Friday, 10 August 2007

'Dyfodol y Ddrama yng Nghymru'


Y Cymro - 10/8/07

Dyma fi, nôl yng Nghymru, am ddôs flynyddol o ddiwylliant gorau’r wlad - yr hyn a elwir yn ‘eisteddfod’. Wythnos i ddathlu’r gorau o gelfyddyd, gan gynnwys byd y ddrama, wrth gwrs.

Cyrraedd yma ar y bore Gwener cynta’, a chanfod yn y Rhaglen Swyddogol, bod ‘cyfle i holi a chlywed barn unigolion’ am ‘ddyfodol y theatr yng Nghymru’. Dechrau da, meddwn i, gan obeithio gweld llond pabell ynghyd i weld os mai gwir y datganiad ein bod ni’n ‘Dal Mewn Rhigol?’. Cyrraedd i ganfod cwta 14 o bobl - hanner ohonynt ar y ‘panel’. Does wybod pwy yn y byd oedd wedi dewis y ‘panel’ doeth yma. Ar y llwyfan, roedd y Cadeirydd Gwyn Wheldon Evans, Linda Brown o Bara Caws, Dana Edwards o Arad Goch, Arwel Gruffydd o Sgript Cymru, y dramodwyr Gwynedd Huws Jones a Branwen Davies ac Elwyn Williams - Swyddog Marchnata’r Theatr Genedlaethol. Dewis diddorol meddyliais. Neb o’r Wasg (heblaw fi!), Neb o Gyngor y Celfyddydau, a fawr neb arall! Synnu mwy o weld Arweinydd Artistig ein Theatr Genedlaethol yn cuddio yn y gynulleidfa a Swyddog Drama’r Eisteddfod Genedlaethol (a gyrhaeddodd ynghanol y drafodaeth) yn cuddio yng nghefn y babell. Da chi, os nad oes ganddo’ch chi’r wyneb na’r asgwrn cefn i fod yn atebol i’r cyhoedd, rhowch y gorau i’ch swyddi da chi!

Pwy oedd y gweddil? Wel, cyfuniad o stiwardiaid, 2 aelod o’r un teulu ‘theatrig’ o Ddyffryn Ogwen, 2 yn aelodau neu gyn-aelodau o Bwyllgor Drama’r Brifwyl a minnau.

Rhyw gychwyn digon diniwed oedd i’r cyfan a’r gŵyn barhaol oedd diffyg arian a diffyg dramodwyr. Hen straeon. Ynghanol y cwyno, a chanmol yr Eisteddfod Genedlaethol am wobrwyo dramodwyr yn flynyddol, mentrais innau holi pam felly nad oeddem wedi gweld unrhyw gynhyrchiad o’r cynnyrch buddugol yma ers dros bymtheg mlynedd? Y tro dwetha i hynny ddigwydd, yn fy nghof i, oedd yma ym Mro Delyn ym 1991 gyda drama Gwion Lynch ‘Dim ond heno’. Cyfaddefodd Cefin ei fod yntau wedi gofyn am gael gweld y dramâu hynny, ond bod y cais wedi’i wrthod gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Synnu o glywed hynny wnaeth Carys Tudor Williams a Carys Edwards, dwy sy’n ymwneud â Phwyllgorau Dramâu’r Ŵyl.

Symudodd y drafodaeth wedyn i sôn am ‘bwysigrwydd theatr mewn addysg’ a ‘meithrin cynulleidfa’, ac eto roedd yn rhaid i minnau holi pam nad oedd awduron a chyfarwyddwyr ifanc yn cael eu meithrin? Pam nad oedd cynllun hyfforddi ar gyfer y theatr ar waith - tebyg i gynllun CYFLE sy’n hyfforddi pobol ar gyfer S4C? Eto, roedd tawelwch. Clywsom gais gan y cwmnïau amatur am weithdai i’w hyfforddi mewn sgiliau cyfarwyddo ac actio. Holais pam nad oedd ein Theatr Genedlaethol wedi gweithredu unrhyw beth tebyg yn y pedair blynedd ers eu bodolaeth, a’r ateb a gafwyd oedd nad oedd hynny ‘o fewn briff y cwmni’. Mae’n ymddangos felly mai wedi’u creu er mwyn teithio ‘pedwar prif gynhyrchiad’ yn unig ydi rôl y cwmni. Gyda grant o dros £1,000,000 - mae hynny yn warthus. Tra bod yr Arweinydd Artistig presennol yn arwain corau o blant a chefnogwyr rygbi ar S4C, mae cwmnïau theatr fel Llwyfan Gogledd Cymru wedi mynd i’r wal a’r cynllun ieuenctid Anterliwt yn ardal Dinbych - sy’n dod i ben yr wythnos hon, yn sgil diffyg cefnogaeth ariannol a chymorth artistig. Nôl yn Awst 2003, fel y nododd Dafydd Llewelyn yn ‘Barn’, ‘... fe wêl Cefin Roberts y sefydliadau hyn fel cyfrwng i fwydo a chynnal y Theatr Genedlaethol ymhen blynyddoedd i ddod. Cyfeiria at ysgolion perfformio Anterliwt yn Ninbych a’r un yn Nyffryn Tywi gyda’r un brwdfrydedd, gan ychwanegu mai da o beth fyddai gweld datblygiadau cyffelyb ym mhob rhan o’r wlad’. Fawr o ots amdanynt erbyn yn amlwg.

Ar ddiwedd y cyfarfod, mae gennai ofn ein bod ni mewn mwy o rigol nag erioed, gyda Carys Tudor Williams (sy’n aelod o Fwrdd ein Theatr Genedlaethol) yn mynnu bod hi’n dal yn ‘ddyddiau cynnar’ ar ein Theatr Genedlaethol, a hynny bedair blynedd ers ei sefydlu. Gwarthus eto. Yr unig ddiffyg yn y cwmni ydi’r diffyg-gweledigaeth ac anallu’r Arweinydd Artistig i ddod â’r gweithgaredd dramatig yng Nghymru ynghyd o dan ambarél y Theatr Genedlaethol.

Cyhoeddodd Cefin am y tro cynta’ bod y cwmni ‘wedi comisiynu dramâu newydd’ ac na wŷr beirniaid fel fi, am yr holl waith sydd ar y gweill. Pam felly na chawsom weld neu glywed darlleniad o’r ‘gwaith newydd yma’ fel y cawsom gan y cwmni newydd-anedig Sherman Cymru yn Theatr y Maes bnawn Mawrth? Tydi nhw mond ychydig fisoedd oed!

Mae sawl un wedi gofyn i’i yr wythnos hon, pam fy mod i mor feirniadol o’r Cwmni Cenedlaethol. Mae’r ateb yn amlwg ar ôl y cyfarfod yma. Wedi pedair blynedd o siom, a’r holl fethu targedau a thorri amodau sylfaenol eu cyfansoddiad, tra bod mwy o gwmnïau a chynlluniau theatr yn mynd i’r wal, a dramodwyr ifanc fel fi yn ofni rhoi unrhyw waith newydd ym mhair y fath ffolineb, mae’n rhaid i’r Cynlluniad, Cyngor y Celfyddydau a’r Bwrdd ‘anghyfreithlon’ ddwys ystyried dyfodol yr arweinydd.

Peidiwch da chi a mentro dweud nad oes neb arall fedra wneud y gwaith. Does ond rhaid mynd i weld cynhyrchiad Cymraeg diweddara’ Clwyd Theatr Cymru i weld meistr o gyfarwyddwr wrth ei waith...

No comments:

Post a Comment