Friday, 30 November 2007

'Blink'


Y Cymro - 30.11.07

Mewn araith ar y Theatr Gymraeg i’r Academi a draddodwyd ym Mhortmeirion ym mis Medi 2007, fe ddywedodd Ian Rowlands : “Mae yna gred ddofn ynof i, o bwrpas a rôl Theatr Genedlaethol mewn cenedl wâr; theatr sy’n llwyfannu gwirioneddau’r unigolyn mewn cymuned o gymunedau. Gwastraff unrhyw genedl yw cynnal cwmni cenedlaethol nad yw’n adlewyrchiad o ddyhead gwlad.”

Aeth yn ei flaen i ddyfynnu'r Arglwydd de Walden - sefydlwr egin Theatr Genedlaethol ar gychwyn yr ugeinfed ganrif : “ ‘The nation should undertake a thorough process of self analysis and ultimately self-criticism that would enable it to grapple with the many contradictions with which its sense of identity is riddled.’ Hynny yw, roedd angen dybryd arnom ni fel cenedl i feithrin gwrthrycholdeb a gonestrwydd os oeddem ni am greu Theatr Genedlaethol o safon, o werth, ac o berthnasedd i’r genedl gyfan.”

Yr wythnos hon, fe ges i’r fraint o weld drama ddiweddaraf Ian Rowlands sef ‘Blink’ yn Theatr Cochrane yma yn Llundain. Drama yn cael ei chyflwyno gan y cwmni newydd anedig ‘F.A.B’ a hynny dan gyfarwyddyd Steve Fisher. Drama yn yr iaith Saesneg, yn cael ei berfformio’n grefftus a chofiadwy gan dri actor rhugl eu Cymraeg. A drama yn seiliedig ar un o’r pynciau mwyaf perthnasol, dadleuol a phersonol i’r gymuned Gymraeg a fu erioed. Drama a ddylid fod wedi’i chyfansoddi yn Y Gymraeg a’i chyflwyno gan ein Theatr Genedlaethol.

Fe gychwynnodd y ddrama yn sgil cnoc ar ddrws cegin Ian yng Nghaerdydd. Tu ôl i’r drws roedd cyfaill iddo, a ddywedodd y geiriau : ‘You know how you’ve always wanted to talk about John Owen and how I’ve never wanted to talk about him. Well I’m ready to talk now’. Rai misoedd yn ddiweddarach, tra yn yr Iwerddon, fe gychwynnodd Ian ysgrifennu’r ddrama a lifodd ohono ‘bron yn ei ffurf orffenedig, fel petai’r angen i ddod yn fyw wedi bod yno ers tro; drama oedd angen ei gyfansoddi, datganiad roedd yn rhaid imi’i wneud’. Mae’n cyflwyno’r ddrama i’w gyfeillion, i’r rhai sydd wedi darllen y ddrama, ac wedi datgan mai drama ‘amdanyn nhw’ yw hon.

Hanes un teulu o’r Rhondda sydd yma yn y bôn; y fam (Lisa Palfrey) a’i mab ‘Si’ (Sion Pritchard) a fynychodd yr Ysgol Uwchradd Gymraeg lleol, ble y datblygodd ddiddordeb mawr ym myd y ddrama yn sgil ‘y duw’ drama lleol ‘Arfon Jones’. Ac yntau ddim ond yn ddwy ar bymtheg oed, fe ddihangodd ‘Si’ i Lundain, gan adael ei gariad cyntaf ‘Kay’ (Rhian Blythe) a’i deulu ar ôl. Wyddai neb yn iawn pam bod ‘Si’ wedi gneud hyn, nes iddo ddychwelyd saith mlynedd yn ddiweddarach, a’i dad ‘Bri’ bellach yn glaf yn yr ysbyty. Wedi dychwelyd adref, mae un o’i gyfeillion yn sôn wrtho fod yr athro drama wedi’i arestio gan yr heddlu, ar amheuaeth o gam-drin plant. Dyma’r sbarc sy’n tanio atgofion poenus yng ngorffennol caeedig ‘Si’, ac sy’n gneud iddo orfod wynebu’r hyn a ddigwyddodd. I ail-gofio’r geiriau “ ’If you want to be a great actor, you must experience everything’ - twelve words that ruined a life”. Trwy orfodi’r plant i berfformio rhannau o ddramâu dadleuol tebyg i ‘Equus’ a ‘Spring Awakening’ o waith yr Almaenwr Frank Wedekind, fe drodd y gwersi diniwed yn garchar i chwantau rhywiol anfaddeuol ‘Arfon Jones’ ac a halogodd gof ‘Si’ a’i orfodi i geisio dianc rhag ei atgofion.

