Friday, 26 December 2008

'Sunset Boulevard'





Y Cymro – 26/12/08

Does 'na ddim amheuaeth mai’r dewin cerddorol Andrew Lloyd Webber fu’n rhannol gyfrifol am fy hoffter o ddramâu cerdd. Un o’i lwyddiannau cynnar, ‘Cats’ oedd y ddrama gerdd lawn gyntaf imi’i weld, a hynny yn y Winter Gardens yn Blackpool o bob man! Gwrando’n ddyfal am flynyddoedd wedi hynny ar gasetiau (gan mai hogyn o’r 80au ydw’i!) o’i sioeau eraill fel ‘Phantom of the Opera’, ‘Evita’, ‘Joseph’ ac ‘Aspects of Love’. Fe brynais i sawl casgliad o’i ganeuon gorau hefyd, o bryd i’w gilydd, a dotio ar rai o’i alawon mwyaf cofiadwy o’r sioeau eraill. Un o’r alawon hynny oedd ‘A Perfect Year’ o’r sioe ‘Sunset Boulevard’ sy’n seiliedig ar ffilm Billy Wilder o’r un enw.

Pan glywais i fod Craig Revel Horwood, sy’n fwy cyfarwydd ar hyn o bryd fel un o’r beirniaid ar y gyfres ‘Strictly Come Dancing’, wedi cyfarwyddo fersiwn newydd o’r ddrama gerdd ‘Sunset Boulevard’ yn y Comedy Theatre, Leicester Square, roeddwn i wrth fy modd yn derbyn y gwahoddiad i’w weld.

Fues i yn y theatr fechan hon yn gynharach eleni yn gweld cynhyrchiad penigamp o ddwy ddrama fer Harold Pinter, felly roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr am gael dychwelyd yno. Roedd gen i fy mhryderon, gan imi wybod fod y theatr mor fychan, heb fawr ddim lle i’r actorion heb sôn am y gerddorfa. Ond, mae’n amlwg fod y cyfarwyddwr di-flewyn-ar-dafod wedi rhagweld hynny, oherwydd y cerddorion oedd yr actorion, fel petai! Roedd pob aelod o’r cast hefyd yn rhan o’r gerddorfa, ac yn canu eu hofferynnau yn ogystal á’r geiriau.

I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd â’r ffilm, hanes y difa oedrannus ‘Norma Desmond’ (Kathryn Evans) sy’n datblygu neu’n gorfodi cyfeillgarwch gyda llanc ifanc golygus ‘Joe Gillis’ (Ben Goddard) yw hanfod y stori. Wrth i ‘Norma’ ysu am ail-danio ei gyrfa ar y sgrin fawr, ysu i gychwyn ei yrfa fel awdur yw nod ‘Joe’. Ymhen fawr o dro, mae ‘Norma’ yn syrthio mewn cariad gyda’r llanc ifanc, sydd eisoes mewn cariad gyda ‘Betty’ (Laura Pitt-Pulford), ac fel y gallwch fentro, mae 'na ddiweddglo trasig iawn i’r cyfan.

Mae cynhyrchiad Revel-Horwood yn cychwyn gyda’r drasiedi, wrth i’r actorion a’u hofferynnau ddod i’r llwyfan fesul un, gan ddatgan eu galar drwy’r alawon. Rhaid imi gyfaddef, nad oeddwn i’n gyffyrddus gyda’r arddull hwn, ac roedd gweld actor / cantor / offerynnwr yn ceisio canu / dawnsio / actio i gyd ar yr un pryd yn ormod i’w wylio ar brydiau. Dim ond gydag ymddangosiad y foneddiges ‘Desmond’ wrth iddi droedio’n osgeiddig i lawr y grisiau ar dro y daeth y cyfan yn fyw, a pherfformiad hynod o felodramtig Kathryn Evans yn gweddu i’r dim i naws y sioe.

