Friday, 26 October 2007

'All About My Mother'




Y Cymro - 26/10/07

Parhau â’r thema o addasu ffilmiau ar gyfer y llwyfan wnâi'r wythnos hon, a hynny drwy ymweld â’r Old Vic er mwyn gweld cynhyrchiad hynod o sensitif o’r ddrama ‘All About My Mother’ sef addasiad o ffilm enwog Pedro Almodóvar.

Cafodd Almodóvar ei eni yn Sbaen ym 1949, a daeth i amlygrwydd byd-enwog yn sgil ei waith fel cyfarwyddwr ffilmiau, awdur a chynhyrchydd. Mae ei waith yn nodedig am eu straeon cymhleth, ei hiwmor amharchus, y lliwiau llachar a’i wedd chwaethus, gan ddelio’n gyson efo’r un themâu sef serch, teulu a hunaniaeth. Mae’r cyfan uchod i’w weld yn amlwg yn y ffilm ‘All About My Mother’ (Todo Sobre mi Madre) sy’n adrodd hanes mam ifanc sy’n galaru o golli ei mab, ac o ganlyniad i ddarllen ei gofnod olaf yn ei ddyddiadur, yn mynd i chwilio am ei dad yn Barcelona. Yn ystod ei thaith, fe ddaw hi wyneb yn wyneb â sawl cymeriad diddorol fel y trawswisgiwr o butain, lleian feichiog ac actores lesbiaidd - cymeriadau sydd i gyd yn ei chynorthwyo mewn rhyw fodd neu’i gilydd. Enillodd y ffilm fwy o Wobrau ac Anrhydedd nag unrhyw ffilm Sbaenaidd arall, gwobrau sy’n cynnwys Oscar am y ffilm orau mewn iaith dramor, Golden Globe yn yr un categori, y cyfarwyddwr gorau yn Cannes a sawl gwobr nodedig arall.

A minnau heb weld y ffilm, ‘roedd yn bwysig imi weld os oedd addasiad Samuel Adamson yn llwyddo fel drama lwyfan. Sut oedd mynd ati i gwmpasu’r fath gawdel o gymeriadau, emosiwn a delweddau ar lwyfan yr Old Vic?

Ar gychwyn y ddrama, fe’n cyflwynir i’r llanc ifanc ‘Esteban’ (Colin Morgan) sy’n darllen o’i ddyddiadur a’i fam ‘Manuela‘ (Lesley Manville) - nyrs, sy’n cymryd rhan mewn gweithdy meddygol yn Madrid ynglŷn â sut i geisio caniatâd y rhieni i gael trawsblannu organau o gorff eu plentyn, er mwyn achub eraill. Yr hyn sy’n amlwg o’r olygfa agoriadol, ydi gallu cymeriad y fam i actio, ac mae’r meddygon eraill yn rhyfeddu ati. Mae’r ‘Esteban’ hefyd yn rhannu diddordeb ei fam yn y theatr, ac fel anrheg i ddathlu ei ben-blwydd, mae ‘Manuela’ wedi prynu tocynnau i fynd i weld cynhyrchiad o ddrama Tennessee Williams, ‘A Streetcar Named Desire’ gyda’i hoff actores ‘Huma Rojo’ (Diana Rigg) yn y brif ran. Wedi gweld ‘Huma’ yn gadael y theatr yn y glaw ar ddiwedd y ddrama, fe ruthra ‘Esteban’ ar draws y lôn i’w chyfarfod, ond caiff ei daro gan gar, a’i ladd. Nôl â ni yn syth i’r ysbyty, ble mae ‘Manuela’ yn gorfod ail-wynebu’r olygfa agoriadol unwaith eto, ond y tro yma, corff ei mab sydd dan sylw, a’r emosiwn bellach yn llawer mwy real.

Er bod y cychwyn braidd yn araf, buan iawn mae’r stori’n dechrau symud, a pherfformiad campus Lesley Manville fel y fam yn ddirdynnol o emosiynol a chofiadwy.