Allai mond canmol a diolch o galon am ddawn Ian Rowlands nid yn unig i drin geiriau mor gelfydd, ond hefyd am fynd i’r afael â’r pwnc sensitif a pherthnasol yma. Drama a barodd imi nodi’r geiriau ‘cignoeth’ ac ‘onest’ ar glawr fy rhaglen, yn enwedig ar gychwyn yr ail-act, ac a’m hatgoffodd o’r hen deimlad anghysurus a gefais wrth wylio dramâu dadleuol Sarah Kane am y tro cynta. Wedi dweud hyn, ro’n i eisiau mwy. Rhyw gyffwrdd a rhedeg i ffwrdd wnaeth y ddrama i mi ar brydiau, gyda stori’r teulu yn cysgodi’r GWIR roeddwn i’n dyheu amdano. Tydi ffurf y ddrama ddim yn helpu, a ninnau yn neidio rhwng y presennol a’r gorffennol, ac fe gollwyd hud, pŵer a chryfder y ddrama mewn sawl man. Roeddwn i’n gweld yr angen i gyfleu’r ofn a’r pŵer sydd gan y ‘bleiddiaid yma mewn gwisg defaid’ nid yn unig ar feddyliau diniwed y plant, ond hefyd ar eu teuluoedd a’u cyfeillion.

O’r dagrau yn llygaid Lisa Palfrey, diniweidrwydd Rhian Blythe ac angerdd ac emosiwn ym mhortread cofiadwy Sion Pritchard, fe wnaeth y tri actor eu dyletswydd yn wych a hynny i gyfarwyddyd medrus Steven Fisher. Unwaith eto, dyma set syml ond odidog gan Rhys Jarman, a’i ynys o wely a chadair mewn môr o esgidiau a blodau yn effeithiol dros ben.

Dwi am orffen fel y cychwynnais efo araith Ian Rowlands a gytunai â’r Almaenwr, Schiller, pan ysgrifennodd “ ‘Does 'na ddim modd osgoi’r effaith sylweddol all theatr genedlaethol sefydlog o safon gael ar ysbryd cenedl.’ Yr allweddair yw safon. Yn anffodus, fel yr ysgrifennodd George Bernard Shaw ganrif yn ddiweddarach, ‘If Wales will not have the best Wales can produce, she will get the worst that the capitals of Europe can produce, and it will serve her right’.”

Mae’r gair olaf, hefyd, yn mynd i Ian : “Wedi’r fait acccompli, bellach mae’n ddyletswydd arnom ni, gynulleidfa’r Gymru newydd, werthuso’r cwmni yn wrthrychol, a hynny’n gyson, am fod theatr unrhyw wlad yn fesur o iechyd cenedl. Rhaid i ni asesu gweledigaeth y cwmni a mesur ei gynnyrch yn ôl safonau’r gorau yn Ewrop. Rhaid i’r cwestiynau anodd fynnu atebion, mynnu gonestrwydd os y’n ni am osgoi’r ‘gwaetha all Ewrop gynnig’… Breuddwydiaf am theatr o safon yng Nghymru; theatr sydd o berthnasedd i’r genedl gyfan ac i’r byd tu hwnt i ffiniau’n rhagfarnau hanesyddol; y culni hwnnw sy’n llesteirio datblygiad, nid yn unig y ffurf ar gelf, ond ein cenedl ni. Efallai mai aelod o’r gynulleidfa fydda i o hyn allan, ond fydda i’n dal i gwestiynu hyd nes iddi fod yn amser i mi gamu, gan obeithio unwaith yn rhagor, yn ôl ar lwyfan y theatr yng Nghymru.”

Friday, 23 November 2007

'A Night in November'


Y Cymro – 23/11/07

Wrth i Theatr Bara Caws gychwyn ar eu taith efo monologau Alan Bennett, achubais innau ar y cyfle i weld un o’r amryfal fonologau sy’n britho theatrau Llundain ar hyn o bryd. Er mod i’n ffan mawr o’r ‘fonolog’ fel arddull, mae unrhyw actor neu gwmni sy’n mentro mynd i’r afael ag un yn gorfod bod yn llawer mwy gofalus. Does 'na ddim dianc yma. Un actor sydd ar y llwyfan, ac mae llygaid y gynulleidfa arno neu arni gydol y sioe. Rhaid i’r actor hwnnw neu’r actores honno gyflwyno inni nifer o gymeriadau gwahanol, drwy enau’r prif gymeriad, a’n tywys drwy’r holl olygfeydd sy’n gefndir i’r stori. Rhaid iddo/iddi osod naws y stori o’r cychwyn, rhaid cyfleu’r tensiwn a’r gwrthdaro sy’n galonnog i bob drama dda, ac yn fwy na dim, rhaid creu tonnau dramatig gydol y sioe er mwyn cynnal diddordeb y gynulleidfa.