Gwan, a rhy felodramatiadd oedd y gweddill, gyda Ben Goddard yn gor-ymdrechu i fod yn annwyl a golygus. Roedd set Diego Pitarch yn ddigon derbyniol ar yr olwg gyntaf, ond buan iawn death y cyfan yn syrffedus o ddiflas gyda fawr ddim yn newid, heblaw am y meri-go-rownd o risiau ar dro oedd yn troi a throi heb bwrpas. Diflas hefyd oedd y gerddoriaeth drwyddi draw, heb fawr o gyfle i greu mawredd a llawnder sgôr wreiddiol Lloyd Webber. Oni bai am ddatganiadau gwefreiddiol Kathryn Evans o ‘With one look’ ac ‘A perfect year’, go brin y byddwn i wedi aros yn fy sedd.

Siom ar drothwy’r ŵyl felly, a machlud cynnar fentrai awgrymu ar y cynhyrchiad yma, fel y rhagdybiais ar gyfer ‘Imagine This’ a ddaeth i ben ddau fis yn gynnar cyn y Nadolig.

Mwy o fanylion ar www.sunsetlondon.com

Friday, 19 December 2008

'Edward Sissorhands'






Y Cymro – 19/12/08

Un o fy hoff ffilmiau yw ‘Edward Sissorhands’ o waith Tim Burton. Trwy bortread Johnny Depp o’r Frankenstein o gymeriad ‘Edward’ sy’n cael ei greu gan y dyfeisydd sy’n byw yn y plasty gothig ar ben y bryn, fe grëir ffilm gofiadwy, ffantasiol a rhamantaidd iawn.

Cyn medru creu ei ddwylo, mae’r dyfeisydd oedrannus yn cael trawiad ar ei galon, ac yn marw. Gadewir Edward druan gyda dwy law sydd wedi’i greu o lafnau sisyrnau amrywiol. Wedi cael ei fabwysiadu gan deulu unigryw yn y dref gyfagos, buan iawn y daw Edward yn dipyn o seren, wrth arddangos ei sgiliau arbennig i dorri’r gwrychoedd a’r llwyni yn siapiau trawiadol. O’r gwair at y gwallt, ac mae pob copa walltog yn y dref eisiau i Edward roi ei stamp ffasiynol ar eu pen. Ond yr hyn sy’n creu’r gwrthdaro yw’r ffaith bod Edward yn syrthio mewn cariad gyda merch benfelyn y teulu - Winona Ryder, yn groes i ddymuniadau ei chariad brwnt. Wrth i bethau boethi rhwng y ddau, a chalon ‘Kim’ gael ei doddi gan anwyldeb Edward, fe dry’r dref yn ei erbyn, a’i orfodi i ddychwelyd i’w guddfan gothig ar ben y bryn.

Ac yno y mae Edward o hyd, yn creu cerfluniau o iâ er cof am ei gariad coll. Ac yn ôl yr hen wraig ar ddiwedd y ffilm, sy’n adrodd y stori, mae’n annog pawb i gofio, bob tro mae hi’n bwrw eira, mae’n debyg mai Edward sy’n brysur yn ei blasty ar y bryn yn naddu’r iâ gyda’i lafnau prysur.

Stori hudolus yn wir, a phan glywais i fod y coreograffydd enwog Matthew Bourne wedi addasu’r ffilm yn gynhyrchiad llwyfan, roeddwn i’n sicr o’n nhocyn. Fe gofiwch imi weld cynhyrchiad Bourne o’r ‘Nutcracker’ ‘radeg yma'r llynedd yn Sadlers Wells, ac yn gynharach eleni yng Nghaerdydd. Ac fel gyda’i gynyrchiadau nodedig eraill fel ‘Carman’ a’i ‘Swan Lake’ i ddynion, roeddwn i’n sicr y byddai’r cynhyrchiad yn lobscows o liw, o setiau chwaethus, o gerddoriaeth gyfoethog a dawnsio penigamp.

Ac wrth gymryd fy sedd yn Sadlers Wells, ches i mo fy siomi. Yr hyn sy’n fy synnu dro ar ôl tro gyda’i waith ydi’r gallu sydd ganddo i lenwi’r llwyfan â’i ddanteithion, gan greu delweddau hynod o drawiadol. Mae’r cyfan yn ddibynnol ar gerddoriaeth emosiynol Danny Elfman o’r ffilm wreiddiol, sy’n rhoi’r pwyslais i gyd ar y symud a’r ystum corfforol.