Wedi’r angladd, ac yn unol â dymuniad olaf ei mab i gwrdd â’i dad, fe ddychwel ‘Manuela’ i Barcelona, gyda’r gobaith o ail-gyfarfod â’r trawswisgiwr o ddrygiwr - ‘Lola’. Mae’n cychwyn chwilio yng nghartref ei chyfaill ‘Agrado’ (Mark Gatiss) - trawswisgiwr o butain, sydd ag acen Gymraeg hynod o gredadwy!. Heb os, ‘Agrado’ ydi’r cymeriad sy’n gyfrifol am gyflwyno’r hiwmor yn y cynhyrchiad, ac mae perfformiad Mark Gatiss i’w ganmol yn fawr.

Er mwyn canfod gwaith i’r fam, mae’r ddau yn mynd i loches ar gyfer puteiniaid sy’n cael ei reoli gan y lleian ifanc ‘Rosa Sanz’ (Joanne Froggatt). Er nad oes gwaith ar gael yno, fe ddatblygir cyfeillgarwch rhwng y fam a’r lleian ifanc, ac o ganfod fod ‘Rosa’ yn feichiog, (a hynny o ganlyniad i gysgu efo ‘Lola’ sef tad Esteban) sydd hefyd wedi’i heintio hi â’r clefyd AIDS, mae’r fam yn cymryd y ferch ifanc o dan ei hadain, ac yn gofalu amdani. Mae ‘Manuela’ hefyd yn canfod bod y cynhyrchiad o ddrama Tennesse Williams bellach wedi cyrraedd Barcelona, ac wedi mynychu perfformiad arall ohoni, mae’n mentro tu ôl i’r llwyfan i geisio gair â’r brif actores ‘Huma’. Daw’r ddwy yn ffrindiau, ac wedi gorfod cyfaddef y gwir reswm dros ddychwelyd i chwlio amdani, a’r ffaith bod ei mab wedi marw drwy geisio cael ei llofnod, fe ddyfnha’r berthynas rhwng y ddwy.

Daw’r cyfan i ben gyda genedigaeth mab ‘Rosa’, a elwir yn ‘Esteban’, ond yn drasig, mae ‘Rosa’n’ marw yn fuan wedi’r enedigaeth. ‘Manuela’ sy’n ymgymryd â’r dasg o fagu’r bychan, a hynny drwy gymorth ‘Mrs Sanz’ (Eleanor Bron) sef mam Rosa, sydd wastad wedi methu cyd-fyw â’i merch. Daw ‘Lola’ (Michael Shaeffer) tad y bychan yn ôl i weld ei fab, a chaiff yntau wybod am y tro cyntaf, mai ef hefyd oedd tad mab ‘Manuela’.

Ydi, mae’r cyfan yn gymhleth, a sawl haen a chymeriad arall yn ychwanegu at y cyfan. Ond mae’r cyfan yn hawdd iawn ei wylio, ac yn llifo’n rhwydd o un olygfa i’r llall. Heb os nag oni bai, mae’r addasiad yma yn llwyddo, a hynny oherwydd perfformiadau hynod o gofiadwy gan Lesley Manville, Mark Gatiss, Diana Rigg ac Eleanor Bron, ond hefyd drwy gyfarwyddo medrus Tom Cairns a set chwaethus Hildergard Bechtler. Set sy’n cyflwyno ni i fyd retro’r nawdegau, gan blethu byd dychmygol Tennessee Williams drwy’r cyfan. Braf oedd gweld yr actor o Bontypridd Bradley Freegard, (a fu’n rhan o gynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru o ‘The Grapes of Wrath’ yn gynharach eleni) yn rhan o’r cast cry’ o dair-ar-ddeg sy’n llwyddo’n rhyfeddol i sicrhau bod y ffilm lwyddiannus hon yn dod yn fyw ar lwyfan, a hynny mor gofiadwy a chredadwy â’r gwreiddiol.