Y Wyddeles Marie Jones sy’n gyfrifol am gyfansoddi’r ddrama a’i theitl priodol ‘A night in November’ sydd i’w gweld yn Stiwdio Trafalgar ar hyn o bryd. Marie ydi awdur y ddrama lwyddiannus ‘Stones in His Pockets’, a sy’n cydweithio unwaith yn rhagor â’i gŵr Ian McElhinney sy’n cyfarwyddo’r sioe.

Mae’r ddrama yn cychwyn ar Nos Fercher, 17 Tachwedd 1993 - y noson dyngedfennol honno pan ddaeth Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth wyneb yn wyneb â’i gilydd ar gae pêl-droed Parc Windsor, Belfast ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 1994. I lawer o’r tu allan, roedd y gêm yma yn gyfle i’r ddwy garfan herio’i gilydd ar y cae pêl-droed yn hytrach na thrwy wleidyddiaeth, ideoleg neu drais enwadol. Ond o fewn Gogledd Iwerddon, gwelwyd y cyfnod a arweiniodd at y gêm hon fel y gwaethaf o’r 35 mlynedd o wrthdaro. Gwta fis cyn y gêm, yn sgil methiant ffrwydrad yr IRA ar ffordd Shankhill, lladdwyd 10 o bobl mewn siop bysgod yn Belfast; saith diwrnod wedi Shankhill, lladdodd yr UFF (Ulster Freedom Fighters) dri ar ddeg o bobl mewn tafarn yn Swydd Derry gan weiddi ‘trick or treat’ mewn digwyddiad a ddaeth i’w adnabod fel ‘cyflafan Greysteel’.

‘Kenneth McCallister’ yw’r cymeriad truenus sy’n adrodd yr hanes, a hynny drwy enau’r diddanwr a’r cyflwynydd teledu Patrick Kielty. Dyma gymeriad sy’n anhapus o fewn ei fywyd bob dydd gyda’i briodas yn prysur chwalu, ei waith yn ei ddiflasu a’i ddiddordeb angerddol mewn pêl-droed a’i deyrngarwch i’w wlad, yn peri iddo werthu popeth sydd ganddo er mwyn canfod digon o arian i hedfan i’r UDA i ddilyn ei wlad. Ond trwy’r tensiwn a’r trais yn ystod y cyfnod, mae’r cymeriad yn gorfod ail-ystyried ei ddaliadau Protestannaidd a’i werthoedd, ac fel pob drama dda, mae yma newid erbyn y diwedd.

Er gwaethaf ymdrech fawr Kielty i fynd dan groen y cymeriad, a’r ffaith fod ei dad wedi cael ei ladd gan y UFF ym 1988, roedd rhywbeth ar goll yn ei berfformiad. Y prif wendid oedd y ffaith mai cyflwynydd ac nid actor ydio. Doedd y gallu ddim ganddo i ddod â’r mân gymeriadau eraill fel y wraig a’i gyfeillion yn fyw ar lwyfan. Er tegwch iddo, doedd na ddim digon o densiwn na’r cyfleoedd i greu tonnau dramatig yn y môr o ddeunydd oedd ar ei gof. Llithrodd y cyfan o’i enau ar brydiau mor ddiymdrech nes fy llwyr ddiflasu. Llwm a diddychymyg oedd set syml David Craig sef cyfuniad o lefelau llwyd o amrywiol faint, a chylch llwyd oedd yn adlewyrchu’r sgrin gron uwchben a roddodd inni ddelweddau awgrymiadol i gyfleu lleoliad neu deimlad.

Fel y gallwch ddisgwyl, mae yma hiwmor, a hwnnw yn hiwmor unigryw’r Gwyddelod. Roedd hynny ar ei orau pan gyrhaeddodd y cymeriad yr UDA, a chael ei hun yn y wlad enfawr ddiarth, wrth geisio gneud ffrindiau newydd efo’r hwn a’r llall. Dyma le oedd Kielty ar ei orau, yn tanio’r llinellau doniol dro ar ôl tro, a’i amseru yn berffaith. O gael actorion mwy profiadol o’i gwmpas, a sgript sy’n cynnig mwy o densiwn a drama, dwi’n siŵr y byddai’r noson arbennig hon ym mis Tachwedd, wedi medru bod yn llawer mwy cofiadwy nag y bu.

