Friday, 21 March 2008

'A Couple of Poor, Polish-Speaking Romanians'

Y Cymro – 21/3/08

‘A Couple of Poor, Polish-Speaking Romanians’, Theatr Soho, **

Wedi gweld teitl y ddrama, do’n i fawr o awydd gweld y cynhyrchiad yma. Doedd y ffaith bod y ddrama yn cael ei disgrifio fel ‘fast-paced road trip’ a bod y ddau brif gymeriad wedi cymryd gormod o gyffuriau ddim yn apelio chwaith. Dechrau da ynde!. Dyna wers fawr mewn marchnata. Pwysigrwydd y ddelwedd, y teitl a’r disgrifiad. Un o’r ychydig bethau oedd yn apelio oedd y ffaith bod awdur y ddrama wreiddiol dim ond yn 24oed – Dorota Mastowska, yr ‘enfant terrible’ ddiweddara yng nghylchoedd llenyddol Gwlad Pwyl. Wedi ennill rhai o brif wobrau llenyddol ei gwlad am ei nofelau cynnar, dyma ei drama cyntaf, gafodd ei lwyfannu yn Warsaw yn Hydref 2006. Cyfarwyddwr Artistic Theatr Soho – Lisa Goldman fu’n gyfrifol am ei chyfieithu, ynghyd â chyswllt rhyngwladol y cwmni, Paul Sirett. Ond y cwestiwn mawr sy’n aros ydi, pam?...

Wrth gamu i mewn i’r theatr fechan 140 o seddau yma ynghanol bwrlwm strydoedd Soho, y peth cyntaf sy’n taro’r llygad ydi set drawiadol Miriam Buether. Byth ers gweld cynhyrchiadau Theatr Genedlaethol yr Alban, dwi wedi dod yn ffan mawr o waith Miriam, sydd wastad yn creu setiau diddorol, a hynny, gan amlaf, ar ffurf bocsus gwahanol. Dyma’n union a gafwyd yma. Un o’r amlwythi glas a welir ar longau sy’n cludo nwyddau o borthladd i borthladd yw’r gofod tro ma, ac oddi mewn iddo mae bar ar un ochor a phentwr o lampau blith draphlith y pen arall. Ar y llawr, mae haen o ‘lo du, ac ar ben y glo, mae ffram car, o’r llyw i’r seddau a’r olwynion. Wedi dwy neu dair cân Bwylaidd, sy’n annog y gynulleidfa i gymryd eu lle ar y meinciau melfed, daw gyrrwr y car (Howard Ward) at y llyw gan gychwyn y stori drwy hel atgofion am ei daith yn y car o Warsaw i Elblag pan ddaeth o wyneb yn wyneb â’r ddau gymeriad tlawd, Romaniaidd ond yn siarad Pwyleg! Daw ‘Parcha’ ( Andrew Tiernan) a ‘Dzina’ (Andrea Riseborough) i ymuno â’r gyrrwr oddi mewn i’r car, a dyma gychwyn y siwrne eiriol, derfysgol a diflas.

Dyma un o wendidau’r ddrama yn amlygu ei hun o’r cychwyn. Fel gydag unrhyw ddrama sy’n cynnwys yr elfen deithio, mae’r awdur yn caethiwo’r cyfarwyddwr yn syth, sydd yn eu tro yn caethiwo’r actorion. Does na ddim byd mwy diflas na gwylio tri actor yn ffug hercian eu ffordd drwy dudalennau o ddialog ddryslyd, heb wybod yn iawn i ble mae’r daith na’r ddrama yn mynd. Wedi rhannu eu harian a’u holl feddiannau efo’r gyrrwr, buan iawn mae’r ddau deithiwr yn canfod eu hunan ar droed unwaith eto, ond tra’n cerdded, mae’r acenion Pwylaidd neu’n hytrach Romaniaidd (ac os dach chi’n gwybod y gwahaniaeth rhwng y ddau, da chi’n well person na fi!!) yn diflannu, ac mae’r ddau yn dechrau trin a thrafod gydag acenion Prydeinig! Yma daw’r gwirionedd i’r fei ynglyn â’r cyffuriau, a’r parti y bu i’r ddau gwrdd ynddo, ynghyd â’r ffaith bod y ‘Dzina’ feichiog, eisioes yn fam i blentyn ifanc sydd wedi’i adael ar ôl yn y fflat, a bod hithau wedi ffoi efo £500 o arian y budd-daliadau.

O gymryd bod y ddrama wreiddiol yn y Bwyleg, siawns bod clywed rhywun o Wlad Pwyl yn dynwared neu ffugio bod yn Romaniaidd yn eitha amlwg. Ond o wneud y ddrama yn y Saesneg, mae’r elfen yma yn cael eu golli’n syth. Dyma ble mae teitl y ddrama yn gam-arweiniol hefyd, sydd ddim yn helpu’r cyfan. Wedi cyrraedd y caffi neu’r Bar, mae’r ddau deithiwr yn dod wyneb yn wyneb â’r wraig sy’n cadw’r bar (Valerie Lilley) sy’n siarad gydag acen Walsall-aidd, sy’n fod i adlewyrchu Warsaw. Eto, doedd hyn ddim yn gweithio yn fy marn i. Un o’r ychydig olygfeydd wnaeth imi chwerthin oedd pan y bu i’r ddau deithiwr herwgipio cerbyd y ddynes feddw (Ishia Bennison) gan ymuno â hi wrth iddi geisio gyrru’r car tra’n yfed Fodca a siarad efo’i gŵr ar y ffôn.

Ar ddiwedd y ddrama, wedi cyrraedd hafan i ymlacio am y noson yng nghartref y hen-ŵr methedig (John Rogan), mae’r ddau deithiwr yn dechrau trafod eu bywydau yn agored ac onest. Yma yn yr olygfa eiriol hirfaeth y mae sôn am unigrwydd a gwerth bywyd, cyn i’r fam ifanc gyflawni hunan-laddiad drwy grogi ei hun yn y toiled. Doedd hynny ddim yn sioc, gan fod rhywun yn synhwyro rywsud mai dyna fyddai pen y daith. Wedi rhyw fath o ddawns angau ar y diwedd, ac wrth i’r llwyfan lenwi efo rhagor o deithwyr o Wlad Pwyl, sy’n heidio ar y gwch ‘lo yr ‘Ibuprofen’, dan ganu eu hanthemau hurt am ‘Martini rose, martini bianco, Fiat Uno a Cinquecento’, doeddwn i fawr callach.

Doeddwn i’n malio'r un botwn corn am y ddau deithiwr, na chwaith eu tynged. Doeddwn i heb ddysgu'r un iot amdanynt, nac ychwaith am yr hyn sy’n poeni’r athrylith ifanc yma o Wlad Pwyl. Os mai bwriad y cyfarwyddwr oedd canfod y Sarah Kane newydd, yna mae gan y ferch ifanc yma lawer mwy i’w ddysgu, a bywyd i’w brofi. Dwy nofel ni wna ddramodydd! A dyna wers i bawb o Wlad Pwyl hyd strydoedd lliwgar Llundain.

Mae ‘A Couple of Poor, Polish-Speaking Romanians’ yn Theatr Soho tan y 29ain o Fawrth. Mwy o fanylion ar www.Sohotheatre.com

No comments:

Post a Comment