Mae ‘All About My Mother’ i’w weld yn yr Old Vic tan Tachwedd 24ain. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â www.oldvictheatre.com

Friday, 19 October 2007

'Shadowlands'

Y Cymro : 19/10/07

Gyda dros 80% o theatrau’r West End yn cynhyrchu dramâu cerdd ar hyn o bryd, caiff unrhyw gynhyrchiad o ddrama ‘draddodiadol’ ei groesawu’n fawr. Dros y blynyddoedd diwethaf, bu’r rhan fwyaf o’r dramâu yn addasiadau o ffilmiau llwyddiannus; dyna chi ffilm enwog Pedro Almodóvar ‘All About My Mother’ sy’n yr Old Vic ar hyn o bryd neu ‘Swimming with Sharks’ efo Christian Slater sy’n Theatr y Vaudeville, a’r diweddara i agor yn Theatr Wyndham’s, ‘Shadowlands’.

Hanes carwriaeth yr awdur toreithiog ‘C.S.Lewis’ (a greodd y nofelau enwog am Narnia) gydag un o’i ffans mwya o’r Unol Daleithiau, sef y fam ifanc ‘Joy Gresham’, yw canolbwynt ‘Shadowlands’. Wrth ddarlithio i’r gynulleidfa am gymhlethdodau Cristnogaeth ar gychwyn y ddrama, mae’n amlwg o’r cychwyn fod gan ‘C.S.Lewis’ (Charles Dance) broblem fawr efo’i gred. ‘Os oes yna Dduw, pam fod o’n caniatáu i bobol ddioddef cymaint?’ - dyna brif fyrdwn ei neges, a buan iawn y daw hi’n amlwg yn ei stori o ble daw'r fath angst.

Wedi cyfnod o lythyru, daw ‘Joy Gresham’ (Jannie Dee) ynghyd â’i mab ifanc ‘Douglas’ (Christian Lees) i ymweld â ‘Lewis’ yn Rhydychen, a thry’r cyfeillgarwch yn rhywbeth llawer dyfnach. Ond tydi pawb ddim mor groesawgar o’r wraig gegog a hyderus hon, gan gynnwys brawd ‘Lewis’ sy’n cyd-letya ag o ‘Major W.H.Lewis’ (Richard Durden) ac un o gyd-weithwyr ‘Lewis’ yn y coleg ‘Yr Athro Christopher Riley’ (John Standing). Ar ddiwedd yr Act gynta, wedi i ‘Gresham’ ysgaru oddi wrth ei gŵr a symud i Loegr i fyw, mae’n darganfod ei bod hi’n dioddef o ganser. Dyma pryd y try’r cyfeillgarwch a’r eilun addoliad yn garwriaeth danbaid, ac sy’n peri’r fath newid yng ngeiriau ‘Lewis’ yn ei ddarlith ar ddiwedd y ddrama.

Fel drama deledu y daeth ‘Shadowlands’ i fod, a hynny ym 1985 gan yr awdur William Nicholson, gyda Joss Ackland a Claire Bloom yn portreadu’r ddau brif gymeriad. Cafodd ei addasu wedi hynny yn ddrama lwyfan gan agor yn Theatr y Queen’s ym 1989 gyda Nigel Hawthorne a Jane Lapotaire. Ond fel ffilm y daeth y stori fwya enwog, a hynny drwy bortread Anthony Hopkins a Debra Winger o’r ddau gariad yn y ffilm a gyfarwyddwyd gan Richard Attenborough ym 1993.

Dyma ail-lwyfaniad sy’n cwbl deilwng o lwyddiant y gwreiddiol. Mewn portread sydd wedi’i ddisgrifio fel ‘perfformiad gorau o’i yrfa’ mae Charles Dance yn llwyr argyhoeddi’r gynulleidfa o’i ymddangosiad cyntaf, hyd at ei eiriau olaf. Ymysg rhinweddau bywyd hen lanc, mae yma hefyd sensitifrwydd hyfryd yn ei agwedd hamddenol ac eto’n gariadus tuag at y fam ifanc ddaw i drawsnewid ei fywyd am byth. Felly hefyd ym mherfformiad Jannie Dee, a’i hacen Americanaidd gredadwy, a’i gallu i doddi blynyddoedd o unigrwydd creadigol yr awdur ddarlithydd yma. Pan ddaw’r ddau at ei gilydd, yn enwedig yn sgil y salwch, mae’r canlyniad yn wyrthiol a hynod o emosiynol, yn enwedig o wybod fod y fam ifanc yn colli’r frwydr, ac yn marw’n fuan wedi hynny.