Mae ‘A night in November’ i’w weld yn Stiwdio Trafalgar tan Ragfyr 1af. Mwy o fanylion ar www.theambassadors.com/trafalgarstudios/

Friday, 16 November 2007

'Hairspray'



Y Cymro – 16/11/07

Dwi ‘di dysgu yn ddiweddar, bod yn rhaid cadw meddwl agored wrth fynd i weld unrhyw ddrama gerdd! Dyna ichi’r siom o weld yr hir ddisgwyliedig ‘Rent’ efo Denise Van Outen, ac yna’r ‘Grease’ seimllyd, hollol ddi-gymeriad wedi’r holl heip o’r gyfres deledu. Pan glywais i fod y sioe ‘Hairspray’ ar fin agor yn Theatr Shaftebury, am ryw reswm, doeddwn i ddim yn edrych ymlaen at ei gweld. Roedd y sioe yn cael ei marchnata ar gryfder y ffaith ei bod hi’n llawn comedi, efo gwalltiau mawr a seiniau’r chwedegau yn byrlymu drwyddi. Dwi’n cofio gweld y fersiwn ffilm wreiddiol ohoni ym 1988, gyda’r cyflwynydd teledu Ricky Lake yn y brif ran a’r frenhines drag ‘Divine’ fel y fam, ac a fu farw yn fuan wedi rhyddhau’r ffilm. Roeddwn i hefyd yn ymwybodol fod fersiwn ffilm newydd ei rhyddhau gyda neb llai na John Travolta yn portreadu’r fam flonegog!



Y canwr o dras Gymreig, Michael Ball sydd â’r dasg fawreddog o gamu i mewn i esgidiau’r fam yn y sioe lwyfan, a hynny o dan siwt o bwysau a sawl ffrog lachar! Mae’n cyflawni’r gamp mor dda nes bod sawl aelod o’r gynulleidfa yn cwyno yn yr egwyl bod nhw heb ei weld o hyd y pwynt hwnnw!



O nodau cyntaf y gân agoriadol ‘Good Morning Baltimore’, a’r prif gymeriad ‘Tracey Turnblad’ (Leanne Jones) yn codi o’i gwely ac yn ymuno â gweddill y cast mewn corws o liw, o hwyl ac o ddawns, allwch chi’m peidio mwynhau’r sioe yma. Dilyn hanes ‘Tracey’ wnawn ni gydol y sioe; hi ydi’r arwr dros bwysau yn Baltimore y chwedegau, sy’n breuddwydio am gael bod yn enwog, a chael dawnsio ar sioe deledu ‘Corny Collins’ (Paul Manuel). Er bod ei mam ‘Edna’ (Michael Ball) a’i thad ‘Wilbur’ (Mel Smith) hefyd dros bwysau, maen nhw’n gefnogol iawn o’u merch, sy’n gorfod cwffio yn erbyn teneuwch ffug-berffaith cynhyrchydd y gyfres deledu ‘Velme Von Tussle’ (Tracie Bennett) a’i merch brydferth ‘Amber’ (Rachael Wooding). Ond mae gan ‘Tracey’ freuddwyd arall hefyd, sef cael cipio calon y dawnsiwr golygus ‘Link Larkin’ (Ben James-Ellis) sy’n digwydd bod yn gariad i ‘Amber’.



Er mor frau ydi’r stori mewn mannau, yr elfen o wrthdaro sy’n cynnal pethe, ynghyd â’r islif gwleidyddol o ran delwedd a lliw croen. A ninnau ynghanol yr arwahanu a’r gwahaniaethu hiliol yn America’r 60au, doedd y dawnswyr croen ddu ddim yn cael ymddangos ar y teledu, na’u gweld yn cymysgu efo’r gwynion. Drwy ein cyflwyno i’r cymeriadau ‘Motormouth Maybelle’ (Johnnie Fori) sy’n cadw siop recordiau a’i mab ‘Seaweed’ (Adrian Hansel), cawn flas o’r ddau fyd, y ddau safbwynt, a’r ddau fath o ddawnsio sy’n ennill lle i ‘Tracey’ a’i ffrindiau newydd ar y gyfres, erbyn diwedd y sioe.

