Friday, 13 March 2009
'Plague over England'
Y Cymro – 13/3/09
Dwi’n siwr bod cyrraedd y West End yn nod enfawr gan lawer i actor, gyfarwyddwr neu ddramodydd. Mae’r statws o fod yn rhan o gynhyrchiad neu fedru nodi presenoldeb un o theatrau’r West End ar y CV yn atyniad mawr. Gyda degau o theatrau llai yn Llundain yn cynnig y gofod a’r cyfle i lawer gyd-weithio ar gynhyrchiad, a chodi’r geiriau o’r ddalen i’r llwyfan, mae o hefyd yn gyfle i ddarpar gynhyrchydd neu gwmni i weld fersiwn cynnar gyda’r bwriad o’i ddatblygu a’i wahodd i’r West End.
Flwyddyn yn ôl, dwi’n cofio canmol cynhyrchiad arch-adolygydd yr Evening Standard, Nicholas de Jongh, o’i ddrama ‘Plague over England’ yn un o theatrau llai y ddinas, y Finborough ger Earls Court. Cefais fy ngwefreiddio gan y ddrama a’r cynhyrchiad, yn enwedig felly gan befformiad y prif actor Jasper Britton a gwaith cynllunydd preswyl y Finborough, Alex Marker.
Fel y rhagdybiais bryd hynny, mae’r cynhyrchiad bellach wedi cyrraedd Theatr y Duchess, ac wedi nythu yng nghartref y ddrama gerdd ‘Buddy’ sydd bellach wedi dod i ben. Yn ogystal â chartref newydd, mae sawl actor newydd wedi ymuno â’r cwmni, gan gynnwys un o fy hoff actoresau, yr amryddawn Celia Imrie. Sawl rheswm felly dros ddal yr 87, a chyrraedd ardal Aldwych ar y Strand.
Hanes yr actor byd enwog Syr John Gielgud yn cael ei ddal, o dan amgylchiadau amheus, mewn toiled cyhoeddus yn Chelsea ydi hanfod stori’r ddrama ‘Plague Over England’ . Trwy gyfres o olygfeydd sy’n gosod naws y Pumdegau i’r dim ar y dechrau, a’r straen oedd ar y gymuned hoyw i guddio’i rhywioldeb, a thrwy hynny, i geisio pleser corfforol mewn mannau cyhoeddus, mae’r ddrama yn gofnod gwerthfawr o gyfnod lliwgar, ond pryderus i sawl gŵr ifanc.
1953 oedd y flwyddyn, a Syr John (Michael Feast)) yn actor adnabyddus a llwyddiannus iawn ar lwyfannau Llundain. Ym mis Mehefin y flwyddyn honno, cafodd ei urddo yn farchog, ac yna gwta bedwar mis yn ddiweddarach, ar yr 21ain o Hydref, cafodd ei hudo neu ei wahodd gan blismon ifanc golygus ‘Terry Fordham’ (Leon Ockenden) i ‘ddeisyfu act wrywgydiol mewn man cyhoeddus’. Yn dilyn ei arestio, ceisiodd gadw’r cyfan yn dawel, ac allan o sylw’r cyhoedd. Ymddangosodd yn y Llys y bore canlynol, gan dderbyn dirwy o £10. Ond buan aeth y stori ar led, ac fe ymddangosodd y stori yn holl bapurau Llundain.
Drwy gyfres o olygfeydd efo’i gyd-actor a’i gyfaill ar y pryd ‘Y Fonesig Sybil Thorndike’ (Celia Imrie) ynghyd â’i gyfaill a’i gyd-adolygydd hoyw ‘Chiltern Moncrieffe’ (John Warnaby) fe welwn effaith y digwyddiad ar hyder a chymeriad yr actor, ei bryder dros ei ffolineb, a'i ystyriaeth dros ildio ei ddyrchafiad o’i urddo.
Rhywle rhwng y Finborough a’r Duchess, collwyd hud y cynhyrchiad gwreiddiol. Falle bod hynny, yn bennaf, oherwydd absenoldeb Jasper Britton fel ‘Gielgud’ a Nichola McAuliffe fel ‘Thorndike’. Er cystal ymdrech y cynllunydd Alex Marker i geisio cyfleu'r un arddull o set â’r Finborough, gyda’i furiau troi yn cyfleu’r amrywiol leoliadau o theatr i theatr, o’r toiled cyhoeddus a’i wrinal Fictorianaidd i swyddfa’r heddlu, ac yna’r llys - doedd y cyfan ddim yn gweithio cystal ag agosatrwydd y gwreiddiol.
Oherwydd y rhwystredigaethau uchod, dioddefodd y sgript yn ogystal ag er bod sgript De Jongh i gyfoethogi yn gorlifo â dywediadau ffraeth Gielgud a’i hiwmor sych, roedd adlais o felodrama a ffars yn gwanhau’r cyfan.
Does 'na’m dwywaith y bydd y gymuned hoyw hŷn yn ymfalchïo fod y pynciau yma yn cael eu trin a’u trafod mor agored, a hynny ar lwyfan y West End. Ond o ran y ddrama, ac o bosib gyrfa ambell i actor, gwell fyddai anghofio’r hyn a welais i. Enghraifft sicr o gynhyrchiad na ddylid fod wedi’i wahodd i’r West End, heb yr elfennau gwreiddiol a’i gwnaeth yn llwyddiant.
Mwy o wybodaeth am y pla, drwy ymweld â www.kenwright.com
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment