Friday, 8 August 2008

'Cerddi'r Theatr' Emyr Edwards

Y Cymro 08/08/08

‘Gadewch i ni beidio twyllo n hunain, / ni’r Cymry sy’n eiddgar am weld / ein hawditoria’n llawn./ Nid yw pob tocyn wedi’i brynu, / pob sedd wedi ei gwerthu, / yn gwarantu llwyddiant theatr.’

Faswn i’n synnu dim petai dilynwyr selog y golofn hon yn meddwl bod yr hogyn Griffiths na ar ben ei focs sebon unwaith eto!. Ond mae’n braf iawn medru dyfynnu un o gerddi Emyr Edwards, o’i gyfrol newydd sy’n cael ei gyhoeddi'r wythnos hon, ‘Cerddi’r Theatr’.

Dyma gyfrol unigryw o ran ei natur, gan fod y cyfan o’r cerddi yn ymwneud â Byd y Theatr. O ‘Hamlet’ i ‘Wil Sam’, o ‘Wilbert’ i ‘Brith Gof’ ac o’r ‘Ddrama Gerdd’ i ‘Stanislavski’. Bob un yn mynegi barn a neges y Bardd am y pwnc dan sylw. Ond y brif neges, dro ar ôl tro, yw’r mai’r safon sy’n bwysig, ac nid y sylwedd. Yn y gerdd ‘Tŷ’n Llawn’ sy’n cael ei ddyfynnu ar gychwyn y golofn, mae’r neges yn glir. Yn ôl y Bardd, ‘Gall Cow-towio i hualau llyfr-gosod’ neu’r ‘ddrama-ddogfen sentimental’ neu hyd yn oed ‘hen ffefryn o nofel wedi’i haddasu’ alluogi unrhyw gwmni i lenwi ‘pob sedd bob nos am ganrif’ OND, a dyma’r gic, ‘ni chyffyrddir yng ngodreon tanbaid y gwir theatr’. Aiff yn ei flaen i ddatgan bod ‘rhaid wrth rymoedd eneiniol all dyrchafu drama’r byd a’r betws / i gyrraedd pinaclau mynegiant / yn nwylo eneidiau / ysbrydoledig.’

Dyma’r union neges dwi’n ceisio ei leisio ers bron i ddwy flynedd bellach, yn enwedig felly gyda chynnyrch ein Theatr Genedlaethol. Gresyn na fyddai Emyr Edwards wedi datgan ei neges yn fwy llafar, na’i guddio oddi mewn i gerddi, fel sydd yn y gyfrol hon.

Mae yma hefyd gerddi llai politicaidd os liciwch chi, cerddi sy’n cyfarch amrywiol destunau gan gynnwys ‘I’r ddarpar ddramodydd’, gan eu hannog i fod yn ‘arbrofwyr beiddgar’ ac i feiddio mentro ‘i gilfachau anghyfarwydd’ gan dorri ‘cwysi ffres, a rhyddhewch / ysbryd eich antur wrth drin tiroedd gwyryfol.’ Dyma eto faes sy’n RHAID inni ofalu amdano yn y Gymru sydd ohoni, gyda sawl darpar-ddramodydd bellach fel ynysoedd unigol ar goll yn chwilio am angor i’w mentora.

Hoffais yn fawr y gerdd i’r ‘Critig’ – Kenneth Tynan, a’r disgrifiad ohono gyda’r gallu i ‘lansio neu lorio sioe ag un ergyd o’i farn finiog’, a ‘chlinigol ei ddyfarnu / wrth iddo geisio gwella’r cancr / yng ngholuddion theatr’. Rhywbeth y medrwn innau uniaethu ag o.

Dro ar ôl tro oddi mewn i’r gyfrol, mae yma berlau sy’n tanio a disgrifiadau sy’n crynhoi naws a theimlad y testun. Cyfrol unigryw yn wir, a chyfrol gyda neges glir i’r darllenydd. Prynwch, darllenwch a dysgwch, a dowch inni fynegi ein teimladau’n llafar ac onest er budd dyfodol y theatr, a’n diwylliant.

Friday, 1 August 2008

'Her Naked Skin'






Y Cymro – 01/08/08

Dwi di dysgu gwers yr wythnos yma, a hynny drwy garedigrwydd Theatr Genedlaethol Lloegr. Roeddwn i wedi clywed llawer o sôn am ddrama newydd Rebecca Lenkiewicz, ‘Her Naked Skin’ sy’n cael ei lwyfannu ar hyn o bryd yn Theatr Olivier ar lannau’r Tafwys. Deallais, o’r hyn a ddarllenais, mai drama am Fudiad y Suffragettes oedd hon, a bod gan yr awdures ddiddordeb mawr yn y pwnc, byth ers iddi ganfod llyfr ar stondin marchnad dafliad carreg o’r theatr.