Heb os nag oni bai, dwi’n hapus iawn i gyfaddef mai dyma un o’r sioeau gorau imi’i gweld yn y West End ers tro. O symlrwydd set David Rockwell sy’n ddathliad lliwgar, llawn a llawen o’r Chwedegau, i goreograffi celfydd Jerry Mitchell, sy’n cyfuno elfennau o bob dawns a chamau dawnsio’r chwedegau, roedd gen i wên ar fy wyneb gydol y sioe. Roedd gwaith y ddau, ynghyd â’r cyfarwyddwr medrus Jack O Brien i’w weld yn amlwg yn y caneuon ‘I Can Hear The Bells’ a ‘Good Morning Baltimore’.

Cefais fy swyno hefyd gan allu’r Corws i ganu’n feddal a thawel, rhywbeth na brofais o’r blaen mewn sioe o’r math yma, ac roedd gallu lleisiol ac egni Leanne Jones, ar ei début yn y West End yn wyrthiol.

Rhaid canmol y cyfoeth lleisiol gydol y sioe gyda chlod arbennig i Michael Ball a Johnnie Fiori, a yrrodd iâs oes lawr fy nghefn yn yr Ail Act, wrth ganu o’r galon am hawliau ei phobol. Atgofion hyfryd eraill yw deuawd Vaudeville-aidd Michael Ball a Mel Smith ‘Timeless to Me’ ac egni’r cast cyfan yn ‘You Can’t Stop the Beat’.

Roeddwn i’n falch iawn o fedru codi ar fy nhraed ynghyd â gweddill y gynulleidfa ar ddiwedd y sioe i dalu’r wrogaeth uchaf am eu gwaith caled, am eu hangerdd a’u hemosiwn, ac am wneud un gŵr o Ddyffryn Conwy yn hapus iawn ar ddiwedd y noson!

Mynnwch eich tocynnau rŵan! Anrheg Nadolig perffaith! Am fwy o fanylion ymwelwch â www.hairspraythemusical.co.uk

Friday, 9 November 2007

Aelodau newydd i Fwrdd y Theatr Genedlaethol


Y Cymro – 09/11/07

Roeddwn i wedi bwriadu adolygu’r sioe ddiweddara i agor yn y West End yr wythnos hon, sef y ddrama gerdd ‘Hairspray’. Ond yn ystod yr wythnos daeth sawl dogfen hynod o ddiddorol i’m sylw; dogfennau sydd, er cystal oedd y ddrama gerdd weles i, yn cynnwys llawer mwy o ffars, comedi a thrasiedi...

Yn gyntaf, datganiad i’r Wasg gan Gyngor y Celfyddydau ar y 1af o Dachwedd ynglŷn â Bwrdd y Theatr Genedlaethol : ‘Bydd y Cadeirydd a phedwar aelod yn ymddeol ddechrau 2008 yn ôl trefn cyfansoddiad y cwmni , ac mae angen aelodau newydd i lenwi'r bylchau am dymor o dair blynedd.’

O’r diwedd, meddwn i. Mae’r rhywun yn rhywle wedi gwrando arna’i, ac mae’r cwmni yn amlwg wedi canfod ac wedi darllen eu Cyfansoddiad! Falle i’r rhai craff ohonoch gofio imi nodi yn y golofn hon ar Awst 3ydd bod ein hannwyl Theatr Genedlaethol wedi anwybyddu eu trefn gyfansoddiadol sy’n nodi bod traean o Fwrdd y Theatr i fod i ymddeol yn eu ‘AGM’ blynyddol : (‘One third (or the number nearest one third) of the Trustees must retire at each AGM other than the first AGM following the incorporation of the Charity, those longest in the office retiring first...’). Allan o’r 13 gwreiddiol, mae 10 (o gynnwys Lyn T Jones y Cadeirydd) yn parhau i fod yn aelodau, a hynny bedair blynedd yn ddiweddarach.

Er imi gysylltu gyda Chyngor y Celfyddydau, a derbyn llythyr yn ôl o Gaerdydd yn nodi bod y mater wedi’i roi yn nwylo’r ‘Uwch Swyddog Datblygu’r Celfyddydau’ yng Ngogledd Cymru, ches i fyth ateb. Mi wadodd Gareth Miles, un o’r aelodau gwreiddiol, ar raglen Gwilym Owen bod hyn yn wir, gan ddatgan mai ‘ensyniadau cas’ oedd y ffeithiau yma, gan fy ngalw yn ‘hate-ie’ yn hytrach na ‘luvie’!

