Friday, 5 May 2006
Edrych mlaen...
Y Cymro - 5/5/06
Wedi derbyn copi o raglen newydd Galeri yng Nghaernarfon, cefais siom o weld bod 'na ‘run cynhyrchiad o ddrama yno dros y misoedd nesaf. Felly, dyma benderfynu bwrw golwg ar arlwy’r wythnosa nesaf er mwyn codi fy nghalon!
Clywais fod Theatr Bara Caws yn paratoi sioe glybiau newydd gyda Dyfan Roberts, Bryn Fôn a Tony Llewelyn yn cyd-weithio ar y sgript ar y thema ‘teledu’. Mae’n amlwg bod arddull y sioe glybiau yn talu’n dda i’r cwmni, ac yn sicr mae galw mawr am docynnau pan ar daith. Achubiaeth sioeau o’r math yma yw’r dychan a’r doniolwch - a tydi hynny ddim yn golygu tynnu’r un hen jôcs budur o’r cwpwrdd ac esgus anghofio geiria! Gair o gyngor felly, ac aros i weld!
Gydag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar y gorwel, cofiwch am y sioeau sy’n gysylltiedig â hi : ‘Plas Du’ - drama gerdd o eiddo Hywel Gwynfryn a Robat Arwyn yw’r sioe ieuenctid sy’n cael ei pherfformio ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ar Nos Sadwrn, 27ain o Fai.
Cafodd y sioe ei chomisiynu yn wreiddiol gan BBC Radio Cymru i ddathlu ei phen-blwydd yn 25ain oed yn 2002. Bydd Robat Arwyn hefyd yn cyfarwyddo’r sioe, a hynny am y tro cyntaf. Drama Gerdd o eiddo Leah Owen ac Angharad Llwyd yw’r sioe gynradd a hynny am hanes ‘Glyndŵr’ fydd eto i’w gweld yn y pafiliwn ar Nos Fawrth a Mercher, 30ain a’r 31ain o Fai. Angharad fydd hefyd yn cyfarwyddo.
Dathliad o waith Caryl Parry Jones yw’r cyngerdd agoriadol ar Nos Sul 28ain o Fai, eto yn y Pafiliwn. Wrth sôn am Caryl, cofiwch am y noson arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ar Nos Sadwrn, 12fed o Awst. ‘O’r Sioe’ yw teitl y noson sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘noson fythgofiadwy yn cynnwys caneuon o sioeau cerdd boblogaidd’ gydag unawdwyr fel Daniel Evans Tara Bethan, Angharad Brinn, Rebecca Trehearn, Aled Pedrick ac Emyr Wyn Gibson. Y corfeistr fydd Eilir Owen Griffiths gyda Caryl yn cynhyrchu! Mynnwch eich tocynnau yn fuan ddweda i!
Wrth sôn am docynnau, gobeithio eich bod wedi prynu tocynnau i weld cynhyrchiad diweddara’r Theatr Genedlaethol o ‘Esther’. Dyma gynhyrchiad gododd fy nghalon i’n fawr, a bydd y cwmni yn ymweld â Theatr y Sherman, Caerdydd yr wythnos hon, cyn mynd am Aberteifi, Abertawe a Bangor dros y bythefnos nesa. Wedi’r daith ddod i ben, bydd Daniel Evans yn dychwelyd i Lundain i ail-lwyfannu’r ddrama gerdd ‘Sunday in the Park with George’ o waith Stephen Sondheim, yn Theatr y Wyndham. Cafodd Daniel ganmoliaeth uchel yn chwarae’r brif ran yn gynharach eleni, ac mae’r sioe bellach wedi cyrraedd y West End. Bydd y sioe yn agor ar y 13eg o Fai.
Bydd Llwyfan Gogledd Cymru yn gorffen eu taith efo’r ‘Theatr Freuddwydion’ y penwythnos yma, a hynny yn Theatr Gwynedd, Bangor. Ond dwy ddrama o eiddo Harold Pinter fydd yn cael fy sylw i - ‘Old Times’ gan gwmni'r London Classic Theatre a ‘The Birthday Party’ gan Clwyd Theatr Cymru sydd i’w weld yn y Wyddgrug tan yr 20fed o Fai, cyn mynd ar daith.
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment