Friday, 31 August 2007

Gwyl Caeredin 2007 : 'Damascus'



Y Cymro - 31/8/07

A rŵan yn ôl at y pethau pwysig, ac at fwy o’r deg-sioe-ar-hugain welis i mewn wythnos yn Yr Alban. Sioeau yn amrywio o’r Ballet i gonsuriwyr, o ddramâu cerdd i theatr gorfforol.

Ac yn syth o Theatr y Traverse i dderbynfa gwesty yn ‘Damascus’ sef drama newydd gan un o brif ddramodwyr yr Alban David Greig. Dyma ddrama lle bu llawer o heip amdani, a minnau felly yn edrych ymlaen yn fawr i’w gweld. Ond, am y fath siom. (Bydd rhai Cymry yn falch o glywed bod yr Alban hefyd yn methu weithiau!) Roedd y set i gychwyn mor siomedig, ac yn debycach i gynhyrchiad coleg neu amatur. Oherwydd y fflatiau di-siap amrywiol, wedi’u peintio gan ddefnyddio sbwng i lyfu’r paent ar furiau, fe greodd hyn broblem enfawr i’r cynllun goleuo oedd mor ddiddychymyg a diflas. Dilyn hanes yr awdur a’r gwerthwr llyfrau addysgol ‘Paul’ (Paul Higgins) ydi craidd y stori, wrth iddo aros yn Damascas ar waith, yn ceisio gwerthu llenyddiaeth i’r llywodraeth. Mae’n cwrdd â merch ddeniadol o’r enw ‘Muna’ (Nathalie Armin) ac mae perthynas yn cychwyn rhwng y ddau. Ond yn sgil diffyg diddordeb y gŵr yn ei waith, ac yn natur wleidyddol y wlad a’i phobol, mae trasiedi fawr yn ei aros. Er cystal ambell i linell grafog yn y sgript, wnaeth y cynhyrchiad ddim taro deuddeg.

No comments:

Post a Comment