Ond, mae’r dirgelwch a’r dryswch yn parhau...

Yn ôl y datganiad i’r Wasg ar y 6ed o Dachwedd gan y Theatr Genedlaethol eu hunain, ‘Mae’r deuddeg aelod y Bwrdd presennol wedi llywio’r cwmni ers ei sefydlu bedair blynedd yn ôl o dan arweiniad y Cadeirydd a Chyn-Bennaeth BBC Radio Cymru, Lyn T. Jones. Bellach mae cyfansoddiad y cwmni’n nodi’r angen i newid traean o aelodaeth y Bwrdd.’

Ai fi sy’n methu darllen, ta ydi rhywun yn dehongli’r Cyfansoddiad i siwtio’u hunain?!

Ond pa reswm mae’r Theatr Genedlaethol yn ei roi am yr angen i ganfod aelodau newydd tybed? ‘Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn chwilio am Gadeirydd newydd a phedwar aelod arall o’r Bwrdd Rheoli sydd â’u haelodaeth wedi dirwyn i ben.’

‘Wedi dirwyn i ben’ sylwer, os mai dyma’r llinyn mesur mae’r cwmni am ei ddefnyddio, beth am weddill aelodaeth y Bwrdd? Pam nad ydi eu ‘haelodaeth’ hwy hefyd ‘wedi dirwyn i ben’?. Fe gychwynnodd bob un ar yr un pryd! O’n sỳms i, mae aelodaeth o leia’ 10 o’r bobl ddoeth yma ‘wedi dirwyn i ben’? Pwy sydd wedi penderfynu pa 4 (ynghyd â’r Cadeirydd) sydd yn rhaid mynd, a pha 5 sy’n parhau i wasanaethu’n ‘anghyfreithlon’ gan nid yn unig dorri’r amod ‘newydd’ o ‘dair blynedd’ ond hefyd eu Cyfansoddiad sylfaenol?

Yn ôl Rheolydd Cyffredinol newydd y Theatr Genedlaethol Cymru, Mai Jones, y pedwerydd mewn pedair blynedd, ‘Penodir aelodau newydd y Bwrdd yn unol ag argymhellion Pwyllgor Nolan ar Safonau ym Mywyd Cyhoeddus.’ Da iawn, medde chi, ond pa argymhellion eraill mae Pwyllgor Nolan yn ei ddatgan? Wel, yn syml mae 'na Saith Egwyddor o Fywyd Cyhoeddus a bennwyd gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yng nghanol yr 1990au. Dyma’r Egwyddorion (a elwir yn Egwyddorion ’Nolan’ gan amlaf gan mai’r Arglwydd Nolan o Brasted oedd yn cadeirio’r Pwyllgor ar y pryd): Anhunanoldeb, Unplygrwydd, Gwrthrychedd, Atebolrwydd, Bod yn agored, Gonestrwydd ac Arweiniad. Dyma’r ‘egwyddorion’ mae’r Cynulliad am i Gyrff Cyhoeddus ei ddilyn er mwyn ‘sicrhau bod arian y trethdalwyr yn cael ei wario yn unol â dymuniadau’r Cynulliad Cenedlaethol’

Ers cychwyn y Theatr Genedlaethol yn 2003, mae’r cwmni wedi derbyn bron i bedair miliwn o arian cyhoeddus. Mae Mai Jones eto’n cyhoeddi’n dalog : ‘Cofrestrwyd Theatr Genedlaethol Cymru fel elusen bedair blynedd yn ôl. Ers hynny llwyfannwyd 13 o gynyrchiadau.’ 13 o gynyrchiadau dros 4 blynedd?. Felly, dyna chi £300,000 yr un!!! Faint tybed o Grant Blynyddol mae Cwmnïau llai fel Theatr Bara Caws ac Arad Goch yn ei gael o gymharu â hyn?

‘Ar hyn o bryd mae’r cwmni’n paratoi i symud i LLWYFAN – sef cartref parhaol yn y Ganolfan Mentergarwch Diwylliannol newydd ger Coleg y Drindod, Caerfyrddin’. Datblygiad sydd wedi costio £2.5 miliwn arall!.

