheldon ac Oliver Thornton, sydd, er gwaetha’r mawredd a’r gyfaredd, yn daearu’u cymeriadau, gan roi cig a gwaed arnynt.

Braf unwaith eto oedd cael gweld Craig Ryder ymysg yr ensemble, yn portreadu amrywiol gymeriadau, ac ef hefyd sydd â’r dasg anodd o orfod camu i esgidiau Jason Donovan, ar ambell i berfformiad. Dau Gymro unwaith yn rhagor, mewn rhannau blaenllaw, ar lwyfan y West End. Gwych iawn.

Os am noson o adloniant pur, heb boeni am safon y stori gwan, ac ambell i gân sy’n cael ei feimio, heidiwch heb os i weld y sioe yma. Adloniant yw’r nod, ac adloniant sy’n cael ei gyflwyno, ymhob ystyr o’r gair. O’r llwyfan llawn lliw i’r trac sain ddi-dor o glasuron disco a dawns, ymunwch â’r bws, a mwynhewch y daith.

Mwy am y sioe drwy ymweld â www.priscillathemusical.com

No comments:

Post a Comment