Friday, 7 September 2007

Gwyl Caeredin 2007 : 'Reality Check'


Y Cymro - 7/9/07

‘Roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr i weld sioe ddiweddara’r Gymraes Eirlys Bellin, sef ‘Reality Check’ sy’n ein cyflwyno ni i’r cymeriad unigryw ‘Rhian Davies’ - merch pedwar ar hugain oed sy’n dyheu am enwogrwydd. Yn ei geiriau ei hun : “Fame - I’m mental for it. I’ve tried to get famous in every possible way...” a dyna yw hanfod y ‘gweithdy’ yma mewn gwirionedd, sef dangos beth sy’n rhaid ei wneud er mwyn ennill enwogrwydd. Dilynwn ymgais ‘Rhian’ wrth iddi fynd am gyfweliad ar gyfer y gyfres ddiweddara o ‘Big Brother’, gyda’r cyfan yn cael ei recordio ar gamera cudd neu ar ffôn symudol. Wedi llwyddo i gyrraedd y rownd nesa, mae’r ‘wannabe WAG’ yn llwyddo i gael mwy o sylw mewn papurau newydd a gwahoddiad i ymddangos ar y gyfres Trisha! Yr hyn sy’n rhyfeddol a doniol (a thrist) am y sioe ydi’r ffaith fod yna bobol fel yma yn bod; bobol sy’n byw er mwyn priodi pêl-droediwr a chael bywyd moethus.

Cafodd Eirlys ymateb gwych i’r sioe yng Nghaeredin, ac mae’r gwaith ymchwil a’r paratoi ar gyfer y cynhyrchiad i’w weld yn amlwg. Yr hyn sy’n cynnal y sioe ydi gallu a gafael hyderus Eirlys ar gomedi; mae’n gwybod sut i gydio yn ei chynulleidfa, ac mae’r canlyniad yn bleser pur. Bydd ‘Reality Check’ i’w weld yn Galeri, Caernarfon ar yr 28ain o Fedi am 7.30yh. Mynnwch eich tocynnau!

No comments:

Post a Comment