A be ‘da ni am gael am ei harian dros y flwyddyn nesa? Er i’r rhan helaeth o gwmnïau theatr lansio eu tymhorau newydd nôl ym mis Medi, fe ymddangosodd y newyddion am gynhyrchiad ‘newydd’ ein Theatr Genedlaethol ar wefan y cwmni rai wythnosau yn ôl. ‘Cyfieithiad newydd gan Gareth Miles o ddrama enwog Arthur Miller 'THE CRUCIBLE' - ‘Y Pair’ ... Ar daith : 7 Chwefror - 14 Mawrth 2008... drama ysgubol gyda chast enfawr ac yn stori wefreiddiol am gydwybod, cariad ac iachawdwriaeth. Bydd y cynhyrchiad yn lansio Tymor 2008 y cwmni ar thema bradwriaeth.’ O diar, dyma ni gast ‘enfawr’ arall, fydd (synnwn i ddim) yn llawn o gyn-aelodau o Glanaethwy! Gresyn nad oes ganddo ni neb arall yng Nghymru fedar addasu neu gyfieithu drama ‘blaw Gareth Miles? A beth am weddill o dymor y ‘bradwriaeth’? Pa berlau eraill fedrwn ni ddisgwyl o weledigaeth ysgubol yr arweinydd artistig? Dyna ichi ddirgelwch arall! Dro yn ôl, ar wefan Cyngor y Celfyddydau, fe nodwyd mai drama Saunders Lewis ‘Brad’ a’r hir-ddisgwyliedig ‘Iesu’ gan Aled Jones Williams, ynghyd â’r ‘Pair’ fyddai’r tymor newydd. Bellach, o edrych ar yr un wefan, ‘Siwan’ sydd yno ar gyfer Mai 2008 a dim sôn am yr ‘Iesu’! Mae’n amlwg fod arweiniad y cwmni'r un mor fregus â’i gweinyddu...!

‘Atebolrwydd?, Bod yn agored?, Gonestrwydd? ac Arweiniad?’ – falle y dylai’r Cynulliad a Chyngor y Celfyddydau ddechrau cyfarwyddo’r Bwrdd a’r Cwmni, cyn i’r llen ddisgyn ar y ddelfryd o Theatr Genedlaethol y bu cymaint o ddisgwyl amdani...

Friday, 2 November 2007

'Rent'

Y Cymro – 2/11/07

Dwy sioe cwbl wahanol sydd dan sylw yr wythnos hon, dwy sioe sy’n gyfuniad o’r cyfoes a’r cyfnod, a dwy sioe sy’n brawf pendant o bwysigrwydd delweddau marchnata trawiadol.

Os fuo chi draw yn Llundain yn ddiweddar, mae’n anodd iawn ichi fethu gweld delwedd o’r actores a’r gantores Denise Van Outen wedi’i gwisgo mewn lledr du, a’r geiriau ‘Take me baby’ a ‘Rent’ wedi’i osod ar draws y llun! Cyn ichi ddechrau meddwl bod pethau yn fain ar y gyn-gyflwynwraig foreol hon, a’i bod hi wedi ymuno ag adar brith y nos(!), Denise ydi’r ‘seren’ ddiweddara i farchnata’r cynhyrchiad newydd o’r ddrama gerdd ‘Rent - Remixed’ sydd newydd agor yn Theatr y Duke of York.

Ym 1989, penderfynodd Jonathan Larson a’r dramodydd Billy Aronson, i gyfansoddi drama gerdd yn seiliedig ar opera Puccini ‘La Bohème’, gan osod y stori yn Efrog Newydd yn y 1990au. Yn wahanol i’r clefyd Diciau sy’n gysgod dros gymeriadau Puccini, byw efo’r clefyd AIDS mae cymeriadau ‘Rent’. Dwy flynedd yn ddiweddarach, rhoddodd Aronson ganiatâd i Larson barhau â’r gwaith ei hun, ac er iddo ymgynghori â’r dramodydd o bryd i’w gilydd, ynghyd â derbyn cyngor gan y cyfansoddwr Stephen Sondheim, Larson sydd bellach yn cael ei gydnabod fel awdur y gwaith. Wedi darlleniad o’r gwaith ym 1993, daeth cynhyrchiad llawn o’r gwaith i fod ym 1995, ac arweiniodd hynny at lwyddiant ysgubol ar Broadway. Gwta awr wedi dychwelyd adref o’r noson agoriadol, bu farw Jonathan Larson yn drasig o sydyn o anhwylder geneteg anghyffredin sef Syndrom ‘Marfan’, ac yntau mond yn dri-deg-pump oed. Enillodd y sioe Wobrau lu, ac mae’n parhau i gael ei lwyfannu ar Broadway, un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach.

