Friday, 27 February 2009
‘Der fliegende Holländer’
Y Cymro – 27/2/09
Mae’n Ŵyl Ddewi, a pha ffordd well i ddathlu, na thrwy ymweld â’r Tŷ Opera brenhinol, i weld y brenin cerddorol ei hun, Bryn Terfel, yn crwydro’r moroedd fel y llongwr unig a gwelw yng nghampwaith cerddorol Wager, ‘Der fliegende Holländer’. I’r rhai a gysgodd mewn gwersi Almaeneg, falle bod ‘The Flying Dutchman’ yn deitl llawer mwy cyfarwydd, gyda Bryn yn portreadu’r ysbryd llwydaidd o Iseldirwr, sy’n ceisio gwir gariad, er mwyn trechu’r ffawd sy’n ei lethu.
O’r cychwyn stormus, wrth i’r dagrau o donnau’r môr ddiferu ar y llen llwyd, i gyfeiliant y dymestl gerddorol o ddyfnderoedd y gerddorfa, roedd hi’n amlwg fod y cynhyrchiad yma am fod mor ddramatig â’r gwaddol gan Wager. Wrth i’r Capden ‘Daland’ (Hans-Peter König) orfod llywio’i long enfawr i Fae cyfagos, er mwyn osgoi’r storm ar ei ffordd gartref, daw’r ‘Llywiwr’ (John Tessier) ar fwrdd y llong i hiraethu am weld ei gariad ar y lan. Yn ddiarwybod iddo, mae llong ddieithr yn morio gerllaw, sy’n cael ei gyfleu yn hynod o drawiadol wrth i ‘Senta’ (Anja Kampe) merch y Capden, gludo ac anwesu llong hwyliau fechan yn ei breichiau, a’i osod i arnofio ar wyneb y dŵr sy’n gorchuddio blaen y llwyfan.
Terfel, a’i alawon lleddf, yn galaru am gariad a bywyd o ddedwyddwch yw’r cymeriad nesaf i ymddangos, a buan iawn mae’n ymddiddan gyda Cadpen y llong, sy’n derbyn ei roddion hael o emau a thlysau. Mae’r Capden yn gaddo llaw ei ferch, ‘Senta’ i’r dieithryn dychrynllyd, sy’n amheus, ac eto’n falch fod gwaredigaeth ar y gorwel.
Gogoniant y theatr imi, ydi’r gallu i yrru iâs oer i lawr fy nghefn, ac roedd cyrhaeddiad yr Ail Act, a’r newid a fu ar y llwyfan heb doriad, yn anhygoel. I lawr o uchelderau’r llwyfan y disgynnodd ffactri o beiriannau gwnïo, 32 ohonynt i fod yn union mewn pedair rhes o wyth. Bob un, o be welais i, yn beiriant llawn, gyda’i dyrbin a’i sbardun, a’i olau neon uwchben. Disgynnodd y cyfan yn un cyfanwaith o brysurdeb, wrth i’r merched, gan gynnwys ‘Senta’ a ‘Mary’ (Clare Shearer) ymhyfrydu yn chwedl yr Iseldirwr sy’n hedfan. Wrth ganu’r faled enwog am yr Iseldirwr, mae’n amlwg fod ‘Senta’ wedi gwirioni gyda’r syniad o’r dieithryn trist, ac mae’n syfrdanu’i chyfeillion drwy ddatgelu ei bwriad i achub y truan o’i dranc.
Wrth i long ‘Daland’ ddychwelyd i’r lan, rhuthro yno wna’r merched, yn enwedig felly wrth weld llong y dieithryn yn ogystal, gyda’r addewid am waed newydd i’w brofi! Cyn ymadael i fynd i gyfarch ei thad, mae ‘Senta’ yn derbyn ymweliad gan ei chariad ‘Erik’ (Torsten Kerl) sydd eisoes wedi clywed am fwriad ‘Senta’ i achub y ‘dieithryn chwedlonol’, ac sy’n poeni am eu perthynas.
Wrth i’r ffactri ddiflannu yn yr un modd ag y cyrhaeddodd, dyma gyfle i’r tad gyfarch ei ferch, ac i gyflwyno’r dieithryn o Iseldirwr iddi, fel darpar ŵr. Dyma un o uchafbwyntiau’r gwaith imi, yn neuawd gwefreiddiol Terfel a Kampe. Cafodd yr anwyldeb, y pryder, y gobaith a’r cariad ei gyfleu drwy allu meistrolgar y ddau o gerddoriaeth Wagner, aeth yr iâs oer i lawr fy nghefn unwaith eto.
Fel gydag unrhyw Glasur chwedlonol, mae’r diwedd yn drasig, a’r cyfan yn cael ei lwyfannu gyda’r un manylder a gweledigaeth ac a welais yn yr Actau blaenorol.
Drwy allu cerddorol Marc Albrecht, cefnogaeth leisiol Corws yr Opera Frenhinol, cynllun set Michael Levine, goleuo creadigol David Finn a chyfarwyddo medrus a dyfeisgar Tim Albery, sicrhawyd bod yma gynhyrchiad cadarn a chofiadwy. Gyda balchder y cymeradwyais o wybod fod gan y Cymry hefyd ran sylweddol yn eu clod.
Perfformiadau sy’n weddill : 1, 4, 7 a 10fed o Fawrth. Mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.roh.org.uk
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment