Friday, 4 April 2008

'Frankenstein'





Y Cymro – 4/4/08

‘Frankenstein’, Theatr Cochrane ****

Tydio’n rhyfedd fel y gall gweledigaeth a dehongliad un cyfarwyddwr liwio barn cynulleidfa gyfan. Dyna’r profiad pleserus gefais yr wythnos hon o weld cynhyrchiad Theatr Gerddorol Ieuenctid Prydain o nofel enwog Mary Shelley, ‘Frankenstein’. Wedi blynyddoedd o ddychmygu’r anghenfil o greadigaeth a greodd y gwyddonydd Victor Frankenstein (Harry Lockyear) i fod yn llwyd-wyrdd, yn dal, yn hyll gyda bolltau ar ei wddf, roedd gweld ‘yr angylaidd’ lanc ifanc, golygus, penfelyn (Matt Brinkler) yn dod yn fyw o dan y blancedi gwaedlyd yn brofiad newydd. Penderfyniad y cyfarwyddwr a chyd-awdur y ddrama gerdd, Nick Stimson, oedd i gastio llanc ifanc golygus yn y rhan, gan newid y ddelwedd arferol o’r anghenfil.

Bwriad ‘Victor’ yn y nofel wreiddiol oedd i greu anghenfil prydferth, ond pan ddeffrodd y corff, mae’n ffieiddio ato. Yn ôl Shelley, roedd gan yr anghenfil ‘lygaid dyfriog melyn, croen tryloyw, irisau tywyll, gwallt du hir a thua wyth troedfedd o uchder’. Dyma mewn gwirionedd sy’n troi’r cariad tuag at ei greadigaeth yn atgas, ac sy’n arwain yr anghenfil i ddechrau lladd aelodau o deulu Frankenstein, sy’n arwain at y drasiedi.

Mae’r stori yn y nofel yn cychwyn ymhell o labordy Victor Frankenstein, ond yn hytrach ar gwch y Capden Robert Walton (Jos Slovick) i’r Gogledd o Gylch yr Artic. Yno, mae’n dod wyneb yn wyneb â ‘Victor Frankenstein’ sy’n wedi ymlâdd ac yn agos at farwolaeth, yn sgil hela’r anghenfil hyd eitha’r byd. Wedi ei achub o’r eira, mae ‘Victor’ yn dechrau adrodd y stori wrth y Capden, a hynny sy’n rhoi ffrâm i’r cyfan. Dyma’r hyn a geisiodd yr addasiad llwyfan ei gyflawni hefyd, trwy gael y cymeriad ‘Margaret’ (Tracey Mair) sef chwaer y Cadpen, i adrodd pytiau o lythyrau ei brawd drwy gydol y sioe. Heb unrhyw fath o awgrym gweledol o dranc ‘Victor’ yn yr eira ar ddiwedd y stori, i gyd fynd â’r geiriau, doedd y llythyrau ddim yn gneud llawer o synnwyr. Byddai cynnwys rhagflas o’r diwedd ar y dechrau wedi clymu’r cyfan yn llawer mwy taclus.

Yn union wedi’r llythyr cyntaf, aethpwyd â ni yn syth i Geneva yn 1813 a thrigolion y ddinas yn llwyd eu gwedd, yn dlawd ac yn greulon wrth ei gilydd. Yr unig fath o adloniant i’w diddanu oedd i wneud hwyl am ben creaduriaid llai ffodus na nhw’u hunain. Cyfleuwyd hyn drwy olygfa liwgar y ‘freak show’ oedd yn cael ei gyflwyno gan y ‘Bonheddwr Charbonneau’ (Peter Coleman) a’i wraig bengoch liwgar y ‘Fadame Charbonneau’ (Orlagh Mulholland). Ymysg yr arlwy yn eu syrcas salw roedd y bachgen a anwyd efo coesau llyffant (Myles Marshall), y ddwy-efaill oedd yn sownd yn ei gilydd (Katy Carter a Lauren Hember), y bachgen a’i wyneb gwaedlyd (Josh Byfield), y ferch ddi-freichiau neu’r ‘armless wonder’ (Natalie Mair), y ferch brydferth a drodd yn anghenfil (Rachel Savage) a’r ferch ddi-deimlad ‘Elizabeth’ (Lizzie Karani) sy’n cael ei mabwysiadu gan deulu’r Frankenstein yn sgil yr olygfa. Y hi sy’n dod yn wraig i ‘Victor’ ymhen rhai blynyddoedd, ac sy’n ceisio gwneud iddo edifarhau am greu'r fath anghenfil.

Angerdd, gallu lleisiol a brwdfrydedd pob un o’r 35 yn y cast oedd allwedd llwyddiant y cynhyrchiad. I gyfeiliant cerddoriaeth swynol a chanadwy Jimmy Jewell a choreograffi celfydd Claire Russ a barodd i’r cyfan lifo o un olygfa i’r llall mor gelfydd a di-ffws, cafwyd golygfeydd hynod o gofiadwy ac emosiynol. Roedd cynllun gwisgoedd Minna-Gibbs Nicholls yn gweddu i’r dim i’r cyfanwaith, a llwyddodd y cynhyrchiad i’m denu’n llwyr i mewn i stori drasig hon am beryglon ceisio perffeithrwydd ar draul cariad, teulu a chyfeillion.

Bydd sawl golygfa yn aros yn y cof, yn enwedig felly'r ‘Charbonneaus’ gyda’r ddau actor ifanc yma o Ogledd Iwerddon yn barod i gamu ar lwyfan ‘Les Miserables’ i bortreadu’r bonheddwr a’r fonesig ‘Thenardie’ yn y gân ‘Master of the House’. Roedd portread addfwyn a chynnil Matt Brinkler o’r anghenfil a Lizzie Karrani fel y ferch ddi-deimlad ‘Elizabeth’ hefyd yn hynod o gofiadwy, a bydd ei llais yn sicr i’w glywed ar lwyfannau’r West End ymhen dim amser. Felly hefyd gyda’r ferch bymtheg oed Jodie Spencer a’i phortread emosiynol a dirdynnol, yn fy marn i, o fam fregus Frankenstein sy’n marw cyn i’r anghenfil ddod yn fyw. Gwych iawn yn wir.

Hawdd credu mai dyma hufen y wlad sy’n ennill eu lle yn flynyddol fel rhan o brosiectau’r Theatr Gerddorol Ieuenctid neu’r YMT. Er bod yna gynrychiolaeth o’r Alban a’r Iwerddon, doedd neb o Gymru ymysg y cast y tro hwn. Roedd hynny yn bechod mawr, gan fod yma gyfle rhagorol i fod yn rhan o gynllun llwyddiannus a chael y cyfle i droedio llwyfan y West End mor ifanc â phymtheg oed.

Am fwy o fanylion am YMT, gweler www.ymtuk.org

No comments:

Post a Comment