Clod mawr eto i gyfarwyddo syml ond hynod o effeithiol Michael Barker-Caven sy’n creu darluniau hyfryd a thrawiadol drwy ddefnyddio set greadigol Matthew Wright . Set sydd wedi’i greu yn gyfan gwbl trwy ddefnyddio silffoedd o lyfrau sy’n esgyn o bryd i’w gilydd i ddadlennu ffenestri neu olygfeydd sy’n gosod naws i’r olygfa sy’n digwydd ar y llwyfan. Roedd y cyd-weithio yma ar ei orau yn yr olygfa ble roedd ‘Douglas’ - mab ifanc ‘Gresham’ yn cael ei wahodd i mewn i’r cwpwrdd dillad hudolus, fel y plant yn nofelau enwog C.S.Lewis - ‘The Chronicles of Narnia’. Felly hefyd yn ystod yr olygfa drasig yn angladd y fam. Golygfeydd mor syml sy’n mynnu aros yn y cof, fel sy’n wir hefyd o’r gerddoriaeth sy’n cael ei ddefnyddio i liwio’r stori.

Mae ‘Shadowlands’ i’w weld yn Theatr Wyndham’s tan Ragfyr 15fed. Am fwy o fanylion, ymwelwch â www.shadowlandstheplay.com

Friday, 12 October 2007

'Little Madam'


Y Cymro - 12/10/07

Sna’m lot o bobol yn licio Margaret Thatcher!. Dyna dwi di’i ddysgu’r wythnos yma. Am be ma’r hogyn yn mwydro, medda chi? Wel, Margaret Thatcher, neu’n hytrach ‘Miss Margaret Roberts’ ydi testun y ddrama ddiweddara i agor yn Theatr y Finborough - ‘Little Madam’.

Wyddwn i’m lawer am y ddrama cyn cyrraedd chwaith. Cofio darllen rhyw ddatganiad i’r Wasg yn frysiog wythnosau ynghynt, a dallt mai drama am ferch deuddeg oed wedi’i hel i’w llofft am wrthod ymddiheuro wrth ei thad, oedd y stori. Feddyliais i rioed mai’r ‘fadam fechan’ yn nheitl y ddrama, oedd un o gymeriadau gwleidyddol mwya’ dadleuol y degawdau diweddar!

Mae’r ddrama wedi’i gosod yn llofft y fechan, uwchben siop ei thad yn nhref brysur Grantham ym 1937. Ond fel mae set hynod o effeithiol Alex Marker yn awgrymu, efo’i ffenestri di-siâp a’i linellau cam, tydi popeth ddim mor ddu-a-gwyn a hynny . Wedi datgan yn gry’ mewn ffrae ar gychwyn y ddrama “It isn’t that I always insist on being right, father, it is that everyone else always seems to insist on being wrong!”, buan iawn y daw holl deganau’r ferch fach yn fyw, gan drawsnewid y ‘Miss Roberts’ styfnig i’r ‘Mrs Thatcher’ arswydus. Trwy nifer o olygfeydd sy’n cynnwys Rhyfel erchyll y Falklands, streic y glowyr, helyntion yr IRA a’r preifateiddio parhaol ar wasanaethau cyhoeddus, rhoddir y cyfle i’r ‘fadam fechan’ ddianc rhag ei gorffennol, i ail-gymodi’r presennol, ac i baratoi ar gyfer ei dyfodol. Ond a fydd y cyfan yn ddigon i ennyn ymddiheuriad o’r genau haearnaidd?

Rhyfeddod llawer mwy imi oedd gweld mai llanc ifanc bump-ar-hugain oed - James Graham, ydi awdur y ddrama. Dyma ei drydedd ddrama sydd wedi’i gomisiynu gan Theatr y Finborough, ac mae ei ddawn yn ddiamheuol. Fel un gafodd ei eni ym 1973, cof plentyn yn unig sydd gennai o gyfnod cynnar Margaret Thatcher fel prif weinidog, cyfnod a gychwynnodd ym 1979. Ond dyma fachgen ifanc gafodd ei eni ynghanol ei theyrnasiad, ac mae ei adnabyddiaeth o gymeriad, gwleidyddiaeth a holl hanes y cyfnod yn agoriad llygad ynddo’i hun.

