Friday, 3 August 2007

Theatr Genedlaethol - torri'r cyfansoddiad?


Y Cymro - 3/8/07

A ninnau ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol arall, wele o’r diwedd gynhyrchiad LLAWN gan ein Theatr Genedlaethol yn ystod ein prifwyl o dan y teitl ‘Porth y Byddar’ . ‘Hwre!’ medda innau, hyd yn oed os ydio’n GYD-gynhyrchiad efo Clwyd Theatr Cymru. Tim Baker yn cyfarwyddo a sgript wreiddiol gan Manon Eames - dau sydd wedi cyd-weithio llawer ar hyd y blynyddoedd, o lwyddiant cynnar Theatr Gorllewin Morgannwg hyd at gynyrchiadau hynod o effeithiol Clwyd Theatr Cymru fel y drioleg o ddramâu Alexander Cordell rai blynyddoedd yn ôl. Mi fydd hi’n hynod o ddiddorol i weld pa mor wahanol fydd y cynhyrchiad yma i unrhyw gynhyrchiad arall gan Clwyd Theatr Cymru! Ai mewn enw ac arian yn unig fydd rôl y Theatr Genedlaethol?!

Ac o sôn am ARIAN, wel wir, dyma ddadlennu o’r diwedd ar dudalennau’r cylchgrawn Golwg (rhifyn Gorffennaf 19eg) gyda ‘beirniad...sy’n dymuno aros yn ddienw’ ac ‘actor blaenllaw’ sydd hefyd yn dymuno ‘aros yn ddienw “am resymau gwaith”’ yn ymuno yn y feirniadaeth o’r cwmni.

Tydio’n drist o beth ein bod ni, mewn gwlad ddemocrataidd, yn ofni mynegi barn yn gyhoeddus, am gwmni cyhoeddus!. Yr hyn sy’n cael ei ddadlennu yn yr ‘ymchwiliad arbennig’ yma ydi’r ffaith bod y cwmni ‘wedi methu ei dargedau’ sef i gyrraedd cynulleidfa o 12,500 y flwyddyn, gyda dim ond 9,670 a 11,084 yn 2005 a 2006. Gyda £1,000,000 o arian cyhoeddus yn cael ei dderbyn gan Gyngor y Celfyddydau, mae’n braf gweld bod y cwmni yn amlwg yn medru fforddio gwario ‘£8,000 ar garped yn unig’ ar gyfer eu cynhyrchiad diweddar o ‘Cariad Mr Bustl’ a does wybod faint gostiodd y shiandaliar gwydr oedd yn hofran uwchben y llwyfan yn yr un cynhyrchiad!. Flwyddyn yn ôl, dwi’n cofio crefu ar y cyrff sy’n ariannu’r celfyddydau yng Nghymru i gyfrannu cwta £1,000 i actorion ifanc sy’n dymuno creu sioe o’r newydd, a’i lwyfannu yn yr ŵyl ymylol ryngwladol yng Nghaeredin. Beth am ddiflaniad Llwyfan Gogledd Cymru? Oni ddylai’r Theatr Genedlaethol fod yn gweithredu fel pwerdy i annog y gweithgaredd yma yn hytrach na’r gwario gwirion diangen yma, a chadw ‘cronfa wrth gefn o £528,000’ ers Mawrth 2006 sy’n ddwbl y ‘rheidrwydd cyfansoddiadol... er mwyn parhau mewn busnes am dri mis’?.

Ac o sôn am y Cyfansoddiad, pan sefydlwyd y cwmni ar y 2il o Fehefin 2003 yn Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd, fe ddywed hyn (yn uniaith Saesneg!) o dan ‘Articles of Association’ ynglyn â Bwrdd y Theatr : ‘One third (or the number nearest one third) of the Trustees must retire at each AGM other than the first AGM following the incorporation of the Charity, those longest in the office retiring first...’ Bryd hynny, fe apwyntiwyd y Bwrdd Rheoli canlynol sef ‘Linda Brown, Peter Rees Davies, Iwan England, Gwyneth Glyn Evans, Lyn Thomas Jones, Gareth Miles, Garry Nicholas, Wynfford Ellis Owen, Sion Clwyd Roberts, Carys Tudor Williams, Elinor Rebecca Williams, Sandra Wynne, John Gwynedd Jones’. Yr unig ddau i ymddiswyddo oddi ar y Bwrdd oedd Sandra Wynne ar y 3ydd o Dachwedd 2003 a John Gwynedd Jones ar y 1af o Dachwedd 2003. Fe benodwyd dwy aelod newydd ar y 25ain o Dachwedd 2004 sef Ellen ap Gwynn ac Eleri Twynnog Davies. Yn ôl gwefan y Theatr Genedlaethol yn 2007, aelodau presennol y Bwrdd yw ‘Lyn T. Jones (Cadeirydd), Linda Brown; Eleri Twynog Davies; Iwan England; Gwyneth Glyn; Ellen ap Gwynn; Wyn Jones: Gareth Miles; Garry Nicholas; Wynford Elis Owen; Sion Clwyd Roberts; Carys Tudor Williams; Elinor Williams. Allan o’r 13 gwreiddiol, mae 10 (o gynnwys Lyn T Jones) yn parhau i fod yn aelodau, ac felly mae’r cwmni wedi torri rhagor o’u hamodau sylfaenol.

Gyda chymaint o arian cyhoeddus yn y fantol, a dyfodol democrataidd ein cwmni Cenedlaethol, mi gysylltais efo Cyngor y Celfyddydau i geisio eu barn. Yn ôl y llythyr dderbyniais i o Gaerdydd, mae’r mater wedi’i roi yn nwylo’r ‘Uwch Swyddog Datblygu’r Celfyddydau’ yng Ngogledd Cymru. Dwi’n dal i aros am yr ateb!

Tybed os mai torf ‘byddar’ sy’n heidio drwy’r ‘porth’ erbyn hyn?...

No comments:

Post a Comment