William Baker, cyfarwyddwr artistig Kylie Minogue sy’n gyfrifol am gyfarwyddo a choreograffi’r fersiwn newydd hon, ac ar ei ysgwyddau yntau dwi’n rhoi’r bai am imi fethu â mwynhau’r cynhyrchiad. Heb os nac oni bai, sioe un-gân ydi hon, a’r gân honno sef ‘Seasons of Love’ neu "Five hundred twenty-five thousand six hundred minutes" (sef hyd un flwyddyn) yn cael ei hail-adrodd hyd syrffed. Er imi chwilio’n ddyfal gydol y sioe, mi fethais yn lân a chanfod y stori, a bu’n rhaid disgwyl tan ddiwedd yr Act Gynta’ cyn cael gweld y brif seren sef Denise Van Outen, a hynny am rhai eiliadau’n unig! Er iddi ddychwelyd ar gychwyn yr Ail Act i gyflwyno routine gomedi ‘sdand-yp’, ni ddychwelodd y stori na’r blas, a throdd y cyfan yn gyfuniad o ddelweddau a chaneuon gan gymeriadau amlhiliol, rhywiol a diwylliannol oedd yn adlewyrchu’r 1990au yn berffaith, ond namyn mwy. Doedd hyd yn oed set o frics a grisiau gwyn y cynllunydd Mark Bailey, sy’n rhan o griw llwyddiannus Clwyd Theatr Cymru, ddim yn ddigon i gynnal fy niddordeb.

Mae ‘Rent’ i’w weld ar hyn o bryd yn Theatr y Duke of York. Mwy o wybodaeth ar www.theambassadors.com/rent

'The Country Wife'


Y Cymro - 2/11/07

O’r 1990au i’r 1670au ac at gynhyrchiad Jonathan Kent o’i dymor newydd o ddramâu yn y Theatr Frenhinol Haymarket, ‘The Country Wife’ o waith William Wycherley. Un o gomedïau’r Adferiad ydi’r ddrama hon, ond sydd wedi’i lwyfannu’n hynod o drawiadol drwy gyfuniad o gynlluniau cyfoes a’r cyfnod gan Paul Brown, a’r cyfan ar balet o liwiau piws, glas a phinc. Trawiadol hefyd yw’r ddelwedd farchnata sef merch noeth yn dal mochyn bychan, tra’n eistedd ar fuwch biws ynghanol traffordd yr M25! Delwedd cwbl addas i ddisgrifio’r gomedi glasurol hon sy’n adrodd hanes un o foneddigion y ddinas - ‘Pinchwife’ (David Haig) sy’n ceisio gwraig landeg o’r wlad - ‘Mrs Margery Pinchwife’ (Fiona Glascott), gan feddwl ei bod hi’n fwy iach a selog na foneddigesau’r ddinas. Ond buan iawn mae dyhead y wraig ifanc i gael profi bywyd y ddinas yn mynd yn drech na hi, a phrif gymeriad golygus y stori - yr arch-garwr ‘Horner’ (Toby Stephens) yn mynd i’r afael â hi, yn ogystal â merched priod eraill y ddinas sef ‘Lady Fidget’ (Patricia Hodge), ‘Mrs Squeamish’ (Liz Crowther) a ‘Dainty Fidget’ (Lucy Tregear).

Un o brif nodweddion Comedïau’r Adferiad, a ddaeth i fod wedi i’r Ddrama gael ei wahardd am ddeunaw mlynedd o dan y gyfundrefn Biwritanaidd, oedd yr hiwmor a’r ensyniadau rhywiol oedd yn britho’r sgriptiau ffarsaidd yma. Dyma’r elfennau sy’n cael eu godro i’w heithaf yng nghynhyrchiad tynn a slic Jonathan Kent, gyda bob aelod o’r cast yn gneud ei orau i gadw’r drysau i gau ac agor yn ôl y galw, ac i’r gynulleidfa fanteisio i’r eithaf ar bob un jôc!

O frefiad cynta’r fuwch ynghanol sŵn y ceir ac ymddangosiad Toby Stephens (mab y Fonesig Maggie Smith) yn hollol noeth gan wenu ar y gynulleidfa, hyd at y nodyn olaf o gerddoriaeth Steven Edis, roedd y wên ar fy wyneb yn brawf o lwyddiant y cast cry’ o bymtheg actor a chyfarwyddo medrus Jonathan Kent.

Mae ‘The Country Wife’ i’w weld yn yr Haymarket tan Ionawr 12fed, 2008. Mwy o fanylion ar www.trh.co.uk