Cryfder unrhyw gynhyrchiad ydi’r castio cywir. Gall criw o actorion cryf wneud drama wan yn ddrama dda, ac i’r gwrthwyneb. Ond o bryd i’w gilydd, fel yn yr achos yma, pan roddir drama wych yn nwylo actorion gwych, mae’r canlyniad yn wefreiddiol. O’i hymddangosiad cynta’ ar y llwyfan, mae portread Catherine Skinner o’r ‘Margaret’ fechan stwbwrn yn fy argyhoeddi’n llwyr; o’i gwallt cringoch i’w hosgo penderfynol. Mae’r cyfan yma, a hawdd iawn gweld nodweddion corfforol y ‘Fargaret’ hŷn a ddaeth mor enwog yn sgil datganiadau tebyg i “U-turn if you want to. The Lady is not for turning”

Cymeriad tawel ond cadarn wedyn yw ei thad ‘Roberts’ (James Allen) sy’n galw mewn i’r llofft drwy gydol y ddrama, gan dorri ar yr olygfeydd sy’n rhagfynegi dyfodol ei ferch. Cynnil ond hynod o effeithiol hefyd oedd ei bortread o ‘Bobby Sands’, aelod o’r IRA, sy’n herio ‘Margaret’ liw nos, trwy ffenest ei llofft. “We’ve warned you Maggie” yw ei eiriau olaf, cyn cael ein bwrw gan y ffrwydrad yn y gwesty yn Brighton yn ystod cynhadledd y blaid Geidwadol ym mis Hydref 1984. Clod hefyd i’r cyfarwyddwr ifanc Kate Wasserberg a’r cynllunydd Alex Marker, am fedru mynd â ni trwy’r fath ystod o flynyddoedd ac atgofion, a hynny mor ddidrafferth ac effeithiol.

Ymysg yr actorion eraill, sy’n portreadu dros ddeg ar hugain o gymeriadau gwahanol yn ystod y sioe, mae Simon Yadoo. Ef sydd â’r dasg anodd o bortreadu’r dawel unigryw ‘Denis Thatcher’, ac allwn i’m llai na rhyfeddu at yr olygfa ble mae o’n ceisio caniatâd ‘Margaret’ i’w phriodi, a hithau yn ateb pob cais yn ôl ei rheolau hi’i hun. Ian Barritt wedyn, yn un o’r actorion hŷn, ynghanol y criw gweddol ifanc yma, yn cyflwyno inni gymeriadau gwych fel y ‘tedi bêr’ sy’n troi mewn i ‘Ted Heath’; rhan o’r ddeuawd gynllunio enwog ‘Saatchi and Saatchi’ ar y cyd â William McGeough, Archesgob Caergaint, a’r cymeriad sy’n rhoi imi’r olygfa fwya' gofiadwy ar ddiwedd y ddrama, sef y glöwr sy’n dod wyneb a wyneb â ‘Maggie’ ynghanol y duwch a’r mwg wedi’r ffrwydrad. Dyma’r olygfa sy’n crisialu meddylfryd ‘Maggie’ ynglŷn â’r ffaith y dylai pob unigolyn fod yn gyfrifol am wella’i stad ei hun. Mae’n crefu am i’r glöwr ddyheu am ddyfodol gwell i’w blant, ac i blant ei blant, trwy beidio eu gyrru nhw i weithio yn y Pyllau Glo. Ond, am y tro cynta’ yn ei hanes, mae hithau hefyd yn gorfod dechrau gwrando arno yntau, ac yn sgil eu sgwrs, a’r holl brofiadau a fu cyn hynny, mae’r ‘fadam fechan’ yn gorfod ildio i’w thad ar ddiwedd y dydd.

Dyma berl o ddrama unwaith eto yng nghragen werthfawr y Finborough; drama sy’n rhoi ystyr a golwg wahanol ar yrfa un o ffigyrau mwya’ dadleuol y byd gwleidyddol, ac a brofodd i minnau, pam bod cynifer o bobol yn parhau i gasáu’r ‘fadam fechan’ styfnig yma.

