Saturday, 24 February 2007
'Crash'
Crash - 24/2/07
Mae cadw diddordeb unrhyw gynulleidfa yn sialens, ond pan mae dau lond bws o fyfyrwyr TGAU yn eich aros, mae’r her dipyn yn fwy! Wrth wylio’r môr o fyfyrwyr yn llifo drwy ddrysau’r Galeri yng Nghaernarfon, ar gyfer perfformiad Cwmni Theatr Arad Goch o ddrama Sêra Moore Williams ‘CRASH’, roeddwn i’n dechrau cydymdeimlo efo’r cwmni a’r cast. Sut oedd y pedwar actor ifanc am drosglwyddo’r stori a’u neges i’r gynulleidfa ‘falch-o-gael-dianc-o’r-ysgol’ yma?!…
Does dim dwywaith bod gan Arad Goch y profiad o ddelio efo cynulleidfaoedd ifanc, a nhwtha yn ‘arbenigo mewn theatr i blant a phobl ifanc’ ac yn ymweld ag ‘ysgolion, theatrau a chanolfannau cymunedol yng Nghymru a thu hwnt’. Thema gyfoes sydd i’r ddrama hon, a hynny am ‘bobl ifanc sy’n dwyn ceir, eu gyrru ar ras gan achosi niwed iddyn nhw eu hunain ac i aelodau’r gymuned’. Roedd y sgript yma yn nodweddiadol o waith Sêra, yn frith o gyfeiriadaeth at angylion a’r môr ac unigrwydd. I gyd-fynd â’r tecst, fe gafwyd trac cerddorol wedi’i berfformio yn fyw gan Oliver Morys, er mwyn gosod naws gyfoes ac i apelio at yr ieuenctid.
Gwnaeth y tri actor oedd yn perfformio eu gwaith yn arbennig o dda - Dafydd Rhys Evans, Rhiannon Morgan ac yn enwedig felly Robin Ceiriog oedd â dawn ryfeddol i swyno’r gynulleidfa efo’i bortread comig ac eto’n sensitif o’r ‘hogyn da’ oedd heb gael ei ddenu gan y bwlis i ddwyn ceir. Mae gan Robin y dalent brin honno yng Nghymru sef presenoldeb llwyfan - mae’n bleser i’w wylio, a’i amseru o ran comedi yn berffaith.
Fel cyfanwaith, fe lwyddodd y sioe ar y cyfan, ond allai’m deud mod i wedi dysgu namyn mwy wrth adael nag a wyddwn i wrth fynd mewn! Braidd yn wan a dibwrpas oedd y sgript. Roeddwn i’n disgwyl rhywbeth llawer iawn mwy caled a chyfoes. Chefais i mo fy nychryn o gwbl, na fy nghyflyru i feddwl - bod hyn yn beth drwg, allai achosi niwed mawr i rywun… Ai dyma oedd y diben?
Gwan hefyd oedd y gerddoriaeth a’r set; byddai taflunio delweddu o geir yn rasio ar y sgrin tu cefn i’r actorion wedi bod llawer mwy cyffrous na’r tegan o gar yn troi yn ei unfan. Doedd y ‘buzz’ mae’r ieuenctid yma yn ei gael o wneud hyn ddim yn cael ei gyfleu yn ddigonol gan yr actorion, a hynny oherwydd y sgript oedd yn rhy neis-neis a chywrain; mae angen caledi a chyffro a pherygl ac nid angylion, adenydd a stori garu. Gwan a rhy dawel oedd y solo ar y gitâr drydan hefyd, er iddi gynyddu fymryn wrth i’r sioe fynd rhagddi.
Beth bynnag fo’r pwnc, dwi yn credu bod theatr sydd wedi’i anelu at ieuenctid yn holl bwysig. Dyma gyfle gwych i ddangos pa mor ddramatig â theatrig y gall theatr fod. Mae angen apelio at ein synhwyrau; ein dychryn drwy eiriau a delweddau, fel bod pob un o bob oed yn gadael y ganolfan wedi’u heffeithio gan yr hyn maen nhw wedi’i weld. Yn anffodus, y tro yma, wnes i ddim. Mae’r daith bresennol wedi dod i ben yng Nghymru, ond mae cynlluniau i’w theithio yn yr Almaen ym mis Medi.
Paul Griffiths
No comments:
Post a Comment