Friday, 4 May 2007

'The Wonderful Word of Dissocia'


Y Cymro - 4/5/07

Neithiwr oedd noson agoriadol taith ddiweddaraf ein Theatr Genedlaethol efo’r cynhyrchiad ‘Cariad Mr Bustl’. Mi fydda innau’n gobeithio mynd i weld y ddrama yn ystod eu hymweliad â Theatr Gwynedd ymhen bythefnos. Ond yr wythnos hon, dwi am fwrw golwg ar gynhyrchiad diweddara Theatr Genedlaethol yr Alban sef ‘The Wonderful World of Dissocia’ o waith Anthony Neilson, sydd hefyd yn cyfarwyddo.



Falle i rai ohonoch gofio imi gael fy swyno gan waith y cwmni a’r dramodydd yma nôl yng Ngŵyl Caeredin fis Awst diwethaf, efo’u cynhyrchiad arbennig o’r ddrama ‘Realism’. Fe berthyn y ddrama ddiweddara yma yn agos i’r ddrama flaenorol, gan fod y ddwy yn delio efo salwch meddwl. Yn ôl yr awdur ‘Tra bod ‘Dissocia’ yn ymdrech theatrig i geisio cynrychioli tirlun mewnol rhywun sy’n sâl yn feddyliol, roedd ‘Realism’ yn ymgais i wneud ‘run fath i rywun sy’n iach’. Dwy wedd wahanol felly, a dwy ddrama hynod o lwyddiannus.


Lisa Jones (Christine Entwhisle) sy’n mynd â ni ar y daith i wlad ‘Dissocia’ a hynny am ei bod hi’n cael ei chyflyru i gredu bod hi wedi colli awr yn ei bywyd, ac yn gorfod mynd i’w ganfod. O gyrraedd y wlad ddychmygol hon, mae’r wedd gychwynnol i’w weld yn eithaf normal, ond buan y newidia petha. Daw wyneb yn wyneb â dau swyddog diogelwch - neu yn fanwl gywir ‘insecurity guards’ ac yna’r dyn sy’n hanner gafr neu’r ‘scapegoat’. Mae yma Arth Wen sy’n canu iddi a sdonin ar gyfer nwyddau coll sydd ar goll! Wrth iddi gael hwyl yn eu cwmni, daw’r ‘time fly’s’ i’w phoeni, fel dywed y Saeson… ‘time flies when you have fun!’. Natur fel yma yw hanfod Act gynta’r ddrama, gyda holl drigolion y wlad od yn ceisio dod o hyd i’w brenhines ac osgoi llid Brenin y Cŵn Duon. Delweddau sy’n atgoffa rhywun o stori ‘Alice in Wonderland’ neu Dorothy yn ‘Y Dewin Os’.


Ond efo’r Ail act y daw’r ergyd. Mewn cwta bymtheg tudalen o sgript, efo un-olygfa-ar-bymtheg sy’n cynnal deugain munud, mae Nielson yn creu un o’r Actau mwya dramatig imi weld ers tro. Mae’r wlad od wedi hen fynd, ac mae’r llwyfan wedi’i drawsnewid i fod yn ystafell wen foel mewn ysbyty meddwl, efo Lisa yn gaeth yn y gwely. Mae ffenest wydr mawr rhyngom â’r llwyfan, sy’n ychwanegu at yr elfen ‘fewnol’ a chlinigol. Sŵn traed ar gychwyn pob golygfa fer. Daw nyrs i mewn. Mynd at Lisa, ei deffro, rhoi meddyginiaeth iddi, cyn ymadael. Duwch. A dyna ni mwy neu lai dros yr Act. Sawl golygfa fer, gydag amrywiadau yn yr ymwelwyr o’i meddygon i’w chwaer, i’w chariad ‘Vince’ (Jack James). Mae’n amlwg mai dychmygol hollol yw ‘Dissocia’ a hynny am fod Lisa wedi dewis peidio â chymryd ei meddyginiaeth. Er inni chwerthin a mwynhau ei phrofiadau hurt yn y wlad ddychmygol hon, buan y daw hi’n amlwg difrifoldeb ei sefyllfa. Ond mawredd y ddrama ydi cyfleu pa mor oeraidd a dideimlad ydi’r bywyd go iawn iddi, sy’n gwneud i ni fel cynulleidfa lawn gydymdeimlo â Lisa, ac sy’n egluro’r awgrym pam ei bod hi’n dychwelyd i Dissocia ar ddiwedd y ddrama.


Un peth a’m trawodd eto eleni oedd cynllun set Miriam Buether a’i llwyfan wedi’i garpedu yn gyfangwbl, yn ogystal â goleuo trawiadol Chahine Yavroyan sy’n ychwanegu gymaint at deimlad theatrig y gwaith. Roedd portread sensitif Christine Entwhisle fel Lisa hefyd i’w ganmol yn fawr, fel efo’r cast cyfan.

Allwn i’m llai na datgan fy nghenfigen fawr wrth y cwmni ar ddiwedd y sioe, a hynny am fod ein Theatr Genedlaethol ni flynyddoedd ar ei hôl hi. Does 'na ddim cymhariaeth. Yr hyn sy’n waeth yw bod y cwmni o Gymru yn hŷn, gan mai dim ond ers mis Chwefror 2006 y sefydlwyd y cwmni o’r Alban. Ers hynny mae dros 130,000 o bobl wedi gweld eu gwaith, maent wedi cynhyrchu 28 darn o waith mewn 62 o leoliadau o ynysoedd y Shetland i Dumfries o Belfast i Lundain gan ennill gwobrau lu. A cyn ichi ddechrau dadlau dros yr iaith - mae gan y theatr iaith ei hun - iaith weladwy, fel y soniai amdani'r wythnos nesaf yn dilyn gweld perfformiad o ddrama Shakespeare, ‘Breuddwyd Noswyl Ifan’ o’r India!



Mae’r ddrama hon o’r Alban ar daith ar hyn o bryd, a da chi, ceisiwch ei weld. Wedi’u hymweliad â’r Royal Court yn Llundain, maen nhw’n ymweld â Rhydychen wythnos yma, ac yna Warwick, Efrog, Caeredin a Newcastle tan ganol mis Mehefin. O siarad efo Anthony Nielson wedi’r sioe, chawsant nhw ddim gwahoddiad o gwbl i Gymru, ac nid dyma’r tro cynta ‘chwaith. Gwarthus ddweda i a cholled inni gyd. A’i cenfigen ta cywilydd sydd wrth wraidd hyn…?

No comments:

Post a Comment