Mae ‘Little Madam’ i’w weld yn Theatr y Finborough tan Hydref 27ain. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â www.finboroughtheatre.co.uk

Friday, 5 October 2007

'The Burial at Thebes'


Y Cymro – 5/10/07

Dwi am aros yn y Barbican yr wythnos hon, ac yn wir am aros efo fy atgofion o ddyddiau’r ysgol, ar gyfer yr ail gynhyrchiad welis i yno’n ddiweddar. Cynhyrchiad y Nottingham Playhouse o’r ddrama ‘The Burial at Thebes’ oedd dan sylw, sef cyfieithiad Seamus Heaney o ddrama enwog Sophocles, ‘Antigone’. Fel y cannoedd o fyfyrwyr eraill dros y blynyddoedd, fe gefais i wefr o astudio’r ddrama yma, sy’n adrodd hanes peryglon unbennaeth a diffyg democratiaeth.

Wedi brwydr fawr ar gyrion dinas Thebes, ble mae dau o frodyr ‘Antigone’ (Abby Ford) wedi lladd ei gilydd, mae’r brenin ‘Creon’(Paul Bentall) sy’n ewythr iddynt, yn cyhoeddi proclamasiwn i wrthod claddu un o’r brodyr. Mae hyn yn peri cryn boendod i ‘Antigone’ sy’n penderfynu dilyn ei chalon, yn hytrach na deddf gwlad, ac yn claddu corff ei brawd. Pan ddaw ‘Creon’ i wybod am ei gweithred, mae’n ei dedfrydu i farwolaeth am feiddio mynd yn ei erbyn, ac yn ei chloi’n fyw mewn ogof yn y creigiau. Mae ‘Haemon’ (Sam Swainsbury) sy’n fab i ‘Creon’, mewn cariad gydag ‘Antigone’, ac wedi erfyn am i’w dad drugarhau wrthi, mae’n ymuno a’i ddarpar briod yn yr ogof. Ond, fel rhybuddiodd y duwiau, toes na’m dianc rhag ffawd, ac mae ‘Creon’ yn derbyn ei gosb ar ddiwedd y ddrama, drwy fod, nid yn unig â gwaed ‘Antigone’ ar ei ddwylo, ond hefyd ei fab a’i wraig ‘Eurydice’ (Joan Moon).

Er bod hi’n ffaswin erbyn hyn i ail-osod y trasiedïau Groegaidd o fewn cyd-destun cyfoes, dwi’n falch o ddweud bod y cwmni yma wedi glynu at y cyfnod, ac roedd cynllun a lliwiau’r gwisgoedd, yn ogystal â moelni’r set yn apelio’n fawr. Clod hefyd i gyfarwyddo Lucy Pitman-Wallace, a lwyddodd i greu darluniau hyfryd ar y llwyfan gyda’r deg actor, wrth wneud iddynt bortreadu trigolion y ddinas a’r corws, yn ogystal â’u cymeriadau unigol.

Yma eto, fel yn y cynhyrchiad o’r ‘Bacchae’ welais i yng Nghaeredin, ac yn wir fel roedd yr arfer yng nghyfnod y Groegiaid, fe ganwyd geiriau’r corws bob tro, a hynny i gyfeiliant offerynnau syml fel y soddgrwth, ffliwt a gitâr, gyda’r actorion yn cyfeilio i’w hunan. Yn anffodus, doedd safon y cyfansoddi ddim cystal, ac roedd undonedd yr alawon yn difetha’r ystyr mewn ambell i fan.

Roedd safon yr actio yn foddhaol iawn ar y cyfan, gyda chanmoliaeth fawr i Paul Bentall fel ‘Creon’. Wedi dechreuad digon simsan a gwan rhwng y ddwy chwaer ‘Antigone’ ac ‘Ismene’ (Sian Clifford) yng ngolygfa agoriadol y ddrama, fe wellodd y ddwy yn arw wrth i’r ddrama barhau, ac roedd yr olygfa wrth i ‘Antigone’ fynd i’w hangau yn effeithiol iawn.

Mae’r cynhyrchiad i’w weld ar hyn o bryd yn y Playhouse, Rhydychen tan Hydref 13eg.