Friday, 8 September 2006

Gwyl Caeredin 2006



Y Cymro - 8/9/06

Wedi gwerthu dros 1.5 miliwn o docynnau - y nifer mwya erioed, mae’r Ŵyl yng Nghaeredin bellach ar ben am flwyddyn arall. Tipyn o anrheg ar ei phen-blwydd yn 60 oed.

Wrth i’r cwmniau adael y ddinas, mae sawl cynhyrchiad yn mynd ar daith. Cwmni Theatr Apricot o Landeilo i gychwyn efo’r ddrama ‘Y Tylwyth Teg’. Roeddwn i wrth fy modd pan welis i deitl Cymraeg ynghanol rhaglen yr ŵyl, ac yn edrych ymlaen yn fawr i weld y cynhyrchiad. Mae’r stori wedi’i selio ar ein straeon gwerin am y tylwyth teg a’u crimbil, yn hudo plant a phobol i’w byd diamser tanddaearol. Cafodd y sioe ei llwyfannu yng nghrombil tywyll y Smirnoff Underbelly - un o brif ganolfannau’r Ŵyl, ac roedd cael eistedd yn yr oerni a’r tywyllwch tanddaearol, yn ychwanegu at y profiad o wylio’r sioe. Llwyddodd y tri actor - Benedict Hitchins, Rachel King a Ros Steele i’n hargyhoeddi o dristwch dyrys y ‘bobol fach’ yma. Roedd eu gwylio ym fwynhad llwyr. Prin oedd y ddialog, gan roi mwy o bwyslais ar ystumiau’r corff, i greu cyfanwaith prydferth a phwerus. Bydd y cwmni yn ymweld â Chanolfan Gelf Gate yng Nghaerdydd nos Sadwrn. Medi’r 9fed, Llandeilo ar yr 11eg o Fedi a Phontardawe ar y 14eg.

Cynhyrchiad arall sydd wedi teithio o Gaeredin i Stratford-upon-Avon ydi cynhyrchiad cwmni'r Royal Shakespeare o ‘Troilus a Cressida’. Wyddwn i ddim am y ddrama yma, ond doedd hynny yn amharu dim ar y mwynhad. Roedd gweld ehangder y cynhyrchiad yn rhoi gwefr ynddo’i hun gyda chast o 35 yn herio’i gilydd mewn brwydr waedlyd. Torrwyd ar drymder y ddialog gan gerddoriaeth oedd yn lliwio’r naws ac roedd y set epig a’r goleuo gofalus yn hynod o drawiadol. Braf iawn oedd gweld yr actor o Sir Fôn Julian Lewis-Jones yn hawlio’i le yn y cast cryf, wrth bortreadu’r labwst o filwr ‘Ajax’. Perfformiad cry’ arall o Gymru, a chynhyrchiad gwerth ei weld. Mae’r perfformiadau yn dod i ben Nos Sadwrn, Medi’r 9fed.

Ac o sôn am Fôn, cynhyrchiad yr hoffwn i weld yn teithio, er nad oes bwriad i wneud hynny ar hyn o bryd, ydi’r sioe ‘Floating’ - cyd-gynhyrchiad rhwng cwmni Hoipolloi a chynyrchiadau Hugh Hughes. Dyma’r cynhyrchiad a barodd imi chwerthin fwya yn ystod fy ymweliad â’r Alban. Cyflwynwyd y sioe gan Hugh Hughes (Shôn Dale-Jones) a’i gydymaith Sioned Rowlands (Jill Norman) .

Dychmygwch yr olygfa - ar y 1af o Ebrill 1982, cafodd Sir Fôn ei hysgwyd gan ddaeargryn enfawr, nes peri i’r pontydd ddymchwel, ac mae’r ynys yn cael ei datgysylltu oddi wrth y tir mawr. Wrth iddi ddechrau arnofio draw am y moroedd mawr, mae’r trigolion sy’n dal arni yn ceisio gwneud popeth i achub y sefyllfa. Cawn hanes eu hymdrech i gasglu holl gynfasau gwely ar draws yr ynys, gan ddod â’r cwbl ynghyd i stad ddiwydiannol yn Llangefni er mwyn eu gwnïo at ei gilydd, gyda’r bwriad o greu hwyl enfawr i’w gosod ar ben Tŵr Marcwis! A sôn am hwyl, roedd perfformiadau egniol y ddau actor yn werth eu gweld wrth gyflwyno hanes a chefndir Sir Fôn i’r gynulleidfa Ryngwladol yn yr Alban. Er imi holi’r cwmni ar y pryd os oedd bwriad i ddod â’r sioe i Gymru, yn anffodus, does dim cynlluniau hyd yma.

Wrth i’r plant ddychwelyd i’r ysgol, ac wrth inni ffarwelio â gwyliau’r Haf am flwyddyn arall, dwi’n edrych ymlaen am Dymor yr Hydref llawn a phrysur yn ein theatrau…

No comments:

Post a Comment