Un o’r golygfeydd mwyaf cofiadwy yw’r modd mae’n rhoi bywyd i’r gwrychoedd yn y gerddi, wrth i’r dawnswyr – wedi’u cuddio gan ddail, ddechrau symud a dawnsio wrth i Edward eu torri. Yr un modd gyda’r olygfa yn salon trin gwallt ‘Edwardo’, a’r modd celfydd y datguddir inni’r creadigaethau blewog rhyfeddol o un i un.

Ar ddiwedd yr Act gyntaf, roeddwn i wedi gwirioni efo’r hyn welais i, ac yn dyheu am weld yr ail-ran, gan wybod beth oedd tranc Edward a’i gariad coll. Ond, yn anffodus, collwyd yr hud a’r stori wedi’r egwyl, a daeth y cytganau o ddawns yn rhy fawr a rhy hir, er mwyn ymestyn y cyfan. Dechreuais golli diddordeb yn yr hyn oedd yn digwydd ar y llwyfan, a surodd hyn fy mwynhad ohono.

Ac fel ro’n i wedi amau, ar ddiwedd y ddawns, ac Edward yn ôl yn ei guddfan o blasdy, fe ddechreuodd hi fwrw eira ar y gynulleidfa, wrth i’r gerddoriaeth chwyddo i’w gresiendo. Eiliad hynod o ddramatig, a rhywbeth y byddwn i fel arfer yn ei ganmol i’r cymylau, pe bawn i ddim yn eistedd yn union o dan un o’r ffynnonnau ewynnol!! Ychwanegodd gwlybaniaeth yr ewyn fwy o siom nag o ganmoliaeth y tro hwn.

Heb os, dwi’n siwr y daw’r cynhyrchiad yn ei dro i Gaerdydd unwaith eto, wedi gorffen ei daith ryngwladol ar hyn o bryd. Mwy o fanylion ar www.edwardscissorhands.co.uk

Friday, 12 December 2008

'Gethsemane'



Y Cymro – 12/12/08

Dau o ‘brif’ gynyrchiadau’r Hydref gafodd fy sylw i’r wythnos hon. Dau gynhyrchiad sy’n cael eu hybu’n ddiddiwedd yma yn Llundain, a dwy sioe sydd wedi gwerthu’u tocynnau bron i gyd, gyda’r mwyafrif wedi’u prynu cyn i’r sioe agor hyd yn oed.

Does 'na’m dwywaith fod enw’r dramodydd David Hare yn denu a disgwyl mawr am bob drama newydd, gyda’i farn bendant, agored a di-flewyn ar dafod am y byd Gwleidyddol. ‘Gethsemane’ yw ei gyfraniad diweddaraf i Theatr Genedlaethol Lloegr sy’n cael ei lwyfannu yn Theatr y Cottesloe ar hyn o bryd.

‘Ffuglen pur’ yw’r ddrama yn ôl y dramodydd, ond mae’r adolygwyr theatr a’r beirniaid gwleidyddol wedi pori’n hir dros y cynnwys, ac wedi llunio rhestr hir o gyffelybiaethau gyda’r hinsawdd bresennol.

‘Meredith Guest’ (Tamsin Greig) Ysgrifennydd Cartref y Llywodraeth yw prif gymeriad y stori, sy’n gorfod ail-ystyried ei bywyd gwleidyddol, yn sgil ymddygiad ei merch wrthryfelgar ’Suzette’ (Jessica Raine). Yn cuddio o dan y cyfan mae’r gŵr busnes cefnog ‘Otto Fallon’ (Stanley Townsend) sy’n cyfrannu arian mawr i’r Blaid Lafur, drwy hudo’r prif weinidog, ‘Alec Beasley’ (Anthony Calf) i’w blasty enfawr er mwyn cyflwyno darpar noddwyr iddo. Drwy gymorth cyn athrawes ‘Suzette’, ‘Lori Drysdale’ (Nicola Walker) a’i gŵr ‘Mike’ (Daniel Ryan) - y bobol gyffredin, os liciwch chi, mae disgwyl i’r gwleidyddion newid eu ffyrdd, gan ddechrau parchu’u teuluoedd a’u cyd-weithwyr. Ond, hyd yn oed wedi’r eiliad o amheuaeth, ac fel mae’r dyfyniad o Lyfr y Rhufeiniaid ar glawr y rhaglen yn awgrymu, ‘yn lle gwneud beth dw i eisiau ei wneud, dw i'n cael fy hun yn gwneud beth dw i'n ei gasáu’.

