Friday, 21 September 2007

'Private Peaceful'



Y Cymro - 21/9/07

Mae’r ddau Ryfel Byd wastad wedi denu sylw a dychymyg artistiaid a cherddorion, ac yn ddiweddar bu’r dramodwyr hefyd yn ychwanegu at y dystiolaeth er mwyn ceisio deall a chofio’r erchyllterau. Dro yn ôl mi welais i’r ddrama ‘Forgotten Voices’ sef addasiad o waith Max Arthur sy’n seiliedig ar dystiolaethau milwyr o’r Rhyfel Byd cyntaf, o gasgliad yr Imperial War Museum, a newydd agor yn Stiwdio Trafalgar mae addasiad o nofel Michael Morpurgo, ‘Private Peaceful’.

Adrodd hanes y milwr ifanc ‘Tommo Peaceful’ mae’r ddrama, milwr cyffredin yn y Rhyfel Byd cynta sy’n disgwyl cael ei ddienyddio ar doriad y wawr. Yn ystod ei noson olaf, mae’n edrych yn ôl dros ei fywyd byr, o’i fagwraeth yn Nyfnaint i’w ddyddiau yn yr ysgol, marwolaeth ei dad, ei anturiaethau efo’i gariad ‘Molly’ ac anghyfiawnder rhyfel.

Roedd ‘Private Peaceful’ yn un o’r 290 o filwyr a gafodd ei saethu rhwng 1914 a 1918 am fod - yn llygaid yr awdurdodau, yn gachgwn. Roedd llawer ohonynt yn dioddef o’r hyn sy’n cael ei gydnabod bellach yn ‘shell-shock’, a bron i 90 mlynedd yn ddiweddarach, fe gydnabu'r llywodraeth Brydeinig eu camgymeriadau, gan estyn eu maddeuant i’r cyfan ohonynt yn 2006.

Alexander Campbell yw’r actor dewr sy’n portreadu’r milwr, a fo sydd â’r dasg anodd o gynnal y sioe o’i dechrau hyd y diwedd. Ac mae hi’n dipyn o dasg gan fod angen cyfleu’r pryder o wynebu ei farwolaeth ymhen ychydig oriau, a hefyd edrych yn ôl dros ei fywyd, gan gofio’r dyddiau da a’r hyn a arweiniodd at ei sefyllfa bresennol.

Yn anffodus, er cystal perfformiad Campbell, roedd yma wendid mawr yn y sgript. Chefais i ddim mo’n argyhoeddi o bryder y milwr ifanc. Byr iawn oedd yr ol-fflachiadau i’r presennol, sef ei noson olaf, ac felly fe gollwyd llawer o wir ddrama’r sefyllfa. Er bod yna effeithiau sain i gynorthwyo’r actor i gyfleu’r atgofion, roedde nhwtha hefyd yn rhy dawel, ac o’r herwydd fe gollwyd yr elfen ddramatig yn gyfan gwbl.

Wedi dweud hynny, mae cyfarwyddo Simon Reade yn werth ei weld. Hoffais yn fawr y modd y defnyddiodd yr actor yr ychydig bropiau oedd ganddo yn hynod o lwyddiannus, gan fynd â ni o’r beudy llwm i faes y gad.

Gwerth a chyfoeth y cynhyrchiad ydi rhoi llais ac esboniad i’r trueiniaid fel Peaceful a gafodd eu dienyddio, gan sicrhau bod cenhedlaeth newydd yn cofio a gwerthfawrogi eu haberth.

Mae ‘Private Peaceful’ i’w weld yn y Trafalgar Studios tan y 26ain o Fedi.

No comments:

Post a Comment