Fe gychwynnodd y ddrama drwy ddangos y delweddau enwog o Emily Wilding Davidson yn rhedeg o flaen Ceffylau’r Brenin yn y Derby ym mis Mehefin 1913. Dyma un o drasiedïau mwya’r ymgyrch, ac un o’r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes y frwydr am hawliau’r merched. Wedi’r driniaeth hynod o ddramatig o’r deunydd gweledol, a charlamu’r ceffylau yn cael eu plethu gyda haenau o haearn oedd yn cynrychioli’r carchar a’r cartrefi, cawsom ein cyflwyno i’r prif gymeriad ‘Lady Celia Cain’ (Lesley Manville) a’i gŵr, y gwleidydd, ‘William Cain’ (Adrian Rawlins). Drwy gynnwys golygfeydd yn y Senedd, cawsom weld agwedd amharchus y gwŷr tybiedig doeth yma wrth drafod y drasiedi yn y Derby, a’r diffyg diddordeb yn yr ymgyrch a’r tor cyfraith.

Buan iawn hefyd daethom i weld cryfder y merched oedd wedi dewis i ymgyrchu ac ymladd am eu hawliau, a hynny o bob oed wrth iddyn nhw dorri ffenestri, llosgi adeiladau a chynnal protestiadau. Yn eu mysg oedd y Foneddiges Cain, a gafodd ei charcharu yng Ngharchar Holloway, gyda’r gweddill. Yma eto, cawsom ein cyflwyno i ragor o’r ‘cymeriadau’, bob un a’i stori a’i resymau dros ymgyrchu. Yr un mwyaf cofiadwy, heb os, oedd ‘Florence Boorman’ (Susan Engel) y cymeriad hŷn, oedd, dybiwn i, fod i gynrychioli’r Emmeline Pankhurst, un o bileri’r Mudiad yn y cyfnod hwn. Yno hefyd oedd y ferch ifanc brydferth ‘Eve Douglas’ (Jemima Rooper) oedd wedi cael ei threisio pan yn ifanc, ac wedi lladd ei phlentyn ar ei enedigaeth. Wrth dreulio amser yn cyd-weithio yn y gegin, mae’r Foneddiges Cain yn dod yn gyfeillgar iawn gyda’r ferch ifanc, a chyn pen dim, fe dry’r cyfeillgarwch yn berthynas rywiol erotig. Yn anffodus imi, fe dry’r ddrama hefyd yn astudiaeth o berthynas y ddwy, ar draul hanes y Mudiad, a’r hyn roeddwn i eisiau ei weld a’i ddysgu.

Ar ddiwedd yr Act gyntaf, roeddwn i’n teimlo’n flin. Ai fi oedd wedi camddeall bwriad y ddrama, ‘ta wedi cael fy nghamarwain gan yr heip a fu ynghylch y cefndir? Allwn i mond gobeithio y byddai’r Ail Act yn mynd yn ôl at dranc yr Ymgyrch, a chyfle inni ddysgu mwy am y Frwydr bwysig yma yn ein hanes. Ond dychwelyd, dro ar ôl tro, wnaethon ni at hanes y berthynas rhwng y ddwy, oedd yn ceisio plethu hanes y Frwydr gyda’r frwydr bersonol. Yn anffodus, y stori bersonol enillodd y dydd, ac roedd hynny yn siom mawr.

Do, mi ddysgais fymryn yn fwy am yr hyn fu’n rhaid i’r Merched yma ddioddef yn y Carchar o’r bwydo-bwriadol i’r bwlio dyddiol, ond y wers fwya’ ddysgais i oedd y peryg i ragdybio’r hyn roeddwn i’n feddwl ro’n i am ei weld. Petawn i’n gwybod mai stori am ddynes ganol oed yn ymserchu mewn merch brydferth ifanc, yna go brin y byddwn i wedi bod mor awyddus i weld y ddrama.

Yn nhraddodiad gorau’r Ganolfan hynod hon ar lannau’r Tafwys, a’r amrywiaeth o gyfoeth sydd i’w gael oddi mewn, mae’n werth gweld y ddrama petai ond i werthfawrogi’r Set a’r modd y mae’r cyfan yn llifo o un olygfa i’r llall. Llifo yn rhy rhwydd efallai, oedd yn codi’r cwestiwn a’i drama lwyfan ‘ta drama deledu oedd yma mewn gwirionedd?. Yn sicr, roedd yna lawer iawn o olygfeydd cynnil, agos-atoch-chi, ond efallai ddim digon o’r golygfeydd mwy dramatig a swmpus.

Mwy o wybodaeth am y cynhyrchiad ar www.nationaltheatre.org.uk