Siomedig oedd cynnwys y ddrama a chynhyrchiad Howard Davies ohoni. Er bod bocs wen o set Bob Crowley yn syml, tafluniwyd delweddau o’r ddinas brysur drosti, er mwyn ceisio ei bywiogi. Ond, roedd y cyfan mor llonydd, di-liw a di- ddyfnder, a’r cymeriadau mor ystrydebol â’r cynnwys. Roeddwn i wedi laru gyda phob ymson ar ddiwedd y golygfeydd, a’r cyfan yn trin y gynulleidfa’n blentynnaidd o nawddoglyd ar adegau.

Mwy o fanylion am y cynyrchiadau ar www.nationaltheatre.org.uk

'Hamlet'



Y Cymro – 12/12/08

A siom arall oedd yn fy aros wrth gyrraedd Theatr y Novello ddechrau’r wythnos ar gyfer noson y Wasg cynhyrchiad cwmni’r Royal Shakespeare o ‘Hamlet’ gyda’r ‘Dr Who’ presennol David Tennant yn y brif ran. Bu disgwyl mawr am y cynhyrchiad yma i gyrraedd y West End, wedi dros hanner cant o berfformiadau llwyddiannus yn Stratford dros yr Haf. Gyda’r tocynnau i gyd wedi’u gwerthu, ac ymchwiliad yr heddlu ar waith yn sgil y nifer cynyddol o docynnau ffug sydd wedi’i greu, roedd y tocyn euraidd hwn yn rhy dda i’w golli.

Wedi gwthio drwy’r dyrfa, a’r llu o wynebau cyfarwydd o’r cyfryngau, suddodd fy nghalon o ddallt nad oedd Dr Tennant yn bresennol yn sgil anaf i’w gefn. Roedd y siom i’w deimlo drwy’r dyrfa, a’r anghredinedd o wahodd y Wasg i weld cynhyrchiad sydd mor ddibynnol ar y prif gymeriad yn absennol! Yn ôl Llefarydd ar ran yr RSC, roedd y cwmni am i’r beirniaid werthfawrogi’r cynhyrchiad yn ei gyfanrwydd, ac nid rôl y prif actor yn unig.

Er cystal oedd perfformiad y dirprwy actor Edward Bennett fel y tywysog ‘Hamlet’, collwyd hud y cynhyrchiad yn absenoldeb portread Tennant ohono. Roedd set chwaethus o ddrychau a chanhwyllyron Robert Jones yn hynod o effeithiol, felly hefyd yng ngwisgoedd Christine Rowland a goleuo Tim Mitchell. Canmoliaeth hefyd i ‘Claudius’ (Patrick Stewart) a’r ‘Polonius’ ffwndrus (Oliver Ford Davies) a’r ‘Ophelia’ drasig (Mariah Gale).

Ond wedi’r aros, a’r disgwyliadau uchel, wythnos i’w chofio am y rhesymau anghywir oedd hi’r wythnos hon.

Mwy o fanylion am y cynyrchiadau ar www.rsc.org.uk

Friday, 5 December 2008

'War Horse'





Y Cymro – 5/12/08

Bu Tachwedd yn fis emosiynol iawn. Anghofiai fyth mor profiad ges i ar Sul y Cofio wrth sefyll wrth y Gofgolofn ar Whitehall a chymeradwyo’r miloedd o gyn-filwyr fu’n gorymdeithio. Y wefr wedyn yn nhawelwch y ddau funud, a synnu sut y medrai’r ddinas fod mor dawel. Ar ôl y Gwasanaeth, agosáu at y Gofeb, a’r môr o Bapϊau coch. Pob un a’i enw a’i atgof. Ond yr atgof mwya oedd y llanc deuddeg oed, yn beichio crio, wrth i’r heddlu ei annog i osod ei groes i goffau ei dad a fu farw yn Irac. Dyna ddod â’r Cofio yn nes adref, gan ddwysau pwysigrwydd y dydd a’n dyled ninnau iddynt.

Yr un balchder a chymeradwyaeth i Ifor ap Glyn a’i dîm cynhyrchu am y gyfres ‘Lleisiau’r Rhyfel Mawr’ a welais ar y Wê yn ystod y mis. Drwy’r geiriau a’r delweddau, cawsom ail-fyw’r cyfnod erchyll yma, a chael ein hatgoffa am yr Aberth dros Ryddid.

Yn goron ar y Cofio, ac yn wir, ar y flwyddyn o ddanteithion y profais i yma yn Llundain oedd cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Lloegr o ‘War Horse’ yn seiliedig ar nofel Michael Morpurgo o’r un enw. Cynhyrchiad ar y cyd gyda chwmni pypedau Handspring, sy’n gyfrifol am greu rhai o’r pypedau mwyaf effeithiol imi’u gweld erioed. Cynhyrchiad a grëwyd yn Hydref 2007, ond sy’n cael ei ail-berfformio ar hyn o bryd yn ôl y galw.

I’r rhai nag ŵyr am y nofel, mae’n stori ddirdynnol am fachgen ifanc o’r enw ‘Albert Narracott’ (Kit Harington) a’i fam ‘Rose’ (Bronagh Gallagher) a’i dad ‘Billy’ (Curtis Flowers) sy’n etifeddu ebol a enwir yn ‘Joey’, wedi i’r ‘Billy’ meddw ei ennill mewn Ocsiwn yn y Plwy. Wrth i’r ebol dyfu, tyfu hefyd wna’r berthynas glos, gyfeillgar a hynod o dwymgalon rhwng ‘Albert’ a’r ceffyl. Wrth i ysfa’r tad am arian gynyddu, mae’n frwydr barhaol i ‘Albert’ geisio cadw’r ceffyl, a rhwystro ymdrechion ei dad i’w werthu. Ond yng nghysgod y Rhyfel Mawr, mae’r arian a’r angen am geffylau o safon ‘Joey’ yn enfawr, a buan iawn, mae’r ceffyl yn ymuno â gweddill y llanciau ifanc ar Faes y Gâd. Wedi torri’i galon efo’r golled, mae ‘Albert’ yn dianc o afael ei deulu, ac yn dilyn ‘Joey’ i’r Drin.

A minnau gwta dair rhes o’r llwyfan enfawr yn Theatr yr Olivier, roedd gwylio’r actorion a’r pypedwyr yn gweithredu’r ceffylau yn anhygoel. Roedd pob ystum, emosiwn a meddwl y ceffyl i’w weld yn glir, a feddyliais i erioed y gallwn i gydymdeimlo cymaint gyda darnau o fambŵ a lledar amrywiol!

Roedd safon yr actio gan y cast enfawr o dros 20 o actorion yn wefreiddiol, yn enwedig felly’r teulu. Roedd cyfarwyddo a llwyfannu sensitif a syml Marianne Elliott a Tom Morris a Chynllunio Rae Smith yn cwbl briodol a chofiadwy. Does ryfedd fod gwaith cynllunio Basil Jones ac Adrian Kohler fu’n gyfrifol am y pypedau wedi ennill Gwobrau lu’r llynedd.

Cynhyrchiad fel ‘War Horse’ sy’n fy atgoffa o ble daw fy angerdd, fy nghariad a fy ngobeithion am bŵer y Theatr. Mae’r emosiwn, y teimlad a’r atgofion a grëwyd gan y cwmni o fewn y ddwy awr ac ugain munud euraidd yma yn amhrisiadwy. Os am geisio anrheg Nadolig i’w gofio am byth, mynnwch eich tocynnau nawr. Mae’r cynhyrchiad i’w weld yn Theatr Olivier tan Mawrth 19eg. Mwy o fanylion ar www.nationaltheatre.org.uk